Ewch i’r prif gynnwys

Mae ein byd, a'r heriau gofal iechyd sydd ynddo, yn parhau i newid yn gyflym, ac felly hefyd y mae anghenion cleifion mewn ystod eang o ddisgyblaethau meddygol a gofal iechyd. Mae’n bwysicach nag erioed bod gweithwyr meddygol a gofal iechyd proffesiynol fel chi yn parhau i ddatblygu eu sgiliau clinigol er mwyn arloesi yn y gwaith a datblygu sylfaen eu gwybodaeth trwy gydol eu gyrfaoedd. Mae'r dudalen hon yn eich galluogi i ddod o hyd i’r ystod eang o gyrsiau galwedigaethol y gallwch eu gwneud yma ym Mhrifysgol Caerdydd, yn ogystal â rhoi cyngor ar sut i ddatblygu eich cais.
Dr Stephen Greenwood Lecturer

Gwylio gweminarau ar alw

Gwyliwch y gweminar hwn i gael rhagor o wybodaeth am ein rhaglenni MSc mewn Biowybodeg a Biowybodeg gydag Epidemioleg Genynnol.

Cyflwyniad i Fiowybodeg

Gwyliwch y gweminar hwn i gael rhagor o wybodaeth am ein rhaglenni MSc mewn Biowybodeg a Biowybodeg gydag Epidemioleg Genynnol.

Ymunwch â Dr Fiona Rawlinson o'r Ysgol Meddygaeth yn ymdrin â chynnwys a dulliau addysgu'r MSc mewn Meddygaeth Liniarol ar gyfer Gweithwyr Gofal Iechyd.

Cyflwyniad i Feddygaeth Liniarol ar gyfer Gweithwyr Gofal Iechyd (MSc)

Ymunwch â Dr Fiona Rawlinson o'r Ysgol Meddygaeth yn ymdrin â chynnwys a dulliau addysgu'r MSc mewn Meddygaeth Liniarol ar gyfer Gweithwyr Gofal Iechyd.

Ymunwch â chyfarwyddwr y rhaglen, yr Athro Marion McAllister, i gael gwybod mwy am y rhaglen MSc mewn Cwnsela Genetig a Genomeg yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Caerdydd.

Cyflwyniad i Gwnsela Genynnol a Genomig

Ymunwch â chyfarwyddwr y rhaglen, yr Athro Marion McAllister, i gael gwybod mwy am y rhaglen MSc mewn Cwnsela Genetig a Genomeg yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Caerdydd.

Ymunwch â chyfarwyddwr y rhaglen Dr Athanasios Hassoulas a dysgwch fwy am y rhaglen MSc mewn Seiciatreg yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Caerdydd.

Cyflwyniad i Seiciatreg

Ymunwch â chyfarwyddwr y rhaglen Dr Athanasios Hassoulas a dysgwch fwy am y rhaglen MSc mewn Seiciatreg yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Caerdydd.

Dysgwch fwy am baratoi ar gyfer eich cwrs ôl-raddedig a addysgir yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Caerdydd.

Paratoi ar gyfer eich astudiaethau ôl-raddedig a addysgir

Dysgwch fwy am baratoi ar gyfer eich cwrs ôl-raddedig a addysgir yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Caerdydd.

Yn y gweminar ar alw hwn, dysgwch fwy am Ymchwil Ôl-raddedig yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Caerdydd.

Ymchwil ôl-raddedig yn yr Ysgol Feddygaeth

Yn y gweminar ar alw hwn, dysgwch fwy am Ymchwil Ôl-raddedig yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Caerdydd.

Pam astudio gyda ni?

Astudiaethau ôl-raddedig yn Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd

Dysgwch pam mae ein staff a’n myfyrwyr yn argymell dewis Prifysgol Caerdydd fel y cam nesaf yn eich addysg feddygol.

Paratoi i wneud cais ar gyfer astudiaethau Ôl-raddedig

O'ch datganiad personol i'ch geirda, dysgwch beth ddylech chi fod yn meddwl amdano wrth lunio cais ar gyfer astudiaethau ôl-raddedig yn Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd.

Cyrsiau

Addysg Feddygol (MSc)

Amser llawn, Rhan amser, Rhan amser yn dysgu o bell

Bydd ein rhaglen yn apelio at y rhai sydd am ymchwilio i hanfodion addysg effeithiol ar gyfer y proffesiynau iechyd mewn lleoliad deinamig, ysgogol a chefnogol.

