Ewch i’r prif gynnwys

Rydyn ni’n cynnig amrywiaeth o raglenni ôl-raddedig proffesiynol i fferyllwyr cymwysedig, ymarferwyr gofal iechyd a gwyddonwyr biofeddygol. Rydyn ni’n gobeithio y byddwch chi’n ymuno â'n cymuned glòs yn Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol Caerdydd.
Yr Athro Mark Gumbleton Athro Therapiwteg Arbrofol a Chyfarwyddwr Ymchwil

Pam y dylech barhau â'ch astudiaethau gyda ni

academic-school

Mwy na 100 mlynedd o ragoriaeth wrth addysgu ac ymchwilio

Ysgol glòs a hirsefydlog ydyn ni ac yn ddiweddar dathlon ni ein canmlwyddiant.

globe

Cydnabyddiaeth ryngwladol

Rydyn ni’n cael ein cydnabod yn rhyngwladol am ein haddysgu a’n hymchwil amlddisgyblaethol sydd ar flaen y gad ac o safon uchel.

molecule

Ysgol gyntaf ar y cyd y gwyddorau fferylliaeth a fferyllol ym maes ymchwil

Yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil diweddaraf (2014), ein ysgol fferylliaeth oedd yr ysgol orau ar y cyd o ran ansawdd ac effaith ein hymchwil.

people

Cefnogaeth academaidd gyson

Beth am ymgymryd â phrosiect ymchwil mewn ysgol ymchwil a gydnabyddir yn rhyngwladol, a derbyn cefnogaeth academaidd gyson gan diwtor personol profiadol.

building

Cyfleusterau ymchwil ac addysgu modern

Mae gennym gyfleusterau o'r radd flaenaf ac yn eu plith mae chwe ystafell ymgynghori a adeiladwyd o’r newydd yn ddiweddar ar gyfer gweithgareddau sy'n gysylltiedig ag ymarfer fferylliaeth.

people

Ein rhwydweithiau a'n dull amlddisgyblaethol

Mae ein hymchwilwyr a'u rhwydweithiau rhyngwladol yn gweithio ar draws timau amlddisgyblaethol, gan ganiatáu ichi weithio ar y cyd yn ystod eich amser gyda ni.

Cyrsiau

Canser Bioleg a Therapiwteg (MSc)

Amser llawn

Bydd gan y graddedigion o’r cwrs hwn hyfforddiant eang a thrylwyr yn canolbwyntio ar ganser fydd yn eu gwneud yn ymgeiswyr hygred i ddechrau gyrfa neu symud ymlaen yn eu gyrfa yn y sector iechyd neu sefydliadau ymchwil.

Fferylliaeth Glinigol (2 flynedd) (PgDip)

Dysgu cyfunol rhan amser

Yn gymhwyster allweddol ar gyfer datblygu gyrfa glinigol mewn fferyllfa ysbyty, mae’r rhaglen yn cael ei ariannu gan y GIG ac fe'i cefnogir gan Gyfarwyddwyr Cyrsiau Cyswllt ledled Cymru a thiwtoriaid profiadol sy'n seiliedig ar waith ar safleoedd ysbyty achrededig.

Fferylliaeth Glinigol (3 flynedd) (PgDip)

Dysgu cyfunol rhan amser

Yn gymhwyster allweddol ar gyfer datblygu gyrfa glinigol mewn fferyllfa ysbyty, mae’r rhaglen yn cael ei ariannu gan y GIG ac fe'i cefnogir gan Gyfarwyddwyr Cyrsiau Cyswllt ledled Cymru a thiwtoriaid profiadol sy'n seiliedig ar waith ar safleoedd ysbyty achrededig.

Fferylliaeth Glinigol (MSc)

Rhan amser yn dysgu o bell

Mae'r rhaglen hon ar gael i'r rhai sydd wedi cwblhau'r Diploma Ôl-raddedig mewn Fferylliaeth Glinigol.

Ymchwil Glinigol (MSc)

Rhan amser yn dysgu o bell

Mae'r cwrs dysgu o bell rhan-amser hwn yn cynnig gwybodaeth ac arbenigedd helaeth sy'n berthnasol i'r rhai sy'n gweithio mewn treialon clinigol. Mae hefyd yn addas ar gyfer y rhai mewn rôl uwch mewn ymchwil glinigol mewn ymchwil fferyllol, biotechnoleg, dyfeisiau, contractau neu gwmni rheoli safle neu'r GIG.

Cemeg Feddyginiaethol (PhD, MPhil, MD)

Amser llawn, rhan-amser

Mae Cemeg Feddyginiaethol yn faes ymchwil lle galwch ganolbwyntio eich astudiaethau fel rhan o’n cyfres o raglenni ymchwil Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol (MPhil, PhD).

