Ewch i’r prif gynnwys

Gweinyddu Busnes gyda Deallusrwydd Artiffisial (MBA)

  • Hyd: 1 flwyddyn
  • Dull astudio: Amser llawn

Dyddiad dechrau
calendar

Diwrnod agored

Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.

Pam astudio’r cwrs hwn

Mae’r rhaglen ar gyfer pobl brofiadol mewn technoleg neu waith addas a hoffai dreulio cyfnod o astudio a datblygu personol i’w helpu i gyrraedd rolau arweinyddion uchelradd yn gyflymach.

people

Croeso Caerdydd

Mynediad i’r rhaglen a chymuned ddysgu Caerdydd trwy raglen arbennig ar gyfer ymgynefino a datblygu timau.

briefcase

Gwasanaeth y Manteision Gyrfaol

Ymgynghorydd gyrfaol a hyfforddwr personol ar gyfer eich datblygu proffesiynol.

notepad

Datblygu sgiliau arweinwyr

Aseswch eich gallu i arwain, pennu trywydd datblygu personol ac adeiladu sgiliau arwain allweddol ar ein rhaglen bwrpasol, hollgynhwysfawr.

star

Gwneud cysylltiadau â Chaerdydd

Dewch yn rhan o'n cymuned busnes cyfalaf trwy ddigwyddiadau rhwydweithio, dod i gysylltiad ag arweinwyr busnes a chynfyfyrwyr.

rosette

Wedi’i achredu gan AMBA

Mae ein cwrs MBA wedi’i achredu gan Gymdeithas MBAs (AMBA), un o brif awdurdodau’r byd ar addysg fusnes ôl-raddedig.

Association of MBAs logo on white background
tick

Prosiect cyflymu

Atgyfnerthwch eich profiadau dysgu a phroffesiynol wrth i chi ymateb i broblem gymhleth, amlochrog a gyflwynir gan gleient busnes.

Ydych chi'n rheolwr uchelgeisiol sydd â diddordeb mewn sbarduno newid busnes cadarnhaol gan ddefnyddio datblygiadau diweddar ym meysydd Deallusrwydd Artiffisial, Cloddio Data a Dysgu Peiriannol? Os felly, ymunwch â ni a ffynnu ar MBA Caerdydd gyda Deallusrwydd Artiffisial.

Mae'r rhaglen ar gyfer pobl brofiadol mewn technoleg neu waith addas a hoffai dreulio cyfnod o astudio a datblygu personol i'w helpu i gyrraedd rolau arweinyddion uchelradd yn gyflymach.

Ceir themâu cyfun cyfoes trwy'r modiwlau, megis dyfodol gwaith, arwain yn gyfrifol a thrawsffurfio digidol. Byddwch yn astudio modiwl arbenigol ar ddeallusrwydd artiffisial hefyd yn Academi'r Gwyddorau Data, Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg.

Ochr yn ochr â myfyrwyr o gefndiroedd a phrofiadau amrywiol, byddwch chi'n dysgu rhagor am fusnes, yn dod i'ch adnabod eich hun yn well ac yn mireinio'ch gallu i fod yn arweinydd effeithiol ac ysgogol. Byddwch chi'n ystyried goblygiadau masnachol, cymdeithasol ac amgylcheddol ehangach eich penderfyniadau mewn amryw gyd-destunau ymarferol ac yn cael cyfle i ddeall sut mae trin a thrafod deallusrwydd artiffisial a dysgu peirianyddol mewn busnes. Drwy fod yn aelod o gymuned Ysgol Busnes Caerdydd, cewch gyfleoedd i wella'r gymdeithas a'r economi trwy astudio a gweithgareddau allgyrsiol yn unol ag egwyddorion Gwerth Cyhoeddus.

Bydd MBA Caerdydd gyda Deallusrwydd Artiffisial yn eich helpu i adael eich ôl.

Achrediadau

Ble byddwch yn astudio

Ysgol Busnes Caerdydd

Rydym yn Ysgol Busnes sydd wedi’i hachredu gan AACSB ac AMBA ac mae gennym bwrpas clir: cael effaith gadarnhaol yng nghymunedau Cymru a'r byd.

