Astroffiseg Data-ddwys (MSc)
- Hyd: Blwyddyn
- Dull astudio: Amser llawn
Diwrnod agored
Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.
Pam astudio’r cwrs hwn

Mae'r MSc mewn Astroffiseg Data Ddwys wedi'i gynllunio i roi'r sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen arnoch ar gyfer gyrfa mewn ystod o feysydd gan gynnwys ymchwil academaidd mewn seryddiaeth neu astroffiseg yn ogystal â swyddi technegol, datblygu a pheirianneg mewn meysydd gwyddonol cysylltiedig.
Mae'r MSc mewn Astroffiseg Data-ddwys wedi'i gynllunio i roi'r sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen arnoch ar gyfer gyrfa mewn ystod o feysydd gan gynnwys ymchwil academaidd yn ogystal â swyddi technegol, datblygu a pheirianneg yn y maes 'poblogaidd', sef ""Data Mawr"" a meysydd gwyddonol cysylltiedig. Drwy gyfuno dadansoddi data a thechnegau cyfrifiadurol â disgyblaeth gwyddoniaeth greiddiol, bwriedir i'r cwrs fodloni'r galw cynyddol am ôl-raddedigion sydd â chymwysterau da sy’n arbenigo mewn ymateb i ystod o heriau sy'n codi yn y maes cyffrous hwn. Amcangyfrifwyd bod ""Data Mawr"" eisoes wedi ychwanegu miloedd o swyddi newydd i economi'r DU ac mae hyn yn debygol o gynyddu wrth i ddulliau newydd o ymdrin â data drawsnewid y sectorau cyhoeddus, preifat ac academaidd.
Cyflwynir y cwrs gan aelodau o’n Sefydliad Ymchwil Arloesedd Data, a sefydlwyd yn ddiweddar er mwyn cynnal gwaith ymchwil sylfaenol i agweddau ar reoli, dadansoddi a dehongli llawer iawn o wybodaeth destunol a rhifiadol.
Elfen allweddol ar y cwrs yw prosiect haf tri mis o hyd, a fydd wedi'i leoli naill ai yn ein Hysgol Ffiseg a Seryddiaeth, neu gydag un neu fwy o'n partneriaid allanol. Bydd y prosiect yn canolbwyntio ar gymhwyso methodolegau gwyddor data modern i broblem mewn Astroffiseg (fel ffurfiad sêr, ffurfiad galaethau neu donnau disgyrchol), gan ddarparu'r profiad ymarferol sydd ei angen i lwyddo ym maes deinamig Astroffiseg Data-ddwys yn ogystal ag agweddau ehangach ar wyddor data.
Nodweddion unigryw
- Central to the design of the course is the opportunity for you to acquire real research experience in connection with world-leading scientists, greatly enhancing your CV and prospects for employment or further study.
- As well as providing a solid core in all the necessary elements of Data Science, the programme allows a choice of elective modules and project work that can be tailored to suit whatever specialism you are interested in, whether that be gravitational waves, star or galaxy formation or cosmology.
- You’ll join a well-established and growing cohort of MSc students and be based in a dedicated teaching facility that encourage a “research group” community atmosphere that has been praised by students and external examiners. You’ll also have the opportunity to interact with students on related courses such as our MSc Data Science and Analytics.
- As a successful graduate of this course you will be ideally placed to take advantage of the fast growing employment opportunities being generated in this field.
The Data Intensive Astrophysics MSc was a perfect fit for me and equipped me with all the necessary skills for a career in research. Coming from a Physics BSc, the Masters course was a vital stepping-stone to starting a PhD with strong emphasis on data analysis. The quality of teaching and support here at Cardiff is second to none, and at every opportunity I was encouraged to engage with the research community at the School.
Ble byddwch yn astudio
Yr Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth
Mae ein rhaglenni gradd wedi’u hachredu gan y Sefydliad Ffiseg yn cynnwys meysydd arbenigol sy’n adlewyrchu ein diddordebau ymchwil.
Meini prawf derbyn
Er mwyn cael eich ystyried am gynnig ar gyfer y rhaglen hon bydd angen i chi fodloni'r holl ofynion mynediad. Ni fydd eich cais yn cael ei ddatblygu os na ddarperir yr wybodaeth a'r dystiolaeth a restrir.
Gyda'ch cais ar-lein, bydd angen i chi ddarparu:
- Copi o'ch tystysgrif gradd a'ch trawsgrifiadau sy'n dangos eich bod wedi cyflawni gradd anrhydedd 2:1 mewn maes pwnc perthnasol megis seryddiaeth, astroffiseg, cyfrifiadureg, peirianneg, mathemateg, ffiseg, neu wyddoniaeth ffisegol gysylltiedig, neu radd ryngwladol gyfwerth. Os yw eich tystysgrif gradd neu ganlyniad yn yr arfaeth, llwythwch unrhyw drawsgrifiadau dros dro neu dystysgrifau dros dro.
