Fferylliaeth Glinigol (3 flynedd) (PgDip)
- Hyd: 3 blynedd
- Dull astudio: Dysgu cyfunol rhan amser
Diwrnod agored
Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.
Pam astudio’r cwrs hwn
Yn gymhwyster allweddol ar gyfer datblygu gyrfa glinigol mewn fferyllfa ysbyty, mae’r rhaglen yn cael ei ariannu gan y GIG ac fe'i cefnogir gan Gyfarwyddwyr Cyrsiau Cyswllt ledled Cymru a thiwtoriaid profiadol sy'n seiliedig ar waith ar safleoedd ysbyty achrededig.
Wedi’i ddatblygu gan ymarferwyr profiadol
Dyma gymhwyster allweddol a ddatblygwyd gan ymarferwyr profiadol ar draws 22 o ysbytai mewn pedair canolfan ledled Cymru a Lloegr.
Cyfuno cwrs academaidd â'ch swydd broffesiynol
Dyma gyfle i gyfuno cwrs academaidd â’ch swydd bob dydd er mwyn i chi ddatblygu'r sgiliau a'r wybodaeth i roi’r gofal gorau posibl i gleifion a symud eich gyrfa yn ei blaen.
Dysgu wrth eich pwysau
Mae hyblygrwydd yn eich galluogi i wneud eich cwrs wrth eich pwysau, rhwng tair ac wyth mlynedd.
Convenient location
Course conducted mainly in your base hospital.
Sharing and learning from best practice
Provides the opportunity to compare practices across regions and learn from each other.
Symud ymlaen i astudio ar gyfer MSc
Pan fyddwch wedi cael y cymhwyster hwn, bydd gennych yr opsiwn i astudio ar gyfer yr MSc llawn mewn Fferylliaeth Glinigol.
Mae'r Diploma Ôl-raddedig mewn Fferylliaeth Glinigol yn gymhwyster lefel 7 120 credyd, y mae modd ei astudio dros ddwy neu dair blynedd. Mae wedi'i gynllunio i gefnogi eich datblygiad fel fferyllydd yn gynnar yn eich gyrfa neu os ydych yn bwriadu newid sector gofal iechyd. Ar ôl cwblhau'r Diploma Fferylliaeth Glinigol Ôl-raddedig, drwy ymgymryd â'r rhaglen meistr hon, byddwch yn ennill gradd uwch wrth i chi ennill yr wybodaeth, y sgiliau a'r gwerthoedd a'r ymddygiadau proffesiynol sydd eu hangen ar fferyllydd i gyfrannu'n effeithiol at ddarparu gofal iechyd.
Drwy gwblhau'r rhaglen hon, byddwch yn dysgu sut i fynd i'r afael â'r heriau cymhleth sy'n gysylltiedig ag iechyd y mae cleifion a'r boblogaeth gyfan yn eu hwynebu. Byddwch yn datblygu dealltwriaeth gynhwysfawr ac ymwybyddiaeth feirniadol o'ch rôl fel fferyllydd a rôl y proffesiwn fferyllol mewn amgylchedd gofal iechyd sy'n newid. Bydd hyn yn cynnwys deall strwythur, trefniadaeth a sut mae’r gwasanaeth iechyd yn cael ei ariannu, sut caiff adnoddau eu rheoli a sut ystyrir bod gwasanaethau'n glinigol ac yn gost-effeithiol.
Bydd y rhaglen hon hefyd yn eich cefnogi i ddod yn ddysgwr annibynnol hyderus a gallu meddwl yn feirniadol. Bydd yn ymgorffori egwyddorion gwella ansawdd a defnyddio ymchwil i ddatblygu sylfaen dystiolaeth. Cewch eich cefnogi i wella eich sgiliau ymgynghori a chyfathrebu ac i wneud penderfyniadau mewn sefyllfaoedd clinigol cymhleth a all fod yn ddifrifol neu'n gronig. Bydd hyn yn cynnwys dealltwriaeth o risg a sut gellir ei reoli neu ei liniaru drwy fframweithiau rheoli ansawdd a llywodraethu clinigol priodol. Byddwch yn ymgorffori egwyddorion gwneud penderfyniadau ar y cyd a gweithio mewn tîm amlddisgyblaethol wrth ymarfer.
