Ewch i’r prif gynnwys

Ysgrifennu Creadigol (MA)

  • Hyd: Blwyddyn
  • Dull astudio: Amser llawn

Dyddiad dechrau
conversion-course

Cwrs trosi

Cwrs trosi yw hwn. Mae cyrsiau trosi yn eich galluogi i astudio pwnc nad yw'n gysylltiedig â'ch gradd israddedig neu yrfa gyfredol, a'ch cefnogi gyda newid llwybr gyrfa.

calendar

Diwrnod agored

Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.

Pam astudio’r cwrs hwn

Datblygwch eich portffolio o ysgrifennu gan ymestyn eich gwybodaeth a’ch dealltwriaeth o ysgrifennu creadigol.

people

Arbenigwyr yn addysgu

Mae ein staff addysgu'n cynnwys awduron proffesiynol sydd wedi ennill gwobrau ac ymchwilwyr blaenllaw.

tick

Mireinio eich crefft

Bydd digwyddiadau arddangos a nosweithiau Meic Agored yn eich galluogi i rannu eich gwaith ysgrifennu â chynulleidfa

location

Dysgu y tu allan i'r ystafell ddosbarth

Cyfle i fynd i encil ysgrifennu gyda’ch cyfoedion a thiwtoriaid y cwrs.

molecule

Cwrdd â gweithwyr proffesiynol

Byddwch yn cael budd o symposiwm y diwydiannau creadigol; a fydd yn cynnwys paneli o asiantiaid, golygyddion a chyhoeddwyr, yn ogystal â chyfres Awduron Gwadd.

Bydd ein MA mewn Ysgrifennu Creadigol blwyddyn o hyd yn datblygu eich gallu a’ch syniadau ysgrifennu creadigol, gan ddatgelu eich llais awdurol a’ch gweledigaeth. Byddwch yn mynychu gweithdai, yn cynhyrchu dau bortffolio estynedig o ysgrifennu creadigol yn y genre(s) o’ch dewis, ac yn mynd i ddosbarthiadau ar bynciau amrywiol ym maes ysgrifennu creadigol.

Byddwch hefyd yn cael cyfle i ennill profiad o addysgu ysgrifennu creadigol, neu i gynyddu eich gwybodaeth am agweddau eraill ar ymarfer creadigol neu lenyddiaeth Saesneg drwy ddewis o ddetholiad o fodiwlau wedi'u harwain gan ymchwil a addysgir gan arbenigwyr yn y maes.

Mae cyfres o fodiwlau ategol yn pwysleisio profiad integredig a chydlynol o ddatblygu eich crefft a’ch sgiliau ysgrifennu. Rydyn ni hefyd yn sicrhau eich bod yn cael cyfle i ymgysylltu â’r diwydiant ysgrifennu, i gysylltu â gweithwyr creadigol proffesiynol, ac i arddangos eich gwaith. 

Drwy astudio gyda ni, byddwch yn meistroli'r gallu i gynhyrchu gwaith llenyddol tra datblygedig a medrus yn annibynnol, ac yn cymryd rhan mewn gweithdai awduron. Byddwch hefyd yn datblygu eich gwybodaeth a'ch sgiliau wrth ysgrifennu un neu fwy o genres llenyddol a'r prosesau golygu ac adolygu.

Mae’r MA wedi rhagori ar fy nisgwyliadau ym mhob agwedd, a dw i wedi dysgu cymaint mewn cyfnod mor fyr heb deimlo wedi fy llethu, ac wedi cael cymuned unigryw o ffrindiau sy’n awduron drwy’r cwrs.
Rowan Maddock

Ble byddwch yn astudio

Yr Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth

Wedi ein pweru gan ymchwil arloesol, rydym yn dathlu chwilfrydedd, yn ymgysylltu mewn trafodaethau gwybodus a dadansoddi beirniadol ac yn eich annog i feddwl yn greadigol - ar draws a thu hwnt i'n disgyblaethau.

  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 2087 9066
  • MarkerRhodfa Colum, Caerdydd, CF10 3EU

Meini prawf derbyn

Cwrs trosi yw hwn. Mae cyrsiau trosi yn eich galluogi i astudio pwnc nad yw'n gysylltiedig â'ch gradd israddedig neu'ch gyrfa bresennol, a'ch cefnogi gyda newid gyrfa. Nid oes angen gwybodaeth na gradd flaenorol yn y pwnc.

