Astroffiseg (MSc)
- Hyd: Blwyddyn
- Dull astudio: Amser llawn
Diwrnod agored
Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.
Pam astudio’r cwrs hwn

Mae'r pynciau a addysgir yn adlewyrchu ein cryfderau rhagorol mewn ymchwil ddamcaniaethol, arsylwadol ac offerynnol ac mae'n cynnwys Cosmoleg, Uwch-Berthynoledd Cyffredinol a Thonnau Disgychol, Offeryniaeth ar gyfer Seryddiaeth a Thechnegau mewn Astroffiseg.
Mae ein cwrs MSc mewn Astroffiseg yn gwrs gradd amser llawn sy’n ceisio rhoi hyfforddiant arbenigol a mantais i fyfyrwyr sydd am weithio ym maes astroffiseg gan fod y farchnad recriwtio ar ei gyfer yn gystadleuol dros ben. Ar y cwrs, byddwn yn ymdrin â meysydd damcaniaethol, arsylliadol a chyfryngol mewn astroffiseg a disgyblaethau gwyddonol eraill. Rydyn ni’n eich annog i ddatblygu ymwybyddiaeth feirniadol o broblemau ymchwil cyfredol a dealltwriaeth newydd sydd ar flaen y gad ym maes seryddiaeth ac astroffiseg. Byddwn hefyd yn trafod cyd-destun gwaith yr astroffisegydd modern, gan gynnwys yr amgylchedd diogelwch, moesegol ac ymchwil.
Ar ôl cwblhau’r cwrs, dylai myfyrwyr allu dilyn gyrfa ym meysydd ymchwil academaidd, gwyddor ffisegol, ymarfer diwydiannol, ymchwil a datblygu, neu yrfaoedd medrus eraill sy’n ymwneud â rhifau.
Nodweddion unigryw
- Tailor the course to your interests with our broad range of optional modules.
- Benefit from our School-based facilities including laboratories and computing facilities.
- Research-led MSc programme, with taught components delivered by experts in their field.
- You will be part of the School’s postgraduate community and will have the support of a personal tutor.
- The high level analytical and numeracy skills that are the basis of this course will open up opportunities in a wide range of professions.
Pan oeddwn i’n gorffen fy astudiaethau Lefel A roeddwn i’n hoffi ffiseg lled-ddargludyddion, ffiseg cyflwr solet, ac astroffiseg. Dewisais i ddod i Brifysgol Caerdydd oherwydd bod ganddi enw da ar gyfer pob un o’r rhain - chwaraeodd ran wrth ddarganfod tonnau disgyrchol yn 2015 ac mae adran mater cywasgedig a ffotoneg weithredol iawn yn y Ganolfan Ymchwil Drosi.
Ble byddwch yn astudio
Yr Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth
Mae ein rhaglenni gradd wedi’u hachredu gan y Sefydliad Ffiseg yn cynnwys meysydd arbenigol sy’n adlewyrchu ein diddordebau ymchwil.
Meini prawf derbyn
Er mwyn cael eich ystyried am gynnig ar gyfer y rhaglen hon bydd angen i chi fodloni'r holl ofynion mynediad. Ni fydd eich cais yn cael ei ddatblygu os na ddarperir yr wybodaeth a'r dystiolaeth a restrir.
Gyda'ch cais ar-lein, bydd angen i chi ddarparu:
- Copi o'ch tystysgrif gradd a'ch trawsgrifiadau sy'n dangos eich bod wedi cyflawni gradd anrhydedd 2:1 mewn maes pwnc perthnasol megis seryddiaeth, astroffiseg, cyfrifiadureg, peirianneg, mathemateg, ffiseg, neu wyddoniaeth ffisegol gysylltiedig, neu radd ryngwladol gyfwerth. Os yw eich tystysgrif gradd neu ganlyniad yn yr arfaeth, llwythwch unrhyw drawsgrifiadau dros dro neu dystysgrifau dros dro.
- copi o'ch tystysgrif IELTS gyda sgôr gyffredinol o 6.5 gyda 5.5 ym mhob is-sgil, neu dystiolaeth o gymhwyster cyfatebol derbyniol. Dylech gynnwys dyddiad eich prawf disgwyliedig os yw'r cymhwyster hwn yn yr arfaeth. Os oes gennych dystiolaeth dderbyniol amgen, fel gradd israddedig a astudir yn y DU, rhowch hyn yn lle IELTS.
