Ewch i’r prif gynnwys

Dadansoddeg Busnes (MSc)

  • Hyd: 1 year
  • Dull astudio: Amser llawn

Dyddiad dechrau
calendar

Diwrnod agored

Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.

Pam astudio’r cwrs hwn

Cewch feistroli hanfodion dadansoddeg busnes a chefnogi eich dyheadau gyrfaol at y dyfodol trwy archwilio sut y gellir cymhwyso'r rhain yn ymarferol - yn strategol ac yn weithredol.

microchip

Integreiddio busnes a dadansoddeg

Astudio agweddau allweddol o ddadansoddi data ochr yn ochr â thechnolegau blaengar fel AI a Big Data Analytics.

structure

Profiad yn y byd go iawn

Archwilio cymwysiadau ar lefelau gweithredol a strategol mewn busnesau a chadwyni cyflenwi byd-eang cyfoes.

people

Cyfle i wella eich gyrfa

Gweithio gyda chynghorwyr proffesiynol sy'n cynnig cymorth wedi'i deilwra i wella, neu ddatblygu eich cynnydd yn y gweithle a chyflawni eich dyheadau gyrfaol.

molecule

Amserol a pherthnasol

Cymryd rhan mewn digwyddiadau sy'n ymwneud â heriau cyfoes ac adeiladu eich rhwydwaith gydag amrywiol sefydliadau sy'n defnyddio'r elfennau dadansoddeg busnes mwyaf datblygedig a geir yn y cwrs.

tick

Sicrhau sgiliau ymarferol

Rhoi gwybodaeth ar waith gydag efelychiadau blaengar; efallai hefyd y cewch ddewis cyflawni prosiect ar y cyd â phartner diwydiannol.

Mae'r rhaglen Dadansoddeg Busnes (MSc) yn eich galluogi i ddatblygu ystod o sgiliau ymarferol y mae galw mawr amdanynt i echdynnu a thrin 'data mawr', gyda ffocws penodol ar gymhwyso dadansoddeg data i wneud penderfyniadau mewn cyd-destunau busnes go iawn.

Byddwch yn dysgu gan arbenigwyr yn Ysgol Busnes Caerdydd a’r Ysgol Mathemateg sy’n arbenigo mewn cymwysiadau amrywiol mewn gwyddor data, ymchwil weithredol a dadansoddeg ar draws amrywiol ddiwydiannau gweithgynhyrchu a gwasanaethu, gan ganfod a chyfleu patrymau ystyrlon o’r data, a chymhwyso offer dadansoddol i helpu busnesau sector preifat a chyhoeddus i wneud gwell penderfyniadau strategol a gweithredol.

Byddwch yn gweithio gyda meddalwedd datblygedig a theori ac ymarfer busnes a mathemategol craidd, fydd yn eich paratoi ar gyfer cyflogaeth a sicrhau eich llwyddiant mewn maes busnes byd-eang rhyng-gysylltiedig, amrywiol sy'n datblygu'n gyflym. Mae'r rhaglen yn cynnig sylfaen ardderchog ar gyfer gyrfa mewn amrywiol rolau dadansoddeg, rheoli data ac ymgynghori.

Gyda'n gilydd, byddwn yn archwilio pynciau allweddol dadansoddeg gweithrediadau, cyfresi amser a rhagweld, rheoli gweithrediadau strategol, cynllunio ymchwil menter, a rheoli risg, ac yn datblygu eich sgiliau ymchwil a'ch hyfedredd ar gyfer dadansoddi data a dysgu peirianyddol.

Yn ystod eich astudiaethau, byddwch hefyd yn defnyddio systemau a gemau efelychu uwch y byd go iawn a fydd yn eich galluogi i reoli eich cwmni rhithwir eich hun mewn marchnad gystadleuol, gan gefnogi eich dysgu trwy greu amgylchedd busnes deinamig lle gellir cyflymu amser, efelychu rhyngweithio â phartneriaid busnes, ac awtomeiddio cyflawni tasgau gweinyddol.

Ble byddwch yn astudio

Ysgol Busnes Caerdydd

Rydym yn Ysgol Busnes sydd wedi’i hachredu gan AACSB ac AMBA ac mae gennym bwrpas clir: cael effaith gadarnhaol yng nghymunedau Cymru a'r byd.

  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 2087 4674
  • MarkerRhodfa Colum, Cathays, Caerdydd, CF10 3EU

Meini prawf derbyn

Er mwyn cael eich ystyried am gynnig ar gyfer y rhaglen hon bydd angen i chi fodloni'r holl ofynion mynediad. Ni fydd eich cais yn cael ei ddatblygu os na ddarperir yr wybodaeth a'r dystiolaeth a restrir. 
 
