Cwrs Hyfforddiant y Bar (LLM)
- Hyd: Blwyddyn
- Dull astudio: Amser llawn
Diwrnod agored
Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.
Pam astudio’r cwrs hwn
Rydym wedi cynnig hyfforddiant o safon uchel ar gyfer y Bar ers 1997, gyda chefnogaeth gref gan y Bar sy’n cyflogi’n lleol, y Bar annibynnol a’r Farnwriaeth.
Cynnig unigryw
Ni yw'r unig Brifysgol yng Ngrŵp Russell i gynnig Diploma Hyfforddiant y Bar.
Dysgwch gan bobl broffesiynol
Mae pob un o’n tiwtoriaid wedi bod yn fargyfreithwyr neu’n gyfreithwyr a’u hethos yw bod yn broffesiynol, yn gyfeillgar a dangos parch tuag at ein gilydd.
Ymchwilio i'ch meysydd diddordeb
Gwnewch Brosiect Ymchwil neu Bortffolio Myfyriol a fydd yn datblygu eich sgiliau a'ch gwybodaeth ar gyfer ymchwil gyfreithiol.
Cymorth wyneb yn wyneb sylweddol
Mae ein cymhareb staff/myfyrwyr yn sicrhau eich bod yn derbyn cryn adborth a chymorth unigol fydd yn eich paratoi ar gyfer asesiadau canolog BSB.
Mae ein LLM Cwrs Hyfforddiant y Bar yn cynnig astudiaethau dwys, ar lefel ôl-raddedig i’r rhai hynny sy’n dymuno cymhwyso fel bargyfreithiwr ond sydd hefyd yn dymuno ymgymryd ag ymchwil ar lefel Meistr. Caiff y cwrs ei gwblhau ar ôl astudio israddedig a chyn y cyfnod o ddysgu yn y gwaith, a elwir yn dymor prawf.
Mae’r rhaglen hon yn eich galluogi i gaffael y sgiliau, y wybodaeth am weithdrefnau a’r dystiolaeth i fodloni meini prawf Bwrdd Safonau’r Bar yn unol â’u Datganiad Proffesiynol i Fargyfreithwyr.
Nod ein rhaglen yw meithrin dull ymarfer proffesiynol a moesegol fel bargyfreithiwr, gan roi golwg gynhwysfawr i chi o fywyd gwaith y bargyfreithiwr a’r cyfle i ystyried yr heriau sy’n wynebu’r proffesiwn cyfreithiol yn yr oes sydd ohoni.
Addysgir ar sail amserlen yn gyffredinol dydd Llun a dydd Iau (h.y. dim mwy na phedwar diwrnod), er mwyn rhoi amser i chi astudio’n annibynnol. Addysgir eiriolaeth a chynadledda mewn sesiynau dwy awr dwys i chwe myfyriwr neu lai. Bydd hefyd gennych y cyfle i ymgymryd ag opsiwn eiriolaeth arbenigol.
Bydd hefyd gennych y cyfle i ymgymryd â’r asesiadau BSB a osodir yn ganolog ym mis Rhagfyr, Ebrill ac Awst yn ystod y flwyddyn academaidd rydych chi wedi cofrestru fel myfyriwr.
Ar ôl ei gwblhau’n llwyddiannus, byddwch chi’n gymwys i gael eich galw i’r Bar yng Nghymru a Lloegr (yn amodol ar fodloni gofynion sesiwn gymhwysol Neuaddau’r Brawdlys).
Achrediadau

Fe wnes i fwynhau’r addysgu gan diwtoriaid cwrs a oedd yn hynod gefnogol ac ymroddedig yn arbennig. Roedd y sesiynau sgiliau a gynhaliwyd mewn grwpiau bach yn gyfle gwych i gael adborth unigol a oedd yn hanfodol i fy natblygiad proffesiynol. Fe wnes i hefyd wir fwynhau cymryd rhan mewn agweddau allgyrsiol megis helpu gyda beirniadu ffug lysoedd barn y Brifysgol.
Ble byddwch yn astudio
Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth
Mae ein corff myfyrwyr bywiog, ynghyd â'n staff academaidd hynod gymwysedig, yn darparu'r amgylchedd perffaith i archwilio meysydd dynamig a phrysur y gyfraith, gwleidyddiaeth a chysylltiadau rhyngwladol.
Meini prawf derbyn
Os oes angen Visa Myfyrwyr arnoch i astudio yn y DU, ni chaniateir i chi drosglwyddo rhwng y cyrsiau Diploma a LLM ar ôl i chi gyrraedd y DU oherwydd rheolau'r Swyddfa Gartref. Dylech benderfynu pa gwrs yr hoffech ei ddilyn ar yr adeg y byddwch yn gwneud eich cais, neu bydd gofyn i chi wneud cais am fisa arall am gost ychwanegol. Yng ngoleuni hyn, dylech ystyried yn ofalus pa raglen astudio yr hoffech wneud cais amdani.
