Hanes a hanes yr henfyd
Bodlonwch eich chwilfrydedd am hanes a dyfnhau eich gwybodaeth o’r cysyniadau allweddol. Cyfunir hyn i gyd gyda’r posibilrwydd o archwilio treftadaeth, gweithredu cymunedol a lleoliadau gwaith.
Pam astudio gyda ni
Mae ein harbenigedd yn gyfoethog, eang a rhyngwladol ac yn cynnwys hanes Prydain, Cymru, Ewrop (gan gynnwys Canol a Dwyrain Ewrop, a Rwsia), Asia a Gogledd America. Bydd gennych hefyd gyfle i gyflwyno eich gwaith yn uniongyrchol i’r cyhoedd, ac edrych ar faterion ymgysylltu a chynhyrchu addysgol ar y cyd â’r gymuned leol i arddangos pwysigrwydd hanes yn y gymuned ehangach.
Cyfleoedd am leoliad gwaith
Ennill profiad proffesiynol yn y sector treftadaeth fel rhan o’n gradd Meistr.
Ymchwilio i fydoedd y gorffennol, croesi cyfandiroedd
Rydym yn ymchwilio i bynciau o'r cyfnod canoloesol i'r cyfnod modern, o rywioldeb yn yr Oesoedd Canol hyd at Ewrop yn ystod y Rhyfel Oer a chaethwasiaeth yng Ngogledd America.
Ymhlith yr 20 uchaf yn y DU
Rydym yn y 17eg safle am ein hymchwil arwyddocaol, drylwyr a gwreiddiol (Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014).
Cyrsiau
Ein fideos
Cyflwyniad Diwrnod Agored MA Hanes
Cewch ragor o wybodaeth am ein MA Hanes newydd yng nghyflwyniad hwn y diwrnod agored. Bydd yr Athro Keir Waddington yn rhoi cyflwyniad i’r adran hanes gan gynnwys arbenigedd addysgu a themâu ymchwil yr ysgol, a bydd Dr James Ryan yn rhoi rhagor o wybodaeth ar gynnwys ein MA a'r hyn sy'n ei gwneud yn unigryw.
Rhagor o wybodaeth amdanom ni
Lleoliad canolog
Byddwch yn astudio yn ein campws yng nghanol ein dinas werdd yn Adeilad John Percival a chewch fynediad hwylus at gyfleuster ardderchog Archifau a Chasgliadau Arbennig y Brifysgol yn Llyfrgell y Celfyddydau a’r Gwyddorau Cymdeithasol gerllaw.
Darganfod Prifysgol Caerdydd
Camau nesaf
Gweld ein cyrsiau Hanes ôl-raddedig a addysgir
Gweld ein cyrsiau.
Gweld ein cyrsiau ymchwil Hanes ôl-raddedig
Gweld ein cyrsiau.
Cysylltu â ni
Gofynnwch gwestiwn drwy ein ffurflen ymholi, a chewch ateb gennym cyn gynted ag y bo modd.
Sut i wneud cais
Popeth y mae angen i chi ei wybod am ein proses ymgeisio..