Ble byddwch yn astudio
Yr Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol
Rydym ar flaen y gad o ran datblygu sgiliau clinigol, ac mae gennym enw da rhyngwladol am ein haddysgu a’n hymchwil.
Meini prawf derbyn
Er mwyn cael eich ystyried am gynnig ar gyfer y rhaglen hon bydd angen i chi fodloni'r holl ofynion mynediad. Ni fydd eich cais yn cael ei ddatblygu os na ddarperir yr wybodaeth a'r dystiolaeth a restrir.
Gyda'ch cais ar-lein, bydd angen i chi ddarparu:
- Tystiolaeth eich bod wedi'ch cofrestru fel fferyllydd gyda Chyngor Fferyllol Cyffredinol Prydain Fawr (GPhC) neu wlad lle ceir cytundeb cyfatebol, naill ai'n darparu eich rhif cofrestru i ni gynnal gwiriad ar-lein, neu dystysgrif gofrestru.
- copi o'ch tystysgrif IELTS gyda sgôr gyffredinol o 7.0 gyda 7.0 ym mhob is-sgil, neu dystiolaeth o gyfwerth a dderbynnir (yn unol â'r rhai sy'n ofynnol gan y corff proffesiynol, y GPhC). Dylech gynnwys dyddiad eich prawf disgwyliedig os yw'r cymhwyster hwn yn yr arfaeth. Os oes gennych dystiolaeth dderbyniol amgen, fel gradd israddedig a astudir yn y DU, rhowch hyn yn lle IELTS.
- Geirda gan eich cyflogwr at dystiolaeth eich bod ar hyn o bryd yn gweithio mewn lleoliad ymarfer sy'n wynebu cleifion. Dylid llofnodi geirda, dyddiad a llai na chwe mis oed pan fyddwch yn cyflwyno'ch cais.
- Datganiad personol sy'n ymdrin â'r pwyntiau canlynol:
- Pam eich bod wedi dewis y rhaglen hon
- Beth sydd o ddiddordeb i chi am y rhaglen
- Unrhyw brofiad perthnasol sy'n gysylltiedig â chynnwys y rhaglen neu'r modiwl
- Sut rydych chi'n bwriadu defnyddio'r cymhwyster yn eich gyrfa
- Sut y byddwch chi a'ch proffesiwn yn elwa o'ch astudiaethau
- Pam rydych chi'n teimlo y dylid rhoi lle i chi ar y rhaglen
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau
Y dyddiad cau yw 31 Gorffennaf. Os byddwch yn cyflwyno cais ar ôl y dyddiad hwn, byddwn ond yn ei ystyried os oes lleoedd ar gael o hyd.
Broses ddethol
Byddwn yn adolygu eich cais ac os byddwch yn bodloni'r gofynion mynediad, byddwn yn eich gwahodd i gyfweliad. Yn dilyn cyfweliad, bydd cynigion yn cael eu gwneud i'r ymgeiswyr sydd â'r sgôr uchaf.
Gwybodaeth ychwanegol
Sylwch fod y modiwl rhagnodi annibynnol dewisol ar gael i fyfyrwyr yn y Fferyllfa Glinigol MSc sy'n bodloni'r meini prawf mynediad penodol i'r modiwl hwnnw. Gellir dod o hyd i fanylion am hyn yma: https://www.cardiff.ac.uk/study/postgraduate/taught/standalone-modules/pharmacist-independent-prescribing
Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.
Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).
Euogfarnau troseddol
Nid oes angen DBS i gael mynediad i'r rhaglen, ond os oes angen i ddysgu drwy brofiad fel rhan o fodiwl dewisol gael ei gynnal o'ch gweithle arferol, efallai y gofynnir i chi ddarparu copi o'ch tystysgrif DBS bresennol.
Os ydych ar hyn o bryd yn destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau eich astudiaethau'n llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu eich cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond nid ydynt yn gyfyngedig i:
- mynediad i gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
- Defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
- cyrion
- Rhyddid i symud
- cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.
