Dermatoleg Glinigol (MSc)
- Hyd: 1 flwyddyn
- Dull astudio: Amser llawn
Diwrnod agored
Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.
Pam astudio’r cwrs hwn

Mae'r cwrs hwn wedi'i gynllunio ar gyfer meddygon gydag o leiaf blwyddyn o brofiad meddygol cyffredinol. Mae'r MSc hwn yn cynnig addysg strwythuredig mewn dermatoleg ac yn rhoi sylfaen gadarn am hanfodion dermatoleg clinigol a gwyddonol. Mae'n blaenoriaethu cyfarwyddiadau clinigol, ond mae hefyd yn rhoi pwyslais ar gynnwys gwyddonol dermatoleg.
Addysgir gan arbenigwyr o fri byd-eang
Cewch ddysgu gan lawer o'r arbenigwyr sy'n ysgrifennu'r gwerslyfrau a'r canllawiau.
Amlygu clinigol
Ategir eich dealltwriaeth drwy arsylwi ar glinigau gydag arbenigwyr, clercio cleifion yn yr uned gofal dydd, cyflwyno canfyddiadau i diwtoriaid.
Gweithdai ymarferol
Datblygir eich sgiliau mewn elfennau ymarferol yn cynnwys pwytho, asesu doppler a dermoscopi. Mynychu cyfarfodydd CPD rhanbarthol rheolaidd.
Dysgu rhyngweithiol
Moddau addysgu niferus i weddu pob math o ddysgu yn cynnwys darlithoedd, grwpiau bach, gweithdai a thiwtorialau.
DIWEDDARIAD COVID19 Mae'r dull o gyflwyno’r rhaglen hon (mynediad 2020/1) wedi'i newid oherwydd pandemig COVID19. Er mwyn sicrhau diogelwch a lles ein holl fyfyrwyr a staff, rydyn ni wedi penderfynu y bydd y rhaglen hon yn cael ei chyflwyno ar-lein tan o leiaf tan fis Ionawr 2021. Yn ystod y cyfnod hwn, byddwn yn ymdrechu i ddarparu addysgu clinigol drwy gleifion/actorion arbenigol ar draws sesiynau rhyngweithiol ar-lein. Rydyn ni’n gobeithio y bydd elfen 'wyneb yn wyneb' y rhaglen hon yn dechrau'r flwyddyn nesaf yn 2021. Os oes gennych unrhyw gwestiynau o gwbl, cysylltwch â Swyddfa Derbyn Ôl-raddedigion Meddygol ar PGTMedAdmissions@cardiff.ac.uk.
Mae'r MSc mewn Dermatoleg Glinigol wedi'i gynllunio'n benodol ar gyfer meddygon sydd â diddordeb arbennig mewn dermatoleg ar ôl ennill profiad meddygol cyffredinol am o leiaf blwyddyn.
Nod y cwrs yw cynnig sylfaen gref mewn elfennau o ddermatoleg glinigol a gwyddonol, gyda blaenoriaeth i gyfarwyddo clinigol ond gyda phwyslais hefyd ar gynnwys gwyddonol dermatoleg.
Mae'n arbennig o addas ar gyfer graddedigion meddygol tramor, ond mae hefyd yn briodol fel cwrs ychwanegol i gyfrannu at unrhyw raglen hyfforddi sy’n arbenigo mewn dermatoleg.
Addysgir wyneb yn wyneb yn Athrofa Dermatoleg Cymru yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd.
Ble byddwch yn astudio
Yr Ysgol Meddygaeth
Rydym ni'n un o ysgolion meddygaeth fwyaf y DU, wedi ein hymrwymo i geisio gwella iechyd pobl drwy addysg ac ymchwil.
Meini prawf derbyn
Er mwyn cael eich ystyried am gynnig ar gyfer y rhaglen hon bydd angen i chi fodloni'r holl ofynion mynediad. Ni fydd eich cais yn cael ei ddatblygu os na ddarperir yr wybodaeth a'r dystiolaeth a restrir.
Gyda'ch cais ar-lein, bydd angen i chi ddarparu:
- Copi o'ch tystysgrif gradd a'ch trawsgrifiadau sy'n dangos eich bod wedi cyflawni gradd israddedig mewn meddygaeth glinigol (MBBCh, BMBS, MBBS, neu gyfwerth) a ddyfernir gan sefydliad cydnabyddedig.
- copi o'ch tystysgrif IELTS gyda sgôr gyffredinol o 7.0 gydag o leiaf 6.5 yn ysgrifenedig a 6.0 ym mhob is-sgil arall, neu dystiolaeth o gymhwyster cyfatebol derbyniol. Dylech gynnwys dyddiad eich prawf disgwyliedig os yw'r cymhwyster hwn yn yr arfaeth. Os oes gennych dystiolaeth dderbyniol amgen, fel gradd israddedig a astudir yn y DU, rhowch hyn yn lle IELTS.
