Biowybodeg ac Epidemioleg Enetig Cymhwysol (MSc)
- Hyd: 1 year
- Dull astudio: Amser llawn
Diwrnod agored
Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.
Pam astudio’r cwrs hwn
Nod y rhaglen yw rhoi cyfle i unigolion archwilio, dadansoddi a dehongli data biolegol cyfoes. Mae'r cwrs hwn yn cynnig cyfarwyddyd lefel Meistr mewn Biowybodeg ac Epidemioleg Genetig sy'n canolbwyntio ar epidemioleg genetig.
Mae’r rhaglen hon yn canolbwyntio ar epidemioleg genetig, felly mae’n ddelfrydol ar gyfer graddedigion o ddisgyblaeth gwyddorau bywyd, mathemateg neu gyfrifiadureg.
Bydd yn rhoi'r sgiliau a'r ddealltwriaeth i chi ynghylch biowyddorau cyfrifiadurol ac ystadegol er mwyn eich paratoi ar gyfer gyrfa heriol ym maes ymchwil academaidd, biotechnoleg, neu'r diwydiannau fferyllol a gofal iechyd.
Biowybodeg yw'r maes astudio sy'n defnyddio offer cyfrifiadurol i ddeall bioleg. Mae Epidemioleg Genetig yn golygu astudio sut mae ffactorau genetig yn chwarae rhan wrth bennu iechyd a chlefydau, ac yn cydadweithio â'r amgylchedd. Yn ogystal â datblygu sgiliau craidd mewn biowyddorau cyfrifiadurol ac ystadegol, byddwch yn canolbwyntio ar ddulliau darganfod genynnau gan gynnwys GWAS, archwilio dadansoddiadau amrywiad rhifau copi (CNV) a dulliau gweithredu ar ôl GWAS fel llwybr/rhwydwaith, set genynnau a dulliau epidemiolegol polygenig.
Mae'r rhaglen hon wedi'i chynllunio i ateb y galw cynyddol gan ymchwil academaidd, biotechnoleg a'r diwydiannau fferyllol a gofal iechyd am wybodegwyr galluog sydd â sgiliau biowybodeg. Byddwn yn darparu cyfarwyddyd mewn biowyddorau cyfrifiadurol ac ystadegol a byddwch yn meithrin y sgiliau ategol ychwanegol hyn sydd eu hangen arnoch i’ch galluogi i weithio'n effeithiol mewn maes biowybodeg amlddisgyblaethol.
Nodau’r Rhaglen
- Cyflwyno'r dulliau cyfrifiadurol, ystadegol a dadansoddol a ddefnyddir amlaf mewn bioleg a geneteg ôl-genomig
- Datblygu sgiliau i ddeall a gwerthuso methodolegau a chasgliadau ymchwil yn feirniadol er mwyn i chi allu llunio barn gadarn am ba mor berthnasol yw'r technegau hyn i'ch ymchwil eich hun
- Datblygu cymhwysedd wrth ddylunio a dadansoddi astudiaethau a thynnu gwybodaeth yn effeithiol mewn geneteg, genomeg a biowyddorau eraill ynghyd â'r gallu i gyfleu gwybodaeth, canlyniadau, materion a syniadau i gynulleidfaoedd o gefndir arbenigol ac anarbenigol
- Paratoi a darparu arweiniad i gyflawni darn gwreiddiol o ymchwil yn y maes arbenigol rydych chi’n dymuno dilyn eich gyrfa ynddo
Nodweddion unigryw
Sefydlwyd y cwrs hwn gyntaf dros ddegawd yn ôl mewn ymateb i gwblhau drafftiau cyntaf y prosiect genom dynol ac anghenion gwybodeg dilynol y cymunedau geneteg a genomeg. Mae datblygiadau parhaus mewn technolegau genomig a dulliau dadansoddol wedi arwain at esblygiad parhaus y rhaglen hon i ddarparu cyfarwyddyd cyfoes mewn sgiliau hanfodol newydd.
