Ymunwch â'n cymuned academaidd chwilfrydig, sy'n angerddol am astudio crefydd a diwinyddiaeth yng nghyd-destunau'r gorffennol, y presennol a'r dyfodol.
Mae ein Canolfan Astudio Islam yn y DU wedi datblygu, a bellach dyma’r prif sefydliad academaidd ar gyfer ymchwil ac addysgu am Islam a Mwslemiaid ym Mhrydain, tra bod ein rhaglenni Diwinyddiaeth yn tynnu ar arbenigedd a gydnabyddir yn rhyngwladol mewn Cristnogaeth, o adeg ei sefydlu i’r oes gyfoes.
Staff arbenigol
Cewch eich addysgu gan ysgolheigion angerddol sy’n enwog am ansawdd ac effaith eu hymchwil.
Ein harbenigedd
Mae ein Canolfan Astudiaethau Islam yn y DU yn cyfuno’r ysgolheictod a’r ymchwil gorau yn y maes arbenigol pwysig hwn sy’n ehangu.
Cyflogadwyedd
87% o'n graddedigion ôl-raddedig a addysgir mewn cyflogaeth a/neu’n astudio ymhellach, ar fin dechrau swydd neu gwrs newydd, neu’n gwneud gweithgareddau eraill fel teithio, 15 mis ar ôl diwedd eu cwrs. (Arolwg Hynt Graddedigion 2020/21).
Byddwch yn myfyrio’n feirniadol ar eich ymarfer proffesiynol mewn rhaglen sydd wedi’i dylunio i gefnogi datblygiad proffesiynol offeiriadaeth a phroffesiynau perthnasol eraill.
Ein fideos
Astudiaethau crefyddol a diwinyddiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd
Cewch glywed gan academyddion a myfyrwyr am sut beth yw astudio crefydd gyda ni.
Mae ein rhaglenni Diwinyddiaeth wedi'u dylunio’n arbennig ar gyfer dilyn gyrfa mewn ymchwil neu addysg uwch a/neu rôl mewn gweinidogaeth ordeiniedig, caplaniaeth a'r proffesiynau gofal ac addysg cysylltiedig. I'r rhai sydd eisoes yn y weinidogaeth, maent yn eich galluogi i fyfyrio'n feirniadol ar eich ymarfer proffesiynol. Gyda phum llwybr ar gael ac addysgu hyblyg, byddwch yn datblygu eich cymhwysedd deallusol a'ch sgiliau ymchwil, gan ddyfnhau eich ymarfer myfyriol a gwella eich gallu bugeiliol.
O astudio o fewn y brif Ganolfan Astudiaethau Islam yn y DU, byddwch yn cael y cyfle i ennill dealltwriaeth fanwl o eirfa gysyniadol a damcaniaethol sy’n ymwneud ag Islam ym Mhrydain. Sefydlwyd yr Ysgoloriaethau nodedig Jameel i alluogi’r myfyrwyr gorau i astudio ym Mhrifysgol Caerdydd – y rhai hynny sydd â’r deallusrwydd a’r natur benderfynol i gymhwyso eu gwybodaeth er budd cymunedau Mwslimaidd yn y DU, a hyrwyddo gwell dealltwriaeth o Islam yn y gymuned ehangach.
Pa bynnag grefydd y byd sy'n cynnau eich diddordeb academaidd, bydd ein PhD/MPhil mewn Astudiaethau Crefyddol a Diwinyddol yn eich helpu i ddatblygu'r wybodaeth a'r arbenigedd ar gyfer gyrfa ymchwil lwyddiannus yn y byd academaidd, y cyfryngau, y sector cyhoeddus neu broffesiynau cysylltiedig.
Cysylltiedig â'r gymuned
Ein cartref yw Adeilad John Percival, sydd wedi'i leoli yng nghanol ein campws coediog yng nghanol y ddinas.
Dyma lle byddwch chi'n dod o hyd i'n Canolfan Astudio Islam yn y DU. Rydyn ni’n credu ei bod yn ganolfan hygyrch, bywiog a chynhwysol i ddysgu am Islam yng Nghaerdydd a De Cymru, i Fwslimiaid ac unrhyw un nad yw’n Fwslim fel ei gilydd.
Yma hefyd y mae ein hacademyddion Crefydd a Diwinyddiaeth yn gweithio, mewn lleoliad ddelfrydol drws nesaf i Lyfrgell y Celfyddydau ac Astudiaethau Cymdeithasol gyda'i chasgliadau a'i archifau helaeth.
Mae ein graddau ymarferol o fri yn cyflwyno’r hyfforddiant, y sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen i chi wneud eich marc yn y sector treftadaeth, ynghyd â’r sgiliau cyflogadwyedd i ddilyn eich gyrfa mewn sectorau perthnasol.
Bodlonwch eich chwilfrydedd am hanes a dyfnhau eich gwybodaeth o’r cysyniadau allweddol. Cyfunir hyn i gyd gyda’r posibilrwydd o archwilio treftadaeth, gweithredu cymunedol a lleoliadau gwaith.
Ffynhonnell: Yn cynnwys data HESA: Hawlfraint Jisc 2023. Ni all Jisc dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau a wneir gan drydydd partïon ar sail ei ddata.