Addysg Feddygol (PgCert)

Rhan amser yn dysgu o bell

Mae’r Dystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysg Feddygol yn gwrs e-ddysgu, sy’n cynnig ffordd o adeiladu credyd astudio drwy gwrs tri cham, cynyddol ar-lein.

Biowybodeg ac Epidemioleg Enetig Cymhwysol (MSc)

Amser llawn

Nod y rhaglen yw rhoi cyfle i unigolion archwilio, dadansoddi a dehongli data biolegol cyfoes. Mae'r cwrs hwn yn cynnig cyfarwyddyd lefel Meistr mewn Biowybodeg ac Epidemioleg Genetig sy'n canolbwyntio ar epidemioleg genetig.

Biowybodeg ac Genomeg Cymhwysol (MSc)

Amser llawn

Nod y rhaglen yw rhoi cyfle i unigolion archwilio, dadansoddi a dehongli data biolegol cyfoes. Mae'r cwrs hwn yn cynnig addysg ar lefel gradd Meistr mewn Biowybodeg, gan ganolbwyntio ar fiowybodeg genomig.

Cwnsela Genetig a Genomig (MSc)

Rhan amser yn dysgu o bell

Byddwch yn cael eich trwytho mewn geneteg ddynol, geneteg, dadansoddi genetig a biowybodeg, mewn sgiliau cyfathrebu a chynghori, ac yn y sgiliau sy’n ofynnol iddynt ar gyfer weithio fel rhan o dîm amlddisgyblaethol sy’n rhoi cyngor genetig a genomig i deuluoedd.

Dermatoleg Glinigol (MSc)

Amser llawn

Mae'r cwrs hwn wedi'i gynllunio ar gyfer meddygon gydag o leiaf blwyddyn o brofiad meddygol cyffredinol. Mae'r MSc hwn yn cynnig addysg strwythuredig mewn dermatoleg ac yn rhoi sylfaen gadarn am hanfodion dermatoleg clinigol a gwyddonol. Mae'n blaenoriaethu cyfarwyddiadau clinigol, ond mae hefyd yn rhoi pwyslais ar gynnwys gwyddonol dermatoleg.

Dermatoleg Ymarferol (MSc)

Rhan amser yn dysgu o bell

Mae’r PgDip yn rhaglen dra rhyngweithiol, dysgu o bell ar-lein a gynlluniwyd i ddarparu dealltwriaeth gadarn o glefyd y croen fel mae’n ymddangos mewn arfer i gyfranogwyr, ac i alluogi Meddygon Teulu i reoli problemau dermatolegol yn llwyddiannus mewn cleifion. Mae’r MSc blwyddyn-o-hyd yn benodol ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sydd wedi cwblhau eu Tyst.Ôl-radd. mewn Dermatoleg Ymarferol ac sydd am astudio’r maes hwn ymhellach.

Dermatoleg Ymarferol (PgDip)

Amser llawn yn dysgu o bell, Rhan amser yn dysgu o bell

Mae’r PgDip yn rhaglen dra ryngweithiol, dysgu o bell ar-lein a gynlluniwyd i ddarparu dealltwriaeth gadarn o glefyd y croen fel mae’n ymddangos mewn arfer i gyfranogwyr, ac i alluogi Meddygon Teulu i reoli problemau dermatolegol yn llwyddiannus mewn cleifion. Mae’r MSc blwyddyn-o-hyd yn benodol ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sydd wedi cwblhau eu Tyst.Ôl-radd. mewn Dermatoleg Ymarferol ac sydd am astudio’r maes hwn ymhellach.

Geriatreg Glinigol (MSc)

Rhan amser yn dysgu o bell

Nod y radd MSc Geriatreg Glinigol yw rhoi gwybodaeth glinigol ddatblygedig o heneiddio ym maes iechyd a salwch fel y maent yn ei gyflwyno'n ymarferol i weithwyr gofal iechyd proffesiynol sydd â diddordeb arbennig mewn rheoli ac arwain gofal mewn oedolion hŷn.

Gofal Critigol (MSc)

Rhan amser yn dysgu o bell

Mae hon yn rhaglen e-ddysgu ryngbroffesiynol ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sy’n dymuno arbenigo mewn gofal acíwt neu ofal critigol ac ar gyfer y rheiny sy’n addysgu mewn lleoliadau o’r fath. Mae'n rhoi cyfleoedd i archwilio gofal critigol fel ffenomen aml-ddimensiwn, drwy’r dysgu a’r aseiniadau ar y modiwlau.

