Imiwnoleg Glinigol Gymhwysol ac Arbrofol (MSc)
- Hyd: 1 flwyddyn
- Dull astudio: Amser llawn
Diwrnod agored
Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.
Pam astudio’r cwrs hwn
Cynlluniwyd y rhaglen hon gan arbenigwyr allanol sy’n gweithio ym maes Heintiau, Imiwnedd a Llid. Bydd astudio ar y rhaglen lawn amser hon yn eich galluogi i gynyddu eich ymwneud ag arbenigedd ymchwil yr Is-adran Haint ac Imiwnedd a Sefydliad Ymchwil y Brifysgol ar Imiwnedd Systemau.
Cyfraniadau gan arbenigwyr
Mae arbenigwyr sector biotechnoleg a gwyddorau biofeddygol yn sicrhau bod y rhaglen MSc hon yn parhau i fodloni gofynion newidiol y farchnad swyddi yn y dyfodol.
Gwybodaeth a dealltwriaeth fanwl
Ar ôl cwblhau’r rhaglen MSc hon, byddwch wedi datblygu ymwybyddiaeth feirniadol o broblemau a datblygiadau presennol ym mhynciau gwyddoniaeth glinigol a sylfaenol sy’n gysylltiedig â Haint, Imiwnedd a Llid.
Astudiaeth amlddisgyblaeth
At hynny, byddwch wedi meithrin sgiliau i allu astudio’n annibynnol, ac i ddefnyddio ystod o fiotechnegau a dulliau ymchwil o’r radd flaenaf
Llwybrau gyrfa lluosog
Byddwch wedi’ch paratoi i fynd i feysydd cyflogaeth amrywiol, neu i barhau ag astudiaeth academaidd ar lefel uwch.
Cynlluniwyd y rhaglen hon gan arbenigwyr allanol sy'n gweithio ym maes Heintiau, Imiwnedd a Llid. Bydd astudio ar y rhaglen lawn amser hon yn eich galluogi i gynyddu eich ymwneud ag arbenigedd ymchwil yr Is-adran Haint ac Imiwnedd a Sefydliad Ymchwil y Brifysgol ar Imiwnedd Systemau. Byddwch yn elwa ar eu brwdfrydedd a'u hymrwymiad i arwain ac i ddarparu gweithgarwch addysgu ar sail ymchwil o ansawdd uchel ar y rhaglen MSc hon. Mae'r rhaglen MSc yn trin ystod gynhwysfawr o ymchwil imiwnedd, gan roi trosolwg cyfannol i chi o ddatblygiad clefydau cronig, rheoli heintiau, a'r mecanweithiau sy'n effeithio ar ein gallu i greu ymateb imiwnedd effeithiol. Bydd hyn yn eich galluogi i werthuso beth yw effaith ymchwil ar gwrs bywyd y system imiwnedd o ran iechyd a chlefydau, ac i archwilio'r system imiwnedd mewn rhagor o ddyfnder, gan ddysgu sut gellir ei addasu i drin canser, clefydau hunanimíwn, a chlefydau llidiol.
Mae biodechnegau'n datblygu'n gyflym, ac mae ymagweddau newydd sy'n galluogi cynhyrchu a dadansoddi symiau mawr o ddata yn cael eu defnyddio i fynd i'r afael â phroblemau imiwnolegol. Mae ymchwil imiwnoleg bellach yn manteisio ar yr ystod lawn o'r 'omegau', gan gynnwys genomeg, trawsgrifomeg, proteomeg, lipidomeg, a metabolomeg. Byddwch yn archwilio ymagweddau 'omeg' ac yn eu defnyddio i ddatrys cwestiynau ymchwil ar sail haint, imiwnedd a llid drwy ddysgu'r dulliau cyfrifiadol ac ystadegol y mae gwyddonwyr yn eu defnyddio i ddadansoddi ac i ddehongli data o'r profion.
