MBA
Rhowch hwb i’ch gyrfa a pharatowch ar gyfer y cam mawr nesaf gydag MBA Caerdydd.
Pam astudio gyda ni
Ewch i’r afael â heriau arwain ac ystyried effaith economaidd, gymdeithasol ac amgylcheddol busnesau byd-eang. Beth bynnag yw eich cefndir fel rheolwr, mae ein rhaglenni MBA yn cynnig profiad heriol a fydd yn eich ymestyn ac yn eich cefnogi, yn datblygu eich gwybodaeth am fusnes, yn gwella eich hunanymwybyddiaeth ac yn mireinio eich gallu fel arweinydd effeithiol ac ysbrydoledig.
Achrededir yn rhyngwladol
Rydym wedi'n cydnabod am ragoriaeth a’n hachredu gan y Gymdeithas i Hyrwyddo Ysgolion Busnes Colegol (AACSB International) a Chymdeithas MBAs (AMBA).
Rhaglen Datblygu Arweinyddiaeth
Datblygwch eich hunanymwybyddiaeth a'ch gallu arwain mewn cyfres o weithdai ymarferol, gan ganolbwyntio'n benodol ar fod yn wydn, yn ddyfeisgar, yn gyfrifol ac yn berthynol.
Gwasanaeth Manteision Gyrfaol
Cewch ymgynghorydd gyrfa pwrpasol am gyngor gyrfaol un i un, yn ogystal â gweithdai sy'n canolbwyntio ar MBA i'ch helpu i ddatblygu CV byd-eang.
Cyrsiau
Rydym yn sefyll dros werth cyhoeddus
Rydym yn Ysgol Busnes sydd â phwrpas ac mae ein cenhadaeth yn glir – cael effaith gadarnhaol ar y byd. Rydym yn rhoi gwerth ar fwy na llwyddiant economaidd yn unig. Rydym am ddod â dyngarwch, cynaliadwyedd, haelioni ac arloesedd i’r sector busnes. Gallwn arwain y ffordd ym maes busnes mewn byd sy’n newid. Gyda’n gilydd gallwn wneud gwahaniaeth.
Dewch i gwrdd â'n myfyrwyr a'n cyn-fyfyrwyr
Ydych chi’n chwilfrydig i ddysgu rhagor am fywyd ôl-raddedigion yn Ysgol Busnes Caerdydd?
Dewch i gwrdd â’n myfyrwyr gwych a chael clywed am eu profiadau.
Profiad o’r byd go iawn gyda’r Prosiect Cyflymu
Mae myfyrwyr MBA yn ymgymryd â phrosiectau byd go iawn mewn partneriaeth â'n cleientiaid corfforaethol. Byddwch yn gweithio i greu datrysiad sy'n seiliedig ar ymchwil i her neu flaenoriaeth sefydliadol gymhleth, gan gymhwyso’r hyn rydych wedi ei ddysgu’n ymarferol o'r rhaglen. Mae cynfyfyrwyr wedi gweithio gyda chleientiaid cwmnïau hedfan, gofal iechyd, busnesau newydd, llywodraeth a bancio i ymchwilio i gyfleoedd yn y farchnad ar gyfer cynhyrchion newydd, gwella effeithlonrwydd gweithredol, cefnogi trawsnewid busnes, a datblygu cynlluniau strategol.
Ymgysylltu â'r gymuned fusnes
Mae ein cyfres o Sesiynau Hysbysu dros Frecwast sefydledig yn dod â chymuned o ymarferwyr busnes, llunwyr polisïau a'r cyfryngau at ei gilydd i drafod yr ymchwil ddiweddaraf ar draws ystod o themâu busnes a rheoli. Mae siaradwyr amrywiol ac ysbrydoledig yn cynrychioli byd academaidd ac ymarfer busnes.
Arwain meddyliau, rhagoriaeth ymchwil a mewnwelediad ymarferol
Ewch i gael golwg ar ein blog - lle i ymgysylltu, rhoi sylwadau, egluro, cysylltu ac i rannu. Bydd yn rhoi syniad i chi o'n ffocws ymchwil a'n harbenigedd yn ogystal â'n syniadau ar draws ystod eang o bynciau sy'n gysylltiedig â busnes, arweinyddiaeth a rheolaeth.
O Brexit i ymddygiadau yn y gweithle, a chysylltiadau cyflogaeth i lywodraethu, mae ein hacademyddion a'n blogwyr gwadd yn rhannu eu gwybodaeth a'u barn am yr heriau presennol a chyfleoedd sy'n dod i'r amlwg. Cymerwch gipolwg ar rai enghreifftiau diweddar.
Ysgol busnes a rheolaeth ymchwil ddwys o safon fyd-eang
Mae ein buddsoddiad mewn cyfleusterau astudio, cymorth a chymdeithasol yn cynnig yr amgylchedd gorau posibl i lwyddo. Tra eich bod gyda ni, byddwch chi’n ystyried ein Canolfan Addysgu Ôl-raddedigion £13.5m yn gartref.
10.Mae'r gofod pwrpasol hwn yn ehangu ein Hysgol i dri adeilad sy'n cyfuno darlithfeydd, ystafelloedd seminar a chaffi ochr yn ochr â'n hystafell addysg weithredol bwrpasol.
Darganfod Prifysgol Caerdydd
Camau nesaf
Gweld ein rhaglenni ôl-raddedig MBA
Porwch drwy ein rhaglenni.
Cysylltu â ni
Gofynnwch gwestiwn drwy ein ffurflen ymholi, a chewch ateb gennym cyn gynted ag y bo modd.
Sut i wneud cais
Popeth y mae angen i chi ei wybod am ein proses ymgeisio.