Iacháu Clwyfau a Thrwsio Meinweoedd (MSc)

Rhan amser yn dysgu o bell

Mae’r rhaglen yn gyfle i ymchwilio i’r damcaniaethau a’r cysyniadau presennol, a’r rhai sy’n datblygu, ynghylch iacháu clwyfau a thrwsio meinweoedd, ac i’w dadansoddi.

Iechyd Cyhoeddus (MPH)

Amser llawn, Rhan amser

Mae’r rhaglen Meistr yn Iechyd y Cyhoedd yn aml-ddisgyblaethol a thraws-broffesiynol o ran ei gynnwys a’r myfyrwyr mae’n ei ddenu fel arfer. Mae’r MPH wedi'i redeg yn llwyddiannus yng Nghaerdydd ers 1989 ac mae ganddo enw da yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.

Imiwnoleg Glinigol Gymhwysol ac Arbrofol (MSc)

Amser llawn

Cynlluniwyd y rhaglen hon gan arbenigwyr allanol sy’n gweithio ym maes Heintiau, Imiwnedd a Llid. Bydd astudio ar y rhaglen lawn amser hon yn eich galluogi i gynyddu eich ymwneud ag arbenigedd ymchwil yr Is-adran Haint ac Imiwnedd a Sefydliad Ymchwil y Brifysgol ar Imiwnedd Systemau.

Meddygaeth Genomeg a Gofal Iechyd (MSc)

Rhan amser yn dysgu o bell

Meddygaeth Lliniarol ar gyfer Gweithwyr Gofal Iechyd Proffesiynol (MSc)

Dysgu cyfunol rhan amser

Cynlluniwyd y rhaglen amlddisgyblaethol hon ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sydd am wella eu gwybodaeth am reoli cleifion gyda chlefydau angheuol neu glefydau na ellir eu gwella.

Rheoli Poen (MSc)

Amser llawn, Rhan amser yn dysgu o bell

Dyma gwrs rhyngbroffesiynol e-ddysgu a anelir at weithwyr gofal iechyd a hoffai arbenigo ym maes rheoli poen.

Seiciatreg (MSc)

Amser llawn yn dysgu o bell, Rhan amser yn dysgu o bell

Nod yr MSc mewn Seiciatreg ym Mhrifysgol Caerdydd yw cynnig addysg ôl-raddedig lefel meistr cyflawn i fyfyrwyr o bob cefndir.

Tocsicoleg Feddygol (MSc)

Rhan amser yn dysgu o bell

Mae'r rhaglen hon ar gael i'r rhai sydd eisoes wedi cwblhau ein PgDip mewn Tocsicoleg Meddygol.

Tocsicoleg Feddygol (PgCert)

Rhan amser yn dysgu o bell

Anelir y rhaglen at feddygon, fferyllwyr a gwyddonwyr eraill a hoffai ddatblygu dealltwriaeth eang o egwyddorion sylfaenol gwenwyneg feddygol.

Tocsicoleg Feddygol (PgDip)

Amser llawn yn dysgu o bell, Rhan amser yn dysgu o bell

Anelir y rhaglen at feddygon, fferyllwyr a gwyddonwyr eraill a hoffai ddatblygu dealltwriaeth eang o egwyddorion sylfaenol gwenwyneg feddygol.

Ymarfer Diabetes (MSc)

Rhan amser yn dysgu o bell

Nod yr MSc Ymarfer Diabetes yw rhoi gwybodaeth glinigol uwch am ddiabetes a materion sy'n ymwneud â diabetes fel y maent yn bresennol yn ymarferol i weithwyr gofal iechyd proffesiynol sydd â diddordeb arbennig mewn diabetes.

Addysg Feddygol (PhD)

Mae ymchwil addysgol yn hanfodol er mwyn gwella ymarfer proffesiynol meddygol ac iechyd, o'r ysgol meddygaeth i hyfforddiant ôl-raddedig, a datblygiad proffesiynol parhaus.

Canser a Geneteg (PhD)

Amser llawn, rhan-amser

Bydd y rhaglen hon yn arwain at radd ymchwil mewn canser a/neu geneteg y gellid eu defnyddio mewn amrywiaeth o leoliadau academaidd, clinigol a diwydiannol.

