Ewch i’r prif gynnwys

Therapïau Gwybyddol ac Ymddygiadol (PgCert)

  • Hyd: 1 flwyddyn
  • Dull astudio: Rhan amser

Nid ydym yn derbyn ceisiadau ar hyn o bryd

Does dim modd gwneud cais ar hyn o bryd. Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth.

deadline-date

Dyddiad cau

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cais yw 19 Mehefin.

calendar

Diwrnod agored

Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.

Pam astudio’r cwrs hwn

Bydd y rhaglen hyfforddiant hon a achredir gan BABCP yn rhoi’r wybodaeth a’r sgiliau clinigol sydd eu hangen i chi gymhwyso fel therapydd seicolegol.

tick

Achredir gan Gymdeithas Seicotherapïau Ymddygiadol a Gwybyddol Prydain (BABCP)

Mae'r rhaglen hon yn bodloni safonau uchel addysg a osodwyd gan BABCP, a'r nod yw eich helpu i gael achrediad ymarferwr unigol gyda BABCP

globe

Dyma'r unig gwrs achrededig ar Therapïau Gwybyddol Ymddygiadol (CBT) yng Nghymru

Dyma'r unig raglen Therapïau Gwybyddol Ymddygiadol yng Nghymru sydd wedi'i hachredu gan BABCP

rosette

4ydd yn y DU a 44fed yn y byd

Yn ôl rhestr Times Higher Education o Brifysgolion Gorau’r Byd 2020, mae ein Hysgol yn sgorio’n uchel am Seicoleg.

certificate

Addysgir gan ymarferwyr achrededig BABCP

Cewch eich addysgu gan ymarferwyr achrededig BABCP sydd ag amrywiaeth eang o brofiad proffesiynol, clinigol ac ymchwil.

Mae Therapi Gwybyddol Ymddygiadol (CBT) yn driniaeth siarad a ddefnyddir gan weithwyr proffesiynol iechyd meddwl ac mae tystiolaeth yn dangos ei fod yn helpu pobl i reoli amrywiaeth o gyflyrau iechyd meddwl, fel gorbryder ac iselder.

Mae’r cwrs rhan-amser hwn ar gyfer gweithwyr iechyd meddwl, fel nyrsys iechyd meddwl, therapyddion galwedigaethol, seiciatryddion, ffisiolegwyr clinigol a gweithwyr cymdeithasol. Rydym hefyd yn cynnig llwybr arall o’r enw Asesiad Gwybodaeth a Sgiliau (KSA) sy’n galluogi ymarferwyr sydd â’r profiad a’r wybodaeth ddigonol i gyflawni’r lefel hyfforddiant cyfatebol.

Mae'r maes llafur yn seiliedig ar fframwaith cymhwysedd Roth & Pilling ar gyfer CBT ynghylch anhwylderau gorbryder ac iselder. Mae'r cwrs yn canolbwyntio ar CBT gydag oedolion, er ein bod hefyd yn croesawu ymarferwyr sy'n gweithio gyda phlant ac oedolion hŷn.

Mae’r rhaglen hon yn cynnig hyfforddiant o ansawdd uchel i ôl-raddedigion mewn Therapïau Gwybyddol ac Ymddygiadol (CBT), ac mae BABCP yn ei hachredu ar Lefel 1. Bydd yn rhaid i chi fodloni rhai meini prawf pellach, yn ogystal â’r cwrs, i gael achrediad ymarferydd llawn.

Mae gofyn am 100 awr o ymarfer i gyflawni’r cwrs, y mae angen i’r rhan helaeth ohono fod ar sail 1 i 1. Mae hyn yn cynnwys gweithio gydag anhwylderau Iselder a Gorbryder y byddwch yn dysgu amdanynt ar y rhaglen hyfforddiant.

Achrediadau

Ble byddwch yn astudio

Yr Ysgol Seicoleg

Dewch i astudio mewn amgylchedd dysgu deinamig sy’n ysgogi, wedi'i lywio gan ein gwaith ymchwil blaenllaw ym maes seicoleg a niwrowyddoniaeth.