Er mwyn cael eich ystyried am gynnig ar gyfer y rhaglen hon bydd angen i chi fodloni'r holl ofynion mynediad. Ni fydd eich cais yn cael ei ddatblygu os na ddarperir yr wybodaeth a'r dystiolaeth a restrir.

Gyda'ch cais ar-lein, bydd angen i chi ddarparu:

  1. Copi o'ch tystysgrif gradd a'ch trawsgrifiadau sy'n dangos eich bod wedi cyflawni gradd anrhydedd 2:1 mewn unrhyw bwnc, neu radd ryngwladol gyfatebol. Os yw eich tystysgrif gradd neu ganlyniad yn yr arfaeth, llwythwch unrhyw drawsgrifiadau dros dro neu dystysgrifau dros dro. Mae ceisiadau gan y rhai sydd â 2:2 yn cael eu hystyried fesul achos
  2. copi o'ch tystysgrif IELTS gyda sgôr gyffredinol o 7.0 gyda 6.5 ym mhob is-sgil, neu dystiolaeth o gymhwyster cyfatebol derbyniol. Dylech gynnwys dyddiad eich prawf disgwyliedig os yw'r cymhwyster hwn yn yr arfaeth. Os oes gennych dystiolaeth dderbyniol amgen, fel gradd israddedig a astudir yn y DU, rhowch hyn yn lle IELTS.
  3. Datganiad personol nad yw'n fwy na 750 o eiriau yn amlinellu eich cymhellion ar gyfer ymgymryd â'r cwrs ac ymwybyddiaeth o nodau'r rhaglen a deilliannau dysgu.
  4. Darn ysgrifenedig o 2000 gair o ryddiaith neu ddrama, neu hyd at 10 cerdd - bydd nifer y tudalennau'n amrywio yn ôl y genre neu'r gwaith rydych chi'n ei gyflwyno. Mae rhywbeth rydych wedi'i gyflwyno o'r blaen fel rhan o'ch gradd BA neu gwrs arall yn dderbyniol.
  5. Darn ysgrifenedig o 1000 gair o ysgrifennu ychwanegol, sy'n cynnwys un o'r canlynol: beirniadaeth lenyddol, traethawd academaidd, newyddiaduraeth, adolygiad o'r celfyddydau, neu ddarn o ddadansoddiad creadigol (fel sy'n ofynnol ar gyfer 'sylwebaethau' ar aseiniadau Ysgrifennu Creadigol safonol).

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau
Rydym yn dyrannu lleoedd ar sail y cyntaf i'r felin, felly rydym yn argymell eich bod yn gwneud cais cyn gynted â phosibl. Fel arfer, bydd ceisiadau'n cau ddiwedd mis Awst ond gallant gau'n gynt os llenwir pob lle.

Broses ddethol
Byddwn yn adolygu eich cais ac ansawdd y portffolio o ysgrifennu creadigol a gyflwynir, ac os ydych yn bodloni'r holl ofynion mynediad, byddwn yn gwneud cynnig i chi.

Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.

Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).

Strwythur y cwrs

Mae’r rhaglen flwyddyn o hyd hon yn cynnwys 180 o gredydau. Byddwch yn astudio cymysgedd o fodiwlau craidd ac yn dewis o amrywiaeth o fodiwlau dewisol (naill ai o'r rhaglenni MA Ysgrifennu Creadigol neu Lenyddiaeth Saesneg).

Mae'r rhaglen wedi'i rhannu'n ddau gam. Mae Cam 1 yn cynnwys eich holl fodiwlau a addysgir. Ar ôl cwblhau Cam 1 yn llwyddiannus, byddwch yn symud ymlaen i Gam 2. 

Mae Cam 2 yn rhedeg o fis Mai i fis Medi. Byddwch yn neilltuo’r amser hwn i gwblhau eich portffolio ysgrifennu estynedig a'r sylwebaeth feirniadol ategol a gynhyrchir yn ystod y cwrs.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn enghraifft o'r cwricwlwm nodweddiadol. Bydd modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi fis cyn i'ch rhaglen ddechrau.

