Ymarfer Cadwraeth (MSc)
- Hyd: 2 flynedd
- Dull astudio: Amser llawn
Cwrs trosi
Cwrs trosi yw hwn. Mae cyrsiau trosi yn eich galluogi i astudio pwnc nad yw'n gysylltiedig â'ch gradd israddedig neu yrfa gyfredol, a'ch cefnogi gyda newid llwybr gyrfa.
Mae'r cwrs yma o dan adolygiad
Rydym yn gweithio i ddiweddaru a gwella cynnwys ein cyrsiau i sicrhau'r canlyniadau addysg a gyrfa gorau. Mae'r wybodaeth isod yn adlewyrchu'r cwricwlwm presennol ac yn destun newid. Gallwch wneud cais nawr o hyd. Byddwn yn diweddaru'r dudalen hon ac yn cysylltu â holl ddeiliaid y cynnig pan fydd yr adolygiad wedi'i gwblhau i gadarnhau unrhyw newidiadau.
Diwrnod agored
Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.
Pam astudio’r cwrs hwn
Mae’r rhaglen drosi ymarferol hon wedi ymrwymo i addysgu’r genhedlaeth nesaf o gadwraethwyr trwy ddysgu yn seiliedig ar broblemau ar wrthrychau treftadaeth go iawn.
Rhaglen drosi
Wedi'i llunio ar gyfer graddedigion, ni waeth p’un fo eu cefndir, sydd eisiau gyrfa yn y ddisgyblaeth.
Pwyslais ar theori a datrys problemau
Byddwch yn datblygu dealltwriaeth soffistigedig o egwyddorion ynghyd â’u cymhwyso’n ymarferol.
Ymarferol, yn y labordy
Byddwch yn mireinio technegau ymarferol, yn gweithio ar ystod eang o arteffactau ac yn cael eich addysgu gan arbenigwyr rhyngwladol.
Labordai pwrpasol
Ystafell gadwraeth bwrpasol, sydd wedi'i gwella'n ddiweddar yn dilyn gwaith uwchraddio gwerth £250,000.
Mae ein rhaglen MSc Arferion Cadwraeth yn defnyddio dull theori i ymarfer am waith cadwraeth yn y labordy, o dan arweiniad cadwraethwyr ac wedi’i haddysgu drwy ddarlithoedd, seminarau ac ymarfer yn y labordy.
Wedi’i dylunio fel rhaglen drosi ar gyfer graddedigion y dyniaethau a’r gwyddorau sy’n chwilio am yrfa ym maes cadwraeth, mae’r rhaglen ddwy flynedd hon yn cynnig profiad sylweddol yn gweithio ar wrthrychau archaeolegol a hanesyddol yn y labordy, yn ogystal â lleoliadau gwaith cadwraeth yn y byd go iawn.
Byddwch yn dod i ddeall egwyddorion damcaniaethol a chymwysiadau ymarferol o dan arweiniad arbenigol, ac yn dod yn fedrus ym maes gofalu a gwarchod treftadaeth ddiwylliannol drwy brofiadau labordy. Wrth ddatblygu eich sgiliau yn ymarfer technegau cadwraeth newydd a thraddodiadol, byddwch yn cael profiad sylweddol o weithio ar wrthrychau treftadaeth diwylliannol o’r DU ac ar draws y byd. Yn ogystal â hyn, byddwch yn dangos sgiliau trosglwyddadwy gwerthfawr wrth reoli prosiectau ac adnoddau, datrys problemau a chyfathrebu.
Mae ein rhaglen, a addysgir gan ymarferwyr blaenllaw uchel eu parch ledled y byd, yn cyfuno’r wybodaeth a’r arbenigedd i weithredu ar lefelau cadwraeth proffesiynol yn y sector treftadaeth, gyda sail gadarn er mwyn dilyn ymchwil yn y dyfodol.