Mae ein cwrs yn hygyrch i fyfyrwyr sydd â graddau cynradd mewn mathemateg, gwyddorau bywyd neu gyfrifiadura. Mae modiwlau mewn meysydd cydberthnasol craidd megis cyfrifo/sgriptio, ystadegau a bioleg foleciwlaidd yn cynnig y blociau adeiladu sylfaenol sydd eu hangen i lwyddo mewn dadansoddi a dehongli biowybodeg.
Yn ystod Semester y Gwanwyn, byddwch yn ymgymryd ag astudiaeth achos 20 credyd. Bydd hyn yn cynnwys elfennau a addysgir mewn sgiliau ymchwil ac yn golygu gweithio'n uniongyrchol gyda chleient gan ddefnyddio data go iawn. Byddwch yn cael eich gwreiddio yn un o'r llu o ganolfannau ymchwil ar draws y campws ac yn ennill profiad gwerthfawr wrth gyflwyno prosiectau biowybodeg ar gyfer rhaglenni ymchwil. Bydd y data canlyniadol hefyd yn cael ei gyflwyno ochr yn ochr â'ch cymheiriaid yn ein sesiynau poster astudiaeth achos.
Byddwch yn dysgu sgiliau trefnu a chodio hanfodol a hyfforddiant estynedig mewn ystadegau. Os nad ydych o gefndir gwyddorau bywyd, byddwn yn eich cyflwyno i'r fioleg y tu ôl i'r data ac yn eich helpu i wneud penderfyniadau gwybodus ynghylch dewis a dehongli data.
Ble byddwch yn astudio
Yr Ysgol Meddygaeth
Rydym ni'n un o ysgolion meddygaeth fwyaf y DU, wedi ein hymrwymo i geisio gwella iechyd pobl drwy addysg ac ymchwil.
Meini prawf derbyn
Er mwyn cael eich ystyried am gynnig ar gyfer y rhaglen hon bydd angen i chi fodloni'r holl ofynion mynediad. Ni fydd eich cais yn cael ei ddatblygu os na ddarperir yr wybodaeth a'r dystiolaeth a restrir.
Gyda'ch cais ar-lein, bydd angen i chi ddarparu:
- Copi o'ch tystysgrif gradd a'ch trawsgrifiadau sy'n dangos eich bod wedi cyflawni gradd anrhydedd 2:1 mewn maes pwnc perthnasol, neu radd ryngwladol gyfatebol. Gallwn gynnig lefel o hyblygrwydd i ymgeiswyr. Bydd y rhai sydd â gradd anrhydedd 2:2 yn cael eu hystyried yn unigol. Os yw eich tystysgrif gradd neu ganlyniad yn yr arfaeth, llwythwch unrhyw drawsgrifiadau dros dro neu dystysgrifau dros dro.
- copi o'ch tystysgrif IELTS gyda sgôr gyffredinol o 6.5 gyda 6.5 ym mhob is-sgil, neu dystiolaeth o gymhwyster cyfatebol derbyniol. Dylech gynnwys dyddiad eich prawf disgwyliedig os yw'r cymhwyster hwn yn yr arfaeth. Os oes gennych dystiolaeth dderbyniol amgen, fel gradd israddedig a astudiwyd yn y DU, rhowch hyn yn lle IELTS.
- Datganiad personol sy'n esbonio pam yr hoffech ddilyn y rhaglen hon, pa fuddion rydych yn disgwyl eu cael ohono, a pha sgiliau a phrofiad sydd gennych sy'n eich gwneud yn ymgeisydd addas. Mae'n rhaid i chi ddefnyddio'r cwestiynau isod fel penawdau yn eich datganiad:
1. Beth sy'n eich cymell i wneud cais ar gyfer y cwrs hwn?
2. Sut fyddech chi'n disgrifio eich llythrennedd cyfrifiadurol a pha brofiad codio sydd gennych chi?
3. Sut fyddech chi'n disgrifio eich gwybodaeth am ystadegau?
4. Sut fyddech chi'n disgrifio eich gwybodaeth am fioleg moleciwlaidd a geneteg?
5. Os ydych wedi gwneud cais o'r blaen ar gyfer y cwrs hwn ac wedi bod yn aflwyddiannus, disgrifiwch pa brofiad pellach yr ydych wedi'i ennill a allai gryfhau eich cais.
