Bydd ein hamrywiaeth o raddau a addysgir yn eich helpu i ddatblygu'r potensial i fod yn bencampwr diwydiant neu arweinydd yn y dyfodol, a bydd ein rhaglenni ymchwil yn eich galluogi i ymateb i'r heriau a'r cyfleoedd ar gyfer gyrfa mewn ymchwil.
Rydym yn un o'r adrannau ymchwil peirianneg gorau yn y DU gyda 96% o'n hymchwil yn cael ei gydnabod fel rhai sy'n arwain y byd neu'n rhagorol yn rhyngwladol (REF 2021).
Ystod eang o gyrsiau
Rydym yn darparu ystod eang o raglenni gradd meistr sydd wedi'u hachredu gan y sefydliadau peirianneg proffesiynol, ac mae ein cyfleoedd PhD yn cwmpasu'r holl brif ddisgyblaethau peirianneg.
Rhagolygon gyrfa graddedigion rhagorol
Fel myfyriwr ôl-raddedig, bydd gennych ragolygon gyrfa ardderchog gan fod gennym gysylltiadau agos â'r diwydiant ac mae ein graddedigion yn uchel eu parch gan gyflogwyr.
Bydd yr MSc hwn yn rhoi'r hyfforddiant, y sgiliau a'r profiad ymarferol angenrheidiol i lwyddo ym meysydd deinamig a hynod gystadleuol BIM a pheirianneg glyfar.
Dyluniwyd y cwrs hwn i gyflwyno drwy hyfforddiant a phrofiad ymarferol mewn theorïau lled-ddargludyddion cyfansawdd, creu, cymwysiadau, ac integreiddio â thechnoleg silicon.
Mae creu adeiladau modern yn waith cymhleth sy’n gofyn am sgiliau proffesiynol mewn sawl disgyblaeth. Mae'r cwrs hwn yn cynnig hyfforddiant uwch mewn dadansoddi, dylunio ac adeiladu strwythurau mewn amrywiaeth o ddeunyddiau.
Nod y radd hon yw cynhyrchu arbenigwyr ôl-raddedig gydag arbenigedd hanfodol mewn peirianneg electronig a microdon, a datblygu ymwybyddiaeth o’r gofod defnyddio sy’n tyfu ar gyfer y technolegau hyn.
Nod y radd hon yw cynhyrchu arbenigwyr ôl-raddedig gydag arbenigedd hanfodol mewn peirianneg electronig a microdon, a datblygu ymwybyddiaeth o’r gofod defnyddio sy’n tyfu ar gyfer y technolegau hyn.
Cwrs MSc sydd â phwyslais ar ymchwil ac sydd hefyd yn ceisio rhoi i chi'r wybodaeth a'r sgiliau lefel uwch, fydd yn eich galluogi i lwyddo yn y diwydiant cyfathrebu di-wifr a microdon, sy'n tyfu'n gyflym.
Nod y rhaglen gradd hon yw darparu gwybodaeth uwch am beirianneg fecanyddol dros amrywiaeth o bynciau arbenigol, gydag astudiaeth fanwl, drwy brosiect uwch dan arweiniad ymchwil, mewn maes o’ch dewis.
Bydd yr MSc Peirianneg Sero Net yn rhoi gwybodaeth a sgiliau peirianneg a gwyddonol allweddol i chi allu darparu datrysiadau datgarboneiddio effeithiol i daclo newid hinsawdd mewn cymdeithas ehangach.
Mae'r cwrs hwn wedi'i ddylunio i ddarparu datblygiad proffesiynol ôl-raddedig arbenigol yn y ddisgyblaeth newydd a chynhwysol hon, sy’n cydnabod na ellir datrys nifer o heriau amgylcheddol gan ddefnyddio un ddisgyblaeth draddodiadol yn unig. Mae'r rhaglen yn cwmpasu meysydd traddodiadol mewn peirianneg sifil, gwyddorau daear a bioleg.
Mae’r MSc hwn yn cyfuno roboteg flaengar a deallusrwydd artiffisial, gan gynnig addysg ymarferol i roi’r sgiliau sydd eu hangen arnoch yn y maes peirianneg hwn sy’n ehangu’n gyflym.
Mae’r MSc mewn Systemau Ynni Trydanol yn canolbwyntio’n benodol ar integreiddiad cynhyrchu adnewyddadwy i rwydweithiau trawsyrru a dosbarthu ynni ac ar baratoi myfyrwyr am gyfnod newydd o gridiau gwirioneddol ‘smart’, ac mae wedi’i ddylunio i fodloni’r angen brys am arbenigwyr mewn systemau ynni trydanol uwch.
Yng nghanol cyflwyniad technolegau amgylcheddol ac ynni newydd, nod y cwrs hwn yw hyfforddi graddedigion sy’n gallu gweithio ar draws rhyngwyneb disgyblaethau traddodiadol a bod yn effeithiol mewn amgylchedd amlddisgyblaethol cynyddol.
Nod y cwrs MRes hwn yw rhoi platfform rhagorol i chi ar gyfer datblygu gyrfa, boed hynny o fewn diwydiant neu ymchwil academaidd.
Ein sgyrsiau
Astudiaeth ôl-raddedig yn yr Ysgol Peirianneg
Mae Dr Mike Harbottle yn esbonio mwy am ein graddau ôl-raddedig a addysgir ac ymchwil, y cyfleoedd sydd ar gael i chi, a'n gofynion mynediad.
Cyfleoedd PhD mewn gweithgynhyrchu lled-ddargludyddion cyfansawdd
Mae'r Athro Peter Smowton yn sôn am y cyfleoedd ymchwil sydd ar gael ac yn esbonio pam mae lled-ddargludyddion cyfansawdd mor bwysig.
Peirianneg Fecanyddol Uwch (MSc)
Ein staff a'n myfyrwyr yn rhannu eu profiadau am ein rhaglen gradd meistr mewn Peirianneg Fecanyddol Uwch.
Peirianneg Sifil
Dr Aled Davies yn mynd â chi drwy ein pedair rhaglen gradd meistr mewn peirianneg sifil, strwythurol, geoamgylcheddol ac hydroamgylcheddol.
Systemau Ynni Trydanol (MSc)
Ein staff a'n myfyrwyr yn dweud wrthych am ein rhaglen gradd meistr mewn Systemau Ynni Trydanol.
Modelu Gwybodaeth Adeiladu (MSc)
Mae Dr Tom Beach yn esbonio pam y dylech ystyried astudio ar ein rhaglen gradd meistr mewn Modelu Gwybodaeth Adeiladu (BIM).
Ynni a'r Amgylchedd Cynaliadwy (MSc)
Mae Dr Valera-Medina yn cyflwyno rhaglen gradd meistr mewn Ynni a'r Amgylchedd Cynaliadwy gan gynnwys prif nodweddion y cwrs, ein myfyrwyr, gyrfaoedd a chyfleusterau.
Peirianneg Cyfathrebu Di-wifr a Microdon (MSc)
Clywch am y cwrs, ein myfyrwyr, ein cyfleusterau, a'r rhagolygon gyrfa ar gyfer graddedigion.
Electroneg Lled-ddargludyddion Cyfansawdd (MSc)
Mae Dr Roberto Quaglia yn disgrifio manteision astudio ar ein rhaglen gradd meistr mewn Electroneg Lled-ddargludyddion Cyfansawdd.
Technoleg Cyfathrebu ac Entrepreneuriaeth (MSc)
Dewch i glywed sut bydd ymuno â rhaglen gradd meistr Technoleg Cyfathrebu ac Entrepreneuriaeth yn eich helpu i ddatblygu eich gyrfa.