Darparu Cyffuriau a Microbioleg (PhD, MPhil, MD)

Amser llawn, rhan-amser

Mae Darparu Cyffuriau a Microbioleg yn faes ymchwil lle galwch ganolbwyntio eich astudiaethau fel rhan o’n cyfres o raglenni ymchwil Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol (MPhil, PhD).

Ffarmacoleg a Ffisioleg (PhD, MPhil, MD)

Amser llawn, rhan-amser

Mae Ffarmacoleg a Ffisioleg yn faes ymchwil lle galwch ganolbwyntio eich astudiaethau fel rhan o’n cyfres o raglenni ymchwil Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol (MPhil, PhD).

Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol (PhD, MPhil, MD)

Amser llawn, rhan-amser

Byddwch yn astudio ac yn gweithio mewn ysgol aml-ddisgyblaethol hunangynhwysol, gyda chyfleoedd gwych ar gyfer cydweithio gydag adrannau cysylltiedig cryf ym mhob un o'r gwyddorau biofeddygol yn yr un gyfadran, y Coleg Biofeddygol Gwyddorau Bywyd, neu gyda Ysgolion Cemeg neu Beirianneg y Brifysgol.

Ymarfer Fferylliaeth a Fferylliaeth Glinigol (PhD, MPhil, MD)

Amser llawn, rhan-amser

Mae Ymarfer Fferylliaeth a Fferylliaeth Glinigol yn faes ymchwil lle galwch ganolbwyntio eich astudiaethau fel rhan o’n cyfres o raglenni ymchwil Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol (MPhil, PhD).

Ein sgyrsiau

Cyflwyniad i'n MSc mewn Bioleg Canser a Therapiwteg

Mae'r fideo hwn gan Gyfarwyddwr y Cwrs, Dr Steve Hiscox, yn darparu trosolwg o'r cwrs MSc amser llawn blwyddyn hwn sydd wedi'i gynllunio i roi gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau uwch i chi ym maes Bioleg Canser a Therapiwteg. Felly, p'un a ydych chi'n bwriadu paratoi'ch hun yn well ar gyfer ymchwil doethuriaeth neu am gyflawni cymhwyster uwch hunangynhwysol, bydd y rhaglen ôl-raddedig hon yn eich rhoi mewn lle rhagorol ar gyfer eich dyfodol.

Diddordeb? Gwneud cais ar gyfer ein MSc Bioleg Canser a Therapiwteg. (Saesneg)

Trosolwg o'r Cwrs Ymchwil Ôl-raddedig (PhD/Mphil)

Yn y fideo byr hwn, Dr Emma Lane, yn rhoi trosolwg o sut y gallwch chi ymgymryd ag ymchwil PhD gyffrous, arloesol yn ein Hysgol fywiog sy'n arwain y byd. Dysgwch sut mae ein hymchwil ryngddisgyblaethol yn cwmpasu darganfod, datblygu a defnyddio meddyginiaethau a therapiwteg ar draws sbectrwm o afiechydon gan gynnwys canser, haint, anhwylderau cyhyrysgerbydol, cardiofasgwlaidd, anadlol a niwroddirywiol. (Saesneg)

Diddordeb? Gwneud cais ar gyfer ein PhD / MPhil Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol.

Rhaglenni ôl-raddedig a addysgir ar gyfer fferyllwyr cymwys:

Rhagnodi Annibynnol Fferyllydd

Nod y cwrs yw rhoi statws Rhagnodwr Annibynnol i alluogi fferyllwyr i ddefnyddio eu medrau yn y ffordd orau fel y bydd moddion ar gael i gleifion mor gyflym ac effeithlon ag y bo modd. Mae’r rhaglen ar gyfer nyrsys, bydwragedd a phroffesiynolion iechyd eraill hefyd, gan gynnig cyfle i bobl mewn gwahanol feysydd ddysgu gyda’i gilydd.  Mae’r cwrs yn cynnwys cyfres o ddiwrnodau astudio, dysgu wrth eich pwysau, asesiadau ac amser o dan oruchwyliaeth ymarferwr iechyd dynodedig i baratoi portffolio rhagnodi.