Mae Cam 1 – y cam a addysgir – yn rhedeg drwy semester yr hydref a’r gwanwyn.  Mae'n cynnwys cymysgedd o fodiwlau craidd a dewisol sy'n creu cyfanswm o 120 credyd.

Mae detholiad o fodiwlau dewisol ym maes Ysgrifennu Creadigol yn rhoi cyfle i chi ddysgu am agweddau pellach ar ymarfer creadigol a beirniadol. Gallai'r rhain gynnwys syniadau a dulliau ar gyfer cyfieithu gwaith creadigol; sut mae damcaniaethau llenyddol yn dylanwadu ar ysgrifennu creadigol; neu addysgeg ysgrifennu creadigol gyda phwyslais ar ddefnydd creadigol, a'r cyfle i ennill profiad addysgu.

Mae Cam 2 yn cynnwys modiwl wedi'i oruchwylio sy'n rhoi cyfle i chi arbenigo ymhellach yn eich maes/meysydd a'r genre(s) ysgrifennu o'ch dewis. Byddwch yn gweithio gyda'r goruchwyliwr sy'n cael ei neilltuo i chi drwy diwtorialau un-i-un er mwyn mireinio eich crefft, eich arbenigedd a'ch gwybodaeth, gan ddatblygu corff estynedig o waith ar yr un pryd. Mae'r modiwl werth 60 credyd a chaiff ei asesu drwy bortffolio terfynol sy'n cynnwys cydran greadigol a sylwebaeth feirniadol ategol. Bydd y ddau beth hyn yn cael eu cyflwyno ar ddiwedd y rhaglen.

Sylwch fod un o’r modiwlau craidd yn gofyn am bresenoldeb gyda'r nos ar rai wythnosau dethol trwy gydol y flwyddyn. Gan fod y digwyddiadau hyn gyda’r nos yn cynnwys awduron gwadd ac yn cael eu cynnal mewn lleoliad cyhoeddus, yn anffodus ni allwn wneud trefniadau eraill ar gyfer myfyrwyr nad oes modd iddyn nhw fod yn bresennol.

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Sut y caf fy addysgu?

Mae ein haddysgu’n gyfuniad o ddarlithoedd, seminarau, gweithdai, sesiynau un-i-un gyda thiwtor, cyflwyniadau gwadd a phaneli, a digwyddiadau arddangos. Bydd gennych gyfle hefyd i fynd ar encil ysgrifennu ac i symposiwm diwydiannau creadigol.

Drwy gydol eich astudiaethau, bydd disgwyl i chi ddarllen a dadansoddi amrywiaeth o destunau beirniadol a llenyddol, darllen ac asesu gwaith cyfoedion, a datblygu sgiliau ysgrifennu hunan-fyfyriol.  Wrth i'ch dysgu ddatblygu byddwch yn symud o ystyried y grefft yn eang i ganolbwyntio'n fwy penodol ar eich maes/meysydd genre.

Bydd y gweithgareddau dysgu penodol yn amrywio o fodiwl i fodiwl ond gallant gynnwys ymarferion ysgrifennu, darllen beirniadol, dadansoddi'r grefft, cyflwyno gwaith beirniadol a chreadigol i bobl eraill, a gweithgareddau addysgu. Yn y modiwlau seiliedig ar weithdai, bydd disgwyl i chi ddarllen a gwerthuso gwaith eich cyfoedion, a rhoi adborth penodol ac adeiladol mewn amgylchedd grŵp cefnogol.

Gwybodaeth ychwanegol

Fel rhan o'r rhaglen, cynhelir sesiynau Meic Agored yn rheolaidd drwy gydol y flwyddyn academaidd. Mae'r rhain yn cynnwys awdur proffesiynol gwadd yn aml, ac yn rhoi cyfle i chi gyflwyno eich gwaith i gynulleidfa. Cynhelir y sesiynau hyn gyda’r nos fel arfer, mewn lleoliad cyhoeddus yn y ddinas. Mae’r sesiynau gyda’r nos yn rhai dewisol a ni chânt eu hasesu (ond cewch eich annog yn gryf i fynychu), ac maen nhw’n ddull ffurfiannol o baratoi ar gyfer cyflwyniad a gaiff ei asesu.

