Therapïau Gwybyddol ac Ymddygiadol (PgDip)
- Hyd: 2 flynedd
- Dull astudio: Rhan amser
Nid ydym yn derbyn ceisiadau ar hyn o bryd
Does dim modd gwneud cais ar hyn o bryd. Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth.
Dyddiad cau
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cais yw 26 Mawrth.
Diwrnod agored
Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.
Pam astudio’r cwrs hwn
Mae'r rhaglen hon, sydd wedi’i hachredu gan Gymdeithas Seicotherapïau Ymddygiadol a Gwybyddol Prydain (BABCP), ar gael fel ail flwyddyn, yn dilyn ymlaen o'r dystysgrif ôl-raddedig. Mae'n galluogi staff iechyd meddwl i ddatblygu cymhwysedd pellach mewn CBT dwysedd uchel.
Achredir gan Gymdeithas Seicotherapïau Ymddygiadol a Gwybyddol Prydain (BABCP)
Mae'r rhaglen hon yn bodloni safonau uchel addysg a osodwyd gan BABCP, a'r nod yw eich helpu i gael achrediad ymarferwr unigol gyda BABCP
Dyma'r unig gwrs achrededig ar Therapïau Gwybyddol Ymddygiadol (CBT) yng Nghymru
Dyma'r unig raglen Therapïau Gwybyddol Ymddygiadol yng Nghymru sydd wedi'i hachredu gan BABCP
4ydd yn y DU a 44fed yn y byd
Yn ôl rhestr Times Higher Education o Brifysgolion Gorau’r Byd 2020, mae ein Hysgol yn sgorio’n uchel am Seicoleg.
Addysgir gan ymarferwyr achrededig BABCP
Cewch eich addysgu gan ymarferwyr achrededig BABCP sydd ag amrywiaeth eang o brofiad proffesiynol, clinigol ac ymchwil.
Mae’r cwrs rhan-amser hwn ar gyfer gweithwyr proffesiynol ym maes iechyd meddwl, fel nyrsys iechyd meddwl, therapyddion galwedigaethol, seiciatryddion, seicolegwyr clinigol a gweithwyr cymdeithasol. Mae'r cwrs wedi'i gynllunio i’ch helpu i ennill achrediad ymarferwr unigol gyda Chymdeithas Seicotherapi Ymddygiadol a Gwybyddol Prydain (BABCP). Rydym hefyd yn cynnig llwybr arall o’r enw Asesiad Gwybodaeth a Sgiliau (KSA) sy’n galluogi ymarferwyr sydd â’r profiad a’r wybodaeth ddigonol i gyflawni’r lefel hyfforddiant cyfatebol.
Mae'r maes llafur yn seiliedig ar fframwaith cymhwysedd Roth & Pilling ar gyfer CBT ynghylch anhwylderau gorbryder ac iselder. Mae'r cwrs yn canolbwyntio ar CBT gydag oedolion, er ein bod hefyd yn croesawu ymarferwyr sy'n gweithio gyda phlant ac oedolion hŷn.
Dylai fod gennych eisoes lefel sgil glinigol uchel mewn CBT, a fyddai wedi'i gyflawni trwy gwblhau rhaglen lefel 1 a achredir gan BABCP. Byddwch yn rhoi eich gwybodaeth a'ch hyfforddiant ar waith trwy weithio gydag oedolion, plant ac oedolion hŷn mewn ystod eang o leoliadau.
Yn eich maes clinigol, p'un a yw hynny'n wasanaethau oedolion, plant neu oedolion hŷn, bydd disgwyl i chi weithio gydag ystod o broblemau cyflwyno, iselder ysbryd ac anhwylderau gorbryder yn bennaf, sydd wedi cael eu haddysgu ar eich Tystysgrif Lefel 1 a achredir gan BABPC.
Mae achrediad gan y BABCP yn sicrhau safon ardderchog o hyfforddiant. Mae'r rhaglen PGDip CBT wedi'i hachredu ar lefel 2. Bydd achrediad cwrs Lefel 2 yn berthnasol o garfan 2022.
I gael eich ystyried ar gyfer y cwrs hwn, rhaid i chi allu ymarfer CBT yn eich gweithle gan y bydd disgwyl i chi gyrraedd 100 awr o ymarfer CBT. Byddwch yn derbyn goruchwyliaeth grŵp gydag ymarferydd achrededig BABCP profiadol.
Achrediadau
Ble byddwch yn astudio
Yr Ysgol Seicoleg
Dewch i astudio mewn amgylchedd dysgu deinamig sy’n ysgogi, wedi'i lywio gan ein gwaith ymchwil blaenllaw ym maes seicoleg a niwrowyddoniaeth.
Meini prawf derbyn
Er mwyn cael eich ystyried am gynnig ar gyfer y rhaglen hon bydd angen i chi fodloni'r holl ofynion mynediad. Ni fydd eich cais yn cael ei ddatblygu os na ddarperir yr wybodaeth a'r dystiolaeth a restrir.
Gyda'ch cais ar-lein, bydd angen i chi ddarparu:
- Copi o'ch tystysgrif gradd a'ch trawsgrifiadau sy'n dangos eich bod wedi cyflawni gradd anrhydedd mewn maes pwnc perthnasol, neu radd gyfatebol ryngwladol.
- Tystiolaeth bod gennych broffesiwn craidd ym maes iechyd meddwl neu bortffolio Gwybodaeth, Sgiliau ac Agweddau (KSA) (cysylltwch â cbt-admin@cardiff.ac.uk am ragor o fanylion).
