Cymuned fywiog a chroesawgar o academyddion a myfyrwyr sydd wedi ymrwymo i ddatblygu iaith, llenyddiaeth, cymdeithas, diwylliant a hunaniaeth yn y Gymru gyfoes ac yn rhyngwladol.
Mae ein MA mewn Astudiaethau Cymreig a Cheltaidd a'n llwybrau PhD/MPhil yn eich galluogi i ymchwilio i'r berthynas rhwng llenyddiaeth, iaith, diwylliant a hunaniaeth o safbwynt rhyngwladol a rhyngddisgyblaethol. Gallwch deilwra’r cynnwys yn ôl eich diddordebau yn unol â’n harbenigedd a byddwch yn dod yn rhan o gymuned ymchwil ac addysgu drawsnewidiol, heriol a dynamig.
Profiad proffesiynol
Byddwch yn elwa o gyfleoedd a hyfforddiant a fydd yn datblygu eich proffil proffesiynol a’ch sgiliau cyflogadwyedd.
Rhagoriaeth ymchwil
Yn 9fed ar gyfer effaith ein hymchwil ac yn 11eg ar gyfer ein hamgylchedd ymchwil (Ieithoedd Modern ac Ieithyddiaeth, REF 2021).
Astudio hyblyg
Astudiwch drwy gyfrwng y Gymraeg, Saesneg neu gyfuniad o’r ddwy, a theilwra'r rhaglen yn unol â'ch diddordebau a’ch amcanion chi.
Mae Ysgol y Gymraeg yn adnabyddus am ei hymchwil academaidd ac mae’n un o'r canolfannau mwyaf blaenllaw ar gyfer ymchwil ym maes Astudiaethau Celtaidd yn y DU.
Cynhyrchu darn neu gasgliad gwreiddiol o waith creadigol yn ogystal â datblygu sgiliau beirniadol pwysig.
Gair gan ein myfyrwyr
Mae ehangder profiadau cadarnhaol ein myfyrwyr ôl-raddedig yn amrywio yn ôl eu cefndir, eu diddordeb penodol yn y Gymraeg ac ystod eu hamcanion. Yn y blogiau hyn gallwch ddarllen am sut y gwnaeth Osian ac Emma, ein graddedigion diweddar, greu profiad gradd unigryw iddynt eu hunain.
Dyma Adam
Yn enedigol o UDA, dewisodd Adam Barnett astudio yn Ysgol y Gymraeg oherwydd hyblygrwydd y rhaglen MA, y cyfle i ddysgu Cymraeg ac atyniadau’r brifddinas.
Dyma Anna
I Anna Powys, y rhaglen MA Astudiaethau Cymreig a Cheltaidd oedd y dewis perffaith iddi, gan gynnig addysg eang a chryn hyblygrwydd a wnaeth yn ei dro ei helpu i bennu a mireinio ei diddordebau ymchwil.
Mae’r myfyrwyr sy’n dilyn ein rhaglen MA yn dod o amryw o gefndiroedd gwahanol ac yn aml o wledydd gwahanol, ac mae pob un ohonynt yn dod â phrofiadau a safbwyntiau unigryw ynghyd i gyfoethogi ein cymuned. Mae’n amgylchedd creadigol, cydweithredol a chyfeillgar i fyw a dysgu ynddo.
Bydd astudio gyda ni yn rhoi cyfle i chi ymdrin ag amrywiaeth o bynciau sy’n ymwneud â’r Gymraeg, ac ieithoedd eraill, gan gynnwys: Llenyddiaeth Cymru; beirniadaeth lenyddol; llenyddiaeth plant; sosioieithyddiaeth; caffael iaith; tafodieitheg; polisïau a chynllunio ieithyddol; a, theorïau a methodoleg cyfieithu.
Explore your research interests in a supportive and impact-focused environment. Recognised internationally for research quality and impact, we have a proud history of positive practical, cultural and legislative change, benefiting communities in Wales and around the world. We offer three PhD/MPhil pathways: Welsh; Language, Policy and Planning; and Creative and Critical Writing.
Rhagor o wybodaeth am ein Hysgol
Rydym wedi ein lleoli yn Adeilad John Percival ar gampws Parc Cathays. Ychydig funudau o Undeb y Myfyrwyr a gwasanaethau cymorth y Brifysgol, a gallwch gerdded i ganol y ddinas o fewn 10 munud.
Rydym hefyd wedi ein lleoli y drws nesaf i Lyfrgell y Celfyddydau a'r Gwyddorau Cymdeithasol, sy’n gartref i gasgliad o weithiau ac archifau perthnasol, gan gynnwys Casgliad Salisbury.