Mae’r Encil i Ysgrifenwyr Creadigol blynyddol yn digwydd ddechrau fis Rhagfyr fel arfer, ac mae’r costau wedi’u cynnwys yn rhan o ffi’r cwrs. Mae'r encil yn cynnwys cyfuniad o seminarau, gweithdai a digwyddiadau arddangos, yn ogystal ag amser wedi'i neilltuo ar gyfer ysgrifennu, darllen a myfyrio.

Bob blwyddyn, ar ddiwedd semester y gwanwyn, rydyn ni’n anelu at gynnal Symposiwm blynyddol y Diwydiannau Creadigol, sy'n cynnwys siaradwyr gwadd, trafodaethau panel, a chyflwyniadau gan weithwyr proffesiynol yn y diwydiant: awduron, golygyddion, asiantiaid a/neu gyhoeddwyr. 

Sut y caf fy asesu?

Bydd y dulliau asesu'n amrywio rhwng modiwlau. Yn y modiwlau a addysgir, gallai'r asesu gynnwys y canlynol, ond nid yw hon yn rhestr hollgynhwysfawr: portffolios o waith creadigol, traethodau academaidd, traethodau myfyriol, cyfnodolion, sylwebaethau beirniadol, blogiau fideo a/neu gyflwyniadau.  Dull asesu Cam 2 yw portffolio estynedig o waith sy'n cynnwys cyfuniad o ysgrifennu creadigol a beirniadol.

Yn aml (ond nid bob amser) rydyn ni’n asesu ein modiwlau ar ddiwedd yr addysgu gydag un darn o waith, oherwydd natur ysgrifennu creadigol fel disgyblaeth: mae angen i chi gael cyfle i arbrofi gyda’ch gwaith a rhoi cynnig ar bethau yn ffurfiannol gyda chefnogaeth staff yn ystod y semester, heb boeni am gael eich asesu’n grynodol yn rhy fuan.

Sut y caf fy nghefnogi?

Bydd tiwtor personol yn cael ei neilltuo i chi ar gyfer eich astudiaethau. Bydd ar gael i drafod eich cynnydd academaidd cyffredinol a'ch profiad fel myfyriwr. Byddwch hefyd yn cael cyfle i gwrdd â thiwtoriaid eich modiwlau i drafod agweddau penodol ar y modiwlau hynny. Ar gyfer rhai modiwlau – ac yn ystod Cam 2 y rhaglen yn benodol – bydd goruchwyliwr yn cael ei neilltuo i chi, a fydd yn trafod eich ysgrifennu a'ch cynnydd gyda chi drwy diwtorialau un-i-un.

Mae cyfleoedd helaeth i gael adborth ffurfiannol drwy gydol y cwrs, yn enwedig yn y modiwlau seiliedig ar weithdai lle byddwch yn rhannu eich cynnydd eich hun ac yn cael gwerthusiadau a chyngor adeiladol gan eich cyfoedion a'ch tiwtoriaid. Asesiad crynodol yw pen llanw pob modiwl. Yn ogystal â'r marc (lle bo'n berthnasol), bydd tiwtor y modiwl yn darparu adborth manwl ar yr asesiadau hyn.

Mae arweinwyr modiwlau ar gael yn ystod eu horiau swyddfa neu drwy apwyntiad er mwyn trafod unrhyw faterion sy'n ymwneud yn benodol â'u modiwlau. Fe'ch anogir i drafod pynciau a deunydd darllen ar gyfer eich asesiadau gyda'ch arweinwyr modiwl yn y lle cyntaf.

Gallwch gwrdd â Chyfarwyddwr y Rhaglen MA Ysgrifennu Creadigol i drafod eich cynnydd ac unrhyw anawsterau rydych yn eu cael.

Mae cymorth sgiliau ysgrifennu ar gael i bob myfyriwr gan y staff academaidd a thrwy Ganolfan Datblygu Ysgrifennu yr Ysgol.

Mae'r cymorth gyrfaoedd yn cynnwys cyfarfodydd un-i-un i gael cyngor ar gynllunio gyrfa, a gwybodaeth am gyfleoedd lleoliad. 