- Tystiolaeth eich bod yn gweithio (cyflogedig neu ddi-dâl) yn y DU, a gallwch ymarfer CBT unigol gyda chleientiaid sy'n profi gorbryder ac iselder.
- Tystiolaeth bod gennych reolwr a goruchwyliwr clinigol (gall y rhain fod yr un person). Llenwch ffurflenni'r Rheolwr a'r Goruchwyliwr.
- Datganiad personol, sy'n darparu eich addasrwydd, diddordeb ac ymrwymiad personol i CBT.
- Bydd gofyn i chi gael aelodaeth myfyrwyr o'r BABCP.
- Tystiolaeth o TGAU Saesneg iaith gradd C/4. Os oes gennych dystiolaeth dderbyniol amgen, fel gradd israddedig a astudiwyd yn y DU, rhowch hyn yn lle TGAU.
- Copi wedi'i gwblhau o'r ffurflen Cwestiynau Ychwanegol.
Sylwer y dylech wneud cais am y dystysgrif ôl-raddedig (PgCert) yn y lle cyntaf oni bai bod gennych dystysgrif CBT achrededig BABCP o Brifysgol Caerdydd neu sefydliad arall.
O garfan Medi 2024 ymlaen, mae ein cyrsiau bellach yn cael eu hariannu'n llawn gan AaGIC. Byddwn yn gweithio'n uniongyrchol gydag AaGIC a Byrddau Iechyd Cymru i gwblhau ein proses ddethol. Nid ydym bellach yn gallu derbyn ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n hunan-ariannu neu gan arianwyr heblaw AaGIC. Byddai angen i chi fod yn gyflogedig mewn rôl GIG yng Nghymru a chael cefnogaeth eich Bwrdd Iechyd i fod yn gymwys i wneud cais am un o'u lleoedd a ariennir.
Mae'r rheol dwy flynedd yn berthnasol i unrhyw un sy'n cwblhau'r Diploma. Gall hyfforddai gwblhau'r Dystysgrif a pharhau i wneud cais i'r Doethuriaeth Seicoleg Glinigol neu'r MSc Clinigol mewn Seicoleg Gymhwysol (CAAPS), fodd bynnag, os yw hyfforddai yn cwblhau'r Diploma mae cyfnod o 2 flynedd y mae'n rhaid iddo ddod i ben rhwng cwblhau'r Diploma a'r cais am hyfforddiant pellach a ariennir gan AaGIC neu HEE
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau
Y dyddiad cau yw 26 Mehefin 2025. Os byddwch yn cyflwyno cais ar ôl y dyddiad hwn, byddwn ond yn ei ystyried os oes lleoedd ar gael o hyd.
Broses ddethol
Byddwn yn adolygu eich cais yn unol â'r gofynion mynediad a nodwyd. Weithiau, byddwn yn gwahodd ymgeiswyr i gyfweliad i sicrhau eu bod yn gymwys ar gyfer y cwrs. Gwneir cynigion yn seiliedig ar y meini prawf ymgeisio a chanlyniad y cyfweliad.
Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.
Lawrlwythiadau ymgeisio
Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).
Euogfarnau troseddol
Os nad ydych yn gweithio i’r GIG ar hyn o bryd bydd gofyn i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd) os yw’ch cais yn llwyddiannus. Os ydych yn gwneud cais o wledydd penodol dramor neu wedi byw mewn gwledydd penodol, efallai y bydd angen Tystysgrif Ymddygiad Da. Os oes gennych euogfarn droseddol berthnasol, bydd hyn yn cael ei nodi yn y siec a gallai effeithio ar eich gallu i gofrestru ar y cwrs. Dylai ymgeiswyr sydd ar y rhestr waharddedig fod yn ymwybodol bod gwneud cais am y cwrs hwn yn debygol o gael ei ystyried yn drosedd.
Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2025
Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.
Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd
Ffioedd am statws cartref
Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir
Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2025/26 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.
Ffioedd am statws ynys
Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.
Ffioedd am statws tramor
Nid yw'r cwrs hwn yn derbyn myfyrwyr o du allan i'r DU/UE ar hyn o bryd.
Rhagor o wybodaeth am ffioedd dysgu a blaendaliadau, gan gynnwys ar gyfer myfyrwyr rhan-amser a pharhaus.
Cymorth ariannol
Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.
Costau ychwanegol
A fydd angen unrhyw gyfarpar penodol arnaf I astudio'r cwrs hwn?
Ni fydd angen unrhyw offer penodol.
Costau byw
Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.
Arian
Gyrfaoedd graddedigion
Bydd gan raddedigion o'r cwrs dystiolaeth o sgiliau mewn Therapïau Gwybyddol Ymddygiadol, a gydnabyddir gan BABCP, y gellir eu defnyddio mewn nifer o feysydd cyflogaeth.
I wneud cais am achrediad, yn gyntaf mae angen i chi fod â chefndir proffesiynol cydnabyddedig BABCP ym maes iechyd meddwl y mae'r BABCP yn ei alw'n Broffesiwn Craidd. Os nad yw eich proffesiwn iechyd meddwl blaenorol wedi'i restru yma, neu os nad ydych yn bodloni'r meini prawf yn llawn, cydnabyddir hyfforddiant a phrofiad cyfatebol mewn iechyd meddwl drwy Lwybr Achrediad KSA.
Camau nesaf
Ymweliadau Diwrnod Agored
Cofrestrwch am wybodaeth am ein dyddiadau sydd i ddod.Gwnewch ymholiad
Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.Rhyngwladol
Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.Gwnewch ymholiad
Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.Rhagor o wybodaeth
Pynciau cysylltiedig: Seicoleg
Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.