Mae’r radd wedi’i sefydlu fel cwrs trosi sy’n ei gwneud yn ddelfrydol i’r rhai hynny o gefndiroedd y dyniaethau a gwyddoniaeth. Rydym yn gwerthfawrogi eich diddordeb cryf yn y pwnc, heb ddisgwyl oriau gwirfoddol neu intern, graddau penodol neu gymwysterau gwyddoniaeth. Fodd bynnag, byddai diddordeb mewn gwyddoniaeth yn fuddiol. Rhannwch fanylion eich diddordeb yn y sector a lefel eich dealltwriaeth wyddonol yn eich cais.
Yn syth ar ôl dathlu canmlwyddiant archaeoleg a chadwraeth yn 2020, gosododd ein hymchwil y 9fed safle ymhlith adrannau archaeoleg y DU, yn ogystal â 5ed am effaith a 6ed am allbynnau ymchwil yn asesiad diweddaraf y DU (Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2021).
Rydym wedi ymrwymo i gyflwyno rhaglenni sy'n arloesol ac yn berthnasol, a chynnig y deilliannau dysgu a'r rhagolygon gyrfaol gorau i'n myfyrwyr. O gofio hyn, rydym yn adolygu rhai elfennau o'r rhaglen hon ar hyn o bryd. Felly, mae'r manylion yn rhai dangosol yn unig a gallent gael eu newid. Gallwch gyflwyno cais o hyd. Byddwn yn diweddaru'r dudalen hon ac yn cysylltu â'r holl ddeiliaid cynnig pan fydd yr adolygiad wedi'i gwblhau er mwyn cadarnhau unrhyw newidiadau.
Ble byddwch yn astudio
Yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd
Rydym yn chwilfrydig am brofiadau bodau dynol dros filoedd o flynyddoedd a diwylliannau, ac eisiau deall ein gorffennol yn well er mwyn goleuo ein presennol a gwella ein dyfodol.
Meini prawf derbyn
Cwrs trosi yw hwn. Mae cyrsiau trosi yn eich galluogi i astudio pwnc nad yw'n gysylltiedig â'ch gradd israddedig neu'ch gyrfa bresennol, a'ch cefnogi gyda newid gyrfa. Nid oes angen gwybodaeth na gradd flaenorol yn y pwnc.
Er mwyn cael eich ystyried am gynnig ar gyfer y rhaglen hon bydd angen i chi fodloni'r holl ofynion mynediad. Ni fydd eich cais yn cael ei ddatblygu os na ddarperir yr wybodaeth a'r dystiolaeth a restrir.
Mynediad Blwyddyn 1
Gyda'ch cais ar-lein, bydd angen i chi ddarparu:
- Copi o'ch tystysgrif gradd a'ch trawsgrifiadau sy'n dangos eich bod wedi cyflawni gradd anrhydedd 2:2 mewn unrhyw bwnc, neu radd ryngwladol gyfatebol. Os yw eich tystysgrif gradd neu ganlyniad yn yr arfaeth, llwythwch unrhyw drawsgrifiadau dros dro neu dystysgrifau dros dro.
- copi o'ch tystysgrif IELTS gyda sgôr gyffredinol o 6.5 gyda 6.0 ym mhob is-sgil, neu dystiolaeth o gymhwyster cyfatebol derbyniol. Dylech gynnwys dyddiad eich prawf disgwyliedig os yw'r cymhwyster hwn yn yr arfaeth. Os oes gennych dystiolaeth dderbyniol amgen, fel gradd israddedig a astudiwyd yn y DU, rhowch hyn yn lle IELTS.
Os nad oes gennych radd 2.2, gellir ystyried eich cais ar sail cyfuniad o'ch cymhwyster addysg uwch presennol a'ch profiad proffesiynol. Rhowch dystiolaeth ychwanegol i gefnogi'ch cais megis cyfeiriadau cyflogwr wedi'u llofnodi a'u dyddio.
Mynediad Blwyddyn 2
Os ydych yn astudio ar hyn o bryd neu wedi graddio o'r BSc Ymarfer Cadwraeth ym Mhrifysgol Caerdydd, gallwch wneud cais am fynediad uniongyrchol i Flwyddyn 2 yr MSc (2:2 Anrhydedd sydd ei angen).