Strwythur y cwrs
Mae'r Diploma Ôl-raddedig mewn Fferylliaeth Glinigol yn rhaglen ôl-raddedig ran-amser ac mae'n cynnwys astudio 120 o gredydau ar gyfer y Diploma, gyda'r opsiwn i adael gyda 60 credyd ar gyfer y Dystysgrif.
Gellir ymgymryd â'r rhaglen dros ddwy neu dair blynedd a dylai ymgeiswyr nodi eu dewis yn y broses ymgeisio.
Mae'r modiwlau'n rhedeg o fis Medi i fis Mehefin bob blwyddyn academaidd. Ar gyfer y rhaglen tair blynedd, bydd 40 credyd yn cael eu hastudio ym mhob blwyddyn academaidd.
Nodwch fod tri modiwl Craidd (gorfodol) yn y rhaglen, a byddwch yn ymgymryd ag un ohonyn nhw ym mlwyddyn gyntaf y rhaglen. Ar gyfer pob un o'r ddau fodiwl Craidd (gorfodol) 20 credyd arall, mae gennych y dewis i ymgymryd â'r modiwl naill ai ym mlwyddyn gyntaf, yn ail flwyddyn neu yn nhrydedd flwyddyn y rhaglen.
Mae'r modiwlau a ddangosir yn enghraifft o'r cwricwlwm nodweddiadol. Bydd modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi fis cyn i'ch rhaglen ddechrau.
Blwyddyn un
Byddwch yn astudio 40 o gredydau yn ystod y flwyddyn hon. Byddwch yn astudio 20 credyd craidd ac yna 20 credyd ychwanegol o'r modiwlau craidd (gorfodol) a dewisol sy'n weddill.
Gall dewisiadau o'r modiwlau dewisol sydd ar gael ddibynnu ar ble rydych chi'n gweithio ac os yw'n berthnasol. Er enghraifft, dim ond i'r rhai sydd wedi'u lleoli mewn gofal eilaidd y bydd gofal critigol ar gael.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Optimeiddio Canlyniadau Iechyd | PHT751 | 20 credydau |
Blwyddyn dau
Eleni byddwch yn astudio 40 credyd o'r modiwlau craidd (gorfodol) a dewisol. Bydd y dewis yn dibynnu ar ba fodiwlau a gwblhawyd gennych ym mlwyddyn 1.
Gall dewisiadau o'r modiwlau dewisol sydd ar gael ddibynnu ar ble rydych chi'n gweithio ac os yw'n berthnasol. Er enghraifft, dim ond i'r rhai sydd wedi'u lleoli mewn gofal eilaidd y bydd gofal critigol ar gael.
Blwyddyn tri
Eleni byddwch yn astudio 40 credyd o'r modiwlau craidd (gorfodol) a dewisol. Bydd y dewis yn dibynnu ar ba fodiwlau a gwblhawyd gennych ym mlwyddyn 1 a 2.
Gall dewisiadau o'r modiwlau dewisol sydd ar gael ddibynnu ar ble rydych chi'n gweithio ac os yw'n berthnasol. Er enghraifft, dim ond i'r rhai sydd wedi'u lleoli mewn gofal eilaidd y bydd gofal critigol ar gael.
Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.
Dysgu ac asesu
Sut y caf fy addysgu?
Mae'r Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol wedi ymrwymo i ddatblygu'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen ar fferyllydd i wella canlyniadau iechyd a gofal iechyd i gleifion. Mae addysgu o'r radd flaenaf yn dibynnu ar arbenigedd academaidd a chlinigol ymarferwyr a chlinigwyr fferyllol.
Byddwch yn cael eich addysgu mewn amrywiaeth o ffyrdd. Mae dull dysgu cyfunol yn cael ei ddilyn, sy'n cynnwys diwrnodau astudio wyneb yn wyneb, dysgu drwy brofiad, astudio dan gyfarwyddyd, gweithgareddau ar-lein ac astudio hunangyfeiriedig. Bydd union natur eich dysgu yn dibynnu ar y modiwlau a ddewiswyd.
