Mae’r Ysgol Mathemateg yn cynnig amgylchedd bywiog a chefnogol i fyfyrwyr ôl-raddedig, gan gynnwys mathemateg bur a chymhwysol, gwyddor data a dadansoddeg, risg ariannol, ystadegau ac ymchwil weithredol.
Manteisiwch ar ein cysylltiadau rhagorol â diwydiant sy’n cynnig cyfleoedd i wneud traethodau hir ‘yn y byd go iawn’ a chael profiad gwaith gwerthfawr yn y DU a thramor.
Arbenigedd ymchwil
Mae myfyrwyr yn cael eu haddysgu a'u goruchwylio gan ein staff ymchwil gweithredol. Bydd y staff yn cynnig arweiniad a chyngor ar sail un i un i’r myfyrwyr.
Gwella cyflogadwyedd
Rydym yn cynnig dewis eang o fodiwlau dewisol a bydd digon o gyfleoedd i chi ddatblygu’r sgiliau proffesiynol y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt.
Cewch ddysgu amrywiaeth o sgiliau y mae galw amdanynt ar gyfer echdynnu a thrin 'data mawr' a datblygu eich sgiliau ymarferol drwy gael eich amlygu i broblemau a setiau data'r byd real.
Mae ein MSc mewn Mathemateg yn archwilio byd hynod ddiddorol, heriol ac urddasol Mathemateg; gan dywys eich sylfaen sgiliau o BSc mewn Mathemateg (neu debyg) tuag at bwynt lle gallwch gychwyn ar ymchwil wreiddiol ym maes Mathemateg Pur a Chymhwysol.
Mae’r rhaglen hon wedi’i chynllunio i'ch arfogi â’r sgiliau, y dulliau a’r ffyrdd dadansoddol angenrheidiol o feddwl i daclo a dadansoddi problemau trefniadaethol cymhleth, i helpu i wneud penderfyniadau gwell ac i ddatblygu’n ddadansoddwyr ystadegol hyderus.
Dyma radd MSc unigryw sydd wedi’i hanelu at y rhai sy’n awyddus i astudio mwy ar fodelau risg, yn arbennig o ran eu cymhwyso at farchnadoedd ariannol ond hefyd at risg mewn sectorau eraill.
Mae ymchwil yn y maes hwn yn cwmpasu: Hafaliadau differol rhif a chyffredin; Dadansoddiad swyddogaethol; Theori sbectrol cyfrifiadurol a dadansoddol; Mecaneg cwantwm; Theori rhif a’i ddefnydd; Ffiseg mathemategol; Algebras gweithredydd; Geometreg algebraidd.
Mae ymchwil yn y maes hwn yn cwmpasu: Lluosogi ton mewn cyfryngau anhomogenaidd; Homogeneiddiad; Mecaneg hylif; Mecaneg strwythurol a solet; Dadansoddiad rhifiadol a chyfrifiadureg gwyddonol; Modelu mathemategol cymhwysol; Effeithiau cof; Problemau gwrthdro; Trawsnewid hanfodol.
Mae ymchwil yn y maes hwn yn cwmpasu: Dadansoddiad ystadegol o amryw o elfennau; Dadansoddiad cyfres amser; Modelu ystadegol mewn ymchwil i'r farchnad; Dyluniad arbrofol gorau posibl; Optimeiddio byd-eang stocastig; Canfod pwynt newid; Dulliau tebygolrwydd wrth chwilio ac mewn theori rhif; Pysgodfeydd; Ystadegau meddygol; Hap-feysydd; Cyllid mathemategol.
Mae ymchwil yn y maes hwn yn cwmpasu: Modelu llif traffig; Modelu gofal iechyd; Modelu lledaeniad clefydau heintus; Theori ciwio; Amserlennu a phroblemau amserlennu; Metaheuristeg; Optimeiddio arwahanol.
Ein sgyrsiau
Trosolwg o Raglenni MSc mewn Mathemateg
Dyma Gyfarwyddwr y rhaglenni Ôl-raddedig a Addysgir, yr Athro Owen Jones, yn rhoi trosolwg o’n rhaglenni MSc a sut mae ein cyrsiau galwedigaethol ar y cyd â’r Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg yn cynnig y cyfle i gwblhau prosiectau traethodau hir dros yr haf gyda chwmnïau perthnasol.
