Fel ymarferydd sy'n chwilio am gymhwyster arbenigol mewn ffisiotherapi chwaraeon, bydd yr MSc hwn yn eich galluogi i ddatblygu eich gwybodaeth am wyddor chwaraeon ac anafiadau, yn ogystal â'ch sgiliau meddwl yn feirniadol, er mwyn datblygu eich gyrfa o fewn eich proffesiwn arbenigol.
Fel ffisiotherapydd cymwysedig, bydd yr MSc hwn yn eich galluogi i ddatblygu sgiliau gwerthfawr a fydd yn eich helpu i symud ymlaen yn eich proffesiwn p'un a ydych yn chwilio am ddyrchafiad o fewn ymarfer clinigol neu'n symud i'r byd academaidd neu ymchwil.
Ein cyflwyniadau
Ffisiotherapi (MSc)
Gwyliwch sesiwn holi ac ateb gyda Rheolwr y Rhaglen Amy Bendall i ddysgu mwy am ein cwrs gwych.
Cyfle i glywed gan un o’n myfyrwyr
Cyfle i glywed gan un o’n myfyrwyr MSc Ffisiotherapi, Kavya, am ei phrofiadau o fod yn fyfyriwr ôl-raddedig yn Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd.
Byddwch yn rhan o rywbeth fydd yn newid bywydau, heddiw
Beth mae'n myfyrwyr yn ei feddwl am astudio gyda ni.
Drwy gynnal ymchwil sy'n seiliedig ar eich diddordebau eich hun yn un o adrannau ymchwil gofal iechyd mwyaf blaenllaw y DU, byddwch yn gosod y sylfeini ar gyfer gyrfa lle gallwch wneud gwahaniaeth go iawn i ofal iechyd yn y byd ehangach.