- Tystiolaeth eich bod wedi cwblhau o leiaf blwyddyn o brofiad meddygol cyffredinol ôl-gymhwyso cyfwerth ag amser llawn ar yr adeg y byddwch yn ymuno â'r rhaglen. Gall hyn gael ei ddangos drwy gyfeirnod neu dystysgrif interniaeth. Dylid llofnodi geirda, dyddiad a llai na chwe mis oed pan fyddwch yn cyflwyno'ch cais.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau
Rydym yn dyrannu lleoedd ar sail y cyntaf i'r felin, felly rydym yn argymell eich bod yn gwneud cais cyn gynted â phosibl.
Broses ddethol
Byddwn yn adolygu eich cais ac os ydych yn bodloni'r holl ofynion mynediad, byddwn yn gwneud cynnig i chi.
Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.
Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).
Euogfarnau troseddol
Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.
Os ydych ar hyn o bryd yn destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau eich astudiaethau'n llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu eich cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond nid ydynt yn gyfyngedig i:
- mynediad i gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
- Defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
- cyrion
- Rhyddid i symud
- cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.
Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2025
Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.
Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd
Ffioedd am statws cartref
Nid yw ffioedd ar gyfer mynediad 2025/26 ar gael eto
Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir
Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26.
Ffioedd am statws ynys
Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.
Ffioedd am statws tramor
Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26.
Costau ychwanegol
Er bod y rhan fwyaf o'r costau wedi'u cynnwys yn y strwythur ffioedd, efallai y bydd costau ychwanegol ar gyfer cludiant i ymlyniadau clinigol. Yn ogystal, efallai y bydd cost i fyfyrwyr sydd angen gwasanaeth prawfddarllen Saesneg ar gyfer y traethawd hir neu asesiadau ysgrifenedig eraill.
A fydd angen unrhyw gyfarpar penodol arnaf I astudio'r cwrs hwn?
Bydd angen cyfrifiadur ar y myfyrwyr gyda mynediad i'r Rhyngrwyd a gyda’r amddiffyniad diweddaraf yn erbyn feirysau a maleiswedd. Bydd angen porwr rhyngrwyd cyfredol, wedi'i ddiogelu'n briodol ac Adobe Reader, i weld deunyddiau’r cwrs. Bydd angen prosesydd geiriau, sy'n gydnaws â Microsoft Word, i gyflawni'r ymarferion crynodol a ffurfiannol. Gall meddalwedd arall hefyd fod yn ddefnyddiol ar rai adegau yn y rhaglen ar gyfer casglu/dadansoddi data, er enghraifft Microsoft Excel.
Gall dermatoscope fod yn ddefnyddiol, ond nid yw'n hanfodol ar gyfer y rhaglen.
Costau byw
Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.
Arian
Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith
Mae'r rhaglen hon yn arbennig o addas ar gyfer meddygon cymwysedig sy'n dymuno dilyn gyrfa arbenigol mewn dermatoleg.
Gall y rhaglen fod yn gam tuag at yrfa fel academydd clinigol, dermatolegydd ymgynghorol, neu ymarferydd preifat.
Mae’r rhaglen Feistr hon yn eich galluogi i ddangos eich bod yn cymryd cyfle i ddatblygu’ch gallu dadansoddi beirniadol, datrys problemau, gwneud penderfyniadau, canfod a defnyddio tystiolaeth ac ymdrin â materion cymhleth. Nid yw’r rhaglen hon yn disodli rhaglen hyfforddi arbenigol ffurfiol, ond bydd astudio ar y lefel hon yn helpu myfyrwyr llwyddiannus i ddangos sgiliau academaidd niferus y dylid eu gwerthfawrogi’n fawr mewn perthynas â’u datblygiad a’u cynnydd gyrfaol. Yn benodol, mae’r rhaglen yn cynnig cyfleoedd i ddangos datblygiad gwybodaeth a sgiliau mewn perthynas â chymhwyso meddygaeth yn seiliedig ar dystiolaeth, a chyfoethogi posibl ar wasanaethau a fframweithiau llywodraethu. Felly, dylai ddarparu tystiolaeth o ymrwymiad a photensial a all eich cynorthwyo o ran cael rhagor o gyfrifoldebau, neu o bosib wrth geisio am swyddi ymchwil, ysgolheigaidd neu arwain.
Lleoliadau
Lleoliadau clinigol arsylwadol mewn canolfannau dermatoleg lleol bob wythnos.
Camau nesaf
Ymweliadau Diwrnod Agored
Cofrestrwch am wybodaeth am ein dyddiadau sydd i ddod.Gwnewch ymholiad
Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.Rhyngwladol
Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.Rhagor o wybodaeth
Pynciau cysylltiedig: Meddygaeth
Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.