Mae Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol yn edrych ar y ffyrdd rydym ni'n trefnu ein bywydau mewn byd cyd-gysylltiedig byd-eang drwy gyfuniad o sefydliadau enfawr ac arferion. Mae’n adeg berffaith i ddatblygu eich dealltwriaeth o lawer o’r materion pwysicaf sy’n ein hwynebu.
Cyflogadwyedd
95% o'n graddedigion ôl-raddedig a addysgir mewn cyflogaeth a/neu’n astudio ymhellach, ar fin dechrau swydd neu gwrs newydd, neu’n gwneud gweithgareddau eraill fel teithio, 15 mis ar ôl diwedd eu cwrs (Arolwg Hynt Graddedigion 2020/21).
Manteisiwch ar ein lleoliad a'n cysylltiadau
Mae gennym gysylltiadau agos gyda Chanolfan Materion Rhyngwladol Cymru a Chymdeithas y Cenhedloedd Unedig (Cymru).
Rhagoriaeth ymchwil
Y sgôr uchaf posibl o 4.0 ar gyfer effaith ein hymchwil (Gwleidyddiaeth ac Astudiaethau Rhyngwladol, REF 2021).
Ennill sgiliau dadansoddol a chysyniadol uwch, gan eich galluogi i werthuso gwleidyddiaeth a pholisi cyhoeddus yn feirniadol mewn sefydliadau amrywiol ar draws y DU ac yn rhyngwladol.
Mae datganoli wedi trawsnewid gwleidyddiaeth a llywodraeth Cymru. Ymunwch â’r rhaglen arloesol hon ac archwilio’r sefydliadau datganoledig yn eu cyd-destunau cyfansoddiadol, gwleidyddol a pholisi ehangach.
Mae Cymru yn faes ymchwil lle galwch ganolbwyntio eich astudiaethau fel rhan o’n cyfres o raglenni ymchwil Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol (MPhil, PhD).
Mae Cysylltiadau Rhyngwladol a Globaleiddio yn faes ymchwil lle galwch ganolbwyntio eich astudiaethau fel rhan o’n cyfres o raglenni ymchwil Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol (MPhil, PhD).
Mae Gwleidyddiaeth Ewrop ac Astudiaethau Bro yn faes ymchwil lle galwch ganolbwyntio eich astudiaethau fel rhan o’n cyfres o raglenni ymchwil Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol (MPhil, PhD).
Mae Gwleidyddiaeth Gymharol, Polisïau a Llywodraethiant yn faes ymchwil lle galwch ganolbwyntio eich astudiaethau fel rhan o’n cyfres o raglenni ymchwil Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol (MPhil, PhD).
Mae Theori Wleidyddol yn faes ymchwil lle galwch ganolbwyntio eich astudiaethau fel rhan o’n cyfres o raglenni ymchwil Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol (MPhil, PhD).
Ein cyflwyniadau a'n fideos
Cyrsiau Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol Ôl-raddedig
Cewch rhagor o wybodaeth am ein hystod o gyrsiau gradd meistr mewn Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol gan Dr Ian Stafford. Mae ein cyflwyniad diwrnod agored rhithwir yn cynnig trosolwg o’r rhaglenni, yn ogystal â gwybodaeth am yr adran a'n staff arbenigol.
Rydym yn gartref i'r Ganolfan Llywodraethiant Cymru, y ganolfan fwyaf blaenllaw ar gyfer astudio gwleidyddiaeth, cyfraith ac economi wleidyddol Cymru. Mae’n hymchwil yn ymwneud â rhai o faterion cyfoes pwysicaf Cymru megis Brexit, datganoli, cyfiawnder, awdurdodaeth a dadansoddi ariannol.
Mae ein graddedigion bellach yn gweithio mewn meysydd amrywiol sy’n cynnwys sefydliadau anllywodraethol, datblygiad byd-eang, busnes rhyngwladol, addysgu, diplomyddiaeth a chudd-wybodaeth mewn llywodraeth, newyddiaduraeth, ac ymchwil polisi. Mae ein gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd ar gael i chi o'r eiliad rydych chi'n ymuno gyda ni er mwyn i chi gael meddwl am ble yr hoffech fynd nesaf.
Mae ein gwaith ymchwil wedi bod yn llwyddiannus dros ben ar lwyfannau cenedlaethol a byd-eang, oherwydd ein prosiectau unigryw, arloesol a rhyngddisgyblaethol. Rydym yn cynnig cyfleoedd PhD ac MPhil amser llawn a rhan-amser gyda goruwchwyliaeth ar draws y pynciau canlynol: Gwleidyddiaeth Gymharol; Polisïau a Llywodraethiant; Gwleidyddiaeth Ewrop ac Astudiaethau Bro; Cysylltiadau Rhyngwladol a Globaleiddio; Theori Wleidyddol; a Chymru.
Mae ein rhaglenni'n cynnig cipolwg beirniadol ar ein byd sy'n newid yn barhaus
Bydd astudio gyda ni yn eich cyflwyno i gyfansoddiadau, polisïau cyhoeddus ac arferion cymdeithasol cenedlaethol ac is-genedlaethol; i sefydliadau rhanbarthol a rhyngwladol; i’r syniadau moesol a gwleidyddol sy’n sbarduno mudiadau gwleidyddol a newid; ac i natur a chanlyniadau gwrthdaro, gwladychiaeth a gwleidyddiaeth pŵer mawr.
Ymunwch â'r unig brifysgol Grŵp Russell sy'n cynnig yr amrediad llawn o gyrsiau academaidd a galwedigaethol ym maes y gyfraith.
Ffynhonnell: Yn cynnwys data HESA: Hawlfraint Jisc 2023. Ni all Jisc dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau a wneir gan drydydd partïon ar sail ei ddata.