  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 2087 4674
  • MarkerRhodfa Colum, Cathays, Caerdydd, CF10 3EU

Yr Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg

Ein hymchwil amlddisgyblaeth sy'n rhoi ffurf i'n rhaglenni gradd, ac yn eu gwneud yn berthnasol i gyflogwyr heddiw, gan eu gosod mewn sefyllfa dda i fanteisio ar ddatblygiadau yfory.

  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone
  • MarkerFfordd Senghennydd, Cathays, Caerdydd, CF24 4AG

Meini prawf derbyn

Er mwyn cael eich ystyried am gynnig ar gyfer y rhaglen hon bydd angen i chi fodloni'r holl ofynion mynediad. Ni fydd eich cais yn cael ei ddatblygu os na ddarperir yr wybodaeth a'r dystiolaeth a restrir.

Gyda'ch cais ar-lein, bydd angen i chi ddarparu:

  1. Copi o'ch tystysgrif gradd a'ch trawsgrifiadau sy'n dangos eich bod wedi cyflawni gradd anrhydedd 2:1, neu radd ryngwladol gyfatebol. Os yw eich tystysgrif gradd neu ganlyniad yn yr arfaeth, llwythwch unrhyw drawsgrifiadau dros dro neu dystysgrifau dros dro.
  2. copi o'ch tystysgrif IELTS gyda sgôr gyffredinol o 7.0 gyda 6.0 ym mhob is-sgil, neu dystiolaeth o gymhwyster cyfatebol derbyniol. Dylech gynnwys dyddiad eich prawf disgwyliedig os yw'r cymhwyster hwn yn yr arfaeth. Os oes gennych dystiolaeth dderbyniol amgen, fel gradd israddedig a astudir yn y DU, rhowch hyn yn lle IELTS.
  3. Geirda gan eich cyflogwr a/neu gyflogwyr blaenorol at dystiolaeth bod gennych dair blynedd o brofiad gwaith perthnasol. Dylid llofnodi geirda, dyddiad a llai na chwe mis oed pan fyddwch yn cyflwyno'ch cais.
  4. CV cyfredol sy'n cynnwys eich hanes academaidd a gwaith llawn.

Os nad oes gennych radd mewn maes perthnasol, gellir ystyried eich cais ar sail eich profiad proffesiynol. Rhowch dystiolaeth ychwanegol i gefnogi'ch cais megis cyfeiriadau cyflogwr wedi'u llofnodi a'u dyddio.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau
Rydym yn dyrannu lleoedd ar sail y cyntaf i'r felin, felly rydym yn argymell eich bod yn gwneud cais cyn gynted â phosibl. Fel arfer, bydd ceisiadau'n cau ddiwedd mis Awst ond gallant gau'n gynt os llenwir pob lle.

Broses ddethol
Byddwn yn adolygu eich cais ac os ydych yn bodloni'r gofynion mynediad, byddwn yn eich gwahodd i gyfweliad, naill ai'n bersonol neu ar-lein, i sefydlu lefel eich profiad gwaith, eich dawn ar gyfer y rhaglen, a'ch cymhelliant. Os byddwch yn bodloni'r gofynion hyn yn y cyfweliad, byddwch yn cael cynnig.

Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.

Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).

Euogfarnau troseddol

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.

Os ydych ar hyn o bryd yn destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau eich astudiaethau'n llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu eich cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond nid ydynt yn gyfyngedig i:

  • mynediad i gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • Defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrion
  • Rhyddid i symud
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Strwythur y cwrs

Mae MBA Caerdydd gyda Deallusrwydd Artiffisial ar ffurf chwe modiwl sy'n cyflwyno problemau a welwch chi yn aml yn y gwaith ac yn gofyn ichi geisio eu datrys trwy swyddogaethau a chamau nodweddiadol. Er enghraifft: Arwain yn Gyfrifol, Trawsffurfio Digidol a Dyfodol Gwaith.