Tu hwnt i’r Ysgol, mae’r Brifysgol yn cynnig ystod o ddigwyddiadau a gwasanaethau cymorth sy’n eich helpu i gynllunio’ch gyrfa, rheoli eich iechyd meddwl, emosiynol, a chorfforol, yn rhoi cyngor i chi ar faterion ariannol, ac yn rhoi mynediad at gymorth yn ymwneud ag anableddau a dyslecsia. Lleolir y gwasanaethau hyn yng Nghanolfan Bywyd Myfyrwyr y brifysgol.

Pa sgiliau y byddaf yn eu hymarfer a’u datblygu?

Mae Deilliannau Dysgu’r rhaglen yn disgrifio'r hyn y byddwch wedi’i gyflawni erbyn diwedd eich rhaglen ym Mhrifysgol Caerdydd, ac yn nodi'r wybodaeth a'r sgiliau y byddwch yn eu datblygu. Byddant hefyd yn eich helpu i ddeall yr hyn a ddisgwylir gennych.

Erbyn diwedd y rhaglen, byddwch yn gallu:

Gwybodaeth a Dealltwriaeth(GD):

  • Deall yn systematig brosesau creadigol awduron cyhoeddedig ac awduron sydd wedi ennill eu plwyf – rhai cyfoes a rhai o'r gorffennol
  • Deall agweddau allweddol ar ddamcaniaeth ac ymarfer ysgrifennu creadigol.
  • Deall yn gynhwysfawr y defnydd o lais, safbwynt, cymeriadau, lleoliad, plot a themâu mewn gwaith creadigol.

Sgiliau Deallusol:

  • Gwerthuso dulliau ysgrifennu, arddulliau, genres, a thechnegau penodol, gydag ymwybyddiaeth o broblemau cyfoes a mewnwelediadau newydd yn y maes.
  • Asesu’n feirniadol gryfderau a gwendidau gwaith ysgrifennu eraill a’i fethodolegau.
  • Asesu a gwerthuso’n feirniadol eich methodolegau ysgrifennu eich hun a sut defnyddir technegau ymchwil ac ymholi sefydledig i greu a dehongli gwybodaeth yn nisgyblaeth ysgrifennu creadigol.

Sgiliau Ymarferol Proffesiynol:

  • Cynhyrchu a datblygu gweithiau creadigol gyda dealltwriaeth gynhwysfawr o dechnegau perthnasol.
  • Datblygu a chynnal ymchwil i ddylanwadu ar ysgrifennu creadigol a/neu i gynnal dadl feirniadol gymhleth.
  • Deall yn systematig safonau a chonfensiynau'r diwydiannau creadigol.
  • Cyfleu gwybodaeth a syniadau yn glir ac yn broffesiynol, gan gymhwyso gwybodaeth a sgiliau uwch.

Sgiliau Trosglwyddadwy/Allweddol:

  • Datblygu, golygu a diwygio ysgrifennu creadigol a/neu feirniadol.
  • Datblygu menter drwy gymryd cyfrifoldeb a rheoli amser ar dasg ymchwil fawr.
  • Dangos meddwl/sgiliau datrys problemau creadigol a gwreiddiol.
  • Cyfathrebu’n berswadiol, gan gyfleu syniadau academaidd uwch a dadleuon technegol i gynulleidfaoedd arbenigol ac anarbenigol, gan ddefnyddio technegau ysgrifenedig neu lafar.

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2025

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £10,700 Dim

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2025/26 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £23,700 £2,500

Rhagor o wybodaeth am ffioedd dysgu a blaendaliadau, gan gynnwys ar gyfer myfyrwyr rhan-amser a pharhaus.

Cymorth ariannol

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau ychwanegol

Cyflwynir pob asesiad ar ffurf electronig felly nid oes unrhyw gostau argraffu ychwanegol.

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Arian

Ysgoloriaethau Meistr

Gwobr sy'n agored i fyfyrwyr sydd â statws ffioedd cartref sy'n bwriadu astudio un o'n graddau meistr a addysgir.

Benthyciadau ar gyfer ôl-raddedigion

Os byddwch yn dechrau eich gradd meistr ym mis Medi 2024 neu wedi hynny, efallai y byddwch yn gallu gwneud cais am fenthyciad ar gyfer ôl-raddedigion er mwyn cefnogi eich astudiaethau ym Mhrifysgol Caerdydd.

Cynllun Gostyngiad

Mae'r gostyngiad i gynfyfyrwyr ar gael i raddedigion Prifysgol Caerdydd sy'n bwriadu dechrau rhaglen Meistr gymwys yn 2024/25.

Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith

Mae graddedigion ein rhaglen MA Ysgrifennu Creadigol yn gyfathrebwyr cydweithredol ac effeithiol sy’n gallu dangos uniondeb personol a phroffesiynol, dibynadwyedd a chymhwysedd.

Bydd ein seminarau a’n gweithdai, a fydd yn seiliedig ar drafodaeth dan arweiniad y myfyrwyr, yn eich addysgu i wrando ac ystyried safbwyntiau eraill gan gyfrannu at drafodaethau yn gadarnhaol ac yn effeithiol, weithiau fel rhan o dîm. Yn y cyfamser, bydd cynllunio ac ysgrifennu’r portffolio terfynol yn gwella eich gallu i gymell eich hunan, i gyflawni cyfrifoldebau, ac i gyfathrebu’n effeithiol mewn darn estynedig o ymchwil annibynnol.

Mae’r rhaglen hon yn borth i lawer o yrfaoedd yn y byd academaidd a thu hwnt. Fe welwch ein graddedigion mewn amrywiaeth o wahanol swyddi a sectorau – o farchnata i gyhoeddi, ac addysg i ymarfer creadigol.  Mae enghreifftiau diweddar o gyflogwyr yn y DU yn cynnwys Prifysgol Caerdydd, Mencap, cylchgrawn Poetry Wales, Teach First a Llywodraeth Cymru. Ymysg y swyddi posibl mae Darlithydd Ysgrifennu Creadigol, Golygydd Copi, Ysgrifennwr Copi, Llyfrgellydd, Asiant Llenyddol, Swyddog Marchnata, Nofelydd, Bardd, Swyddog Cyhoeddusrwydd, Cyhoeddwr, Dramodydd, Ymgynghorydd Recriwtio, Athro, Sgrin-awdur, a llawer mwy.

Mae llawer o’n cyn-fyfyrwyr wedi cyhoeddi’n eang, gan ennill gwobrau a chanmoliaeth am eu gwaith, gan gynnwys Susmita Bhattacharya (Table Manners, Dahlia), enillydd Llyfr y Flwyddyn Cymru, Deborah Kay Davies (True Things About Me, Canongate) a’r nofelydd ffuglen wyddonol James Smythe (I Still Dream, HarperCollins).

Lleoliadau

Bydd y modiwl dewisol Addysgu Ysgrifennu Creadigol yn cynnig cyfle i fod yn bresennol mewn dosbarthiadau israddedig ac i addysgu sesiwn, ac i ymweld ag ysgolion a cholegau lleol o bosibl.

Mae’r modiwl Diwydiant Ysgrifennu yn eich galluogi i brofi sut beth yw bod yn awdur proffesiynol/llawrydd, gan y byddwch yn cael eich gwahodd i ddarllen eich gwaith o flaen cynulleidfa fyw a bydd gofyn i chi wneud cyflwyniad ar rywbeth yn ymwneud â’r diwydiant (neu eich gwaith ar waith chi) o flaen cynulleidfa fyw ar gyfer eich asesiad.  Bydd hefyd gwahoddiad i chi gynnal sesiynau holi ac ateb gyda’n hawduron gwadd a chymryd rhan mewn gweithgareddau eraill fel rhan o’r modiwl hwn (e.e. cynnal interniaeth gyda grŵp ysgrifennu cymunedol, gwirfoddoli mewn digwyddiadau llenyddol lleol ac ati). 

Mae’r cwrs MA mewn Ysgrifennu Creadigol wedi bod yn brofiad gwerth chweil yn fy natblygiad fel awdur ac athro. Yn ogystal â dyfnder ac ehangder yr addysg, mae’r cwrs yn cynnig mynediad digynsail at y gymuned lenyddol leol, gan roi myfyrwyr mewn cysylltiad â llu o awduron proffesiynol. I awdur ifanc dosbarth gweithiol, mae’n cynnig cyfle amhrisiadwy.
Thomas Llewellyn

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch am wybodaeth am ein dyddiadau sydd i ddod.
icon-chat

Gwnewch ymholiad

Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.
icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.
icon-pen

Rhagor o wybodaeth

Pynciau cysylltiedig: Creative writing, English literature


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.