
Optometreg a gwyddorau’r golwg
Ni yw'r unig adran hyfforddi optometrig yng Nghymru ac mae gennym enwda o'r radd flaenaf am ein haddysg a’n hymchwil i wyddorau’r golwg.
Cyrsiau
Pam astudio gyda ni?
Yn y 2 uchaf
Dysgwch yn un o'r Ysgolion Optometreg mwyaf blaenllaw yn y Deyrnas Unedig. Rydym yn gyson yn y 2 uchaf yn y Complete University Guide.
Cyfleuster optometreg gwerth £22 miliwn
Mae ein Hysgol mewn cyfleuster optometreg pwrpasol gwerth £22 miliwn gyda chlinig llygaid ar y safle.
Achrededig
Achredir nifer o’n modiwlau a’n rhaglenni gan y Cyngor Optegol Cyffredinol (GOC) neu Goleg yr Optometryddion ar gyfer Cymwysterau Proffesiynol Uwch.
Ar ôl gweithio ers dros 20 mlynedd, rydw i’n teimlo fy mod wedi dysgu am Optometreg yn iawn erbyn hyn! Mae’r cwrs wedi bod yn waith caled ond mae’r sgiliau rydw i wedi’u dysgu wedi bod werth yr ymdrech. Gyda’r wybodaeth rydw i wedi’i gael, rydw i’n gallu trin a rheoli fy nghleifion yn well, hyd yn oed cyn fy lleoliad ysbyty. Mae’r tiwtoriaid ac arweinydd y cwrs yn wybodus iawn ond roedden nhw’n gallu esbonio unrhyw beth mewn ffordd sy’n hawdd ei ddeall. Bydd y cwrs hwn yn gwella eich hyder ac yn rhoi hwb i’ch gyrfa tuag at y lefel nesaf.
Ein cyrsiau ôl-raddedig a addysgir
Ein modiwlau a’n rhaglenni ôl-raddedig a addysgir
Mae ein rhaglenni a’n modiwlau yn hyblyg ac yn cynnig cyfle i chi astudio'n amser llawn neu'n rhan amser. Gallwch ddewis y modiwlau sy’n addas i chi a gallwch astudio o bell neu yng Nghaerdydd. Mae pob dull astudio yn defnyddio ein hamgylchedd dysgu rhithwir ac yn cynnwys cysylltiad uniongyrchol gyda’ch tiwtoriaid.
Ymchwil clinigol uwch yn seiliedig ar dystiolaeth sy'n llywio ein holl addysgu, ac mae llawer o'n staff dysgu yn arbenigwyr yn eu meysydd. Mae gan ein hacademyddion brofiad helaeth mewn ymarfer offthalmig ac wedi ennill gwobrau anrhydeddus am eu hymchwil i wyddorau’r golwg gan gynnwys Gwobr Pen-blwydd y Frenhines.
Ymchwil ôl-raddedig

Gwyddorau'r Golwg (PhD)
Mae ein graddau ymchwil yn canolbwyntio ar ymchwil annibynnol, lle mae myfyrwyr yn cael eu goruchwylio gan ein hacademyddion rhagorol.
Rydym yn croesawu graddedigion o
amrywiaeth fawr o gefndiroedd gwyddonol.
Ar ôl ennill gradd BSc ac MSc s o Brifysgol Caerdydd, roeddwn i’n gwybod am y cyfleusterau a'r oruchwyliaeth ragorol sydd ar gael, ac felly roedd hi’n hawdd gwneud y penderfyniad i ddod i astudio PhD yn y labordy Bioffiseg Adeileddol yn yr Ysgol. Yn ystod fy PhD, roeddwn i’n ddigon ffodus i gyflwyno fy ngwaith mewn cynadleddau cenedlaethol a rhyngwladol gerbron arweinwyr y byd yn y maes, ac roedd hyn wedi arwain at brosiectau cydweithio rhyngwladol. Gyda'i gilydd, roedd y sgiliau trosglwyddadwy hyn wedi fy mharatoi ar gyfer gyrfa yn y byd academaidd ac yn y pen draw, oherwydd y rhain, roeddwn i’n gallu cael swydd ôl-ddoethurol ym Mhrifysgol Harvard.
Ein Hysgol
Mae'r Ysgol mewn cyfleuster optometreg pwrpasol gwerth £22 miliwn ac ar Gampws Arloesedd Parc Maendy. Rydym mewn man cyfleus ger adeiladau academaidd eraill, Undeb y Myfyrwyr, siopau canol y ddinas, parcdir deniadol a nifer o breswylfeydd myfyrwyr.
Ni yw’r unig adran hyfforddiant optometreg yng Nghymru. Rydym wedi ein hen sefydlu ac mae gennym lawer o adnoddau ac enw gwych yn rhyngwladol. Mae ein clinig llygaid ar y safle yn gwella ein gweithgareddau addysgu ac ymchwilio. Mae’n agored i’r cyhoedd ac yn cynnig lleoliadau mewnol a chyfleoedd ymchwil i’n myfyrwyr.
Rhagor o wybodaeth
Rydw i wedi cwblhau cyrsiau gan sefydliadau eraill, ac mae’r cyrsiau ym Mhrifysgol Caerdydd yn cael eu rhedeg mewn modd proffesiynol iawn ac yn cyflawni nodau’r cwrs sydd wedi fy ngalluogi i ymestyn hyd a lled fy ymarfer. Rydw i’n credu bod dilyn y cymwysterau uwch wedi fy ngalluogi i gymryd cam cadarn ymlaen yn fy ngyrfa broffesiynol a darparu gofal llawer gwell nag oeddwn i’n gallu cyn astudio yng Nghaerdydd.
Darganfod Prifysgol Caerdydd
Camau nesaf
Rhagor o wybodaeth am ein Hysgol
Ewch i wefan yr Ysgol a thudalennau'r rhaglen i ddysgu mwy.
Lawrlwytho ein llyfryn ôl-raddedig
Rhagor o wybodaeth am ein cyrsiau, yr Ysgol a’r Brifysgol ehangach.
Cysylltu â ni
Gofynnwch gwestiwn drwy ein ffurflen ymholi, a chewch ateb gennym cyn gynted ag y bo modd.
Dilynwch ni ar Twitter
I gael hyd yn oed mwy o newyddion a diweddariadau - dilynwch ni @SchoolOfOptom.