Haint ac Imiwnedd (PhD)

Amser llawn, rhan-amser

I gynnig gwybodaeth eang ac arbenigedd ym mhob agwedd ar brosesau clefyd imiwnolegol yn seiliedig ar y lefel cellog a moleciwlaidd, gyda chryfderau mewn imiwnedd cynhenid, imiwnoleg canser, bioleg celloedd-T a heintiau bacteriol a firaol.

Meddygaeth (PhD)

Amser llawn, rhan-amser

Mae’r Ysgol Meddygaeth yn cynnig graddau ymchwil mewn disgyblaethau meddygol fel canser, imiwnoleg, haint, imiwnedd, y niwrowyddorau, iechyd meddwl, meddygaeth boblogaeth ac addysg feddygol.

Meddygaeth Boblogaeth (PhD)

Amser llawn, rhan-amser

Mae rhaglenni ymchwil ôl-raddedig Is-adran Meddygaeth Boblogaeth yn canolbwyntio ar Atal ac ailgynllunio gwasanaethau gofal iechyd.

Meddygaeth Seicolegol a'r Niwrowyddorau Clinigol (PhD)

Amser llawn, rhan-amser

Mae Yr Isadran Meddygaeth Seicolegol a’r Niwrowyddorau Clinigol yn un o’r Adrannau prifysgol mwyaf o ran seiciatreg yn y DU, yn darparu arweiniad mewn arfer clinigol, addysgu ac ymchwil arloesol, o ansawdd uchel ar draws nifer o feysydd o arfer seiciatrig.

certificate

Arbenigedd cadarn

Ni yw un o’r darparwr mwyaf o gyrsiau meddygol ôl-raddedig a addysgir yn y DU.

globe

Astudio byd-eang

Cyflwynir llawer o’n cyrsiau yn rhannol neu’n gyfan gwbl o bell, gan eich galluogi i elwa o’n harbenigedd ble bynnag yr ydych.

telescope

Sgiliau galwedigaethol

Nod ein rhaglen yw gwella gyrfaoedd a gwybodaeth gweithwyr gofal iechyd proffesiynol presennol a gweithwyr eraill mewn meysydd cysylltiedig.

Cyflwyniad i’n hystod o raglenni a addysgir

Gweld rhestr lawn o’n rhaglenni.

Bydd astudio ar y rhaglen lawn amser hon yn eich galluogi i gynyddu eich ymwneud ag arbenigedd ymchwil yr Is-adran Haint ac Imiwnedd a Sefydliad Ymchwil y Brifysgol ar Imiwnedd Systemau.

Imiwnoleg Glinigol Gymhwysol ac Arbrofol

Bydd astudio ar y rhaglen lawn amser hon yn eich galluogi i gynyddu eich ymwneud ag arbenigedd ymchwil yr Is-adran Haint ac Imiwnedd a Sefydliad Ymchwil y Brifysgol ar Imiwnedd Systemau.

Nod y rhaglen yw rhoi llwyfan i unigolion archwilio, dadansoddi a dehongli data biolegol cyfoes. Mae’r cwrs yn cynnig cyfarwyddiadau lefel gradd Meistr mewn Biowybodeg gan ganolbwyntio ar biowybodeg genomig.

Biowybodeg

Mae'r cwrs hwn wedi'i gynllunio ar gyfer meddygon gydag o leiaf blwyddyn o brofiad meddygol cyffredinol. Mae’n cynnig addysg strwythuredig mewn dermatoleg ac yn rhoi sylfaen gadarn am hanfodion dermatoleg clinigol a gwyddonol.

Dermatoleg Glinigol

Mae'r cwrs hwn wedi'i gynllunio ar gyfer meddygon gydag o leiaf blwyddyn o brofiad meddygol cyffredinol. Mae’n cynnig addysg strwythuredig mewn dermatoleg ac yn rhoi sylfaen gadarn am hanfodion dermatoleg clinigol a gwyddonol.

Nod y radd MSc Geriatreg Glinigol yw rhoi gwybodaeth glinigol ddatblygedig o heneiddio ym maes iechyd a salwch fel y maent yn ei gyflwyno'n ymarferol i weithwyr gofal iechyd proffesiynol sydd â diddordeb arbennig mewn rheoli ac arwain gofal mewn oedolion hŷn.

Geriatreg Glinigol

Dyma raglen e-ddysgu ryngbroffesiynol ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sy’n dymuno arbenigo mewn gofal acíwt neu ofal critigol a’r rheiny sy’n addysgu mewn lleoliadau o’r fath.