- Gall myfyrwyr presennol ddefnyddio'r broses ymgeisio llwybr cyflym. Mewngofnodi i'r ffurflen gais gyda'ch enw defnyddiwr a'ch cyfrinair cyfredol myfyrwyr.
- Dylai graddedigion lenwi'r ffurflen gais fel arfer ac ychwanegu'r BSc Ymarfer Cadwraeth o Brifysgol Caerdydd i'r adran gymwysterau.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau
Rydym yn dyrannu lleoedd ar sail y cyntaf i'r felin, felly rydym yn argymell eich bod yn gwneud cais cyn gynted â phosibl. Fel arfer, bydd ceisiadau'n cau ddiwedd mis Awst ond gallant gau'n gynt os llenwir pob lle.
Broses ddethol
Byddwn yn adolygu eich cais ac os ydych yn bodloni'r holl ofynion mynediad, byddwn yn gwneud cynnig i chi.
Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.
Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).
Euogfarnau troseddol
Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.
Os ydych ar hyn o bryd yn destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau eich astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu eich cofnod troseddol. Mae amodau yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:
- mynediad i gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
- defnydd o'r rhyngrwyd ac offer/dyfeisiau cyfathrebu
- cyrffyw
- rhyddid i symud, gan gynnwys y gallu i deithio i'r tu allan i'r DU neu i ymgymryd â lleoliad/astudiaethau y tu allan i Brifysgol Caerdydd
- cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.
Strwythur y cwrs
Rydyn ni’n astudio modiwlau gyda chyfanswm o 300 o gredydau dros ddwy flynedd, gan gyfuno modiwlau craidd mewn hyfforddiant Cadwraeth (120 credyd), sgiliau craidd ôl-raddedig (80 credyd), modiwlau dewisol (40 credyd) ac, ar ôl cwblhau cam a addysgir y rhaglen yn llwyddiannus, traethawd hir (60 credyd).
Mae'r modiwlau a ddangosir yn enghraifft o'r cwricwlwm nodweddiadol. Bydd modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi fis cyn i'ch rhaglen ddechrau.
Blwyddyn un
Yn eich blwyddyn gyntaf byddwch yn ennill y sgiliau, y wybodaeth a'r theori sylfaenol sydd eu hangen i astudio ymarfer cadwraeth a’i gyflwyno.
Yn yr haf rydych yn cymryd rhan mewn lleoliad wyth wythnos o hyd gan weithio ym maes cadwraeth.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Prosiectau Ymarferol 2 | HS2331 | 40 credydau |
Hanfodion Cadwraeth | HS2339 | 20 credydau |
Cadwraeth Organig yn Seiliedig ar Dystiolaeth | HS2439 | 20 credydau |
Rheoli Treftadaeth Ddiwylliannol Metelaidd ac Anorganig | HS2440 | 20 credydau |
Rheoli Casgliadau Amgueddfeydd | HS2441 | 20 credydau |
Blwyddyn dau
Mae blwyddyn dau yn ymgorffori elfen o addysgu sy'n para dros y ddau semester cyntaf a chaiff ei asesu ar ddiwedd y cyfnod hwn.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
MSc Traethawd Cadwraeth | HST592 | 60 credydau |
Datblygu Prosiectau Ymarferol | HST460 | 40 credydau |
Dylunio Ymchwil mewn Gwyddoniaeth Treftadaeth | HST462 | 20 credydau |
Gwneud Penderfyniadau Cadwraeth | HST463 | 20 credydau |
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Archaeoleg Marwolaeth a Chofio | HST060 | 20 credydau |
Dadansoddiad mewn Gwyddor Treftadaeth | HST342 | 20 credydau |
Sgiliau Ôl-raddedig mewn Archaeoleg a Chadwraeth | HST500 | 20 credydau |
Polisi Diwylliannol Rhyngwladol: Theori ac Ymarfer | MLT835 | 20 credydau |
Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.
Dysgu ac asesu
Sut y caf fy addysgu?
