
Seicoleg
Gyda rhagoriaeth gydnabyddedig mewn ymchwil ac addysgu, mae ein rhaglenni yn cynnwys set o fodiwlau a addysgir sy’n amrywiol ac a gynlluniwyd yn fanwl, yn ogystal â gweithgareddau ymchwil annibynnol ac ymarfer proffesiynol.
Pam astudio gyda ni?
Seicoleg ymhlith y 10 uchaf
Rydym yn y 10 uchaf ar gyfer seicoleg yn yr safleoedd UK Complete University Guide.
Mae 95% o'n hymchwil yn arwain y byd neu'n rhagorol yn rhyngwladol.
O ymchwil arobryn am allu swyddogion tân i wneud penderfyniadau a arweiniodd at newid polisi cenedlaethol, i gynhyrchu'r delweddau mwyaf manwl o'r ymennydd, mae ein hymchwil yn cael effaith yn y byd go iawn.
Staff sy’n flaenllaw ym myd ymchwil yn cyfrannu at gynllunio a chyflwyno cyrsiau
Mae'r rhan fwyaf o'n staff addysgu yn ymchwilwyr ymarferol ac, mewn sawl achos, arbenigwyr arweiniol yn eu meysydd.
Cyrsiau
Cwrs newydd yn dod yn fuan...
Seicoleg Iechyd Meddwl (MSc)
Os ydych chi'n angerddol am ddeall ymddygiad dynol ac iechyd meddwl, mae ein rhaglen MSc Seicoleg Iechyd Meddwl ar eich cyfer chi. Nid oes angen unrhyw wybodaeth seicoleg flaenorol, ac mewn blwyddyn yn unig, byddwch yn ennill y sgiliau i lansio gyrfa yn y maes diddorol hwn.
Byddwch yn archwilio pynciau fel seicoleg gymdeithasol, swyddogaeth yr ymennydd, ac iechyd meddwl, gan ganolbwyntio ar gymwysiadau yn y byd go iawn. Mae'r rhaglen yn cynnwys modiwlau iechyd meddwl arbenigol a thraethawd hir, sy'n berffaith i'r rhai sydd â diddordeb neu brofiad mewn gwaith iechyd meddwl.
Cefais amser wrth fy modd ar y cwrs MSc Seicoleg. Roedd y pynciau yr oeddem yn eu hastudio yn hynod ddiddorol, ac roedd y staff bob amser wrth law i helpu. Rhoddodd y sgiliau a enillais ar y cwrs gyfle i mi fynd ymlaen i wneud PhD; cyfle na fyddwn wedi'i gael fel arall. Rwy'n wirioneddol argymell y cwrs hwn i unrhyw un sydd â diddordeb mewn seicoleg ac sydd eisiau deall, mewn rhagor o ddyfnder, sut mae'r meddwl dynol yn gweithio.
Ein cyrsiau ôl-raddedig a addysgir
MSc Seicoleg (trosi)
Ar y rhaglen drosi hon a achredir gan Gymdeithas Seicolegol Prydain (BPS), cewch y sgiliau angenrheidiol i chi fod yn seicolegydd heb orfod cael profiad blaenorol o seicoleg.
Byddwch yn astudio seicoleg o safbwynt gwyddonol gyda phwyslais ar ei hagweddau cymdeithasol, gwybyddol, clinigol a biolegol, wrth ddatblygu eich sgiliau arbrofi ac ymchwilio’n ddadansoddol. Mae’r cwrs hefyd yn cynnwys lleoliad proffesiynol 12 wythnos o hyd lle cewch brofiad o fod yn seicolegydd proffesiynol mewn lleoliad sefydliadol, ymchwil neu labordy.
MSc mewn Anhwylderau Seicolegol Plant
Datblygwch y sgiliau a’r wybodaeth i ddilyn gyrfa foddhaus mewn niwroddatblygiad plant, seicoleg glinigol neu seicoleg addysg.
Nod y rhaglen hon, a gyflwynir o’n canolfan bwrpasol ar gyfer gwyddoniaeth ddatblygiadol, CUCHDS, yw rhoi dealltwriaeth ddamcaniaethol i chi o'r ffactorau seicolegol sy'n achosi ac yn cynnal problemau emosiynol ac ymddygiadol mewn plant.