Bydd presenoldeb mewn diwrnodau astudio yn dibynnu ar y modiwlau a ddewisir, ond bydd pob myfyriwr yn mynychu'r bloc astudio tri diwrnod cyntaf ym mis Medi a gynhelir yn Birmingham; bloc astudio dau ddiwrnod ar ddechrau mis Hydref a gynhelir yng Nghaerdydd naill ai ym mlwyddyn 1 neu 2; a diwrnodau astudio eraill a gynhelir naill ai yn un o'r pedair canolfan addysgu (Gogledd Cymru, De-ddwyrain Cymru, De-orllewin Cymru neu Rydychen) neu yng Nghaerdydd, yn dibynnu ar ba fodiwlau sy'n cael eu cyflawni.
Mae pwyslais arbennig ar nodi eich anghenion dysgu penodol eich hun i gyfeirio eich astudiaeth annibynnol ac i sicrhau bod y modiwl yn berthnasol i'ch ymarfer eich hun, ac mae hyn ar gyfer pob modiwl. Mae cymhwyso gwybodaeth a sgiliau yn ymarferol wrth graidd pob modiwl.
Sut y caf fy asesu?
Mae asesiadau yn mesur ymarfer proffesiynol, academaidd a/neu glinigol. Mae llawer o fodiwlau'n cynnwys asesiadau ffurfiannol (asesiadau nad ydyn nhw’n cyfrif tuag at farc y modiwl) a'r bwriad yw rhoi adborth a syniad i chi o'ch cynnydd.
Mae dulliau asesu crynodol (asesiadau sy'n cyfrif tuag at farc y modiwl) yn amrywio yn dibynnu ar y modiwl a'u deilliannau dysgu penodol. Mae’r dulliau’n cynnwys portffolios, cyflwyniadau llafar, arholiadau clinigol strwythuredig gwrthrychol, aseiniadau ysgrifenedig fel posteri, problemau rheoli cleifion, aseiniadau myfyriol ac adolygiadau dadansoddol. Os oes elfen ymarfer drwy brofiad i'r modiwl, bydd tiwtor achrededig yn asesu eich ymarfer. Mae'r tiwtoriaid hyn yn cael eu hyfforddi, eu cefnogi a'u harwain gan staff academaidd y Brifysgol.
Bydd angen bod yn bresennol ym Mhrifysgol Caerdydd ar gyfer rhai asesiadau gorfodol, er enghraifft yr Arholiadau Clinigol Strwythuredig Gwrthrychol a’r cyflwyniad poster.
Byddwn yn rhoi adborth i chi ar eich gwaith mewn amrywiaeth o fformatau. Bydd y rhain yn cynnwys adborth llafar ac adborth ysgrifenedig electronig ar waith cwrs a aseswyd. Bydd cyfle i ddeall a defnyddio adborth yn adeiladol ar gael hefyd, drwy gyfarfod â'ch tiwtor personol. Yn ystod eich ymarfer drwy brofiad byddwch yn cael eich cefnogi yn
Sut y caf fy nghefnogi?
Tiwtor Personol
Bydd Cyfarwyddwr Cyswllt eich Cwrs yn darparu cymorth academaidd ar gyfer eich astudiaethau, ac yn rhinwedd y rôl hon, bydd yn diwtor personol i chi yn y Brifysgol hefyd. Mae'r system tiwtor personol yn rhan hanfodol a chanolog o gymorth i fyfyrwyr yn yr Ysgol. Rôl y tiwtor personol yw monitro cynnydd academaidd cyffredinol a darparu cymorth bugeiliol, gan fod yn bwynt cyswllt cyntaf a phorth i'r gwasanaethau cymorth i fyfyrwyr sy’n cael eu darparu gan y Brifysgol (sy’n cynnwys y Gwasanaeth Gyrfaoedd, y Gwasanaeth Cwnsela, y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia, y Gwasanaeth Cymorth i Fyfyrwyr). Bydd yn ymweld â chi yn eich gweithle o leiaf dair gwaith o fewn amserlen y Diploma a bydd ar gael i roi cymorth i chi drwy e-bost, dros y ffôn ac yn bersonol. Gellir cysylltu â Chyfarwyddwr y Rhaglen hefyd, ac mae ar gael i ateb eich cwestiynau ac i roi sylw i unrhyw anawsterau y gallech fod yn eu cael gyda'ch astudiaethau.
