Gan ddefnyddio gwyddorau cymdeithasol rhyngddisgyblaethol ar groesffordd daearyddiaeth a chynllunio, mae ein hymchwil yn ddeinamig ac amrywiol. Deall cymdeithas, gofod a lleoedd yw’r nod er mwyn datblygu a rheoli dinasoedd, rhanbarthau ac ardaloedd gwledig a’u gwneud yn gynaliadwy. Ymunwch â ni a helpwch i fynd i’r afael â heriau mawr ein cymunedau ar hyn o bryd.
Canolbwyntio ar eich dyfodol
97% o'n graddedigion ôl-raddedig a addysgir mewn cyflogaeth a/neu’n astudio ymhellach, ar fin dechrau swydd neu gwrs newydd, neu’n gwneud gweithgareddau eraill fel teithio, 15 mis ar ôl diwedd eu cwrs. (Arolwg Hynt Graddedigion 2020/21).
Ymchwil sy’n cael effaith
Ystyrir bod 85% o’n hymchwil sydd o bwys cymdeithasol, economaidd a diwylliannol (sy’n trawsnewid trafodaethau polisi ac yn dylanwadu ar agendâu rhyngwladol) yn arwain y byd neu’n rhyngwladol ragorol (REF 2014).
Uchel ei pharch
Rydym ymhlith y 100 uchaf am ddaearyddiaeth (Rhestr QS o Brifysgolion Gorau’r Byd yn ôl Pwnc 2022) ac yn yr 14eg safle ar gyfer cynllunio trefol a gwledig a thirwedd (The Times/Sunday Times Good University Guide 2023).
Nod y radd hon – sef MSc mewn Amgylchedd a Datblygu – yw ymchwilio, cwestiynu ac archwilio dewisiadau amgen i'r tensiynau a'r cyd-ddibyniaethau sy’n bodoli rhwng datblygiad a systemau ecolegol-gymdeithasol.
Mae cynllunio trefol yn ddiddorol iawn ac yn mynd i’r afael â heriau newid a datblygu mewn byd sy’n trefoli, ac mae’r cwrs hwn wedi’i ddylunio i’ch helpu i lunio eich gyrfa yn y dyfodol mewn ymarfer proffesiynol.
Bydd yr MSc hwn yn cynnig addysg eang i chi mewn cynllunio rhyngwladol ac arbenigedd mewn dylunio trefol, gan eich galluogi i gaffael y wybodaeth a'r ddealltwriaeth feirniadol ar gyfer gwneud cyfraniad sylweddol tuag at brosesau rheoli rheolaeth a dyluniad dinasoedd.
Mae’r cwrs hwn, a redir ar y cyd ag Ysgol Bensaernïaeth Cymru, yn galluogi myfyrwyr i ddysgu gan ddefnyddio dylunio, theori, ac arferion dylunio datblygu a rheoli, a fydd yn llywio'r prosesau dylunio trefol.
Fel un o’r Ysgolion ymchwil gorau gyda’r uchelgais i chwarae rôl mewn dadleuon academaidd a pholisi ar lefel genedlaethol a rhyngwladol, rydym yn ceisio recriwtio myfyrwyr ymchwil ymrwymedig i fynd ar drywydd ymchwil arloesol ar lefel PhD.
Ein fideos
Cynllunio a Datblygu Rhyngwladol (MSc)
Mae cynllunio trefol yn ddiddorol iawn ac yn mynd i’r afael â heriau newid a datblygu mewn byd sy’n trefoli, ac mae’r cwrs hwn wedi’i ddylunio i’ch helpu i lunio eich gyrfa yn y dyfodol mewn ymarfer proffesiynol. Mae Athro Alison Brown yn rhoi trosolwg o'r rhaglen.
Cynllunio ar gyfer yfory
Mae’r MSc hwn yn galluogi myfyrwyr i ddatblygu sgiliau cymhwysol a dysgu beirniadol ym maes cynaliadwyedd cyfoes. Mae Dr Andrea Collins yn rhoi trosolwg o'r rhaglen.
