Seiber Ddiogelwch a Thechnoleg (MSc)
- Hyd: 1 flwyddyn
- Dull astudio: Amser llawn

Diwrnod agored
Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.
Pam astudio’r cwrs hwn
Dyma raglen seiber ddiogelwch uwch a ddatblygwyd gan Brifysgol Caerdydd mewn partneriaeth â PwC ac a gefnogir gan gyllid gan Fargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, i baratoi gweithwyr proffesiynol seiber ddiogelwch o safon sy’n ddeniadol i sefydliadau ledled y byd ac yn barod i weithio.
Ymchwil ac arferion arloesol o fyd diwydiant
Byddwch yn cael eich addysgu gan ymchwilwyr a gydnabyddir yn rhyngwladol ynghyd ag arbenigwyr technegol PwC a fydd yn helpu i gyflwyno modiwlau ac yn darparu tiwtora diwydiannol.
Profiad datblygu ymarferol
Byddwch yn datblygu gwybodaeth ddamcaniaethol a dealltwriaeth uwch wrth i chi weithio ar broblemau o’r byd go iawn mewn cyfleusterau fel ein labordy seiber ddiogelwch a fforensig modern.
Wedi'i ddatblygu mewn partneriaeth â diwydiant
Datblygwyd ein cwrs MSc gan ymchwilwyr seiber ddiogelwch o'r radd flaenaf ym Mhrifysgol Caerdydd mewn partneriaeth â'r tîm Mae arbenigwyr PwC yn cyflwyno dosbarthiadau meistr ymarferol yn rheolaidd, gan gefnogi datblygiad sgiliau technegol ymarferol. Mae arbenigwyr PwC yn cyflwyno dosbarthiadau meistr ymarferol yn rheolaidd, gan gefnogi datblygiad sgiliau technegol ymarferol.

Mae'r rhaglen MSc unigryw hon yn cynnig llwybr clir i chi at yrfa lwyddiannus mewn seiberddiogelwch - maes cyffrous sy’n datblygu’n gyflym. Datblygwyd y rhaglen gan ymchwilwyr blaenllaw yng Nghanolfan Ymchwil Seiber Ddiogelwch Caerdydd mewn cydweithrediad agos ag arbenigwyr yn y diwydiant o gwmni PwC.
Ein nod yw eich galluogi i gael dealltwriaeth fanwl o’r sefyllfa newidiol o ran bygythiadau seiber, a'r ystod eang o seiber-ymosodiadau ar systemau gweithredu, rhwydweithiau cyfrifiadurol, a rhaglenni gwe. Mae'r cwrs yn eich helpu i ddatblygu dealltwriaeth gadarn o dechnolegau sylfaenol, eu gwendidau, a sut y gellir eu diogelu'n effeithlon. Yn ogystal â rhoi sylw i sylfeini damcaniaethol cyfrifiadureg a seiber ddiogelwch, mae'r rhaglen yn cynnwys elfen ymarferol sylweddol sy’n rhoi cyfle i chi roi’r wybodaeth ar waith.
Mae'r technegau a'r dulliau diogelwch a addysgir yn cynnwys, ymhlith eraill, dadansoddi traffig rhwydwaith, cyfrif rhwydweithiau, sganio pyrth, segmentu rhwydweithiau, atal ymosodiadau chwistrellu, atal ymosodiadau cyffredin ar raglenni gwe (ymosodiadau chwistrellu, XSS, CSRF), cyflunio amgylcheddau TG yn y cwmwl i fod yn ddiogel. Byddwch yn dysgu cynnal ymchwiliadau a dadansoddiadau fforensig digidol a rhwydwaith, gan ddefnyddio offer fforensig modern a phecynnau meddalwedd. Bydd y rhaglen hefyd yn rhoi gwybodaeth i chi am y ffactorau dynol sy'n effeithio ar seiber ddiogelwch, materion preifatrwydd, a deddfwriaeth a rheoliadau seiber ddiogelwch.
Dyma gyfle cyffrous i ddysgu gan ymchwilwyr seiber ddiogelwch ac ymarferwyr uchel eu parch o fyd diwydiant, ac i ddod yn gyfarwydd â syniadau ymchwil, safonau’r diwydiant, a thechnolegau o'r radd flaenaf.
Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn, byddwch wedi dysgu sut i asesu, nodi a datrys bygythiadau seiber ddiogelwch ar lefel broffesiynol. Byddwch hefyd yn gallu rhoi sylw i anghenion busnes ochr yn ochr ag anghenion seiber ddiogelwch sefydliadau, a dylanwadu ar benderfyniadau busnes drwy gyfleu pwysigrwydd mesurau seiber ddiogelwch yn effeithiol i wahanol gynulleidfaoedd.