- copi o'ch tystysgrif IELTS gyda sgôr gyffredinol o 6.5 gyda 5.5 ym mhob is-sgil, neu dystiolaeth o gymhwyster cyfatebol derbyniol. Dylech gynnwys dyddiad eich prawf disgwyliedig os yw'r cymhwyster hwn yn yr arfaeth. Os oes gennych dystiolaeth dderbyniol amgen, fel gradd israddedig a astudir yn y DU, rhowch hyn yn lle IELTS.
Os nad oes gennych radd mewn maes perthnasol, gellir ystyried eich cais ar sail eich profiad proffesiynol. Rhowch dystiolaeth ychwanegol i gefnogi'ch cais megis cyfeiriadau cyflogwr wedi'u llofnodi a'u dyddio.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau
Rydym yn dyrannu lleoedd ar sail y cyntaf i'r felin, felly rydym yn argymell eich bod yn gwneud cais cyn gynted â phosibl. Fel arfer, bydd ceisiadau'n cau ddiwedd mis Awst ond gallant gau'n gynt os llenwir pob lle.
Broses ddethol
Byddwn yn adolygu eich cais ac os ydych yn bodloni'r holl ofynion mynediad, byddwn yn gwneud cynnig i chi.
Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.
Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).
Euogfarnau troseddol
Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.
Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:
- mynediad at gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
- defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
- cyrffyw
- rhyddid i symud
- cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.
Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2025
Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.
Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd
Ffioedd am statws cartref
Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir
Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2025/26 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.
Ffioedd am statws ynys
Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.
Ffioedd am statws tramor
Rhagor o wybodaeth am ffioedd dysgu a blaendaliadau, gan gynnwys ar gyfer myfyrwyr rhan-amser a pharhaus.
Cymorth ariannol
Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.
Costau ychwanegol
Os yw'n ofynnol i chi deithio i leoliad sefydliad partner ac oddi yno yn ystod prosiect ymchwil haf, yna chi fydd yn gyfrifol am dalu'r costau hyn os ydych chi’n teithio'n lleol. Os oes angen teithio’n bell neu os oes angen ymweliadau hirdymor, yna bydd bwrsari symudedd myfyrwyr ar gael i helpu i dalu'r costau hyn.
A fydd angen unrhyw gyfarpar penodol arnaf I astudio'r cwrs hwn?
Beth dylech chi ei ddarparu:
- Bydd y Brifysgol yn darparu popeth sydd ei angen i ymgymryd â'r cynllun gradd, ond argymhellir yn gryf eich y dylech ddod â gliniadur cymharol fodern er mwyn gallu ymgymryd â'r gweithgareddau codio, adolygu llenyddol a'r traethawd hir pan fyddwch i ffwrdd o gyfleusterau'r Brifysgol.
Yr hyn y bydd Prifysgol Caerdydd yn ei gynnig:
- Cyfleuster Addysgu MSc pwrpasol gyda digon o gyfrifiaduron, offer labordy a gwerslyfrau craidd ar gyfer gweithgareddau'r garfan gyfan yn ystod y modiwlau craidd;
- Mynediad at lyfrgelloedd Trevithick a llyfrgelloedd eraill y Brifysgol, lle gellir cael gwerslyfrau a deunydd darllen a argymhellir ar gyfer y modiwlau craidd a dewisol.
Costau byw
Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.
Arian
Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith
Fel arfer, bydd gradd MSc mewn Astroffiseg Data Ddwys yn arwain at gyfleoedd yn y meysydd canlynol:
- Ymchwil ddoethurol ddamcaniaethol, arbrofol a chyfrifiadurol mewn astroffiseg;
- Swyddi rhifol, technegol, ymchwil, datblygu a pheirianneg mewn meysydd gwyddonol cysylltiedig;
- Addysg gwyddoniaeth gyffredinol, ffiseg a mathemateg.
Lleoliadau
Bydd nifer hyblyg o brosiectau allanol bob blwyddyn ar gyfer modiwl prosiect ymchwil yr haf, y gellir ei gynnal yn yr Ysgol gyda goruchwyliaeth allanol, neu gynnwys rhywfaint o waith mewn sefydliad sy'n cydweithio. Bydd nifer a natur y prosiectau hyn yn amrywio o flwyddyn i flwyddyn a byddant yn cael eu neilltuo yn ôl dewis y myfyriwr mewn ymgynghoriad â'r goruchwyliwr/goruchwylwyr allanol; efallai y bydd yn rhaid bod wedi cymryd rhai modiwlau dewisol penodol ar gyfer rhai prosiectau o'r fath. Ni ddylai dewis prosiect allanol arwain at unrhyw oblygiadau i'ch statws fisa os ydych chi’n fyfyriwr rhyngwladol.
Camau nesaf
Ymweliadau Diwrnod Agored
Cofrestrwch am wybodaeth am ein dyddiadau sydd i ddod.Gwnewch ymholiad
Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.Rhyngwladol
Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.Rhagor o wybodaeth
Pynciau cysylltiedig: Ffiseg, Seryddiaeth, Astroffiseg
Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.