Os nad oes gennych radd neu os dyfarnwyd 2.2 i'ch gradd, gellir ystyried eich cais ar sail o leiaf dwy flynedd o brofiad proffesiynol perthnasol. Rhowch dystiolaeth ychwanegol i gefnogi'ch cais megis cyfeiriadau cyflogwr wedi'u llofnodi a'u dyddio.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau
Y dyddiad cau yw 31 Gorffennaf. Mae lleoedd yn gyfyngedig ac argymhellir gwneud cais yn gynnar. Nodwch fod y rhaglen yn gofyn am nifer lleiaf o fyfyrwyr er mwyn rhedeg. Os na chaiff niferoedd myfyrwyr eu bodloni erbyn 31 Gorffennaf, ni allwn warantu y bydd y rhaglen yn rhedeg.
Broses ddethol
Byddwn yn adolygu eich cais ac os ydych yn bodloni'r gofynion mynediad byddwn yn gwneud cynnig i chi.
Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.
Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).
Euogfarnau troseddol
Nid oes gofyn i chi gwblhau gwiriad GDG (Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd) neu ddarparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.
Os ydych yn destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau eich astudiaethau'n llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu eich cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys y canlynol (ymhlith eraill):
- mynediad i gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
- defnyddio offer/dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
- cyrffywiau
- rhyddid i symud
- cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.
Strwythur y cwrs
Mae myfyrwyr amser llawn a rhan-amser yn cofrestru i ddechrau ar gyfer yr MSc Biowybodeg ac Epidemioleg Genetig Cymhwysol.
Os byddwch yn cwblhau 60 credyd yn llwyddiannus, gallwch adael y cwrs gyda Thystysgrif Ôl-raddedig. Neu, gallwch adael gyda Diploma Ôl-raddedig ar ôl cwblhau 120 credyd yn llwyddiannus. Mae cyfyngiadau’n berthnasol o ran modiwlau yn y ddau achos.
Mae'r MSc amser llawn yn cael ei ddarparu dros flwyddyn ac mae'n cynnwys dau gam - y cam a addysgir (T) a'r cam traethawd ymchwil hir (R).
Mae cam a addysgir y rhaglen yn rhedeg o wythnos olaf mis Medi i wythnos gyntaf mis Mehefin ac mae'n cynnwys chwe modiwl 20 credyd, sef cyfanswm o 120 o gredydau. Mae cam traethawd hir y rhaglen yn rhedeg o ganol mis Mehefin tan ganol mis Medi ac mae'n cynnwys traethawd hir 60 credyd.
Bydd eich traethawd hir yn ymgorffori canlyniadau eich gwaith prosiect blaenorol. Bydd pwnc pob traethawd hir yn cael ei gymeradwyo gan Gadeirydd y Bwrdd Astudiaethau dan sylw neu ei enwebai. Bydd 60 o gredydau'n cael eu neilltuo i'r traethawd hir a bydd yn cael ei bwysoli 50% er mwyn cyfrifo'r marc terfynol.
Mae'r modiwlau a ddangosir yn enghraifft o'r cwricwlwm nodweddiadol. Bydd modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi fis cyn i'ch rhaglen ddechrau.
Bydd y cwrs llawn amser yn cael ei gyflwyno ar draws un flwyddyn. Bydd y cwrs yn cael ei asesu gan ddefnyddio gwaith cwrs a thrwy gyflwyniadau myfyrwyr. Yn Semester yr Hydref, byddwch yn cyflawni modiwl 20 credyd 5 wythnos yn gyntaf a gynlluniwyd i ddatblygu ac atgyfnerthu'r sgiliau cyfrifiadurol a sgriptio angenrheidiol ar gyfer trin a dadansoddi data; bydd hyn yn cynnwys elfennau ar linell orchymyn, cyfrifiadura perfformiad uchel, ieithoedd sgriptio a delweddu data.