Achrediadau
Ble byddwch yn astudio
Yr Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg
Ein hymchwil amlddisgyblaeth sy'n rhoi ffurf i'n rhaglenni gradd, ac yn eu gwneud yn berthnasol i gyflogwyr heddiw, gan eu gosod mewn sefyllfa dda i fanteisio ar ddatblygiadau yfory.
Meini prawf derbyn
Er mwyn cael eich ystyried am gynnig ar gyfer y rhaglen hon bydd angen i chi fodloni'r holl ofynion mynediad. Ni fydd eich cais yn cael ei ddatblygu os na ddarperir yr wybodaeth a'r dystiolaeth a restrir.
Gyda'ch cais ar-lein, bydd angen i chi ddarparu:
- Copi o'ch tystysgrif gradd a'ch trawsgrifiadau sy'n dangos eich bod wedi cyflawni gradd anrhydedd 2:2 mewn meysydd pwnc perthnasol, megis Cyfrifiadura, TG neu Beirianneg Meddalwedd, neu radd ryngwladol gyfwerth. Os yw eich tystysgrif gradd neu ganlyniad yn yr arfaeth, llwythwch unrhyw drawsgrifiadau dros dro neu dystysgrifau dros dro.
- copi o'ch tystysgrif IELTS gyda sgôr gyffredinol o 6.5 gyda 6.0 ym mhob is-sgil, neu dystiolaeth o gymhwyster cyfatebol derbyniol. Dylech gynnwys dyddiad eich prawf disgwyliedig os yw'r cymhwyster hwn yn yr arfaeth. Os oes gennych dystiolaeth dderbyniol amgen, fel gradd israddedig a astudir yn y DU, rhowch hyn yn lle IELTS.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau
Y dyddiad cau yw 1 Gorffennaf. Os byddwch yn cyflwyno cais ar ôl y dyddiad cau hwn, byddwn ond yn ei ystyried os oes lleoedd ar gael.
Broses ddethol
Ar ôl y dyddiad cau, bydd ceisiadau cyflawn yn cael eu hadolygu a'u rhestru. Bydd yr ymgeiswyr sydd â'r sgôr uchaf yn cael cynnig.
Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.
Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).
Euogfarnau troseddol
Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.
Os ydych ar hyn o bryd yn destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau eich astudiaethau'n llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu eich cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond nid ydynt yn gyfyngedig i:
- mynediad i gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
- Defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
- cyrion
- Rhyddid i symud
- cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.
Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2025
Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.
Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd
Ffioedd am statws cartref
Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir
Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2025/26 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.
Ffioedd am statws ynys
Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.
Ffioedd am statws tramor
Rhagor o wybodaeth am ffioedd dysgu a blaendaliadau, gan gynnwys ar gyfer myfyrwyr rhan-amser a pharhaus.
Cymorth ariannol
Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.
Costau ychwanegol
A fydd angen unrhyw gyfarpar penodol arnaf I astudio'r cwrs hwn?
Bydd angen i chi ddefnyddio eich gliniadur eich hun. Bydd gwybodaeth am y gliniadur penodol sydd ei angen yn cael ei rhannu gyda chi cyn ymrestru. Byddwch chi’n cael mynediad i'r holl feddalwedd angenrheidiol heb unrhyw gost ychwanegol.
Mae cynlluniau cymorth amrywiol ar gael i wneud yn siŵr bod gan bob myfyriwr fynediad at yr offer angenrheidiol, yn amodol ar gymhwysedd.
Costau byw
Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.
Arian
Gyrfaoedd graddedigion
Mae ein graddedigion wedi'u paratoi'n dda ar gyfer rolau arwain ym maes seiber ddiogelwch, ac ar gyfer gyrfa mewn sefydliadau diwydiannol, masnachol neu lywodraethol sydd â chyfrifoldeb penodol am wybodaeth a seiber ddiogelwch, gan gynnwys rheoli seiber ddiogelwch ac asesu risg, diogelwch rhwydweithiau a diogelwch systemau gweithredu, profion treiddio ac ymchwiliadau fforensig.
Ymhlith y cyrchfannau gyrfa mae: rheolwr diogelwch gwybodaeth, rheolwr risg seiber ddiogelwch, rolau diogelwch technegol ym maes TG a fforenseg cyfrifiaduron, rolau rheoli hunaniaeth, datblygwr systemau diogel, ac ymchwil ddiwydiannol a phrifysgol.
Camau nesaf
Ymweliadau Diwrnod Agored
Cofrestrwch am wybodaeth am ein dyddiadau sydd i ddod.Gwnewch ymholiad
Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.Rhyngwladol
Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.Rhagor o wybodaeth
Pynciau cysylltiedig: Computer science
Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.