Rydyn ni’n addysgu drwy ymarfer labordy, seminarau, darlithoedd a gwaith a asesir gan ddefnyddio sawl fformat i gyfuno gwybodaeth ddamcaniaethol â chymwysiadau ymarferol realistig, gan gynnwys lleoliadau mewn amgueddfeydd partner a sefydliadau treftadaeth cysylltiedig.
Yn bwysig iawn, mae'r rhaglen hon yn cyfuno theori ac ymarfer drwy gydol y gwaith ymarferol ar wrthrychau archaeolegol a hanesyddol, lle cewch eich cefnogi gan hyfforddiant un-i-un. Canolbwyntir ar ddatblygu sgiliau datrys problemau a gwneud penderfyniadau gan ddefnyddio aseiniadau dysgu sy'n seiliedig ar broblemau. Mae rhyngweithio ar lafar â staff yn rhan fawr o'r broses ddysgu, sy'n arwain y myfyriwr i allu gwneud penderfyniadau annibynnol.
Mae deilliannau dysgu ar gyfer y modiwl wedi'u cyfateb i'r raddfa dechreuwr i arbenigwr a ddefnyddir gan y Sefydliad Cadwraeth (ICON) ar gyfer asesu cymhwysedd.
Caiff mwy o wybodaeth a dealltwriaeth uwch gael eu caffael drwy astudiaeth annibynnol, ymarfer myfyriol dan arweiniad mewn labordy, dysgu hunangyfeiriedig a goruchwyliaeth unigol ar gyfer traethodau.
Sut y caf fy asesu?
Mae amrywiaeth eang o ddulliau asesu, gan gynnwys cofnodion dysgu myfyriol, traethodau, arholiadau, cyflwyniadau llafar, portffolio, adroddiadau a viva.
Mae'r amrywiaeth hwn o ddulliau asesu yn sicrhau eich bod wedi datblygu ystod eang o sgiliau ymarferol a damcaniaethol, gwybodaeth a dulliau cyfathrebu erbyn i chi gwblhau'r cwrs.
Ar ôl cwblhau elfennau a addysgir y rhaglen yn llwyddiannus, byddwch yn symud ymlaen at draethawd hir, hyd at 20,000 o eiriau. Mae'r flwyddyn hon o astudio hunanreoledig yn ddelfrydol er mwyn eich paratoi i symud ymlaen i’r PhD.
Sut y caf fy nghefnogi?
Ar ôl cofrestru, caiff Tiwtor Personol ei neilltuo i chi a byddwch yn cael adnoddau addysgu a dysgu, gan gynnwys Llawlyfr i Ôl-raddedigion. Mae adnoddau ychwanegol sy’n benodol i’r modiwlau ar gael yn ystod y rhaglen.
Rydyn ni’n cynnig amser un-i-un yn ystod oriau swyddfa penodol yn ystod wythnosau addysgu, ac mae croeso i chi gysylltu dros ebost hefyd. Yn ogystal, gallwch wneud apwyntiadau i weld eich tiwtor personol ar sail un-i-un i drafod unrhyw fater. Mae ein tîm Gwasanaethau Proffesiynol hefyd ar gael i gynnig cyngor a chymorth.
Eich tiwtor personol yw eich pwynt cyswllt i drafod unrhyw broblemau sy'n codi gyda'r cwrs. Dylid cyfeirio ymholiadau pellach at Gyfarwyddwr Astudiaethau Ôl-raddedig a Addysgir yr Ysgol.
Mae cyfres o labordai ymchwil ddadansoddol a chadwraeth gwrthrychau ar gael i chi. Mae cyfleusterau trin ac offer dadansoddi yn cynnwys:
- SEM Dadansoddol
- XRF Cludadwy
- FTIR gyda microsgop ynghlwm
- Sbectrosgopeg Raman Cludadwy
- EIS
- X-radiograffeg
- Siambrau hinsoddol
- Microsgobeg ddigidol
- Laser NdYag
- System sychrewi (ar gyfer trin deunyddiau llawn dŵr fel pren a lledr)
- Ystafell sgriffio (ar gyfer ymchwilio i arwynebau metel a chael gwared ar gyrydu)
- Tri labordy cadwraeth (gan gynnwys lle hyblyg ar gyfer trin gwrthrychau mawr)
- Ystafell ffotograffiaeth ddigidol
- Ystafell cyfrifiaduron
Adborth
Gellir rhoi adborth ar waith cwrs drwy sylwadau ysgrifenedig ar y gwaith a gyflwynwyd a thrwy drafodaeth mewn sesiynau cyswllt.
