Rydym yn ymchwilio i gymhlethdod ein byd sy'n newid yn gyflym, gan archwilio pynciau sy'n adlewyrchu ein cryfderau ymchwil mewn athroniaeth foesol, epistemoleg ac athroniaeth meddwl a gwybyddiaeth.
Staff arobryn
Rydym yn cynnal digwyddiadau a darlithoedd cangen y Sefydliad Athroniaeth Brenhinol yn rheolaidd, gan gyflwyno'r meddwl diweddaraf gan arbenigwyr blaenllaw.
Effaith gymdeithasol
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu effaith gymdeithasol fuddiol o'n gwaith. Ymhlith ein prosiectau diweddaraf mae 'Newid agweddau at drafodaeth gyhoeddus'.
Cyflogadwyedd
93% o'n graddedigion ôl-raddedig a addysgir mewn cyflogaeth a/neu’n astudio ymhellach, ar fin dechrau swydd neu gwrs newydd, neu’n gwneud gweithgareddau eraill fel teithio, 15 mis ar ôl diwedd eu cwrs (Arolwg Hynt Graddedigion 2020/21).
Gweithio gyda staff sydd ar flaen y gad yn y ddisgyblaeth, i fynd i'r afael â heriau traddodiadol a newydd mewn athroniaeth a'i chymwysiadau bywyd go iawn.
Mae myfyrwyr ar y cwrs PhD Theori Feirniadol a Diwylliannol yn derbyn goruchwyliaeth gan staff ac academaidd gydag ymrwymiad hirdymor i ragoriaeth ac amrywiaeth mewn ymchwil, sy’n gweithio ar flaen y gad o ran ymchwil arloesol mewn theori feirniadol a diwylliannol.
Ein sgyrsiau a'n fideos
Athroniaeth
Rhagor o wybodaeth am ein MA Athroniaeth.
Dewch i ddarganfod ein Hysgol
Cymerwch gipolwg ar sut brofiad fyddai astudio gyda ni yng Nghaerdydd.
Archwiliwch faterion cyfoes diddorol a chymhleth gydag athronwyr a gydnabyddir yn rhyngwladol. Bydd ein rhaglen MA yn werth chweil o ran datblygu eich gwybodaeth o faterion a thechnegau athronyddol, gan ganolbwyntio ar bynciau blaenllaw epistemoleg, athroniaeth foesol, ac athroniaeth y meddwl a gwybyddiaeth.
Mewn cymuned ymchwil ffyniannus a chefnogol lle cynhelir seminarau am waith sy’n mynd rhagddo i ôl-raddedigion, grwpiau darllen drwy gydol y flwyddyn, gweithdai a chynadleddau, mae ôl-raddedigion Athroniaeth yn rhaglen siaradwyr gwadd y Sefydliad Athroniaeth Brenhinol sy’n ysgogi’r meddwl, ac mewn cynhadledd flynyddol.
Gwnewch eich cyfraniad gwreiddiol at wybodaeth mewn cymuned ymchwil ffyniannus sy'n enwog yn rhyngwladol. Mae ein PhD yn cynnig ystod amrywiol o hyfforddiant ymchwil ynghyd â'r cyfle i gael profiad addysgu drwy ein rhaglen 'Dysgu i Addysgu' sydd wedi'i hachredu gan SAU.
Lleoliad canolog
Byddwch yn astudio yn ein campws yng nghanol ein dinas werdd yn Adeilad John Percival a chewch fynediad hwylus at gyfleuster ardderchog Archifau a Chasgliadau Arbennig y Brifysgol yn Llyfrgell y Celfyddydau a’r Gwyddorau Cymdeithasol gerllaw.
Ewch ati i fwynhau amrywiaeth llenyddiaeth Saesneg a dod o hyd i gysylltiadau ar draws diwylliant poblogaidd a theori, neu fireinio eich sgiliau Ysgrifennu Creadigol gyda’n hawduron proffesiynol.
Ffynhonnell: Yn cynnwys data HESA: Hawlfraint Jisc 2023. Ni all Jisc dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau a wneir gan drydydd partïon ar sail ei ddata.