Mae’r gyfraith yn bwnc y gallwch ei ddefnyddio ym mhob elfen o fywyd. Rydym yn cynnig ystod o raglenni fydd yn cynnig gwerthfawrogiad o faterion domestig a rhyngwladol. Bydd yn eich helpu i feddwl am reoliadau cyfredol ac arfaethedig mewn modd critigol, yn meithrin ffyrdd annibynnol o feddwl a’ch galluogi i gynnal ymchwil fanwl.
Pro Bono
Datblygu eich sgiliau cyfreithiol gan weithio ar achosion go iawn a helpu aelodau o'r gymuned gyda'n gwahanol gynlluniau Pro Bono.
Cyflogadwyedd
95% o'n graddedigion ôl-raddedig a addysgir mewn cyflogaeth a/neu’n astudio ymhellach, ar fin dechrau swydd neu gwrs newydd, neu’n gwneud gweithgareddau eraill fel teithio, 15 mis ar ôl diwedd eu cwrs (Arolwg Hynt Graddedigion 2020/21).
Rhagoriaeth ymchwil
Yn 5ed ar gyfer ein hamgylchedd ymchwil ac yn 6ed ar gyfer effaith ein hymchwil (REF 2021).
Yn y blynyddoedd diwethaf, mae’r gyfraith sy’n ymwneud â meddygaeth a gofal iechyd wedi dod yn fwyfwy cymhleth. Mae gan hyn oblygiadau sylweddol i arferion meddygol a chwestiynau o ran atebolrwydd cyfreithiol ac iawndal. Nod y rhaglen hon yw rhoi gwybodaeth gadarn am y rheolau cyfreithiol sy'n berthnasol i gynnig a gweinyddu gofal iechyd.
Rydym wedi cynnig hyfforddiant o safon uchel ar gyfer y Bar ers 1997, gyda chefnogaeth gref gan y Bar sy’n cyflogi’n lleol, y Bar annibynnol a’r Farnwriaeth.
Rydym wedi cynnig hyfforddiant o safon uchel ar gyfer y Bar ers 1997, gyda chefnogaeth gref gan y Bar sy’n cyflogi’n lleol, y Bar annibynnol a’r Farnwriaeth.
Os ydych wedi graddio mewn pwnc heblaw'r gyfraith ac yr hoffech newid i yrfa gyfreithiol, bydd y Diploma Graddedig yn y Gyfraith (DGG) yn berffaith i chi.
Mae Gwleidyddiaeth Gymharol, Polisïau a Llywodraethiant yn faes ymchwil lle galwch ganolbwyntio eich astudiaethau fel rhan o’n cyfres o raglenni ymchwil Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol (MPhil, PhD).
Mae Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth yn cynnig cyfleoedd i astudio’n amser llawn neu’n rhan amser gan arwain at raddau MPhil a PhD ar draws ystod o feysydd ymchwil.
Datblygwch sgiliau gofalu am gleientiaid, ymchwil gyfreithiol, ysgrifennu a siarad cyhoeddus wrth weithio ar achosion go iawn a helpu aelodau o'r gymuned drwy ein cynlluniau Pro Bono.
Os ydych am fod yn gyfreithiwr neu’n fargyfreithiwr, rydym yn cynnig y prif gyrsiau hyfforddiant galwedigaethol sy’n ofynnol i gael mynediad at y proffesiwn cyfreithiol. Ni yw'r unig brifysgol Grŵp Russell yn y DU i gynnig cwrs trosi cyfreithiol y Diploma Graddedig yn y Gyfraith (GDL) - i raddedigion sydd heb radd yn y gyfraith, y Cwrs Ymarfer Cyfreithiol (LPC) - i ddarpar gyfreithwyr a Chwrs Hyfforddi'r Bar (BTC) - i ddarpar fargyfreithwyr.
Ymunwch â'n diwylliant ymchwil bywiog a dod yn rhan o'r genhedlaeth nesaf o ysgolheigion cyfreithiol. Rydyn ni’n cynnig cyfleoedd PhD ac MPhil amser llawn a rhan-amser, gyda goruchwyliaeth ar gael yn y clystyrau ymchwil canlynol yn ymwneud â'r Gyfraith: Meddygaeth, Gofal Iechyd a Chymdeithas; Llywodraethiant a Chyfansoddiadaeth; Cyfiawnder Weithdrefnol; a Rheoleiddio Gweithgarwch Masnachol.
Mae astudio’r Gyfraith ym Mhrifysgol Caerdydd yn heriol yn ddeallusol, yn drylwyr yn academaidd ac yn werth chweil yn bersonol
Astudiwch y Gyfraith os ydych chi’n dymuno deall y gymdeithas rydych yn byw ynddi, y prif faterion sy’n llywio bywyd y wlad a sut mae hyn yn effeithio arnoch chi.
Ymunwch ag un o'r adrannau Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol mwyaf yn y DU, a 120 mlynedd o dreftadaeth gyfoethog.
Ffynhonnell: Yn cynnwys data HESA: Hawlfraint Jisc 2023. Ni all Jisc dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau a wneir gan drydydd partïon ar sail ei ddata.