Os nad oes gennych radd mewn maes perthnasol, gellir ystyried eich cais ar sail eich profiad proffesiynol. Rhowch dystiolaeth ychwanegol i gefnogi'ch cais megis cyfeiriadau cyflogwr wedi'u llofnodi a'u dyddio.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau
Rydym yn dyrannu lleoedd ar sail y cyntaf i'r felin, felly rydym yn argymell eich bod yn gwneud cais cyn gynted â phosibl. Fel arfer, bydd ceisiadau'n cau ddiwedd mis Awst ond gallant gau'n gynt os llenwir pob lle.
Broses ddethol
Byddwn yn adolygu eich cais ac os ydych yn bodloni'r holl ofynion mynediad, byddwn yn gwneud cynnig i chi.
Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.
Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).
Euogfarnau troseddol
Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.
Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:
- mynediad at gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
- defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
- cyrffyw
- rhyddid i symud
- cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.
Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2025
Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.
Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd
Ffioedd am statws cartref
Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir
Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2025/26 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.
Ffioedd am statws ynys
Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.
Ffioedd am statws tramor
Rhagor o wybodaeth am ffioedd dysgu a blaendaliadau, gan gynnwys ar gyfer myfyrwyr rhan-amser a pharhaus.
Cymorth ariannol
Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.
Costau ychwanegol
Bydd yr Ysgol yn talu am bopeth sy’n rhan hanfodol o'r rhaglen - esbonnir hynny’n eglur yn yr holl wybodaeth am y rhaglen ac mewn unrhyw gyfarwyddiadau a roddir gan diwtoriaid ar lafar.
Mae'r Brifysgol o'r farn nad oes angen i'r ysgolion dalu'r costau canlynol gan nad ydyn nhw’n hanfodol neu maen nhw’n gostau sylfaenol y dylid disgwyl i fyfyriwr eu talu eu hunain:
- Gliniaduron
- Cyfrifianellau
- Deunydd ysgrifennu cyffredinol
- Gwerslyfrau (y tybir eu bod ar gael yn y llyfrgell)
- Copïo/argraffu sylfaenol.
Os oes costau/ffioedd dewisol i'w talu gan y myfyriwr, nid yw'r rhain yn ofyniad i basio'r radd.
A fydd angen unrhyw gyfarpar penodol arnaf I astudio'r cwrs hwn?
Byddwn yn darparu offer sy'n hanfodol i'r cwrs. Fodd bynnag, rydym yn argymell eich bod yn dod â gliniadur gyda meddalwedd priodol (e.e. rhaglenni Office), USB neu yriant caled, deunydd ysgrifennu cyffredinol a rhywfaint o offer llunio sylfaenol.
Byddwch yr holl feddalwedd ac offer perthnasol sy'n gysylltiedig â TG ar gael ar eich cyfer ar gyfrifiaduron ein rhwydwaith. Byddwch hefyd yn gallu cael gafael ar offer arbrofol mewn sesiynau labordy cysylltiedig.
Costau byw
Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.
Arian
Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith
Gall MSc mewn Astroffiseg agor y drws i amrywiaeth eang o yrfaoedd posibl yn y dyfodol. Mae ein cyn-raddedigion wedi sicrhau cyflogaeth ym meysydd ffotoneg, bioffiseg, ymchwil a datblygu offerynnol, ffiseg lled-ddargludyddion mewn gwyddoniaeth academaidd ac ymarfer diwydiannol. Gallwch hefyd ddewis ymgymryd ag astudiaethau ôl-raddedig pellach neu ymchwil academaidd ym maes astroffiseg, neu ddechrau gyrfa rifol hynod fedrus mewn disgyblaeth arall.
Lleoliadau
Mae gennym gysylltiadau cryf a sefydledig â’r diwydiant ac efallai y gallwn gynnig lleoliad i chi gydag un o'r partneriaid hyn ar gyfer eich prosiect ymchwil. Efallai y bydd gennym hefyd rai lleoliadau academaidd ar gael yn yr Ysgol dros yr haf, a all fod yn hynod werthfawr i fyfyrwyr sy'n ceisio parhau mewn ymchwil academaidd.
The MSc Astrophysics course at Cardiff has been a fantastic stepping stone towards being an early stage researcher. It has given me a lot of experience in studying and reviewing literature, conducting research, writing grant proposals, and presenting my final experimental/computational results. The course also helped me develop my data analysis skills and improve my knowledge of cosmology, star formation, galaxy evolution, observational astronomy and astronomical instrumentation. The MSc coordinators have been incredibly welcoming and played a very important role in creating a supportive environment amongst my peers and the staff.
Camau nesaf
Ymweliadau Diwrnod Agored
Cofrestrwch am wybodaeth am ein dyddiadau sydd i ddod.Gwnewch ymholiad
Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.Rhyngwladol
Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.