Adnoddau
Ar ddechrau eich cwrs ceir modiwl ymsefydlu ar-lein, sy’n orfodol. Bydd hwn yn eich helpu i ganfod eich ffordd o amgylch amgylchedd dysgu rhithwir y Brifysgol a bydd hefyd yn darparu gwybodaeth gyffredinol gan gynnwys am y system tiwtor personol, a sut bydd ein timau gweinyddu a TG yn eich cefnogi chi. Mae'r amgylchedd dysgu rhithwir yn hygyrch drwy ddyfeisiau bwrdd gwaith a symudol, sy'n eich galluogi i gael mynediad at ddeunydd amlgyfrwng perthnasol, cyflwyniadau, taflenni gweithdai, llyfryddiaethau, dolenni pellach, ymarferion electronig ac ati o unrhyw le.
Mae llyfrgell y Brifysgol ar gael drwy gydol y flwyddyn. Mae staff ar gael i'ch cynorthwyo a rhoi cefnogaeth a chyngor. Mae gan y llyfrgell lawer o gyfnodolion a llyfrau electronig y byddwch yn gallu eu cyrchu i'ch helpu gyda'ch astudiaethau.
Panel Myfyrwyr a Staff
Ar ddechrau pob blwyddyn penodir Cynrychiolydd Academaidd Myfyrwyr ar gyfer y rhaglen o blith y myfyrwyr.
Mae Cynrychiolwyr Academaidd Myfyrwyr yn dod ag adborth gan fyfyrwyr ar eu cwrs i gyfarfodydd rheolaidd o banel myfyrwyr a staff, lle mae cynrychiolwyr yn cyfarfod â Staff yr Ysgol i drafod y ffyrdd y gellir gwella eu cyrsiau. Mae Cynrychiolwyr Academaidd Myfyrwyr yn rhan annatod o'r ddolen adborth gan eu bod yn hysbysu myfyrwyr am y newidiadau a gyflwynir o ganlyniad i'r paneli Myfyrwyr a Staff.
Pa sgiliau y byddaf yn eu hymarfer a’u datblygu?
Mae'r Deilliannau Dysgu ar gyfer y Rhaglen hon yn disgrifio beth fyddwch yn gallu ei wneud o ganlyniad i astudio ym Mhrifysgol Caerdydd. Bydd y rhain yn eich helpu i ddeall yr hyn a ddisgwylir gennych.
Mae’r Deilliannau Dysgu ar gyfer y Rhaglen hon i’w gweld isod:
Gwybodaeth a Dealltwriaeth:
Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu dangos:
- cymhwyso ac integreiddio’n systematig asesiadau cleifion a gwybodaeth fferyllol, biofeddygol, clinigol therapiwtig ym maes gofal cleifion.
- dealltwriaeth feirniadol o'r fframweithiau a'r modelau sgiliau cyfathrebu ac ymgynghori a'u cymhwyso'n briodol i ofal iechyd cleifion a'r boblogaeth.
- dealltwriaeth gynhwysfawr o'r ffactorau sy'n effeithio ar anghydraddoldebau iechyd a phenderfynyddion cymdeithasol iechyd.
- dealltwriaeth gysyniadol o reoli ac arwain gwasanaethau a systemau gofal iechyd yn y DU.
- dealltwriaeth gynhwysfawr o wella ansawdd a dulliau ymchwil a ddefnyddir mewn gofal iechyd a'r materion moesegol a sefydliadol sy'n berthnasol i'w cymhwyso'n ymarferol.
- gwybodaeth gynhwysfawr am lywodraethu ymchwil, clinigol a gwybodaeth yn yr amgylchedd gofal iechyd.
Sgiliau Deallusol:
Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu dangos:
- y gallu i fyfyrio ar ddysgu yn y gweithle clinigol a'i werthuso.
- cymhwyso sgiliau gwerthuso ac arfarnu beirniadol wrth wneud penderfyniadau, o fewn a thu hwnt i gwmpas canllawiau.