Byddwch chi'n dysgu sut i ddatrys y problemau trwy gyfres o wersi dwys a fydd yn ennyn eich chwilfrydedd, yn llywio'ch proses ymholi ac yn cryfhau'ch gallu i ddefnyddio'r hyn sydd wedi'i ddysgu.

Mae'r dull hwn yn cynnig cyfle euraidd ar gyfer:

  • manteisio ar nifer o weithgareddau hwy i gael deall rhagor;
  • cydweithio â'r myfyrwyr eraill er mwyn helpu eich gilydd i ddeall materion;
  • archwilio materion o dan arweiniad;
  • cydweithredu rhwng myfyrwyr a thîm y rhaglen;
  • adolygu'r mewnwelediadau a'r datblygiad yn aml;
  • canolbwyntio ar un pwnc yn hytrach na cheisio ymdopi â gofynion amryw fodiwlau;
  • dysgu annibynnol strwythuredig.

Ymhlith y gorchwylion mae efelychu strategaeth fusnes, datrys problem tîm o uwch reolwyr yn ôl amserlen a llunio ateb arloesol i broblem ym myd busnes. Bydd modiwl arbenigol ar y technolegau, yr algorithmau a'r offer sy'n helpu i wella dysgu peirianyddol a deallusrwydd artiffisial yn gofyn ichi weld yn gyfannol y defnydd o dechnoleg mewn parthau busnes newydd neu gyfredol. Bydd Prosiect y Cyflymydd yn gofyn ichi roi deallusrwydd artiffisial a/neu ddysgu peirianyddol ar waith i ddatrys problem strategol bwysig yn y byd go iawn. Yn y modiwl olaf, bydd argyfwng dychmygol i'ch helpu i ystyried amryw agweddau problemau arweinyddion ar hyn o bryd. Mae'n rhagweld tirwedd y dyfodol a'r newid trawsffurfiol y bydd ei angen, hefyd.

Trwy ofyn ichi ateb problemau, bydd y cwrs dwys hwn yn gwella'ch gallu mewn pedwar maes cysylltiedig. Byddwch chi'n:

  • dod i ddeall yn gyfannol feysydd a phrosesau busnes craidd yn ôl safbwyntiau swyddogaethol, disgyblaethol a chyd-destunol cyferbyniol;
  • cyfuno elfennau damcaniaethol ac ymarferol i'ch helpu i feddwl yn feirniadol a datrys problemau;
  • ymgysylltu â natur gymhleth, egnïol ac amwys penderfynu strategol;
  • gweld sut y gallwch chi gyflawni'ch llawn dwf a meithrin medrau uwch arweinydd.

Trwy'r rhaglen i gyd, mae pecyn ategol o weithgareddau Rhaglen Datblygu Arwain yr MBA. Mae'r gweithgareddau'n ymwneud â'r medrau personol a phroffesiynol y bydd eu heisiau arnoch chi i ateb pob her yn effeithiol a mynd ymlaen i gam nesaf eich gyrfa.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2024/25. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2024.

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Sut y caf fy addysgu?

Mae dull dysgu gweithredol wedi'i ymgorffori yn MBA Caerdydd gyda Deallusrwydd Artiffisial. Rydyn ni o'r farn bod dysgu wedi'i seilio ar ddau beth - eich gallu i gydio mewn profiadau amryfal ac ymestynnol a'ch ffordd o bwyso a mesur y profiadau hynny, ar eich pen eich hun ac ar y cyd â'r myfyrwyr eraill. Tîm ac ynddo academyddion o sawl maes ac ymarferwyr amrywiol eu swyddogaethau a'u sectorau fydd yn cyflwyno pob modiwl. Bydd hynny'n adlewyrchu arferion y gweithle ac yn annog pawb i groesffrwythloni gwahanol safbwyntiau.

Bydd ym mhob rhan o'r dysgu amrywiaeth helaeth o weithgareddau megis ymweld â chwmnïau, siaradwyr o'r byd diwydiannol, datrys problemau yn ôl amserlen, chwarae rolau ac efelychiadau. Diben y rheiny yw gofyn ichi ystyried faint rydych chi'n ei wybod eisoes ac edrych ar faterion o safbwyntiau gwahanol. Bydd cefndiroedd amryfal y myfyrwyr yn gyfraniad gwerthfawr yn hynny o beth.