Mae maes gwyddoniaeth fiofeddygol yn fwy cyffrous ac yn cynnwys mwy o gyfleoedd nag erioed. Byddwch yn mynd ar daith o hanfodion gwyddoniaeth at ymchwil glinigol, i ymchwil gwasanaethau iechyd sy'n amlygu datblygiadau nodedig y degawdau diwethaf ac sy'n pwysleisio pa mor fregus yw iechyd pobl i glefydau heintus newydd a rhai sy'n dychwelyd. Mae'r 'frwydr' rhwng y lletywr a'r pathogen yn cyflwyno bygythiad newydd i iechyd y byd, felly mae'n bwysig eich bod chi hefyd yn dysgu am esblygiad strategaethau osgoi systemau imiwnedd a datblygiad cyffuriau newydd sy'n atal pathogenau rhag dyblygu. Erbyn diwedd y rhaglen MSc hon, byddwch yn deall beth yw rôl ganolog ymchwil o ran gwella dealltwriaeth wyddonol (e.e. er mwyn cynghori ar arferion gorau wrth gynllunio ar gyfer pandemig), a datblygiad brechlynnau a thriniaethau sy'n achub bywydau.
Ble byddwch yn astudio
Yr Ysgol Meddygaeth
Rydym ni'n un o ysgolion meddygaeth fwyaf y DU, wedi ein hymrwymo i geisio gwella iechyd pobl drwy addysg ac ymchwil.
Meini prawf derbyn
Er mwyn cael eich ystyried am gynnig ar gyfer y rhaglen hon bydd angen i chi fodloni'r holl ofynion mynediad. Ni fydd eich cais yn cael ei ddatblygu os na ddarperir yr wybodaeth a'r dystiolaeth a restrir.
Gyda'ch cais ar-lein, bydd angen i chi ddarparu:
- Copi o'ch tystysgrif gradd a'ch trawsgrifiadau sy'n dangos eich bod wedi cyflawni gradd anrhydedd 2:1 mewn pwnc perthnasol, neu radd gyfatebol ryngwladol. Gallwn gynnig lefel o hyblygrwydd i ymgeiswyr. Bydd y rhai sydd â gradd anrhydedd 2:2 yn cael eu hystyried yn unigol. Os yw eich tystysgrif gradd neu ganlyniad yn yr arfaeth, llwythwch unrhyw drawsgrifiadau dros dro neu dystysgrifau dros dro.
- copi o'ch tystysgrif IELTS gyda sgôr gyffredinol o 6.5 gyda 6.5 ym mhob is-sgil, neu dystiolaeth o gymhwyster cyfatebol derbyniol. Dylech gynnwys dyddiad eich prawf disgwyliedig os yw'r cymhwyster hwn yn yr arfaeth. Os oes gennych dystiolaeth dderbyniol amgen, fel gradd israddedig a astudiwyd yn y DU, rhowch hyn yn lle IELTS.
- CV cyfredol sy'n cynnwys eich hanes academaidd a gwaith llawn.
- Datganiad personol gan ddefnyddio'r cwestiynau isod fel penawdau:
• Beth wnaeth eich denu i ymgeisio am y rhaglen hon? (150 gair)
• Pam ydych chi'n meddwl bod gwybodaeth uwch am imiwnoleg yn bwysig mewn meddygaeth? (300 gair)
Sut bydd y rhaglen hon yn cefnogi eich dilyniant gyrfa yn y dyfodol a/neu fynd i'r afael â'ch anghenion hyfforddi? (200 gair)
Os nad oes gennych radd mewn maes perthnasol neu os oes gennych radd anrhydedd 2:2 gallwch wneud cais o hyd ond dylech ddarparu tystiolaeth ychwanegol i gefnogi'ch cais megis geirdaon cyflogwyr a chofrestriad proffesiynol.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau
Rydym yn dyrannu lleoedd ar sail y cyntaf i'r felin, felly rydym yn argymell eich bod yn gwneud cais cyn gynted â phosibl. Fel arfer, bydd ceisiadau'n cau ddiwedd mis Awst ond gallant gau'n gynt os llenwir pob lle.
Broses ddethol
Byddwn yn adolygu eich cais ac os ydych yn bodloni'r gofynion mynediad byddwn yn gwneud cynnig i chi.
Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.
Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).
