Mae ein hôl-raddedigion yn cynnal ymchwil diddorol, sy'n aml yn hanfodol, i amrywiaeth eang o feysydd pwnc, a gyfoethogir gyda lefel uchel o weithgaredd ymchwil ac arbenigedd yn yr Ysgol.
Mae ein cysylltiadau gyda busnesau ac asiantaethau'r llywodraeth yn sicrhau ansawdd a pherthnasedd ein cyrsiau.
Cynnwys y cyrsiau ar flaen y gad
Mae ein rhagleni gradd meistr yn mynd i’r afael â materion cyfoes ym meysydd yr amgylchedd, polisi ac ymchwil.
Enw da rhyngwladol
Ystyrir bod 100% o’n hymchwil yn arwain y byd neu’n rhagorol yn rhyngwladol, gan ein gosod yn 2il yn y DU am Systemau Daear a Gwyddorau Amgylcheddol (REF, 2021).
Dewch yn arweinydd ym maes gwyddor a rheoli dŵr gyda'n MSc rhyngddisgyblaethol, sydd wedi'i gynllunio i fynd i'r afael â heriau byd-eang ac agor llwybrau gyrfa amrywiol.
Mae ein graddau ôl-raddedig Ysgol Gwyddorau’r Ddaear a’r Amgylchedd yn seiliedig ar waith ymchwil annibynnol llawn amser, gyda goruchwyliwr academaidd i’ch llywio i ganfod meysydd catalysis newydd a chyffrous.
Ein cyrsiau ôl-raddedig a addysgir
Dŵr mewn Byd sy’n Newid (MSc) a Peryglon Amgylcheddol (MSc)
Mae Dr Tristram Hales yn rhoi blas i chi o'r hyn i'w ddisgwyl ar ein dwy raglen gradd meistr newydd mewn Dŵr mewn Byd sy'n Newid a Pheryglon Amgylcheddol.
O’r technegau dadansoddol diweddaraf i long ymchwil arfordirol, mae ein cyfleusterau’n cefnogi ymchwil a gweithgareddau addysgu ym mhob rhan o’r Ysgol.
Effaith ymchwil
Rydym yn cydweithio â sefydliadau cenedlaethol a rhyngwladol i drosi ein harbenigedd ymchwil yn sbectrwm eang o gymwysiadau cymdeithasol a diwydiannol.