Gyda'ch cais ar-lein, bydd angen i chi ddarparu: 

  1. Copi o'ch tystysgrif gradd a'ch trawsgrifiadau sy'n dangos eich bod wedi cyflawni gradd anrhydedd 2:1 mewn maes pwnc perthnasol megis cyfrifiadureg, peirianneg, cyllid, rheolaeth neu fathemateg, neu radd ryngwladol gyfwerth. Os yw eich tystysgrif gradd neu ganlyniad yn yr arfaeth, llwythwch unrhyw drawsgrifiadau dros dro neu dystysgrifau dros dro. 
  2. Copi o'ch tystysgrif IELTS gyda sgôr gyffredinol o 6.5 gyda 5.5 ym mhob is-sgil, neu dystiolaeth o gymhwyster cyfatebol derbyniol. Dylech gynnwys dyddiad eich prawf disgwyliedig os yw'r cymhwyster hwn yn yr arf. Os oes gennych dystiolaeth dderbyniol amgen, fel gradd israddedig a astudiwyd yn y DU, rhowch hyn yn lle IELTS. 

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau 
Rydym yn dyrannu lleoedd ar sail y cyntaf i'r felin, felly rydym yn argymell eich bod yn gwneud cais cyn gynted â phosibl. Fel arfer, bydd ceisiadau'n cau ddiwedd mis Awst ond gallant gau'n gynt os llenwir pob lle. 
 
Broses ddethol 
Byddwn yn adolygu eich cais ac os ydych yn bodloni'r holl ofynion mynediad, byddwn yn gwneud cynnig i chi. 

Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.

Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).

Euogfarnau troseddol

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.

Os ydych ar hyn o bryd yn destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau eich astudiaethau'n llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu eich cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond nid ydynt yn gyfyngedig i:

  • mynediad i gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • Defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrion
  • Rhyddid i symud
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Strwythur y cwrs

Rhaglen amser llawn blwyddyn o hyd yw hon.

Byddwch yn astudio pedwar modiwl craidd i'ch galluogi i ddatblygu gwybodaeth arbenigol mewn dadansoddeg data busnes. Byddwch hefyd yn dewis dau fodiwl dewisol o ddetholiad sy'n edrych ar ffyrdd arloesol o ddefnyddio dadansoddeg data ar gyfer gwneud penderfyniadau gweithredol a strategol, gan ganiatáu i chi ymgymryd ag astudiaeth arbenigol mewn maes o ddiddordeb neu sy'n berthnasol i'ch gyrfa yn y dyfodol.

Daw’r rhaglen i ben drwy gwblhau darn unigol o ymchwil fanwl mewn ymateb i gwestiwn sy’n ymwneud â dadansoddeg busnes.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn enghraifft o'r cwricwlwm nodweddiadol. Bydd modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi fis cyn i'ch rhaglen ddechrau.

Mae cam addysgu'r rhaglen rhwng mis Medi a mis Mehefin. Mae'n cynnwys addysgu modiwlaidd, gyda thri modiwl ym mhob semester. Ceir cymysgedd o ddarlithoedd, tiwtorialau a dysgu annibynnol, a chaiff y modiwlau eu hasesu ar ddiwedd pob semester.

Yng ngham y traethawd hir, byddwch yn ymgymryd â darn annibynnol o ymchwil, ar bwnc sy'n canolbwyntio ar gymhwyso dadansoddeg data yn y byd busnes go iawn. Byddwch hefyd yn cael y cyfle i ymgymryd a phrosiect byw. Byddwch yn ymgymryd â’r traethawd hir rhwng mis Mehefin a mis Medi. Bydd goruchwyliwr traethawd hir wrth law i’ch cynorthwyo ac yn cwrdd â chi’n rheolaidd yn ystod y cyfnod hwn.

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Sut y caf fy addysgu?

Mae dull dysgu gweithredol wedi’i ymgorffori yn y rhaglen. Credwn fod dysgu effeithiol wedi’i seilio ar ddau beth – cymryd rhan mewn profiadau amrywiol, a’r ffordd rydych yn gwneud synnwyr o’r profiadau hynny, yn unigol ac ar y cyd ag eraill. 

Mae pob pwnc yn cynnwys amrywiol weithgareddau megis trafod y damcaniaethau mwyaf datblygedig sydd ar gael, astudiaethau achos, fideos, heriau tîm bach, - oll wedi'u cynllunio i gyflwyno syniadau newydd a datblygu eich dealltwriaeth.

Mae'r rhaglen wedi'i chynllunio i feithrin eich gallu a'ch proffil fel arbenigwr dadansoddeg busnes. Byddwch yn cydweithio â myfyrwyr eraill i ddatblygu dirnadaeth newydd o natur ytestun mewn amrywiol gyd-destunau; cewch eich annog i weithio'n unigol ac ar y cyd mewn timau amrywiol i ystyried ystod o ddulliau ac arferion damcaniaethol amgen.