Ymchwil Weithrediadol ac Astudiaethau Ôl-raddedig
Dyma Paul Harper, Athro Ymchwil Weithrediadol, yn trafod yr ymchwil ragorol sy’n cael ei chynnal ym maes Modelu Gofal Iechyd, a sut mae myfyrwyr MSc yn cael y cyfle i gynnal prosiectau sydd o bwys i’r byd go iawn gan olygu eich bod yn hynod gyflogadwy ar ôl eich blwyddyn MSc.
Prosiectau Traethawd Hir MSc
Dr Maggie Chen, Darllenydd Mathemateg, sy’n goruchwylio prosiectau traethawd hir MSc yn ein Hysgol, a dyma hi’n trafod sut mae myfyrwyr yn cael y cyfle i ddefnyddio’r sgiliau a’r wybodaeth maen nhw wedi’u dysgu yn ystod eu cwrs drwy gwblhau eu traethawd hir gyda chwmnïau perthnasol, gan eu gwneud yn fwy cyflogadwy.
Amrywiaeth mewn Bioleg Fathemategol
Fideo gan grŵp o academyddion o’r Ysgol Mathemateg - gan gynnwys cynfyfyrwyr BSc sy’n astudio ar gyfer PhD erbyn hyn - am amrywiaeth mathemateg yn yr adran ac, yn fwy penodol, sut aethon nhw ati i ddefnyddio mathemateg gymhwysol i ateb cwestiynau biolegol a datrys problemau.
Darlithydd Mathemateg a Chynfyfyriwr MSc
Mae Dr Geraint Parry yn ddarlithydd Mathemateg cyfrwng Cymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae’n aelod o’r Grŵp Ymchwil Weithrediadol ac mae’n addysgu’r modiwl Dulliau Cyfrifiadurol yn rhan o’r MSc - cwrs y mae ef ei hun wedi’i astudio.
Fideo Cynfyfyrwyr MSc Gwyddorau Data a Dadansoddi: Montunrayo Shodimu
Dyma Montunrayo Shodimu, a gwblhaodd radd MSc Gwyddorau Data, yn trafod yr ystod eang o weithgareddau allgyrsiol y cymerodd hi ran ynddynt pan oedd yn fyfyriwr. Mae’r rhain yn cynnwys datblygu sgiliau astudio, dysgu ieithoedd newydd, gwaith gwirfoddol yn y gymuned - ac fe wnaeth y cyfan ei helpu i ennill Gwobr Caerdydd.
Manteisiwch ar y canfyddiadau, dealltwriaeth a’r syniadau diweddaraf ar eich cwrs gan ein hacademyddion a arweinir gan ymchwil. Mae ymchwil yr academyddion hyn yn dangos yr effaith y mae gwyddorau mathemategol yn ei chael ar fywyd bob dydd.
Mae ein hymchwil yn ymestyn ar draws dadansoddiadau a hafaliadau gwahaniaethol, mathemateg gymhwysol, ffiseg fathemategol, ymchwil weithredol ac ystadegau.
Exterior shot of Abacws, the new building which will be home to the School of Computer Science and Informatics, and the School of Mathematics.
Feature staircase of Abacws, which is due to open September of this year.
There will be multiple pc labs in the new building with some being able to accommodate as many as 100 students.
Abacws has been designed in collaboration with students and academic staff to create interdisciplinary, flexible and creative workspaces,
Abacws features flexible lecture theatres and seminar rooms with innovative layouts to encourage interaction.
The new £39m building will pioneer a way of working for Cardiff University which embodies collaboration and shared vision.
The single six-storey building is situated on Senghennydd Road next to Cathays railway station.
Academi Gwyddor Data
Addysgir nifer o’n graddau MSc yn yr Academi Gwyddor Data a sefydlwyd mewn ymateb i’r galw am raddedigion tra medrus a chyflogadwy mewn meysydd sy’n cynnwys gwyddor data.
Ar y cyd â phartneriaid diwydiannol, ein nod yw cyflwyno myfyrwyr i amrywiaeth helaeth o ddulliau deall data a defnyddio’r rheiny i roi ar waith ffyrdd arloesol o ddatrys amryw broblemau yn y byd go iawn.