  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 2087 4007
  • MarkerPlas y Parc, Caerdydd, CF10 3AT

Meini prawf derbyn

Er mwyn cael eich ystyried am gynnig ar gyfer y rhaglen hon bydd angen i chi fodloni'r holl ofynion mynediad. Ni fydd eich cais yn cael ei ddatblygu os na ddarperir yr wybodaeth a'r dystiolaeth a restrir.

Gyda'ch cais ar-lein, bydd angen i chi ddarparu:

  1. Copi o'ch tystysgrif gradd a'ch trawsgrifiadau sy'n dangos eich bod wedi cyflawni gradd anrhydedd mewn maes pwnc perthnasol, neu radd gyfatebol ryngwladol.
  2. Tystiolaeth bod gennych broffesiwn craidd ym maes iechyd meddwl neu bortffolio Gwybodaeth, Sgiliau ac Agweddau (KSA) (cysylltwch â cbt-admin@cardiff.ac.uk am ragor o fanylion). Os yw'n ofynnol i chi ddarparu Portffolio KSA fel rhan o'ch cais, rhaid cyflwyno hyn erbyn 1 Mai fan bellaf, er mwyn caniatáu amser i adolygu.
  3. Tystiolaeth eich bod yn gweithio (cyflogedig neu ddi-dâl) yn y DU, a gallwch ymarfer CBT unigol gyda chleientiaid sy'n profi gorbryder ac iselder.
  4. Tystiolaeth bod gennych reolwr a goruchwyliwr clinigol (gall y rhain fod yr un person). Llenwch ffurflenni'r Rheolwr a'r Goruchwyliwr.
  5. Datganiad personol, sy'n darparu eich addasrwydd, diddordeb ac ymrwymiad personol i CBT.
  6. Bydd gofyn i chi gael aelodaeth myfyrwyr o'r BABCP.
  7. Tystiolaeth o TGAU Saesneg iaith gradd C/4. Os oes gennych dystiolaeth dderbyniol amgen, fel gradd israddedig a astudiwyd yn y DU, rhowch hyn yn lle TGAU.
  8. Copi wedi'i gwblhau o'r ffurflen Cwestiynau Ychwanegol.

Sylwer y dylech wneud cais am y dystysgrif ôl-raddedig (PgCert) yn y lle cyntaf oni bai bod gennych dystysgrif CBT achrededig BABCP o Brifysgol Caerdydd neu sefydliad arall.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau

Y dyddiad cau yw 19 Mehefin. Os yw'n ofynnol i chi ddarparu Portffolio KSA fel rhan o'ch cais, rhaid cyflwyno hyn erbyn 1 Mai fan bellaf, er mwyn caniatáu amser i adolygu.

Broses ddethol

Byddwn yn adolygu eich cais ac os byddwch yn bodloni'r gofynion mynediad byddwn yn eich gwahodd i gyfweliad. Bydd cyfweliadau'n cael eu cynnal 31 Gorffennaf. Gwneir cynigion yn seiliedig ar ganlyniad y cyfweliad.

Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.

Lawrlwythiadau ymgeisio

Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).

Euogfarnau troseddol

Os nad ydych yn gweithio i’r GIG ar hyn o bryd bydd gofyn i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd) os yw’ch cais yn llwyddiannus. Os ydych yn gwneud cais o wledydd penodol dramor neu wedi byw mewn gwledydd penodol, efallai y bydd angen Tystysgrif Ymddygiad Da. Os oes gennych euogfarn droseddol berthnasol, bydd hyn yn cael ei nodi yn y siec a gallai effeithio ar eich gallu i gofrestru ar y cwrs. Dylai ymgeiswyr sydd ar y rhestr waharddedig fod yn ymwybodol bod gwneud cais am y cwrs hwn yn debygol o gael ei ystyried yn drosedd.

Strwythur y cwrs

Mae'r Dystysgrif Ôl-raddedig (PgCert) yn cynnwys cyfres o ddiwrnodau hyfforddi sy'n dechrau ym mis Medi.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2024/25. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2024.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Hanfodion CBTPST40120 credydau
CBT ar gyfer Anhwylderau PenodolPST40240 credydau

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Sut y caf fy addysgu?