Byddwn ni'n eich helpu i fireinio eich medrau myfyriol megis arsylwi, dadansoddi a chyfosod fel y gallwch chi ddod i gasgliadau cynhwysfawr am y profiadau hynny.

At hynny, byddwn ni'n eich annog i bwyso a mesur pethau ar y cyd â myfyrwyr, ysgolheigion ac ymarferwyr i gwestiynu eich gwybodaeth, eich tybiaethau, eich egwyddorion a'ch medrau. Bydd hynny'n eich galluogi i drin a thrafod natur arferion arwain a busnes a dyfeisio atebion creadigol i broblemau busnes.

Cewch chi gyfleoedd i gyfuno'r hyn sydd wedi'i ddysgu â'r medrau sydd wedi'u meithrin yng ngweithdai Rhaglen Datblygu Arwain i gyflawni gorchwylion penodol pob rhan o'r astudio yn ogystal ag ateb problemau'r gwaith cwrs ffurfiol mae pob modiwl wedi'i seilio arno.

Sut y caf fy asesu?

Mae strwythur blociau'r rhaglen yn rhoi digon o gyfleoedd i chi fyfyrio'n anffurfiol ar yr hyn sydd wedi'i ddysgu ac ar eich datblygiad. Ym mhob modiwl, mae gweithgareddau byr ar gyfer adolygu gwybodaeth a medrau fel y gallwch chi gadw llygad ar eich cynnydd a gwella'ch ffordd o ddysgu. Bydd hynny'n cryfhau'ch hyder ac yn gwella eich ffordd o drin a thrafod gorchwylion asesu ffurfiol.

Mae problemau ymarferol wrth wraidd yr asesu ffurfiol ym mhob modiwl. Bydd disgwyl ichi ddangos eich bod yn gallu pwyso a mesur pob gorchwyl yn academaidd yn ogystal â defnyddio diwygiau nodweddiadol byd busnes i gyflwyno eich canfyddiadau megis cyflwyniadau ar lafar ac adroddiadau ysgrifenedig. Mae tasgau asesu'n gofyn ichi weithio'n unigol ac yn rhan o dîm, yn union fel y byddech chi yn y gweithle.

Cwblheir pob asesiad ffurfiol ym mhob bloc modiwl. Bydd hynny'n eich galluogi i atgyfnerthu'r hyn rydych chi wedi'i ddysgu cyn ei ddefnyddio i gyflawni'r gorchwylion asesu sydd wedi'u seilio ar waith cymhleth arweinyddion busnes. Mae'n adlewyrchu amserlenni arferol y gweithle ynghylch cyflawni gorchwylion, hefyd.

Sut y caf fy nghefnogi?

Mae'r Brifysgol yn cynnig llawer o gymorth i ôl-raddedigion. Er enghraifft:

Dysgu Canolog

Gwefan materion dysgu'r Brifysgol yw Dysgu Canolog. Cyhoeddir deunyddiau pob rhaglen a modiwl yno ar gyfer sylw myfyrwyr cyn darlithoedd, yn eu hystod ac wedyn.

Llyfrgelloedd

Mae copïau caled ac electronig o amryw lyfrau, cyfnodolion a chronfeydd data ar gael i fyfyrwyr y rhaglen.

Trefn y Tiwtoriaid Personol

Rhoddir tiwtor personol i bob myfyriwr. Bydd yr aelod hwnnw o'r staff academaidd yn goruchwylio eich profiadau dysgu ac addysgol yn barhaus. Bydd eich tiwtor personol yno i wrando ar unrhyw bryderon gan gynnig cyfarwyddyd proffesiynol lle bo modd neu ddangos ble mae'r cymorth priodol.

Gwasanaeth Cynghori'r Myfyrwyr

Cynigir gwasanaeth cyfrinachol a diduedd yn rhad ac am ddim, heb fynegi barn, i fyfyrwyr ynglyn ag ystod eang o faterion personol, ariannol ac academaidd.