Mae rhoi’r hyn a ddysgwyd o’r newydd ar waith yn bwysig hefyd. Byddwch yn integreiddio ac yn cymhwyso dealltwriaethau newydd, ynghyd â sgiliau dadansoddi newydd, mewn tasgau ymarferol sydd wedi’u hymgorffori ym mhob pwnc dysgu, ac mewn gweithgareddau gwaith cwrs ffurfiol.

Sut y caf fy asesu?

Mae strwythur modiwlaidd y rhaglen yn cynnig digon o gyfleoedd i chi fyfyrio ar eich dysgu a'ch datblygiad yn ffurfiol ac yn anffurfiol. Ym mhob modiwl, mae gweithgareddau byr ar gyfer adolygu gwybodaeth a medrau fel y gallwch chi gadw llygad ar eich cynnydd a gwella’ch ffordd o ddysgu. Bydd hynny’n cryfhau’ch hyder ac yn gwella eich ffordd o drin a thrafod gorchwylion asesu ffurfiol.

Mae amrywiaeth o dasgau asesu ffurfiol yn rhoi cyfle i ystyried cysyniadau a modelau mewn ffyrdd creadigol ac ymarferol. Bydd y rhain yn cynnwys cyflwyniadau ar ffurf poster, astudiaethau achos, cyflwyniadau grŵp, adroddiadau a fideos. Byddwch yn gweithio'n unigol ac yn rhan o dîm, yn union fel y byddech chi yn y gweithle.

Sut y caf fy nghefnogi?

Mae’r Brifysgol yn cynnig llawer o gymorth i ôl-raddedigion, gan gynnwys: 

Dysgu Canolog

Dysgu Canolog yw ein amgylchedd dysgu rhithwir  Cyhoeddir deunyddiau pob rhaglen a modiwl yno ar gyfer sylw myfyrwyr cyn darlithoedd, yn eu hystod ac wedyn.

Llyfrgelloedd

Mae dros 1.1 miliwn o lyfrau printiedig yn ein llyfrgelloedd ar draws y campws. Bydd dros 1.5 miliwn o lyfrau ar-lein, cyfnodolion, adnoddau a chronfeydd data ar gael i chi, hefyd.

System y Tiwtoriaid Personol

Byddwch yn cael tiwtor personol. Bydd eich tiwtor personol yw goruchwylio’ch dysgu a’ch profiad addysgol. Os cewch unrhyw anawsterau, bydd eich tiwtor personol ar gael i wrando a chynnig arweiniad proffesiynol, os oes modd, neu eich cyfeirio at ffynhonnell addas fydd yn gallu rhoi cymorth i chi.

Ar ben hynny, mae ein timau Bywyd Myfyrwyr yn cynnig cyfres o wasanaethau cymorth. Mae'r gwasanaethau hyn wedi'u lleoli yn adeilad pwrpasol Canolfan Bywyd y Myfyrwyr ac yn cynnwys: Cyngor ac Arian, Dyfodol Myfyrwyr ar gyfer cymorth gyrfaoedd, gwasanaethau Cwnsela, Iechyd a Lles, y Gwasanaeth Anabledd Myfyrwyr gan gynnwys cymorth dyslecsia, Sgiliau Astudio Academaidd a Mentora Myfyrwyr.

Pa sgiliau y byddaf yn eu hymarfer a’u datblygu?

Mae'r Deilliannau Dysgu ar gyfer y Rhaglen hon yn disgrifio'r hyn y byddwch yn ei gyflawni erbyn diwedd eich rhaglen ym Mhrifysgol Caerdydd, ac yn nodi'r wybodaeth a'r sgiliau y byddwch yn eu datblygu. Byddant hefyd yn eich helpu i ddeall yr hyn a ddisgwylir gennych.

O gwblhau’r Rhaglen yn llwyddiannus, byddwch yn gallu gwneud y canlynol:

Gwybodaeth a Dealltwriaeth:

  • Dangos dealltwriaeth systematig o'r cysylltiadau rhwng theori, egwyddorion ac ymarfer dadansoddeg busnes.
  • Cynnal gwerthusiad beirniadol o faterion cyfoes ym maes dadansoddeg busnes drwy ddefnyddio ymchwil gyfredol a nodi’r goblygiadau posibl i ymchwil ac arferion yn y dyfodol.
  • Asesu perthnasedd cysyniadau damcaniaethol modern yn feirniadol yng nghyd-destun yr amgylchedd busnes deinamig cyfoes.
  • Cymhwyso ymchwil a gwybodaeth broffesiynol berthnasol i ddatrys senarios busnes byd go iawn.
  • Cymhwyso a gwerthuso'n feirniadol atebion dadansoddol megis dadansoddeg data mawr a dysgu peirianyddol ar gyfer cymwysiadau busnes.