Ein cyrsiau hyfforddiant proffesiynol
Dip.Ôl-radd/Tyst.Ôl-radd Therapïau Gwybyddol ac Ymddygiadol
Bydd y rhaglen hyfforddiant hon a achredir gan BABCP yn rhoi’r wybodaeth a’r sgiliau clinigol sydd eu hangen i chi gymhwyso fel therapydd seicolegol.
Mae’r cwrs rhan-amser hwn ar gyfer gweithwyr iechyd meddwl, fel nyrsys iechyd meddwl, therapyddion galwedigaethol, seiciatryddion, ffisiolegwyr clinigol a gweithwyr cymdeithasol. Rydym hefyd yn cynnig llwybr arall o’r enw Asesiad Gwybodaeth a Sgiliau (KSA) sy’n galluogi ymarferwyr sydd â’r profiad a’r wybodaeth ddigonol i gyflawni’r lefel hyfforddiant cyfatebol.
Fe wnes i fy ngradd israddedig yma ym Mhrifysgol Caerdydd ac es i yn syth ymlaen i wneud PhD. Rwy'n astudio’r ffordd rydym yn canfod bod sain yn symud wrth inni symud. Mae hyn yn golygu chwarae synau gwahanol i’r rhai sy’n cymryd rhan yn ein labordy sain pwrpasol, a’u cael i wneud penderfyniadau ynghylch sut mae’n ymddangos fel bod y synau hynny’n symud. Mae ein canlyniadau yn ddifyriawn!
Rhaglenni ymchwil ôl-raddedig
Rydym yn cynnig amgylchedd ymchwil deinamig ac ysgogol, gyda seilwaith ymchwil ardderchog sy’n cynnig amrywiaeth o gyfleoedd.
Ble byddwch yn astudio
Mae gennym dri lleoliad ar gyfer astudiaethau ôl-raddedig sy’n cynnig cyfleoedd digyffelyb ar gyfer ymchwil a hyfforddiant. Bydd un o dri lleoliad yn gartref i chi, yn dibynnu ar y rhaglen rydych chi’n dewis ei hastudio. Mae gan bob un o’n hadeiladau gyfleusterau gwych a phwrpasol ar gyfer meysydd penodol o seicoleg – mae pob un ohonynt o fewn pellter cerdded i’w gilydd hefyd.

Ymchwil
Mae ein gwaith ymchwil sy’n flaenllaw yn rhyngwladol yn datblygu gwybodaeth ac yn gwella ansawdd bywydau trwy lywio polisi cyhoeddus a deilliannau iechyd.
O ymchwil arobryn am allu swyddogion tân i wneud penderfyniadau a arweiniodd at newid polisi cenedlaethol, i gynhyrchu’r ddelwedd fanylaf o’r ymennydd, mae ein hymchwil yn cwmpasu disgyblaeth seicoleg yn ei chyfanrwydd ac fe’i hategir drwy ganolfannau ymchwil, partneriaethau aml-ddisgyblaethol a chydweithio â diwydiant a’r trydydd sector.
Rydym yn ffodus bod cyfleusterau modern ar gael i ni yn cefnogi ymchwil ryngddisgyblaethol, gan gynnwys ein canolfan flaenllaw ar ddelweddu’r ymennydd - CUBRIC, ein canolfan ddatblygu bwrpasol - CUCHDS, ein canolfan ymchwil i’r newid hinsawdd a thrawsffurfio cymdeithasol - CAST, a HUFEX - ein canolfan ragoriaeth mewn ymchwil ffactorau dynol.
Rhagor o wybodaeth
Darganfod Prifysgol Caerdydd
Camau nesaf
Rhagor o wybodaeth am ein Hysgol
Ewch i wefan yr Ysgol a thudalennau'r rhaglen i ddysgu mwy.
Lawrlwytho ein llyfryn ôl-raddedig
Rhagor o wybodaeth am ein cyrsiau, yr Ysgol a’r Brifysgol ehangach.
Cysylltu â ni
Gofynnwch gwestiwn drwy ein ffurflen ymholi, a chewch ateb gennym cyn gynted ag y bo modd.
Dilynwch ni ar Twitter
I gael hyd yn oed mwy o newyddion a diweddariadau - dilynwch ni @PsychCardiffUni.