Euogfarnau troseddol
Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.
Os ydych ar hyn o bryd yn destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau eich astudiaethau'n llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu eich cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond nid ydynt yn gyfyngedig i:
- mynediad i gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
- Defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
- cyrion
- Rhyddid i symud
- cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.
Strwythur y cwrs
Cwrs llawn amser blwyddyn o hyd yw hwn, sy'n dechrau yn yr hydref. Byddwch yn cyflawni cyrsiau a addysgir yn ystod y ddau semester cyntaf. Yn y semester olaf (yr haf), byddwch yn gwneud traethawd hir.
Mae chwe modiwl craidd (120 o gredydau), a threulir y trydydd tymor ar brosiect ymchwil sy'n arwain at draethawd hir (60 credyd). Cynhelir y prosiect hwn mewn labordy ym Mhrifysgol Caerdydd.
Mae disgwyl i fyfyrwyr ymgymryd â dysgu hunangyfeiriedig, gan gynnwys darllen ymlaen llaw cyn darlithoedd ac adolygu nodiadau darlithoedd. Cynhelir dosbarthiadau datblygiad proffesiynol parhaus drwy gydol y ddau semester a addysgir. Mae'r rhain yn cynnwys sgiliau cyflwyno a thechnoleg gwybodaeth, dulliau ystadegol ar gyfer ymchwil, moeseg ymchwil dynol ac anifeiliaid, a methodolegau profion clinigol.
Mae'r modiwlau a ddangosir yn enghraifft o'r cwricwlwm nodweddiadol. Bydd modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi fis cyn i'ch rhaglen ddechrau.
Yn ystod y semester cyntaf, byddwch yn dysgu am gydrannau academaidd craidd Imiwnoleg arbrofol, fel technolegau newydd ar gyfer cynhyrchu data imiwnolegol a methodolegau sy’n ein galluogi i addasu’r system imiwnedd i ddatblygu therapiwteg. Yn yr ail semester, byddwch yn cyflawni hyfforddiant uwch mewn Imiwnoleg gymhwysol a chlinigol, fel Imiwnoleg aml-forbidrwydd ac ymwrthedd microbaidd. Caiff addysgu ei lywio gan arfer presennol, ysgolheictod ac ymchwil, felly mae angen lefel uchel o ddysgu hunangyfeiriedig ar y cwrs hwn.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Prosiect a thraethawd hir: Clinig Cymhwysol ac Arbrofol | MET926 | 60 credydau |
Imiwnoleg Sylfaenol | MET920 | 20 credydau |
Imiwnotechnolegau newydd a datblygol | MET921 | 20 credydau |
Imiwnoleg Gyfrifiadurol | MET922 | 20 credydau |
Imiwnomodulation y system imiwnedd mewn clefydau cymhleth | MET923 | 20 credydau |
Imiwnedd Gwrthficrobaidd a Therapeutics | MET924 | 20 credydau |
Imiwnoleg aml-morbidrwydd | MET925 | 20 credydau |
Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.
Dysgu ac asesu
Sut y caf fy addysgu?
Mae'r rhaglen MSc hon yn defnyddio dull dysgu cyfunol a fydd yn defnyddio meddalwedd e-ddysgu ar-lein, cyflwyniadau PowerPoint gyda throslais, gweminarau byw ac wedi'u recordio i ategu seminarau, darlithoedd a thiwtorialau a ddarperir gan y gyfadran a siaradwyr gwadd allanol. Byddwch yn gweithio mewn grwpiau, a bydd gofyn i chi weithio'n annibynnol hefyd. Defnyddir model sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn yn fwriadol, er mwyn archwilio deunydd yn fwy manwl mewn clybiau cyfnodolion, gan ddefnyddio dull ar sail problem. Yn ystod trafodaethau grwp, byddwch yn cael eich annog i rannu ac i ddehongli cynnwys neu adnoddau rydych chi wedi'u canfod yn annibynnol i gefnogi eich cyfoedion yn eu dysgu. Mae pwyntiau gwirio asesu ffurfiannol yn rhan o bob modiwl a addysgir, er mwyn sicrhau bod eich dysgu ar y trywydd cywir ar gyfer yr asesiadau crynodol ym mhob modiwl.