Mae'r Dystysgrif Ôl-raddedig (PgCert) yn cynnwys cyfres o ddiwrnodau hyfforddi sy'n dechrau ym mis Medi. Bydd y rhain yn canolbwyntio ar ddatblygu dealltwriaeth feirniadol o'r sylfaen ddamcaniaethol ac ymchwil ar gyfer CBT. Bydd y diwrnodau hyfforddi hyn yn cynnwys addysgu, trafod, fideo, deunydd clinigol, myfyrdodau ar ymarfer, chwarae rôl ac ymarferion drwy brofiad i annog cyfranogwyr i fyfyrio ar gysylltiadau rhwng theori, ymchwil ac ymarfer. 

Disgwylir i chi fynychu pob diwrnod hyfforddi, dylech fod yn barod i ymarfer y sgiliau a addysgir yn eich practis CBT eich hun a bod yn barod i drafod eich gwaith clinigol ar ddiwrnodau hyfforddi.

Sut y caf fy asesu?

Mae'r cwrs yn gofyn i chi gwblhau traethawd, astudiaeth achos a dau naratif clinigol estynedig. Byddwch hefyd yn cadw llyfrau log dros y flwyddyn yn nodi manylion gweithgareddau sy'n gysylltiedig â CBT.

Sut y caf fy nghefnogi?

Bydd gennych diwtor personol i oruchwylio gofal bugeiliol, a bydd cyfleoedd i chi ymgynghori â'r staff addysgu a chymryd rhan mewn trafodaethau â hyfforddwyr gwadd.

Bydd Llawlyfr y Rhaglen yn cynnwys gwybodaeth fanwl am y rhaglen astudio gan gynnwys canllawiau ar gwblhau gwaith a asesir. Bydd amlinelliad o’r cwrs, y llawlyfr a’r amserlenni ar gael ar wefan Prifysgol Caerdydd, a bydd gennych fynediad i Lyfrgell Prifysgol Caerdydd, llyfrgell fechan sy’n cynnwys testun allweddol yng nghanolfan y cwrs, ac adnoddau ar-lein drwy wefan Prifysgol Caerdydd.

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2024

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £4,500 Dim

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2024/25 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Nid yw'r cwrs hwn yn derbyn myfyrwyr o du allan i'r DU/UE ar hyn o bryd.

Rhagor o wybodaeth am ffioedd dysgu a blaendaliadau, gan gynnwys ar gyfer myfyrwyr rhan-amser a pharhaus.

Cymorth ariannol

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau ychwanegol

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Arian

Benthyciadau ar gyfer ôl-raddedigion

Os byddwch yn dechrau eich gradd meistr ym mis Medi 2024 neu wedi hynny, efallai y byddwch yn gallu gwneud cais am fenthyciad ar gyfer ôl-raddedigion er mwyn cefnogi eich astudiaethau ym Mhrifysgol Caerdydd.

Gyrfaoedd graddedigion

Bydd gan raddedigion o'r cwrs dystiolaeth o sgiliau mewn Therapïau Gwybyddol Ymddygiadol, a gydnabyddir gan BABCP, y gellir eu defnyddio mewn nifer o feysydd cyflogaeth.

I wneud cais am achrediad, yn gyntaf mae angen i chi fod â chefndir proffesiynol cydnabyddedig BABCP ym maes iechyd meddwl y mae'r BABCP yn ei alw'n Broffesiwn Craidd. Os nad yw eich proffesiwn iechyd meddwl blaenorol wedi'i restru yma, neu os nad ydych yn bodloni'r meini prawf yn llawn, cydnabyddir hyfforddiant a phrofiad cyfatebol mewn iechyd meddwl drwy Lwybr Achrediad KSA.

Darllenwch y wybodaeth Proffesiwn Craidd ar wefan BABCP.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2023.
icon-chat

Gwnewch ymholiad

Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.
icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.
icon-chat

Gwnewch ymholiad

Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.

Rhagor o wybodaeth

Pynciau cysylltiedig: Seicoleg


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.