Gwasanaeth Anableddau a Dyslecsia

Cynigir cynghorion a chymorth i fyfyrwyr anabl, y rhai ac arnyn nhw anhawster dysgu penodol megis dyslecsia a'r rhai sy'n dioddef â chyflwr meddygol hirdymor.

Gwasanaeth Cwnsela

Mae Gwasanaeth Cwnsela Prifysgol Caerdydd yn rhoi cyfle i aelodau o gymuned y Brifysgol edrych ar y materion sy'n eu rhwystro rhag cyflawni eu llawn dwf ac ystyried ffyrdd o newid. Mae'r gwasanaeth yn gyfrinachol ac yn rhad ac am ddim. Mae wedi'i gydnabod yn rhyngwladol yn ganolfan rhagoriaeth o ran cwnsela unigolion a grwpiau.

Pa sgiliau y byddaf yn eu hymarfer a’u datblygu?

Mae deilliannau dysgu'r rhaglen hon yn disgrifio'r hyn y byddwch chi'n gallu ei wneud o ganlyniad i astudio ym Mhrifysgol Caerdydd. Byddan nhw'n eich helpu i ddeall yr hyn mae disgwyl ichi ei wneud.

Mae deilliannau dysgu'r rhaglen hon isod:

Gwybod a deall:

Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus, byddwch chi'n gallu:

  • Dyfeisio atebion cyfun i broblemau cyfundrefnol cymhleth yn ôl eich profiad o reoli a'r hyn rydych chi'n ei wybod am fusnes.
  • Cloriannu fersiynau diweddaraf fframweithiau, modelau, dadleuon a thystiolaeth ym maes rheoli a'u rhoi ar waith.
  • Cloriannu gwahanol fedrau ymchwil ac ymgynghori ar gyfer trin a thrafod problemau busnes amlochrog.
  • Dadansoddi'r cyd-destun amgylcheddol cymhleth sy'n dylanwadu ar benderfyniadau sefydliadau a gweithwyr.
  • Dangos eich bod yn gyfarwydd â phob elfen o'r anawsterau mae cwmnïau'n eu hwynebu ynglyn â chyfrannu'n economaidd ac yn gymdeithasol.
  • Cloriannu'r peryglon a'r cyfleoedd ynghylch manteisio ar y deallusrwydd artiffisial diweddaraf mewn cwmni newydd neu gyfredol.
  • Dadansoddi a dewis offer, technolegau ac algorithmau perthnasol ar gyfer parth neu faes busnes penodol.

Medrau deallusol:

Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus, byddwch chi'n gallu:

  • Dod o hyd i wahanol ffynonellau ymchwil a thystiolaeth ymgynghorol a'u didoli.
  • Dadansoddi dulliau cynhyrchu data sylfaenol a gwybodaeth am faterion rheoli.
  • Cloriannu safbwyntiau cyferbyniol a'u tystiolaeth ategol cyn eu cyfosod.
  • Defnyddio meddalwedd a llyfrgelloedd safonol i ddadansoddi data.
  • Cyfuno elfennau damcaniaethol â phrofiad amryfal o'r gweithle.
  • Llunio dadleuon cryf o blaid cynlluniau gweithredu hyfyw a chreadigol i argyhoeddi a hysbysu amryw gynulleidfaoedd.

Medrau ymarferol proffesiynol:

Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus, byddwch chi'n gallu:

  • Cloriannu'r modd mae damcaniaethau wedi'u rhoi ar waith i ateb problemau di-strwythur yn ôl eich profiad.
  • Dangos eich bod yn un rhagweithiol sy'n gallu ac yn fodlon mentro.
  • Dangos eich bod yn arweinydd cyfrifol a moesegol.
  • Nodi a diwallu anghenion ynghylch datblygu personol a phroffesiynol.
  • Llunio ffyrdd credadwy o hel data sylfaenol.
  • Dod i benderfyniadau mewn sefyllfaoedd ymestynnol.
  • Gweithio'n effeithiol mewn tîm arwain.