Yn bennaf, mae'r traethawd hir ar lefel MSc yn cynnwys astudiaeth ac ymchwil annibynnol gyfeiriedig. Mae'n defnyddio'r cyfleusterau ymchwil a dysgu helaeth sydd ar gael i chi ym Mhrifysgol Caerdydd. Bydd goruchwylydd prosiect yn cael ei ddynodi i'ch cefnogi a'ch cynghori ar ymchwilio a llunio eich pwnc traethawd hir penodol.
Mae'r model traddodiadol ar gyfer addysgu Imiwnoleg wedi'i fapio i addysg Meddygaeth a/neu Haint; byddwch yn cael budd o'r dull sefydledig hwn wrth astudio ym Mhrifysgol Caerdydd. Byddwch hefyd yn cael eich addysgu gan arbenigwyr o'r diwydiant ar y rhaglen hon. Mae'r nodwedd hon yn gosod y cwrs hwn ar wahân i rai eraill. Drwy weithio mewn partneriaeth gyda staff academaidd yr Ysgol Meddygaeth, ac arbenigwyr allanol o'r sectorau biodechnoleg a biofeddygaeth, rydyn ni wedi creu amgylchedd addysgol arloesol ar gyfer datblygiad personol sy'n wahanol iawn i'r fframwaith hanesyddol.
Sut y caf fy asesu?
Bydd Modiwlau a Addysgir yn cael eu hasesu drwy ddefnyddio dulliau amrywiol sy'n ddibynnol ar ganlyniadau dysgu pob modiwl. Mae'r rhain yn cynnwys gwaith ysgrifenedig (dogfennau hir, adroddiadau byr ac erthyglau adolygu cyflym), cyflwyniadau (ar lafar a phosteri). Mae'r asesiad prosiect ymchwil yn seiliedig ar y traethawd hir terfynol ac ar gyflwyno ei brif ganfyddiadau.
Sut y caf fy nghefnogi?
Caiff tiwtor personol ei neilltuo i bob myfyriwr i gael cymorth a chefnogaeth gydag anghenion academaidd a bugeiliol, a bydd yn cysylltu'n rheolaidd i drafod cynnydd a chynnig cyngor ac arweiniad fel bo angen. Rhoddir adborth ysgrifenedig manwl ar bob asesiad.
Bydd goruchwyliwr personol hefyd yn cael ei ddynodi i chi yn ystod y cyfnod traethawd hir. Bydd modd iddyn nhw roi adborth ysgrifenedig ar ddrafftiau o'r traethawd hir, a rhoi cyfle i chi drafod unrhyw ymholiadau sydd gennych.
Adborth
Bydd adborth ffurfiannol yn cael ei gyfathrebu ar lafar a/neu yn ysgrifenedig ac yn electronig yn brydlon. Darperir adborth crynodol ar asesiadau o fewn yr amserlen a nodir gan y Brifysgol.
Pa sgiliau y byddaf yn eu hymarfer a’u datblygu?
Mae deilliannau dysgu'r rhaglen hon yn disgrifio'r hyn y byddwch chi'n gallu ei wneud o ganlyniad i astudio ym Mhrifysgol Caerdydd. Byddan nhw'n eich helpu i ddeall yr hyn mae disgwyl ichi ei wneud.
Mae deilliannau dysgu'r rhaglen hon isod:
Gwybodaeth a dealltwriaeth:
Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu:
- Mynegi dealltwriaeth systematig o ystod eang o ddamcaniaethau a chymwyseddau imiwnoleg.
- Cysoni a chymhwyso gwybodaeth am lwybrau cyfathrebu yn y system Imiwnedd i ddangos dealltwriaeth o ddatblygiadau newydd a/neu gymhwysedd o'u heffaith ar iechyd a chlefydau.
Dadansoddi'r gydberthynas rhwng ystadegau sylfaenol a data imiwnolegol, ac yna defnyddio'r wybodaeth hon i gyfiawnhau eich dewis o fethodoleg ystadegol i ddatrys cwestiwn ymchwil.
