Therapi galwedigaethol
Rydym yn cynnig dwy raglen ôl-raddedig arloesol mewn Therapi Galwedigaethol.
Ydych chi'n Therapydd Galwedigaethol cymwysedig neu efallai yn meddwl ymuno â phroffesiwn gwerth chweil? Rydym yn cynnig dwy raglen ôl-raddedig sy’n elwa ar ein cysylltiadau agos gyda Choleg Brenhinol y Therapyddion Galwedigaethol, Cyngor y Proffesiynau Iechyd a Gofal, byrddau ac ymddiriedolaethau iechyd lleol, adrannau gwasanaethau cymdeithasol a chyrff gwirfoddol.
Pam y dylech astudio gyda ni
Ein henw da
Rydym yn ddarparwr addysg gofal iechyd blaenllaw yn y DU.
Ein tîm academaidd
Mae ein rhaglen ôl-raddedig a addysgir yn elwa o gyfraniad ymchwilwyr o fri byd-eang a chlinigwyr sy'n arbenigwyr yn eu maes.
Ein hymchwil
Gosodwyd ein hymchwil yn 4ydd yn y DU yn gyffredinol a ni sydd ar y brig am ein hamgylchedd ymchwil (REF 2014).
Ein myfyrwyr
Mae ein rhaglen yn denu myfyrwyr o bedwar ban byd. Rydym ni'n gweithio gyda'n gilydd i rannu syniadau a datblygu'r ymarfer gofal iechyd gorau.
Ein cyfleusterau
Ceir amgylchedd perffaith ar gyfer astudio ôl-raddedig yn ein labordai a'n llyfrgelloedd technoleg uchel.
Cyrsiau
Ein sgyrsiau
Byddwch yn rhan o rywbeth fydd yn newid bywydau, heddiw
Beth mae'n myfyrwyr yn ei feddwl am astudio gyda ni...
Ewch ar daith rithwir o gwmpas ein cyfleusterau
Darganfod mwy am ein hymchwil
Ein modiwlau unigol
Diddordeb mewn astudio'n fwy hyblyg?
Rydym ni'n cynnig cyfres amrywiol o fodiwlau unigol i'w hastudio ar lefel 6 a lefel 7.
Darganfod Prifysgol Caerdydd
Dechreuwch eich taith ym maes gofal iechyd gyda ni
Gwnewch eich gwaith ymchwil
Ewch i wefan ein Hysgol a thudalennau'r rhaglen i gael rhagor o wybodaeth.
Dilynwch ni ar Twitter
I gael hyd yn oed mwy o newyddion a diweddariadau - dilynwch ni @CUHealthSci.
Cysylltwch â ni
Cysylltwch â ni ar bob cyfrif os oes gennych unrhyw gwestiynau, boed yn rhai mawr neu’n rhai bach. Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych