
Saesneg iaith ac ieithyddiaeth
Ewch ati i archwilio ac ymchwilio i ffurf, swyddogaeth ac effaith cyfathrebu dynol ac iaith.
Pam astudio gyda ni
Astudiwch ieithyddiaeth a chyfathrebu ar lefel uwch tra’n ennill sgiliau trosglwyddadwy gwerthfawr fel meddwl yn feirniadol, dadansoddi a datrys problemau ar lefel uwch, ynghyd â sgiliau ymchwil annibynnol.
Ymchwil sy’n cael effaith
Yn 4ydd yn y DU ar gyfer effaith ein hymchwil ac yn bumed ar gyfer pŵer ymchwil ym maes Iaith a Llenyddiaeth Saesneg (REF 2021).
Ymhlith y 100 uchaf ar draws y byd
Rydym ymysg y 100 prifysgol gorau yn y byd ar gyfer astudio Iaith a Llenyddiaeth Saesneg (Rhestr QS o Brifysgolion Gorau'r Byd yn ôl Pwnc 2021).
Cyflogadwyedd
Roedd 95% o'n graddedigion mewn cyflogaeth, a/neu’n astudio ymhellach, ar fin dechrau swydd neu gwrs newydd, neu’n gwneud gweithgareddau eraill fel teithio, 15 mis ar ôl diwedd eu cwrs (HESA).
Cyrsiau
Ein cyflwyniadau a’n fideos
Gwnes i wir fwynhau gwneud y cwrs MA Ymchwil i Iaith a Chyfathrebu, yn enwedig gan ei fod yn canolbwyntio’n helaeth ar ddylunio ymchwil meintiol ac ansoddol, a hefyd yr hyblygrwydd roedd yn ei ganiatáu wrth ddewis y pwnc ar gyfer fy nhraethawd hir MA. Roeddwn i’n gallu archwilio pynciau o ddiddordeb arbennig i fi, tra hefyd yn dysgu sgiliau ymchwil hynod werthfawr. Rydw i’n credu bod y wybodaeth a’r sgiliau a enillais yn ystod yr MA wedi rhoi sylfaen gadarn i mi er mwyn pontio’n llwyddiannus i ymchwil doethurol.
Rhagor o wybodaeth amdanom ni

Lleoliad canolog
Byddwch yn astudio yn ein campws yng nghanol ein dinas werdd yn Adeilad John Percival a chewch fynediad hwylus at gyfleuster ardderchog Archifau a Chasgliadau Arbennig y Brifysgol yn Llyfrgell y Celfyddydau a’r Gwyddorau Cymdeithasol gerllaw.
Darganfod Prifysgol Caerdydd
Camau nesaf
Gweld ein cyrsiau ôl-raddedig a addysgir mewn iaith Saesneg ac ieithyddiaeth
Darganfod ein cyrsiau.
Gweld ein rhaglenni ôl-raddedig ymchwil mewn iaith Saesneg ac ieithyddiaeth
Darganfod ein cyrsiau.
Cysylltu
Gofynnwch gwestiwn drwy ein ffurflen ymholi, a chewch ateb gennym cyn gynted ag y bo modd.
Sut i wneud cais
Popeth y mae angen i chi ei wybod am ein proses ymgeisio.
Pynciau eraill a allai fod o ddiddordeb i chi
Ffynhonnell: Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch, yr Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20, a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.
Hawlfraint: Yn cynnwys data gan HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2022. Ni all Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliad y bydd trydydd partïon yn ei wneud o ganlyniad i’w data.