Diddordeb? Gwneud cais ar gyfer Presgripsiynu Annibynnol Fferyllwyr

Diolch am drefnu cwrs mor rhagorol. Yn hawdd, y cwrs mwyaf pleserus a pherthnasol i mi ei wneud oedd e. Roedd yn wych gallu rhoi theori ar waith ar unwaith. Mae nid yn unig wedi rhoi sgiliau a gwybodaeth newydd i mi ond hefyd wedi newid y ffordd rydw i'n ymarfer o ddydd i ddydd. Mae wedi adnewyddu fy mrwdfrydedd dros y proffesiwn ac am hyn rwy'n ddiolchgar iawn.
Ceri Phillips, Fferyllydd Gwrthficrobaidd a Rhagnodydd Annibynnol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Rhaglenni ôl-raddedig a addysgir ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill a gwyddonwyr biofeddygol:

Bywydeg Cancr a Therapiwteg (MSc)

Diben y cwrs hwn yw meithrin gwybodaeth, dealltwriaeth a medrau uwch ym maes bywydeg cancr a therapiwteg, sy’n prysur ddatblygu. Byddwn ni’n rhoi ichi hyfforddiant eang a dwfn am gancr gan gryfhau eich gobeithion ynghylch dechrau neu gynyddu gyrfa ym maes gofal iechyd a sefydliadau ymchwil gwladol/preifat.

Boed ymbaratoi ar gyfer ymchwil ddoethurol neu ennill cymhwyster uwch, bydd y rhaglen hon i ôl-raddedigion yn rhoi ichi gyfuniad cytbwys o waith damcaniaethol ac ymarferol yn ôl natur eich anghenion a’ch gyrfa.

Mae'r cwrs gwirioneddol integredig hwn yn ymchwilio yn ddyfnach i'r wyddoniaeth y tu ôl i ganser ac mae hefyd wedi rhoi cyfle i mi weld y clefyd a'i driniaeth o'r ochr glinigol hefyd. P'un a ydych chi'n Fferyllydd neu'n Fiomeddyg neu'n Feddyg, fe welwch rywbeth yn y cwrs hwn y byddwch chi'n ei fwynhau ac yn gallu uniaethu ag ef. Ac, fel fi, byddwch chi mewn gwell sefyllfa ar gyfer eich dyfodol hefyd.
Lauren, MSc Myfyriwr Bioleg a Therapiwteg Canser

Cyfleoedd i ôl-raddedigion gynnal ymchwil

Ar gyfer doethuriaeth a gradd meistr, mae modd cynnal ymchwil mewn sawl maes megis cyflwyno cyffuriau a microbioleg, fferylliaeth feddygol, ffarmacoleg a ffisioleg, fferylliaeth, ymarfer fferylliaeth a fferylliaeth glinigol.

Mae’n hymchwilwyr a'u rhwydweithiau rhyngwladol yn gweithio ar draws timau amlddisgyblaethol, gan eich galluogi i weithio ar y cyd ar draws ysgolion gwahanol yn y Brifysgol ynghyd â phartneriaid yn y GIG a’r byd diwydiannol. Mae'r rhyngddisgyblaeth hon yn helpu ein hôl-raddedigion i lunio eu hyfforddiant meithrin gwybodaeth a medrau er eu gyrfaoedd.

Two female students in a lab with test tubes
molecule

Postgraduate research opportunities

Our postgraduate research degree focuses on the discovery, development and usage of medicines across a spectrum of disease areas, giving you the freedom to investigate a cutting-edge topic in depth amongst leading researchers with first-class facilities.

Darganfod Prifysgol Caerdydd

Student getting advice

Cefnogi myfyrwyr

Cewch gyngor diduedd, cyfrinachol ac am ddim ar anabledd a dyslecsia, arian, gyrfaoedd, cwnsela a mwy.

Postgraduate students applying for a postgraduate loan

Ariannu eich astudiaethau

Mwy o wybodaeth am yr ysgoloriaethau, pecynnau cymorth llywodraeth y DU, a’r benthyciadau i fyfyrwyr sydd ar gael ar eich cyfer.

Cegin (hygyrch)

Pori drwy ddewisiadau llety

Ddim yn siŵr pa lety i ddewis? Gall ein canllaw cymharu defnyddiol eich helpu i wneud penderfyniad.

A student shopping in a mini mart

Costau byw

Gweld pa mor bell fydd eich arian yn mynd drwy ddefnyddio ein cyfrifiannell costau byw.

Camau nesaf

Download icon

Lawrlwythwch ein Llawlyfr Ymchwil

Dysgu mwy am ein tîm, effaith ein gwaith ymchwil sy’n arwain y byd, a llwyddiannau ein myfyrwyr PhD.

Download icon

Mwy amandanom ni

Mae ein prif dudalennau Ysgol yn cynnwys llawer iawn o wybodaeth ddefnyddiol a rhesymau dros ddatblygu eich astudiaeth yng Nghaerdydd.

notepad

Sut i wneud cais

Popeth y mae angen i chi ei wybod am y broses ymgeisio.

Rhaglenni eraill a allai fod o ddiddordeb

Tocsicoleg Feddygol (PgDip)

Anelir y rhaglen at feddygon, fferyllwyr a gwyddonwyr eraill a hoffai ddatblygu dealltwriaeth eang o egwyddorion sylfaenol gwenwyneg feddygol.