O ganol Semester yr Hydref, bydd myfyrwyr yn cyflawni dau fodiwl 20 credyd ar yr un pryd mewn dulliau ystadegol a chyflwyniad i ddulliau ac adnoddau biowybodeg. Bydd y 2 gwrs yn cael eu cyflwyno dros 10 wythnos ac yn ymestyn i Semester y Gwanwyn.
Yn Semester y Gwanwyn, bydd myfyrwyr yn ymgymryd ag astudiaeth achos 20 credyd sy'n ymestyn dros 10 wythnos. Bydd hyn yn cynnwys gweithio gyda chleient a data go iawn. Hanner ffordd drwy Semester y Gwanwyn bydd y myfyrwyr yn ymgymryd â dau fodiwl 20 credyd sy'n canolbwyntio ar ddulliau epidemiolegol genetig. Bydd y modiwlau hyn yn cael eu cynnal mewn cyfresi, a byddant yn gyflawn ar ddiwedd Semester y Gwanwyn.
Yn olaf, yn Semester yr Haf, bydd myfyrwyr yn ymgymryd â phrosiect ymchwil 15 wythnos a fydd yn arwain at greu eu traethawd ymchwil.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Traethawd hir: Epidemioleg Genetig | MET592 | 60 credydau |
Cyfrifiadura ar gyfer Biowybodeg ac Epidemioleg Genetig | MET581 | 20 credydau |
Ystadegau ar gyfer Biowybodeg ac Epidemioleg Genetig | MET582 | 20 credydau |
Cyflwyniad i Biowybodeg | MET583 | 20 credydau |
Astudiaethau Achos mewn Biowybodeg a Bioystadegau | MET584 | 20 credydau |
Epidemioleg Genynnol: Cymdeithas a Chysylltiadau | MET587 | 20 credydau |
Epidemioleg Genetig Ôl-GWAS | MET588 | 20 credydau |
Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.
Dysgu ac asesu
Sut y caf fy addysgu?
Mae'r rhaglen yn cael ei chyflwyno wyneb yn wyneb yng Nghaerdydd. Bydd gennych fynediad at ddeunyddiau’r cwrs, dolenni i ddeunyddiau cysylltiedig ac asesiadau drwy ein hamgylchedd dysgu rhithwir.
Bydd pob modiwl yn cael ei gyflwyno drwy fodel ystafell ddosbarth ar gyfer grwpiau bach (llai na 20 o gyfranogwyr y sesiwn). Bydd disgwyl i chi ymrwymo i tua 200 awr o ymdrech fesul modiwl; byddwch yn derbyn tua 60 awr o gyswllt wyneb yn wyneb fel rhan o hyn. Cyflwynir hyn drwy tua 20 o sesiynau addysgu. Bydd pob sesiwn addysgu yn para 3 awr a bydd egwyliau priodol.
- Bydd sesiynau addysgu yn cynnwys cyfuniad o elfennau fel theori (dysgu ar blackboard), gwaith ymarferol ar gyfrifiadur, gwaith grŵp a thiwtorial. Credwn fod cymhwyso a rhyngweithio yn hanfodol ar gyfer cwrs biowybodeg a bydd pwyslais ar y rhain. Lle bo'n briodol, bydd rhywfaint o theori yn cael ei gyflwyno fel darlithoedd
- Cynhelir pob sesiwn ar amrywiaeth o ffurfiau, ond y strwythur cyffredinol fydd cyflawni 2-3 o ddeilliannau dysgu allweddol fesul sesiwn drwy gyflwyniad i gysyniadau allweddol, cyfleu gwybodaeth gyfredol berthnasol a dod i gysylltiad â methodoleg a chymhwyso ymchwil
- Yn y sesiynau addysgu, byddwn yn rhoi adborth ar asesiadau ffurfiannol a chynnwys y cwrs. Yn yr elfennau hyn, byddwch yn cael y cyfle i drafod themâu neu bynciau, i atgyfnerthu eich gwaith dysgu unigol a chael adborth arno ac i ddatblygu sgiliau cyflwyno llafar. Bydd sgiliau cyfathrebu yn cael eu datblygu mewn tiwtorialau, lle byddwch yn gwneud cyfraniadau unigol i astudiaethau grŵp; er enghraifft, drwy grynhoi asesiad ffurfiannol neu ddeilliannau sesiynau grŵp
- Byddwch yn ymarfer ac yn datblygu theori, sgiliau deallusol, gwaith tîm a chyflwyno drwy gymryd rhan mewn gweithgareddau dysgu amrywiol. Mae’r rhain yn cynnwys datrys problemau biowybodeg, trafodaethau mewn grwpiau bach, cyflwyniadau llafar, tasgau ymchwil annibynnol ac aseiniadau ysgrifenedig
Sut y caf fy asesu?