- y sgiliau meddwl yn feirniadol, datrys problemau, rhesymu sydd eu hangen i reoli problemau sy'n gysylltiedig â meddyginiaethau yn effeithiol yn ymarferol ac i weithredu mewn ac ar draws ystod o leoliadau gofal iechyd.
- gwaith datblygu, cynllunio, cwblhau a chyfathrebu canlyniadau prosiect gwella ansawdd gwreiddiol.
Sgiliau Ymarferol Proffesiynol:
Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu dangos:
- ymarfer proffesiynol effeithiol a diogel.
- dealltwriaeth systematig a chymhwyso'r sgiliau cyfathrebu ac ymgynghori sydd eu hangen i gyfrannu at reoli problemau sy'n gysylltiedig â meddyginiaethau yn effeithiol yn ymarferol.
- yr ymddygiad a'r farn broffesiynol briodol mewn ystod eang o gyd-destunau clinigol ac anghlinigol.
- y gallu i weithio fel ymarferydd annibynnol, myfyriol, sy'n cymryd cyfrifoldeb personol am ei weithredoedd.
Sgiliau Trosglwyddadwy/Allweddol:
Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu dangos:
- cymryd rhan effeithiol mewn timau amlddisgyblaethol a rhyngbroffesiynol.
- cyfleu gwybodaeth gytbwys a phriodol yn effeithiol i wahanol gynulleidfaoedd ar lafar ac yn ysgrifenedig.
- dealltwriaeth gynhwysfawr o ystod o egwyddorion, dulliau a thechnegau arwain a'r gallu i'w cymhwyso'n ymarferol.
- galluoedd digidol sy'n berthnasol i'r rôl broffesiynol.
- y gallu i reoli heriau personol ymdopi ag ansicrwydd.
Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2025
Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.
Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd
Ffioedd am statws cartref
Nid yw ffioedd ar gyfer mynediad 2025/26 ar gael eto
Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir
Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26.
Ffioedd am statws ynys
Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.
Ffioedd am statws tramor
Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26.
Costau ychwanegol
Efallai y byddwch yn wynebu costau sy'n gysylltiedig â mynychu ysgolion astudio. Os yw eich cyflogwr yn talu am eich rhaglen, dylech ei holi a fydd yn darparu cymorth ariannol ar gyfer yr elfen hon hefyd.
Os ydych yn talu am y rhaglen eich hun yn gyfan gwbl neu’n rhannol, efallai y byddwch yn wynebu costau ychwanegol yn ymwneud â llety a chostau teithio i fynychu unrhyw ddiwrnodau astudio.
A fydd angen unrhyw gyfarpar penodol arnaf I astudio'r cwrs hwn?
Disgwylir i chi gael mynediad at gyfrifiadur ac y gallwch ddefnyddio Microsoft Word, Excel, Powerpoint neu gyfwerth a chyrraedd mewnrwyd Prifysgol Caerdydd.
Mae angen cysylltiad rhyngrwyd da, oherwydd efallai y bydd gofyn i chi fynd i gweminarau byw neu ffrydio diwrnodau astudio yn fyw ar gyfer modiwlau penodol.
Costau byw
Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.
Arian
Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith
Pan fyddwch wedi cwblhau’r rhaglen yn llwyddiannus, byddwch mewn sefyllfa well yn glinigol ac yn academaidd, gan eich rhoi ar flaen y gad yn y proffesiwn a gwella eich datblygiad personol a phroffesiynol.
Os ydych yn gymwys i ymgymryd â'r modiwl Rhagnodi Annibynnol yn y rhaglen, byddwch yn gallu cael eich anodi ar y gofrestr GPhC ar ôl cwblhau'r modiwl yn llwyddiannus.
Lleoliadau
Nid oes unrhyw leoliadau ffurfiol yn y rhaglen; fodd bynnag, ar gyfer y rhan fwyaf o fodiwlau ceir dysgu drwy brofiad.
Camau nesaf
Ymweliadau Diwrnod Agored
Cofrestrwch am wybodaeth am ein dyddiadau sydd i ddod.Gwnewch ymholiad
Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.Rhyngwladol
Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.Dewisiadau eraill y cwrs
Rhagor o wybodaeth
Pynciau cysylltiedig: Pharmacy
Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.