Sgiliau Deallusol:
Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu:
- Egluro sut a pham y defnyddir technegau newydd ar gyfer ymchwil ac ymholiad ar sail imiwnoleg i greu a dehongli gwybodaeth wreiddiol yn y ddisgyblaeth
- Gwerthuso materion presennol a chymhleth yn feirniadol mewn perthynas â modiwleiddio'r system imiwnedd ar gyfer cynnal iechyd a thrin afiechydon
Cymharu â chyferbynnu dulliau ymchwil, biodechnolegau, a dadansoddeg gyfrifiadol, a dewis y teclynnau ymchwil mwyaf priodol i lunio rôl celloedd Imiwnedd a'u llwybrau signal wrth wneud diagnosis, prognosis, a thrin Haint a chlefydau a gyfryngir gan imiwnedd.
Medrau trosglwyddadwy/allweddol:
Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu:
- Ystyried fformatau priodol a dewis dull(iau) perthnasol i ddarparu cyflwyniadau wedi'u strwythuro'n dda ac sy'n briodol i'r dasg, er enghraifft defnyddio cyflwyniadau sleidiau, lleoliadau panel a bord gron, ffeithluniau, fideos byrion, adroddiadau cryno, neu ysgrifennu dogfennau hir.
- Dangos hyfedredd ar gyfer hunan-gyfarwyddo a gweithio'n annibynnol, ynghyd â gweithio gydag eraill
- Dangos cymhwysedd lefel uwch mewn sgiliau labordy
Rheoli problemau imiwnoleg cymhleth yn systematig ac yn greadigol, llunio beirniadaeth gadarn yn absenoldeb data cyflawn, a chyfleu casgliadau'n glir i gynulleidfaoedd arbenigol ac nad ydynt yn arbenigol.
Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2025
Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.
Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd
Ffioedd am statws cartref
Nid yw ffioedd ar gyfer mynediad 2025/26 ar gael eto
Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir
Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26.
Ffioedd am statws ynys
Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.
Ffioedd am statws tramor
Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26.
Costau ychwanegol
A fydd angen unrhyw gyfarpar penodol arnaf I astudio'r cwrs hwn?
Er mwyn cyflawni’r rhaglen astudio hon, bydd arnoch angen cyfrifiadur (desg neu liniadur) rheolaidd a dibynadwy, sy’n rhedeg system sy’n dal i gael ei chefnogi gan y datblygwr, hynny yw Microsoft neu Apple ac ati.
Mae’n rhaid i’r system fod â’r canlynol:
- porwr rhyngrwyd cyfredol
- unrhyw feddalwedd arall y mae ei angen ar gyfer y cwrs
- mynediad rheolaidd at gysylltiad rhyngrwyd sefydlog
Costau byw
Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.
Arian
Gyrfaoedd graddedigion
Mae’r Rhaglen hon yn addas ar gyfer graddedigion neu ymarferwyr profiadol mewn disgyblaethau cysylltiedig, fel pynciau sy’n ymwneud â meddygaeth.
Dewisiadau cyflogadwyedd:
- Ymchwil a datblygu (diwydiant/academia)
- Darlithydd (prifysgol)
- Biocemeg / imiwnoleg / microbioleg glinigol
- Technegol e.e rheoli ansawdd, technegydd ymchwil
- Arbenigol e.e. atwrnai Patent biowybodeg
- Materion rheoleiddio / trosglwyddo technoleg
- Addysgu (ysgol/coleg/prifysgol)
- Cyfathrebu / newyddiaduraeth / cyhoeddi ym maes gwyddoniaeth
- Rheoli a gweinyddu academaidd
- Gwerthu a marchnata ym maes gwyddoniaeth
- Rhaglen Addysg Ddoethurol (PhD)
Camau nesaf
Ymweliadau Diwrnod Agored
Cofrestrwch am wybodaeth am ein dyddiadau sydd i ddod.Gwnewch ymholiad
Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.Rhyngwladol
Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.Rhagor o wybodaeth
Pynciau cysylltiedig: Imiwnoleg, Meddygaeth
Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.