Mae'r dulliau asesu rydyn ni’n eu ffafrio yn cynnwys gwaith cwrs a chyflwyniadau. Yn gyffredinol, byddwch yn derbyn dwy elfen gwaith cwrs; papur adolygu wedi’i lywio gan theori (e.e. traethawd ""cymharu a chyferbynnu""), a phrosiect ymchwil cymhwysol.
Bydd y gwaith a'r asesiadau yn amrywio yn dibynnu ar y modiwl a byddant yn cael eu cynllunio i brofi eich gwybodaeth a'ch dealltwriaeth o bynciau, yn ogystal â sgiliau deallusol allweddol, sgiliau ymarferol, a sgiliau trosglwyddadwy.
Gall gwaith cwrs gynnwys dadansoddi data, ymarferion rhaglennu, adroddiadau ysgrifenedig, ymarferion sy'n seiliedig ar broblemau, astudiaethau achos, aseiniadau ymarferol, cyflwyniadau sleidiau a phosteri.
Asesiadau ffurfiannol ac adborth
Mae’r rhain yn asesiadau nad ydyn nhw'n cyfrannu at gynnydd na phenderfyniadau dosbarthiad gradd. Nod adborth ffurfiannol yw gwella eich dealltwriaeth a'ch dysgu cyn i chi gwblhau eich asesiad crynodol. Yn fwy penodol, mae'n eich helpu i nodi eich cryfderau a'ch gwendidau, ac yn helpu staff i'ch cefnogi i wella'r meysydd hyn.
Mae gofyn ymarfer er mwyn datblygu sgiliau ym maes gwyddorau data. Rydych chi'n dysgu drwy eich llwyddiannau a'ch methiannau. Byddwch yn derbyn cwestiynau a thasgau byr fel rhan o'r sesiynau addysgu. Bydd y tasgau ffurfiannol hyn yn helpu i atgyfnerthu eich dysgu ac yn rhoi adborth defnyddiol i gydlynwyr y cwrs ynghylch ble gallwn wella a chanolbwyntio adnoddau.
Er na fydd marciau ffurfiannol yn cyfrannu at benderfyniadau ynghylch cynnydd na dosbarthiad gradd, bydd buddsoddi’n briodol yn y tasgau hyn yn helpu gydag elfennau crynodol y modiwl.
Asesiadau crynodol ac adborth
Mae’r asesiadau hyn yn cyfrannu at gynnydd neu benderfyniadau dosbarthiad gradd. Nod asesiad crynodol yw nodi pa mor dda rydych chi wedi llwyddo i fodloni deilliannau dysgu bwriadedig modiwl a bydd yn eich galluogi i nodi unrhyw gamau sydd eu hangen er mwyn gwella.
Sut y caf fy nghefnogi?
Yn ystod sesiwn ymsefydlu, byddwch yn cael sesiwn ragarweiniol i'ch helpu i wneud y gorau o diwtora, gwasanaethau llyfrgell, ac adnoddau sydd ar gael.
Bydd tiwtor personol yn eich cefnogi er mwyn hybu llwyddiant academaidd a llesiant a datblygiad personol.