Sgiliau Deallusol:

  • Diffinio problem fusnes neu ymchwil yn glir.
  • Gwerthuso a dewis methodoleg ymchwil briodol a rheoli prosiect ymchwil yn effeithiol, gan gynnwys dadansoddi, rheoli amser ac adnoddau.
  • Dewis offerynnau priodol i ymchwilio i broblemau busnes neu broblemau sy’n seiliedig ar ymchwil.
  • Dadansoddi’n feirniadol safbwyntiau cyferbyniol a thystiolaeth ategol, eu cyfosod a’u gwerthuso.
  • Creu dealltwriaeth ar sail data a’i chyfleu er mwyn llywio strategaethau a phenderfyniadau busnes.

Sgiliau Ymarferol Proffesiynol:

  • Dadansoddi data busnes, asesu sefyllfaoedd cyfredol a rhagweld tueddiadau'r dyfodol.
  • Dethol a holi cronfeydd data priodol a phecynnau meddalwedd perthnasol.
  • Datblygu sgiliau dadansoddi data sy'n hanfodol ar gyfer meithrin a chyflawni datrysiadau busnes cynaliadwy.
  • Cymhwyso gwybodaeth berthnasol er mwyn gwneud penderfyniadau dydd i ddydd yn effeithiol.

Sgiliau Trosglwyddadwy/Allweddol:

  • Dangos annibyniaeth wrth werthuso allbynnau pecynnau dadansoddol a'u cymhwyso i ddatrys problemau busnes cymhleth.
  • Cyfathrebu â chynulleidfaoedd amryfal trwy nifer o gyfryngau.
  • Herio tybiaethau ar sail tystiolaeth gadarn.
  • Gweithio’n annibynnol/cydweithio.
  • Ymgorffori atebolrwydd moesegol hollbwysig mewn perthynas ag ef ei hun, pobl eraill, a'r gymuned academaidd/ymarfer.

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2025

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £13,200 Dim

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2025/26 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £30,450 £2,500

Rhagor o wybodaeth am ffioedd dysgu a blaendaliadau, gan gynnwys ar gyfer myfyrwyr rhan-amser a pharhaus.

Cymorth ariannol

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau ychwanegol

Nac oes. Bydd angen defnyddio meddalwedd fel R:, y mae gan PC drwyddedau ar ei gyfer yn barod.

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Arian

Ysgoloriaethau Meistr

Gwobr sy'n agored i fyfyrwyr sydd â statws ffioedd cartref sy'n bwriadu astudio un o'n graddau meistr a addysgir.

Benthyciadau ar gyfer ôl-raddedigion

Os byddwch yn dechrau eich gradd meistr ym mis Medi 2024 neu wedi hynny, efallai y byddwch yn gallu gwneud cais am fenthyciad ar gyfer ôl-raddedigion er mwyn cefnogi eich astudiaethau ym Mhrifysgol Caerdydd.

Cynllun Gostyngiad

Mae'r gostyngiad i gynfyfyrwyr ar gael i raddedigion Prifysgol Caerdydd sy'n bwriadu dechrau rhaglen Meistr gymwys yn 2024/25.

Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith

Drwy gydol y rhaglen, byddwch yn datblygu ac yn cymhwyso'r sgiliau technegol a meddal allweddol sydd eu hangen i fod yn arbenigwr effeithiol ym maes dadansoddeg data busnes. Bydd eich arbenigedd yn adeiladu'n gronnol drwy gydol y rhaglen wrth i chi gael cyfleoedd niferus i archwilio ymchwil ac ymarfer ac ymateb i heriau ymarferol. Bydd hyn yn rhoi mantais i chi wrth ddod i mewn neu ddychwelyd i'r gweithle fel arbenigwr dadansoddeg busnes.

Lleoliadau

Er nad oes unrhyw gyfleoedd lleoliad gwaith ar y rhaglen, yn amodol ar berfformiad academaidd, o fewn cyfnod y traethawd hir byddwch yn cael cyfle  i wneud cais am brosiect ar y cyd â phartner diwydiant. Mae hyn yn gyfle i chi gael gwybodaeth ymarferol, a chael mynediad at ddata cynradd. Mae nifer cyfyngedig o brosiectau ar gael bob blwyddyn, a chynhelir proses gystadleuol i ddewis myfyrwyr sy'n addas ar gyfer y prosiect.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch am wybodaeth am ein dyddiadau sydd i ddod.
icon-chat

Gwnewch ymholiad

Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.
icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.
icon-pen

Rhagor o wybodaeth


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.