Cyn gwneud cais, gwnewch yn siŵr eich bod wedi cwblhau hyfforddiant Cam Academaidd y Bar fel y nodir gan Fyrddau Safonau'r Bar yma: https://www.barstandardsboard.org.uk/training-qualification/bar-qualification-manual-new.html. Bydd angen i ymgeiswyr sydd â graddau y tu allan i’r DU neu Iwerddon yn y Gyfraith neu raddau trosi o’r tu allan i’r DU neu Iwerddon wneud cais i Fyrddau Safonau’r Bar am Dystysgrif Sefyllfa Academaidd cyn gwneud cais am Gwrs Hyfforddi’r Bar.
Er mwyn cael eich ystyried am gynnig ar gyfer y rhaglen hon bydd angen i chi fodloni'r holl ofynion mynediad. Ni fydd eich cais yn cael ei ddatblygu os na ddarperir yr wybodaeth a'r dystiolaeth a restrir.
Gyda'ch cais ar-lein, bydd angen i chi ddarparu:
1. Copi o'ch tystysgrif gradd a'ch trawsgrifiadau sy'n dangos eich bod wedi cyflawni gradd anrhydedd 2:1 yn y gyfraith, neu radd ryngwladol gyfatebol. Neu, copi o'ch tystysgrif gradd a'ch trawsgrifiadau sy'n dangos eich bod wedi cyflawni gradd anrhydedd 2:1 mewn unrhyw bwnc ac wedi ennill Arholiad Proffesiynol Cyffredin (CPE) neu Ddiploma Graddedigion yn y Gyfraith (GDL). Os yw eich tystysgrif gradd neu ganlyniad yn yr arfaeth, llwythwch unrhyw drawsgrifiadau dros dro neu dystysgrifau dros dro.
2. Tystiolaeth eich bod yn bodloni'r gofynion Iaith Saesneg a amlinellir isod. Dylech gynnwys dyddiad eich prawf disgwyliedig os yw'r cymhwyster hwn yn yr arfaeth. Os oes gennych dystiolaeth dderbyniol amgen, fel gradd israddedig a astudir yn y DU, rhowch hyn yn lle IELTS.
3. Tystiolaeth o'ch ymrwymiad i'r proffesiwn cyfreithiol, ymarfer yn benodol yn y Bar (e.e. drwy leoliadau, cystadlaethau ymryson, siarad cyhoeddus).
4. Geirda academaidd sy'n dangos eich addasrwydd ar gyfer y rhaglen ac sy'n cynnwys manylion y canlyniadau a gafwyd hyd yma. Dylid llofnodi geirda, dyddiad a llai na chwe mis oed pan fyddwch yn cyflwyno'ch cais.
Os nad oes gennych radd anrhydedd 2:1 gallwch wneud cais o hyd ond dylech ddarparu tystiolaeth ychwanegol i gefnogi'ch cais fel CV a geirdaon.
Sylwer, os cewch gynnig cyn cofrestru ar y rhaglen, bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth eich bod wedi cael eich derbyn fel aelod o un o bedwar Ysbyty'r Llys.
Gofynion Saesneg
Er mwyn bodloni gofynion y corff rheoleiddio, mae gan y rhaglen hon ofynion iaith Saesneg penodol. Rhaid i chi gwblhau naill ai IELTS neu Pearson Prawf Saesneg (PTE) Academaidd neu fodloni'r meini prawf eithrio. Ni ellir derbyn unrhyw dystiolaeth neu brawf arall.
- IELTS gyda sgôr gyffredinol o 7.5 gydag o leiaf 7.5 ym mhob is-sgil-sgiliau
- Prawf Pearson o Saesneg (PTE) Academaidd gyda sgôr gyffredinol o 80 gyda dim llai nag 80 ym mhob sgil cyfathrebu
Mae'n rhaid eich bod wedi sefyll y prawf o fewn dwy flynedd i ddyddiad dechrau'r cwrs a rhaid bod yr holl sgoriau gofynnol wedi'u cyflawni mewn un eisteddiad o'r prawf.