Medrau trosglwyddadwy/allweddol:

Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus, byddwch chi'n gallu:

  • Datrys problemau yn greadigol.
  • Cyfathrebu â chynulleidfaoedd amryfal trwy nifer o gyfryngau.
  • Amlygu hunanfyfyrio a hunanymwybyddiaeth.
  • Gweithio'n annibynnol ac yn gydweithredol.
  • Defnyddio technoleg ddigidol.
  • Eich rheoli'ch hun a phobl eraill.

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2024

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £19,200 Dim

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2024/25 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £31,950 £2,500

Rhagor o wybodaeth am ffioedd dysgu a blaendaliadau, gan gynnwys ar gyfer myfyrwyr rhan-amser a pharhaus.

Cymorth ariannol

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau ychwanegol

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Arian

Ysgoloriaethau Meistr

Gwobr sy'n agored i fyfyrwyr sydd â statws ffioedd cartref sy'n bwriadu astudio un o'n graddau meistr a addysgir.

Ysgoloriaethau Gwerth Cyhoeddus (Rhaglenni MBA)

Mae ysgoloriaethau gwerth £7,500 ar gael i’r ymgeiswyr hynny sy’n mynd drwy’r broses derbyn myfyrwyr yn llwyddiannus ac sy’n ymrestru i ddilyn unrhyw un o’n rhaglenni MBA.

Cynllun Gostyngiad

Mae'r gostyngiad i gynfyfyrwyr ar gael i raddedigion Prifysgol Caerdydd sy'n bwriadu dechrau rhaglen Meistr gymwys yn 2024/25.

Gyrfaoedd graddedigion

Yn Ysgol Busnes Caerdydd, cewch addysg MBA fydd yn newid eich gyrfa gan academyddion o safon fyd-eang sydd â safbwyntiau gwahanol. Byddant yn herio eich ffordd o feddwl wrth i chi ystyried y byd busnes o ystod o safbwyntiau gwahanol.

Mae’r cwrs MBA Caerdydd wedi’i ddylunio gyda’ch dyfodol chi mewn golwg. Byddwch yn elwa ar ein Gwasanaeth Mantais Gyrfaol (CAS), sy’n rhoi mynediad i chi at wybodaeth ac arbenigedd ymgynghorydd gyrfa a hyfforddwr ar gyfer datblygiad proffesiynol personol.

Ochr yn ochr â’r CAS, bydd Rhaglen Datblygu Arweinyddiaeth gofleidiol, bwrpasol yn eich helpu i asesu eich gallu o ran arwain, datblygu llwybr datblygu personol ac adeiladu sgiliau arwain allweddol.

Rydym wedi datblygu perthnasoedd sy’n amrywio o’r cwmnïau rhyngwladol mwyaf i’r microfusnesau lleiaf, a’r rhai hynny’n cynnwys amrywiaeth eang o fentrau cymdeithasol a chwmnïau cydweithredol. Rydym yn defnyddio’r rhwydweithiau hyn i sicrhau gwerth i’n myfyrwyr, a hynny trwy sicrhau a threfnu’r canlynol:

  • interniaethau ac astudiaethau achos o’r byd go iawn
  • cydweithrediad â’n Hentrepreneuriaid Gwerth Cyhoeddus Preswyl
  • darlithoedd gwadd
  • tripiau maes a gweithdai.

Bydd cwblhau’r profiad dysgu eang ac amrywiol hwn yn eich galluogi i ymgeisio am swyddi uwch neu chwilio am newid gyrfa trawsnewidiol.

Mae'r rhaglen hon ar gyfer gweithwyr profiadol. Ar ôl cwblhau’r rhaglen, gallwch chi ymgeisio am swyddi uwch neu chwilio am newid trawsffurfiol yn eich gyrfa.

Mae'r rhaglen hon ar gyfer gweithwyr profiadol. Ar ôl cwblhau’r rhaglen, gallwch chi ymgeisio am swyddi uwch neu chwilio am newid trawsffurfiol yn eich gyrfa.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2023.
icon-chat

Gwnewch ymholiad

Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.
icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.
icon-pen

Rhagor o wybodaeth


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.