Heriwch eich hun yn academaidd ac yn gerddorol wrth astudio yn ein Hysgol Cerddoriaeth ddeinamig. Mae ein gradd yn cynnig paratoad proffesiynol o’r radd flaenaf sy’n rhoi’r cyfarpar sydd ei angen arnoch i lwyddo ar ôl graddio.
Rhagoriaeth ymchwil
90% o'n hamgylchedd ymchwil yn cael ei ystyried i fod yn addas i wneud ymchwil sy'n arwain y byd neu sy'n rhagorol yn rhyngwladol (REF 2021).
Gweithio gyda cherddorion proffesiynol
Gweithdai, dosbarthiadau meistr a seminarau a gyflwynir gan gyfansoddwyd, cerddolegwyr a pherfformwyr proffesiynol.
Llwybrau arbenigol
Addaswch eich astudiaethau i’ch dyheadau gyrfaol gan ddewis o Berfformio, Cyfansoddi, Cerddoleg, neu Addysg Gerddorol.
Cynnig sialens personol i chi yn academaidd a cherddorol wrth i chi gynllunio eich rhaglen gyda’i phosibiliadau cyfoethog er gwireddu uchelgais y mae eich bryd arno ar gyfer y dyfodol.
Gallwch arbenigo ar unrhyw un o’r meysydd hyn ar gyfer eich PhD, gan gyflwyno gwaith mewn un o dri fformat: ar ffurf traethawd ymchwil, portffolio o gyfansoddiadau gyda sylwebaeth, neu ddatganiad perfformio ynghyd â thraethawd ymchwil atodol.
Mae Caerdydd yn gartref i Opera Cenedlaethol Cymru, Cerddorfa Genedlaethol Cymru y BBC, Amgueddfa Genedlaethol Cymru ac un o ganolfannau cynhyrchu blaenllaw’r BBC. Mae llu o leoliadau yn y ddinas ar gyfer cerddoriaeth fyw, o leoliad o’r radd flaenaf Canolfan Mileniwm Cymru, i fannau bach ac annibynnol.
Mae ein gradd meistr mewn Cerddoriaeth yn cynnig dysgu ymarferol a thrwy ddarlithoedd fydd yn eich herio'n gerddorol ac yn academaidd. Gallwch deilwra eich astudiaethau i'ch nodau a'ch dyheadau gyrfa, gan ddewis astudio llwybr mewn Cyfansoddi, Perfformio, Addysg Gerddorol, neu Cerddoleg
Bydd ein rhaglenni PhD yn eich helpu i wella eich sgiliau fel cyfansoddwr, perfformiwr neu gerddolegydd. Cewch ryddid i ymchwilio eich dewis arbenigedd yn fanwl, gan fynychu cynadleddau, gweithdai a dosbarthiadau meistr tra'n gweithio hefyd gydag ymchwilwyr, cyfansoddwyr a pherfformwyr.
Hyfforddiant cerddorol trylwyr mewn amgylchedd celfyddydau breiniol bywiog a llawn dychymyg.
Yn ein hadeilad pwrpasol, mae gennym yr holl gyfleusterau y mae arnoch eu hangen i lwyddo yn eich astudiaethau. Mae gennym ddarlithfeydd â thechnoleg fodern i recordio darlithoedd, ystafelloedd seminar, dros 25 o ystafelloedd ymarfer, ystafelloedd ensemble, stiwdios electroacwstig a neuadd gyngherddau 250 sedd.