Darperir adborth ffurfiannol yn unigol ar ffurflenni traethawd, drwy roi adborth yn ystod dosbarthiadau ymarferol, sylwadau ar ddogfennau a thrwy gyfarfodydd adolygu ffurfiol ac anffurfiol.
Pa sgiliau y byddaf yn eu hymarfer a’u datblygu?
Byddwch yn meithrin ystod eang o sgiliau gan gynnwys y gallu i wneud y canlynol:
- gwerthuso cyflwr gwrthrychau hanesyddol ac archaeolegol a llunio gweithdrefnau sy’n seiliedig ar dystiolaeth i’w cadw
- rhoi amrywiaeth eang o brosesau ymarferol ar waith, sy’n angenrheidiol er mwyn cymhwyso triniaethau cadwraeth
- gweithredu amrywiaeth o offer dadansoddi cyfrannol ac ymchwiliol a dehongli’r data a geir ganddyn nhw
- cysylltu â rhanddeiliaid
- cynnig atebion rhesymegol i broblemau
- cynnal ymchwil annibynnol ar bynciau arbenigol
- bod yn flaengar ac ysgwyddo cyfrifoldeb personol, gwneud penderfyniadau mewn sefyllfaoedd cymhleth a chynnig atebion pragmatig yn seiliedig ar dystiolaeth
- cyflwyno gwybodaeth mewn fformatau priodol o fewn cyd-destunau proffesiynol
- meithrin y gallu i ddysgu’n annibynnol, sy’n angenrheidiol ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus.
Yn ogystal, byddwch yn datblygu sgiliau cyfathrebu, rheoli amser, gwneud penderfyniadau, cyflwyno a chadw cofnodion da.
Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2025
Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.
Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd
Ffioedd am statws cartref
Nid yw ffioedd ar gyfer mynediad 2025/26 ar gael eto
Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir
Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26.
Ffioedd am statws ynys
Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.
Ffioedd am statws tramor
Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26.
Costau ychwanegol
Costau byw
Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.
Arian
Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith
Mae llawer o raddedigion y rhaglen hon wedi mynd ati i ddilyn gyrfaoedd ym maes cadwraeth yn y sector treftadaeth, tra bod eraill wedi dewis parhau â’u hastudiaethau ar lefel PhD.
Mae graddedigion diweddar wedi mynd yn eu blaenau i weithio i sefydliadau yn y DU gan gynnwys yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Archifau Cenedlaethol, yr Amgueddfa Rhyfel Imperialaidd, Swyddfa Cofnodion Caerfaddon, MSDS Morol yn ogystal â sefydliadau rhyngwladol gan gynnwys Amgueddfa Peabody Yale, Amgueddfa Penn, St Mary’s City Maryland, Llyfrgell UCLA, Colonial Williamsburg a Llyfrgell y Gyngres.
Roedd 91% o raddedigion yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd mewn cyflogaeth neu astudiaethau pellach o fewn chwe mis i raddio (DLHE 2016/17).
Lleoliadau
Byddwch yn datblygu eich sgiliau ar leoliad cadwraeth wyth wythnos, fel arfer yn yr haf rhwng blynyddoedd un a dau, gan elwa ar ein cysylltiadau yn y sector.
Mae’r Amgueddfa Ryfel Ymerodrol, Amgueddfa Cymru, prosiect Casgliad Swydd Stafford, Amgueddfa Bryste a’r Arfdai Brenhinol ymhlith y sefydliadau partner diweddar.
Camau nesaf
Ymweliadau Diwrnod Agored
Cofrestrwch am wybodaeth am ein dyddiadau sydd i ddod.Gwnewch ymholiad
Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.Rhyngwladol
Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.Rhagor o wybodaeth
Pynciau cysylltiedig: Archaeology, History and ancient history
Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.