Ewch ati i fwynhau amrywiaeth llenyddiaeth Saesneg a dod o hyd i gysylltiadau ar draws diwylliant poblogaidd a theori, neu fireinio eich sgiliau Ysgrifennu Creadigol gyda’n hawduron proffesiynol.
Cewch y cyfle i drin a thrafod safbwyntiau newydd ar draws rhychwant cronolegol cyfoethog llenyddiaeth Saesneg, neu ddatblygu eich doniau ym maes Ysgrifennu Creadigol, a’ch addysgu gan awduron proffesiynol uchel eu parch yn eu meysydd dewisol.
Ymhlith y 100 uchaf ar draws y byd
Rydym ymysg y 100 prifysgol gorau yn y byd ar gyfer astudio Iaith a Llenyddiaeth Saesneg (Rhestr QS o Brifysgolion Gorau'r Byd yn ôl Pwnc 2021).
Ymchwil sy’n cael effaith
Ar lefel y DU, rydym ymhlith y 10 uchaf am Iaith a Llenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Caerdydd, ac aseswyd bod 86% o'n hymchwil yn arwain y byd neu'n rhagorol yn rhyngwladol (Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014).
Cyflogadwyedd
93% o'n graddedigion ôl-raddedig a addysgir mewn cyflogaeth a/neu’n astudio ymhellach, ar fin dechrau swydd neu gwrs newydd, neu’n gwneud gweithgareddau eraill fel teithio, 15 mis ar ôl diwedd eu cwrs (Arolwg Hynt Graddedigion 2020/21).
Ewch ar drywydd eich diddordeb mewn Llenyddiaeth Saesneg, ar raglen wedi’i hysbrydoli gan arbenigwyr sydd ar flaen y gad o ran ymchwil o safon fyd-eang.
Mae myfyrwyr ar y cwrs PhD Theori Feirniadol a Diwylliannol yn derbyn goruchwyliaeth gan staff ac academaidd gydag ymrwymiad hirdymor i ragoriaeth ac amrywiaeth mewn ymchwil, sy’n gweithio ar flaen y gad o ran ymchwil arloesol mewn theori feirniadol a diwylliannol.
Caerdydd oedd un o'r prifysgolion cyntaf yn y DU i gynnig PhD mewn Ysgrifennu Creadigol a Beirniadol a thros ddau ddegawd, rydym wedi paratoi graddedigion am yrfaoedd fel awduron ac ar gyfer swyddi yn y diwydiannau cyhoeddi a chyfathrebu, y byd academaidd a gweinyddiaeth y celfyddydau.
Ein cyflwyniadau a’n fideos
Llenyddiaeth Saesneg
Rhagor o wybodaeth am ein MA Llenyddiaeth Saesneg.
Ysgrifennu Creadigol
Rhagor o wybodaeth am ein MA Ysgrifennu Creadigol.
Dewch i ddarganfod ein Hysgol
Cymerwch gipolwg ar sut brofiad fyddai astudio gyda ni yng Nghaerdydd.
Rydym wedi ymrwymo i rannu perthnasedd ein hymchwil drwy ddod ag academyddion, myfyrwyr a'r gymuned leol ynghyd. Mae ein grŵp llyfrau unigryw yn sbarduno trafodaeth fywiog rhwng cynulleidfa gymunedol ac academyddion sy'n cynnig safbwyntiau ysgogol ar destunau dewisol.
Rydym yn arloeswyr ym maes Ysgrifennu Creadigol yn y DU ac yn meithrin talent newydd drwy gynnal nosweithiau Meic Agored. Rydym yn cynnal Cyfres Awduron Gwadd Ysgrifennu Creadigol yn rheolaidd ac yn curadu Diwrnod Diwydiannau Creadigol cyffrous bob blwyddyn.
Gwnewch eich cyfraniad gwreiddiol at wybodaeth mewn cymuned ymchwil ffyniannus sy'n enwog yn rhyngwladol. Mae ein PhD yn cynnig ystod amrywiol o hyfforddiant ymchwil yn ogystal â'r cyfle i ennill profiad addysgu drwy ein rhaglen 'Dysgu i Addysgu' achrededig gan yr Academi Addysg Uwch.
Lleoliad canolog
Byddwch yn astudio yn ein campws yng nghanol ein dinas werdd yn Adeilad John Percival a chewch fynediad hwylus at gyfleuster ardderchog Archifau a Chasgliadau Arbennig y Brifysgol yn Llyfrgell y Celfyddydau a’r Gwyddorau Cymdeithasol gerllaw.
Cyfle i archwilio materion cyfoes diddorol, a chanolbwyntio ar bynciau sy’n flaenllaw ymhlith ein harbenigeddau.
Ffynhonnell: Yn cynnwys data HESA: Hawlfraint Jisc 2023. Ni all Jisc dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau a wneir gan drydydd partïon ar sail ei ddata.