O safbwynt academaidd, mae eich tiwtor yno i roi arweiniad ar unrhyw faterion/cwestiynau academaidd cyffredinol sy'n codi o'r cwrs ac i’ch annog i fwrw ymlaen â dysgu hunangyfeiriedig. Nid darllen na marcio fersiynau drafft o’ch aseiniadau yw rôl y tiwtor, ond gall drafod unrhyw bwnc a allai fod yn heriol i chi. Byddwch yn derbyn adborth manwl gan dîm y modiwl ar aseiniadau wedi'u cwblhau a byddwch yn gallu trafod yr adborth hwn â’ch tiwtor
Yn ystod cam traethawd hir y cwrs MSc, bydd Goruchwyliwr Traethawd Hir yn cael ei neilltuo i chi, a fydd yn eich rhoi ar ben ffordd gyda’ch gwaith cynllunio ac yn rhoi cyngor i chi wrth i chi gwblhau eich prosiect.
Pa sgiliau y byddaf yn eu hymarfer a’u datblygu?
Ar ôl cwblhau’r Rhaglen, byddwch yn gallu dangos y canlynol:
- dealltwriaeth systematig o egwyddorion ystadegau, biowyddorau a chyfrifiadureg sy'n sail i epidemioleg genetig a biowybodeg
- gwybodaeth am feddalwedd a chronfeydd data biowybodeg cyfredol a sut maen nhw’n cael eu defnyddio i ddatrys problemau biowybodeg yn y maes ac yn eu hymchwil eu hunain
- ymwybyddiaeth dda, dealltwriaeth a gwerthfawrogiad beirniadol o'r amrywiaeth eang o ddulliau ystadegol sydd ar gael i ddadansoddi data genetig, gan werthfawrogi'r materion sy'n gysylltiedig â dyluniad astudiaethau
- gwybodaeth am feddalwedd ystadegol a ddefnyddir i ddadansoddi data omeg a'r sefyllfaoedd lle dylid/na ddylid defnyddio'r pecynnau.
- cynnwys gwybodaeth a dealltwriaeth y byddwch yn eu meithrin gyda sgiliau ymarferol, gan arwain at ddull cadarn o ddatrys problemau;
- cyfosod gwybodaeth o amrywiaeth o ffynonellau sydd ar flaen y gad o ran Genomeg a Biowybodeg;
- gwerthuso gwahanol ddulliau o ddatrys problemau yn feirniadol a dangos eu perthnasedd, eu cryfderau a'u gwendidau;
- ffurfio damcaniaethau a defnyddio sgiliau dadansoddi i brofi'r damcaniaethau hyn. Dehongli'r canlyniadau a gwneud penderfyniadau yng ngoleuni'r holl wybodaeth sydd ar gael a hynny weithiau mewn sefyllfaoedd cymhleth ac anrhagweladwy;
- cynnal darn o waith ymchwil gwreiddiol neu adolygiad beirniadol lled-annibynnol sy'n dangos eich bod yn mentro, yn cymryd cyfrifoldeb am gynllunio a chyflawni tasgau, ac yn mynd i'r afael â phroblemau ymchwil ac yn eu datrys
- y gallu i asesu'r math cywir o ddadansoddiad ar gyfer set ddata a'i gyflawni gan ddefnyddio pecyn cyfrifiadurol priodol
- cymhwysedd wrth gael gafael ar offer biowybodeg o amrywiaeth o ffynonellau, a’u defnyddio
- sgiliau rhaglennu cyfrifiadurol a chymhwysedd mewn dylunio rhaglenni da
- y gallu i ddylunio, gweithredu a dadansoddi algorithmau ar gyfer rhaglenni biowybodeg
- y gallu i lunio adroddiadau astudiaethau achos ar bynciau pwysig ym meysydd biowybodeg a bioystadegau
- sgiliau ymchwil cymwys, fel chwiliadau llenyddiaeth
- gweithio'n annibynnol, rheoli ei amser ei hun a chymryd cyfrifoldeb am y dysgu sy'n ofynnol ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus
- rhaid rheoli tasgau unigol a phrosiectau ar raddfa fwy gan nodi a datrys rhwystrau posibl
- gweithio fel aelod o dimau rhyngddisgyblaethol, gan nodi cryfderau a gwendidau unigolion a dyrannu gwaith yn unol â hynny i gyflawni amcanion y tîm
- gallu defnyddio technoleg gwybodaeth, fel ebost, prosesyddion geiriau, offer meddalwedd a'r we fyd-eang
- trosglwyddo sgiliau a chysyniadau cyfrifiadurol i becynnau/ieithoedd/cronfeydd data anghyfarwydd wedi hynny
- cyflwyno gwybodaeth, dealltwriaeth a dadleuon gan ddefnyddio dulliau cyfathrebu effeithiol (ysgrifenedig a llafar) a bod yn ymwybodol o'r gynulleidfa darged
Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2025
Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.
Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd
Ffioedd am statws cartref
Nid yw ffioedd ar gyfer mynediad 2025/26 ar gael eto
Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir
Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26.
Ffioedd am statws ynys
Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.
Ffioedd am statws tramor
Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26.
Costau ychwanegol
A fydd angen unrhyw gyfarpar penodol arnaf I astudio'r cwrs hwn?
Bydd angen i chi ddarparu cyfrifiadur dibynadwy gyda mynediad priodol i'r Rhyngrwyd, gyda'r amddiffyniad diweddaraf yn erbyn feirysau a maleiswedd.
Bydd angen meddalwedd prosesu geiriau, sy'n gydnaws â Microsoft Word, i gyflawni'r tasgau a'r asesiadau crynodol a ffurfiannol. Gall meddalwedd arall hefyd fod yn ddefnyddiol ar rai adegau yn y rhaglen ar gyfer casglu/dadansoddi data, er enghraifft Microsoft Excel, neu greu cyflwyniadau, er enghraifft Microsoft PowerPoint.
Costau byw
Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.
Arian
Gyrfaoedd graddedigion
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy ac i wella cyflogadwyedd graddedig. Rydym eisiau gwybodegwyr graddedig hynod alluog sy'n gallu bodloni anghenion gwybodeg cynyddol cyflogwyr lleol, cenedlaethol a rhyngwladol. Dyna pam y mae'r rhaglen hon wedi'i chynllunio gydag anghenion ymchwil academaidd, y diwydiannau biotechnoleg, fferyllol a gofal iechyd mewn golwg. Bydd cyfarwyddyd mewn biowyddorau cyfrifiadurol ac ystadegol yn galluogi chi i weithio'n effeithiol o fewn maes biowybodeg amlddisgyblaethol.
Cofrestrodd ein carfan gyntaf o bump o fyfyrwyr i'r MSc ar ei newydd wedd ym mis Medi 2018. Ym mis Gorffennaf 2019 mae un myfyriwr wedi derbyn swydd PhD, ac mae dau wedi derbyn swyddi cyswllt ymchwil mewn biowybodeg. Rydym yn disgwyl yn eiddgar am ganlyniad cyfweliadau sydd ar y gweill!
Yn hanesyddol, o 2004-2017 mae'r rhaglen hon wedi gweld tua 24% o fyfyrwyr yn mynd i mewn i PhD sy'n uniongyrchol gysylltiedig â biowybodeg, aeth 17% o fyfyrwyr i mewn i PhD arall mewn meysydd biofeddygaeth eraill; 10% wedi ymuno â gradd MSc/TAR/meddygol; a thua 49% wedi cael cyflogaeth yn ymwneud â biowybodeg, bioystadegau neu wyddor data arall.
Camau nesaf
Ymweliadau Diwrnod Agored
Cofrestrwch am wybodaeth am ein dyddiadau sydd i ddod.Gwnewch ymholiad
Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.Rhyngwladol
Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.Rhagor o wybodaeth
Pynciau cysylltiedig: Biomedical sciences, Medicine
Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.