Gofal Critigol

Dyma raglen e-ddysgu ryngbroffesiynol ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sy’n dymuno arbenigo mewn gofal acíwt neu ofal critigol a’r rheiny sy’n addysgu mewn lleoliadau o’r fath.

Cewch eich trwytho mewn genomig ddynol, geneteg, dadansoddi genetig a biowybodeg, mewn sgiliau cyfathrebu a chwnsela, ac yn y sgiliau sy’n ofynnol i weithio fel rhan o dîm amlddisgyblaethol sy’n rhoi cyngor geneteg a genomig i deuluoedd.

Cwnsela Genetig a Genomig

Cewch eich trwytho mewn genomig ddynol, geneteg, dadansoddi genetig a biowybodeg, mewn sgiliau cyfathrebu a chwnsela, ac yn y sgiliau sy’n ofynnol i weithio fel rhan o dîm amlddisgyblaethol sy’n rhoi cyngor geneteg a genomig i deuluoedd.

Mae ein rhaglenni Addysg Feddygol wedi’u hymrwymo i hyrwyddo rhagoriaeth mewn dysgu ac addysgu ar gyfer gweithwyr iechyd proffesiynol. Maent ar gyfer arbenigwyr meddygol, deintyddol neu iechyd yn gyffredinol, sydd am broffesiynoli rôl clinigwyr fel addysgwyr.

Addysg Feddygol

Cynlluniwyd ein rhaglenni Tocsicoleg Feddygol ar gyfer meddygon, fferyllwyr a gwyddonwyr eraill sydd am ddatblygu dealltwriaeth eang o’r egwyddorion sy’n sail i docsicoleg feddygol.

Tocsicoleg Feddygol

Cynlluniwyd ein rhaglenni Tocsicoleg Feddygol ar gyfer meddygon, fferyllwyr a gwyddonwyr eraill sydd am ddatblygu dealltwriaeth eang o’r egwyddorion sy’n sail i docsicoleg feddygol.

Dyma gwrs rhyngbroffesiynol e-ddysgu ar gyfer gweithwyr proffesiynol gofal iechyd a hoffai arbenigo ym maes rheoli poen. Mae hefyd wedi'i hanelu at addysgwyr, i ddarparu’r wybodaeth briodol ac arbenigedd ar boen, er mwyn addysgu eraill o wahanol ddisgyblaethau.

Rheoli Poen

Cynlluniwyd y rhaglen amlddisgyblaethol hon ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sydd am wella eu gwybodaeth o reoli cleifion gyda chlefydau angheuol neu glefydau na ellir eu gwella.

Meddygaeth Lliniarol ar gyfer Gweithwyr Gofal Iechyd Proffesiynol

Cynlluniwyd y rhaglen amlddisgyblaethol hon ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sydd am wella eu gwybodaeth o reoli cleifion gyda chlefydau angheuol neu glefydau na ellir eu gwella.

Cynlluniwyd y rhaglen dra rhyngweithiol, dysgu o bell ar-lein a gynlluniwyd i ddarparu dealltwriaeth gadarn o glefyd y croen fel mae’n ymddangos mewn arfer i gyfranogwyr, ac i alluogi Meddygon Teulu i reoli problemau dermatolegol yn llwyddiannus mewn cleifion.

Dermatoleg Ymarferol

Nod yr MSc mewn Seiciatreg ym Mhrifysgol Caerdydd yw cynnig addysg ôl-raddedig lefel gradd meistr cyflawn i fyfyrwyr o bob cefndir.

Seiciatreg

Nod yr MSc mewn Seiciatreg ym Mhrifysgol Caerdydd yw cynnig addysg ôl-raddedig lefel gradd meistr cyflawn i fyfyrwyr o bob cefndir.

Mae’r rhaglen Meistr yn Iechyd y Cyhoedd yn aml-ddisgyblaethol a thraws-broffesiynol o ran ei gynnwys a’r myfyrwyr mae’n ei ddenu fel arfer. Mae’r MYA wedi'i redeg yn llwyddiannus yng Nghaerdydd ers 1989 ac mae ganddo enw da yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.

Iechyd Cyhoeddus (MPH)

Mae’r rhaglen Meistr yn Iechyd y Cyhoedd yn aml-ddisgyblaethol a thraws-broffesiynol o ran ei gynnwys a’r myfyrwyr mae’n ei ddenu fel arfer. Mae’r MYA wedi'i redeg yn llwyddiannus yng Nghaerdydd ers 1989 ac mae ganddo enw da yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.