Dylunio Trefol (MA)
Mae’r cwrs hwn, a redir ar y cyd ag Ysgol Bensaernïaeth Cymru, yn galluogi myfyrwyr i ddysgu gan ddefnyddio dylunio, theori, ac arferion dylunio datblygu a rheoli, a fydd yn llywio'r prosesau dylunio trefol. Mae Dr Hesam Kamalipour yn rhoi trosolwg o'r rhaglen.
Amgylchedd a Datblygiad (MSc)
Nod y radd hon – sef MSc mewn Amgylchedd a Datblygu – yw ymchwilio, cwestiynu ac archwilio dewisiadau amgen i'r tensiynau a'r cyd-ddibyniaethau sy’n bodoli rhwng datblygiad a systemau ecolegol-gymdeithasol. Mae Dr Antonio Ioris yn rhoi trosolwg o'r rhaglen.
Trafnidiaeth a Chynllunio (MSc)
Ewch ati i ennill y sgiliau, y wybodaeth a'r hyder i greu systemau trafnidiaeth y dyfodol. Mae Dr Dimitris Potoglou yn rhoi trosolwg o'r rhaglen.
Cynllunio a Datblygu Gofodol (MSc)
Nod yr MSc Cynllunio a Datblygu Gofodol yw eich rhoi ar ben ffordd i fod yn gynllunydd da. Mae Dr Sina Shahab yn rhoi trosolwg o'r rhaglen.
Rydym yn byw mewn byd sy'n mynd yn fwyfwy cyd-gysylltiedig a byd-eang. Mae deall a gwerthfawrogi safbwyntiau, diwylliannau ac arferion gwahanol yn bwysig ac yn cyfoethogi ein gwaith a’n bywydau. Pan fyddwch yn ymuno â ni yng Nghaerdydd, byddwch yn dod yn rhan o gymuned wirioneddol ryngwladol, gyda staff a myfyrwyr o bron 30 o wledydd gan gynnwys Awstralia, Tsieina, Iran, Pacistan ac UDA.
Mae ein rhaglenni gradd meistr yn cael eu parchu’n rhyngwladol a chydnabyddir sawl un am eu hansawdd a’u natur arbenigol gan gyrff proffesiynol yn y DU gan gynnwys y Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol (RTPI), y Sefydliad Syrfewyr Siartredig Brenhinol (RICS) a Sefydliad Siartredig Priffyrdd a Chludiant (CIHT).
Mae gennym bortffolio amrywiol o ymchwil sy’n cwmpasu newid economaidd, cymdeithasol, gwleidyddol a newid diwylliannol a’r amgylcheddau adeiledig a naturiol. Ein nod, a drefnir o gwmpas pedwar grŵp ymchwil, yw recriwtio myfyrwyr PhD ymroddedig i gynnal ymchwil arloesol, gyfoes ac uchel ei heffaith. Ymunwch â ni i chwarae rôl flaenllaw yn nadleuon academaidd a pholisi'r dyfodol ar lefel genedlaethol a rhyngwladol.
Trawsnewid lleoedd drwy feddwl yn feirniadol ac ymgysylltu â’r cyhoedd
Rydym wedi ein lleoli yn Adeilad Morgannwg, adeilad eiconig, rhestredig Gradd 1, sydd yng nghanolfan ddinesig Caerdydd ac yn dafliad carreg o ganol y ddinas. Er bod ein cartref yn hanesyddol, mae ein cyfleusterau’n addas at yr unfed ganrif ar hugain, gydag ystod eang o ddarlithfeydd modern, ystafelloedd seminar, stiwdios dylunio a labordy cyfrifiadurol.
Mae’r cyfleusterau addysgu cyfrifiadurol yn cael eu cefnogi’n llawn gan staff technegol ac yn llawn yr holl becynnau sy’n berthnasol i’ch astudiaethau, gan gynnwys rheoli cronfeydd data, dylunio â chymorth cyfrifiadur, GIS a meddalwedd ystadegol a graffigol.
Popeth y mae angen i chi ei wybod am ein proses ymgeisio.
Ffynhonnell: Yn cynnwys data HESA: Hawlfraint Jisc 2023. Ni all Jisc dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau a wneir gan drydydd partïon ar sail ei ddata.