
Deintyddiaeth
Gwireddwch eich potensial a dechrau eich taith broffesiynol drwy ymuno â’n hysgol arloesol sydd â naws deuluol.
Croeso cynnes
Ein Hysgol
Mae’r Ysgol wedi'i lleoli yn Ysbyty Deintyddol y Brifysgol ar Gampws Prifysgol Caerdydd ym Mharc y Mynydd Bychan, ac mae'n rhannu'r safle gydag Ysbyty Athrofaol Cymru, yr ysbyty prifysgol mwyaf ond dau yng ngwledydd Prydain. Mae’r Ysgol yn elwa ar 100 acer o barcdir a chaeau chwarae cyfagos, ac nid yw ond dwy filltir o ganol y ddinas.
Er ei bod wedi’i lleoli mewn ysbyty mawr, mae cymuned glòs gan yr Ysgol, gyda phoblogaeth ôl-raddedig o oddeutu 50 o fyfyrwyr cofrestredig. Mae ystafelloedd ôl-raddedig pwrpasol ar gael at ddefnydd ein myfyrwyr. Mae gennym dîm ôlraddedig pwrpasol hefyd, sy’n eich cefnogi ac yn sicrhau eich bod teimlo’n gartrefol o’r diwrnod cyntaf un.
Mwynheais i’r cwrs yn fawr oherwydd natur groesawgar y goruchwylwyr a’r staff yn yr ysbyty. Oherwydd hyn, roedd yr amgylchedd gwaith yn brofiad rhagorol ar lefel bersonol a phroffesiynol fel ei gilydd. Mae’r holl brofiad anhygoel gyda chleifion yn golygu bod y rhaglen hon yn un o’r goreuon, heb os.
Pam astudio gyda ni?
Cyfleusterau
Mae clinigau deintyddol o’r radd flaenaf ar gael ledled yr Ysgol, sy’n hwyluso addysgu o’r gadair ochr mewn amgylchedd proffesiynol a gofalgar. Mae gan ein labordai clinigol y dechnoleg CAD-CAM ddiweddaraf, a chyfleusterau argraffu tri dimensiwn ar gyfer prosthesisau mewneneuol. Cwblhawyd gwaith ailwampio gwerth £2.2 miliwn ar ein cyfleusterau addysgu cyn-glinigol (pennau ffug) hefyd yn ddiweddar.
Lleoliad
Rydym wedi ein lleoli ym mhrifddinas Cymru, ac ar ben hynny mae adeilad Ysbyty ac Ysgol Deintyddol y Brifysgol wedi'i leoli ar y campws gofal iechyd mwyaf yn y wlad, felly byddwch yn cael hyfforddiant mewn amgylchedd clinigol cyfannol o gychwyn cyntaf eich cwrs.
Ystadegau
Mae ein hystadegau’n dweud y cyfan! Rydym ymhlith y 3 gorau ar gyfer deintyddiaeth yn y DU yn ôl The Complete University Guide 2020 ac ymhlith y 50 gorau yn fyd-eang ar gyfer Deintyddiaeth yn ôl Rhestr Ryngwladol QS ar gyfer 2020.
Ymchwil
Barnwyd bod 100% o’r ymchwil a gyflwynwyd gennym o safon ryngwladol ac yn y safle 1af yn ei Uned Asesu yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) mwyaf diweddar.
Cyswllt cleifion
Wedi’i lleoli yn Ysbyty Deintyddol y Brifysgol, lle mae oddeutu 100,000 o gysylltiadau â chleifion bob blwyddyn – gyda 75% o’r rhain yn uniongyrchol berthnasol i hyfforddiant clinigol myfyrwyr.
Labordai pwrpasol
Mae lloriau uchaf yr Ysgol a’r Ysbyty Deintyddol yn gartref i’n labordai ymchwil pwrpasol, sy’n darparu mynediad at yr holl ddeunyddiau a’r offer sydd eu hangen i gynnal ymchwil biolegol, clinigol a throsiadol sy’n gystadleuol ar lefel rhyngwladol.
Cyrsiau
Clywed yr hyn sydd gan ein myfyrwyr i'w ddweud
Dewch i glywed yr hyn sydd gan ein myfyrwyr i'w ddweud am astudio rhaglen ôl-raddedig yn yr Ysgol Deintyddiaeth.
Mae MSc Mewnblanoleg Prifysgol Caerdydd yn cynnig gwybodaeth eang am Fewnblanoleg adferol a llawfeddygol mewn awyrgylch cyfeillgar sydd â’r holl gyfarpar angenrheidiol. Mae’n brofiad bythgofiadwy a byddwn yn argymell y cwrs i bob deintydd! Sofia Paikou, Mewnblanoleg
Rhagor o wybodaeth
Ar ôl gorffen fy ngradd Bagloriaeth mewn Biocemeg yn Sbaen, ro’n i’n chwilio am faes mwy penodol a heriol. Megais ddiddordeb yn natblygiad meinwe drwy bioargraffu 3D, ac felly dewisais ganolbwyntio ar hyn. Roedd y cyfleusterau’n anhygoel, ac roedd y staff bob amser yn barod i helpu ac yn agored i gwestiynau a syniadau newydd. YByddwn yn argymell y cwrs yma i unrhyw un sydd â diddordeb mawr mewn ymchwil ac sy’n barod i ganolbwyntio ei yrfa ar faes sy'n prysur ddatblygu gan y bydd yn cynnig llawer o gyfleoedd

Ysgol Deintyddiaeth sydd ag effaith fyd-eang
Caiff addysg gofal iechyd a gofal cleifion blaengar eu hintegreiddio’n llwyddiannus gyda’n cyfleusterau ymchwil yn ein canolfan addysgu ac ymchwilio nodedig.
Caiff ein staff academaidd a chlinigol eu cydnabod fel arbenigwyr sy’n arwain y byd yn eu meysydd. Maent yn darparu gwasanaethau clinigol gwerthfawr i bobl Cymru, yn ogystal â chyflawni eu cyfrifoldebau academaidd.
Mae ein hymchwil yn canolbwyntio’n bennaf ar ymchwil trosiadol ac ar gael effaith arwyddocaol er mwyn gwella ymarfer clinigol ar gyfer cleifion, y gymdeithas a'r economi.
Mae gennym strategaeth ymchwil sy'n dechrau gyda’r syniad gwreiddiol, a’r cyfnodau yn y labordy, hyd at ei weithredu.
I gyflawni'r nod hwn, mae llawer o’n gwaith ymchwil yn cael ei gynnal mewn cydweithrediad â grwpiau ymchwil y tu allan i Brifysgol Caerdydd, gan gynnwys sefydliadau academaidd eraill yn y DU, Ewrop a ledled y byd, sefydliadau'r llywodraeth a sefydliadau anllywodraethol, y GIG a diwydiant.
Darganfod Prifysgol Caerdydd
Y camau nesaf
Cymerwch olwg ar ein meini prawf derbyn
Ewch i’n tudalennau meini prawf derbyn i gael gwybodaeth am ofynion mynediad, gweithdrefnau dewis a throsglwyddiadau.
Lawrlwytho ein llyfryn
Manylion ein rhaglenni ôl-raddedig deintyddiaeth ar gyfer mynediad 2020/2021.
Cysylltu â ni
Gofynnwch gwestiwn drwy ein ffurflen ymholi, a chewch ateb gennym cyn gynted ag y bo modd.