Mae’r rhaglen yn gyfle i ymchwilio i’r damcaniaethau a’r cysyniadau presennol, a’r rhai sy’n datblygu, ynghylch iacháu clwyfau a thrwsio meinweoedd, ac i’w dadansoddi.

Iacháu Clwyfau a Thrwsio Meinweoedd

Mae’r rhaglen yn gyfle i ymchwilio i’r damcaniaethau a’r cysyniadau presennol, a’r rhai sy’n datblygu, ynghylch iacháu clwyfau a thrwsio meinweoedd, ac i’w dadansoddi.

Dysgu hyblyg, ar-lein

Postgraduate student studying

Rhagor o wybodaeth am ddysgu o bell

Mae llawer o’n cyrsiau yn eich galluogi i gael cymhwyster a phrofi addysg prifysgol wrth barhau â’ch cyflogaeth neu gyfrifoldebau eraill.

Medical students in training

Rhagor am ein hystod o fodiwlau unigol

Cydbwyswch eich datblygiad proffesiynol â’ch ymrwymiadau presennol a chael cyflwyniad i bwnc drwy fodiwlau byr, dwys

Bywyd fel myfyrwyr ôl-raddedig a addysgir yn yr Ysgol Meddygaeth

Heb y rhaglen, fyddwn i ddim yn gallu breuddwydio am PhD hyd yn oed. Roeddwn i’n gallu cael yr wybodaeth angenrheidiol ar gyfer meddwl yn fwy dwys. Yn fy mhrofiad clinigol, yn bendant mae gen i safbwynt gwahanol, a mwy o fynediad at feddygaeth sy’n seiliedig ar dystiolaeth na chyn y rhaglen. Mae pynciau anodd ynghylch ymarfer clinigol yn cael eu trafod ar lefel uwch ac â dadleuon gwyddonol.
Sandra Liew, Nyrs Anaesthetig a myfyriwr MSc Ymarfer Llawfeddygol Uwch graddedig

Medic Lecture Theatre

Cyfleusterau

Rhagor o wybodaeth am yr ystod o gyfleusterau dysgu a chlinigol modern sydd ar gael yn yr Ysgol Meddygaeth.

Hand on a computer mouse

Modiwl blas ar-lein

Mae ein tîm MSc Seiciatreg wedi creu modiwl byr am sut i ategu eich iechyd meddwl yn ystod pandemig COVID-19.

Gwasanaethau llyfrgelloedd

Rhagor o wybodaeth am y gefnogaeth a’r adnoddau allweddol y bydd gennych fynediad atynt fel myfyriwr ôl-raddedig a addysgir.

Social media Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Dilynwch ni ar Twitter

Y newyddion diweddaraf o’r rhaglen ôl-raddedig a addysgir yn yr Ysgol Meddygaeth.

Facebook logo

Hoffwch ni ar Facebook

Ymunwch â’n cymuned o staff a myfyrwyr

Darganfod Prifysgol Caerdydd

Student getting advice

Cefnogi myfyrwyr

Cewch gyngor diduedd, cyfrinachol ac am ddim ar anabledd a dyslecsia, arian, gyrfaoedd, cwnsela a mwy.

Postgraduate students applying for a postgraduate loan

Ariannu eich astudiaethau

Mwy o wybodaeth am yr ysgoloriaethau, pecynnau cymorth llywodraeth y DU, a’r benthyciadau i fyfyrwyr sydd ar gael ar eich cyfer.

Cegin (hygyrch)

Pori drwy ddewisiadau llety

Ddim yn siŵr pa lety i ddewis? Gall ein canllaw cymharu defnyddiol eich helpu i wneud penderfyniad.

A student shopping in a mini mart

Costau byw

Gweld pa mor bell fydd eich arian yn mynd drwy ddefnyddio ein cyfrifiannell costau byw.

Camau nesaf

certificate

Edrychwch ar holl gyrsiau’r Ysgol Meddygaeth

Porwch drwy ein cyrsiau ôl-raddedig.

icon-pen

Sut i wneud cais

Diddordeb mewn astudio gyda ni? Dysgwch ragor am sut i gyflwyno cais.

tick

Meini prawf derbyn

Gofynion derbyn, polisïau a gweithdrefnau dethol ar gyfer cyrsiau meddygol israddedig.

Pynciau eraill a allai fod o ddiddordeb i chi