Eithriadau i ofynion iaith Saesneg
Os nad ydych wedi graddio mwy na thair blynedd cyn dyddiad dechrau'r cwrs, ni fydd yn ofynnol i chi ddarparu tystiolaeth eich bod yn bodloni'r gofynion iaith Saesneg os ydych wedi cwblhau gradd lawn neu radd atodol 1 neu 2 flynedd trwy gyfrwng y Saesneg yn un o'r gwledydd canlynol: Antigua a Barbuda, Awstralia, y Bahamas, Barbados, Belize, Canada, Dominica, Grenada, Guyana, Iwerddon, Jamaica, Seland Newydd, St Kitts a Nevis, St Lucia, St Vincent & the Grenadines, Trinidad & Tobago, Y Deyrnas Unedig a Gogledd Iwerddon, UDA.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau
Rydym yn dyrannu lleoedd ar sail y cyntaf i'r felin, felly rydym yn argymell eich bod yn gwneud cais cyn gynted â phosibl.
Broses ddethol
Byddwn yn adolygu eich cais wedi'i gwblhau ac os byddwch yn bodloni'r gofynion mynediad, bydd eich cais yn cael ei sgorio yn erbyn cyfres o feini prawf gwerthuso gan ystyried cyflawniad academaidd, ansawdd a chynnwys eich ymatebion i'r cwestiynau a ofynnwyd, a'ch sgiliau Saesneg a chyfathrebu ysgrifenedig. Os ydych chi'n bodloni'r sgôr isaf sydd ei angen, byddwch yn cael cynnig.
Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.
Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).
Euogfarnau troseddol
Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.
Os ydych ar hyn o bryd yn destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau eich astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu eich cofnod troseddol. Mae amodau yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:
- mynediad i gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
- defnydd o'r rhyngrwyd ac offer/dyfeisiau cyfathrebu
- cyrffyw
- rhyddid symud
- cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.
Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2025
Bydd angen i'r rhai sy'n gwneud cais ar gyfer cyrsiau yng Nghanolfan yr Astudiaethau Cyfreithiol Proffesiynol gyflwyno blaendâl ar wahân a bydd gwybodaeth am hyn yn cael ei chyfleu ar wahân gan y Ganolfan.
Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.
Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd
Ffioedd am statws cartref
Nid yw ffioedd ar gyfer mynediad 2025/26 ar gael eto
Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir
Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26.
Ffioedd am statws ynys
Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.
Ffioedd am statws tramor
Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26.
Costau ychwanegol
p>Ar gyfer yr holl sgiliau llafar bydd gofyn i chi wisgo fel y byddech wrth ymarfer (h.y. siwt busnes).
Costau byw
Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.
Arian
Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith
Ar ôl cwblhau'r Cwrs Hyfforddiant Bar (BTC), byddwch yn gallu cael eich Galw i'r Bar ac ymgymryd â chyfnod prawf. Gall y BTC hefyd arwain at waith cyfreithiol mewn rhyw swydd arall, e.e. paragyfreithiol, gyda'r opsiwn o gael cyfnod prawf yn ddiweddarach.
Mae’r opsiwn i gwblhau prosiect ymchwil neu bortffolio myfyriol yn cynnig potensial i gynyddu eich ymgysylltiad mewn gweithgareddau pro bono o fewn yr Ysgol neu ddatblygu eich sgiliau ymchwil annibynnol, a thrwy hynny, gynyddu eich parodrwydd ar gyfer ymarfer.
Yn ogystal, mae angen cynyddol yn y sectorau cyhoeddus a phreifat ar fyfyrwyr sy'n gallu dangos eu bod yn wahanol i raddedigion eraill ac sy'n gallu cynnig rhywbeth mwy i ddarpar gyflogwyr. Byddwch yn dysgu sgiliau pwysig a fydd yn eich gosod ar wahân yn y farchnad swyddi. Bydd y sgiliau hynny yn cynnwys sut i fod yn wydn a phwysigrwydd bod yn ymarferydd myfyriol, sut i ysgrifennu a rhesymu'n feirniadol, sut i ysgrifennu ar gyfer y darllenydd ac ymgysylltu ag ef, a sut i ddeall effaith eich ymchwil.
Lleoliadau
Efallai y cewch gyfle i fod yn marshall gyda Barnwr a/neu ymgymryd â disgybledd bach, yn amodol ar argaeledd partneriaid proffesiynol.
Byddwn yn argymell y cwrs yn benodol i’r rhai hynny sy’n dymuno bod yn fargyfreithwyr y Bar yng Nghymru (ac yn fwy penodol, yng Nghaerdydd). Mae siambrau lleol yn cymryd diddordeb mawr mewn gwneud yn siŵr bod y myfyrwyr yn ymrwymo i aros yn yr ardal leol dros y blynyddoedd i ddod.
Camau nesaf
Ymweliadau Diwrnod Agored
Cofrestrwch am wybodaeth am ein dyddiadau sydd i ddod.Gwnewch ymholiad
Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.Rhyngwladol
Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.Rhagor o wybodaeth
Pynciau cysylltiedig: Y Gyfraith
Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.