Mae ein graddedigion yn dilyn pob math o yrfaoedd cyffrous, o ymchwil a datblygiad ac astudiaeth PhD i gyllid a rheoli.
Dysgu sy’n rhoi’r myfyrwyr yn gyntaf
Rydym yn gwerthfawrogi ein myfyrwyr ac yn cynnig man dysgu arbennig ar bwys y tiwtoriaid fel bod gan y myfyrwyr a’r staff ddigon o gyfle i ryngweithio.
Amgylchedd ymchwil bywiog
Mae ein myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig, sy’n dod yn rhan annatod o’n grwpiau ymchwil o’r radd flaenaf, yn elwa o amgylchedd ymchwil bywiog yr Ysgol.
Mae'r MSc mewn Astroffiseg Data Ddwys wedi'i gynllunio i roi'r sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen arnoch ar gyfer gyrfa mewn ystod o feysydd gan gynnwys ymchwil academaidd mewn seryddiaeth neu astroffiseg yn ogystal â swyddi technegol, datblygu a pheirianneg mewn meysydd gwyddonol cysylltiedig.
Mae'r pynciau a addysgir yn adlewyrchu ein cryfderau rhagorol mewn ymchwil ddamcaniaethol, arsylwadol ac offerynnol ac mae'n cynnwys Cosmoleg, Uwch-Berthynoledd Cyffredinol a Thonnau Disgychol, Offeryniaeth ar gyfer Seryddiaeth a Thechnegau mewn Astroffiseg.
Mae'r MSc mewn Ffiseg Data-Ddwys wedi'i gynllunio i roi'r sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen arnoch ar gyfer gyrfa mewn ystod o feysydd gan gynnwys ymchwil academaidd mewn ffiseg yn ogystal â swyddi technegol, datblygu a pheirianneg mewn meysydd gwyddonol cysylltiedig.
Dyluniwyd yr MSc mewn Ffiseg Lled-ddargludyddion Cyfansawdd i ddarparu drwy hyfforddiant a phrofiad ymarferol mewn theorïau lled-ddargludyddion cyfansawdd, ffabrigo, cymwysiadau, ac integreiddio â thechnoleg silicon.
Mae'r pynciau a addysgir yn adlewyrchu ein harbenigedd ymchwil mewn Ffiseg Cwantwm, Ffotoneg, dadansoddiad Damcaniaethol a Chyfrifiadurol, Synwyryddion a Deunyddiau yn ogystal ag Astroffiseg.
Mae rhaglen MSc Ffiseg Tonnau Disgyrchol yn cynnig hyfforddiant eang a chynhwysfawr o ran theori ac arbrofi ym maes ffiseg a seryddiaeth tonnau ddisgyrchol (GW).
Mae’r ystod eang o arbenigedd yn yr Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth yn galluogi'r ysgol i gynnig amrywiaeth o gyfleoedd ar gyfer graddau uwch drwy ymchwil.
Mae Mater Cywasgedig a Ffotoneg yn faes ymchwil lle galwch ganolbwyntio eich astudiaethau fel rhan o’n cyfres o raglenni ymchwil Ffiseg a Seryddiaeth (MPhil, PhD).
Mae Offeryniaeth Seryddiaeth yn faes ymchwil lle galwch ganolbwyntio eich astudiaethau fel rhan o’n cyfres o raglenni ymchwil Ffiseg a Seryddiaeth (MPhil, PhD).
Mae Seryddiaeth ac Astroffiseg yn faes ymchwil lle galwch ganolbwyntio eich astudiaethau fel rhan o’n cyfres o raglenni ymchwil Ffiseg a Seryddiaeth (MPhil, PhD).
Ein sgyrsiau
Esblygiad Galaethau
Dyma’r Athro Steven Eales yn disgrifio’r ymchwil sy’n cael ei chynnal i ddarganfod sut mae galaethau yn cael eu ffurfio.
Y Sefydliad Archwilio Disgyrchiant
Dyma’r Athro Bernard Schutz yn disgrifio’r gwaith sy’n cael ei gynnal gan ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd ynghylch tonnau disgyrchol a dyfodol y gwyddoniaeth ffiniol hwn.
Microsgopeg Electron Ynni Isel
Dyma Dr Juan Pereiro Viterbo yn sôn am ei ymchwil mewn Microsgopeg Electron Ynni Isel a Lled-ddargludyddion.
A ydym wedi darganfod arwyddion o fywyd ar y Blaned Gwener?
Mae'r Athro Jane Greaves o Brifysgol Caerdydd yn disgrifio'r darganfyddiad diweddar roedd yn rhan ohono, sef dod o hyd i farcwyr ffosffin ar y Blaned Gwener sy'n dangos bod bywyd yno
Myfyriwr PhD yn torri record gyda darganfyddiad cosmig
Fe chwaraeodd y myfyriwr PhD Charlie Hoy ran allweddol mewn darganfyddiad cosmig sy’n gam mawr ymlaen ar gyfer dirgelwch astroffiseg parhaus.
Cyfleoedd am PhD ym maes gweithgynhyrchu lled-ddargludyddion cyfansawdd
Yr Athro Peter Smowton, Cyfarwyddwr y Ganolfan ar gyfer Hyfforddiant Doethurol mewn Gweithgynhyrchu Lled-ddargludyddion Cyfansawdd, yn sôn am y cyfleoedd PhD sydd ar gael ym Mhrifysgol Caerdydd. Dysgwch pam mae dargludyddion cyfansawdd mor bwysig, ein dulliau ymarferol a rhyngddisgyblaethol, a strwythur y PhD ei hun.
Rhagor o wybodaeth am yr Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth
Rydym yn gwerthfawrogi cydraddoldeb a chynwysoldeb ac rydym wedi derbyn statws Hyrwyddwr Juno IOP yn ddiweddar.
Canolfan Hyfforddiant Doethurol (CDT) mewn Gweithgynhyrchu Lled-ddargludyddion Cyfansawdd
Edrychwch ar ein Cyngor Ymchwil y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg (EPSRC) CDT mewn Gweithgynhyrchu Lled-ddargludyddion Cyfansawdd i ddysgu am yr amrywiaeth o ysgoloriaethau PhD sydd ar gael.