Bydd ein cyrsiau yn eich helpu chi i ddatblygu eich addysg a chael effaith ar eich gyrfa yn y dyfodol. Boed yr yrfa honno mewn ymchwil academaidd neu ddiwydiannol, gofal iechyd, cynhyrchion fferyllol, cyfathrebu gwyddonol neu rywle arall, mae gennym amrywiaeth o gyrsiau i weddu i'ch anghenion a'ch dyheadau gyrfaol.
Mae’r cwrs amlbwrpas hwn yn sylfaen ardderchog ar gyfer gyrfa mewn ymchwil, ac mae galw mawr am ein graddedigion o’r diwydiannau gwyddor cemegol yn y DU ac yn rhyngwladol.
Mae cemegwyr meddyginiaethol ar flaen y gad ym maes meddygaeth fodern, gan ddatblygu therapïau a brechlynnau newydd i atal a thrin heintiau a chlefydau. Mae'r cwrs hwn yn canolbwyntio ar agweddau biolegol cemeg, gan roi'r sgiliau i chi ymuno â'r maes cyffrous hwn.
Mae gan yr Ysgol Cemeg gryfderau penodol mewn Catalysis Heterogenaidd, Catalysis Homogenaidd a Gwyddoniaeth Arwynebau, gan gynnwys Sefydliad Catalysis Caerdydd (CCI) sy’n bwrpasol i’r maes cyffrous hwn o astudiaeth.
Mae gan yr Ysgol Cemeg dîm ymchwil sy'n ehangu ac sy'n cyflawni ymchwil arloesol mewn Cemeg Damcaniaethol a Chyfrifiadurol, yn creu ymchwil i ddamcaniaethau a chyfrifiannu.
Mae gan yr Ysgol Cemeg grŵp ymchwil cryf mewn Cemeg Fiolegol . Mae hyn yn cynnwys datblygu ein hymchwil mewn cemeg feddyginiaethol trwy gysylltiadau â’r Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau.
Mae gan yr Ysgol Cemeg dîm ymchwil penodol mewn Synthesis Organig, sy’n canolbwyntio ar ddatblygu dulliau synthetig newydd.
Ein sgyrsiau
Cyflwyniad i'n rhaglenni gradd meistr a addysgir
Dr Tom Tatchell, Rheolwr Addysg a Myfyrwyr, sy'n rhannu popeth sydd angen i chi ei wybod am astudiaethau ôl-raddedig yn yr Ysgol Cemeg yn cynnwys cyfleoedd gyrfa i raddedigion, oriau cyswllt ar gyfer ein rhaglenni gradd a addysgir, y gwahaniaethau rhwng astudio israddedig ac ôl-raddedig, a mwy.
Cemeg Uwch (MSc)
Mae Dr Niklaas Buurma yn trafod sut mae’r cwrs hwn yn paratoi myfyrwyr ar gyfer ystod o yrfaoedd ymchwil mewn prifysgolion, asiantaethau’r llywodraeth a chwmnïau gwyddonol ledled y byd.
Cemeg Feddyginiaethol (MSc)
Mae Dr Michaela Serpi yn egluro sut mae cemeg feddyginiaethol yn wyddoniaeth sy'n datblygu'n gyflym ac yn ymwneud â'r gemeg sy'n sail i ddylunio, darganfod a datblygu cynhyrchion fferyllol newydd.
Mae gan ein Hysgol enw da byd-eang am ragoriaeth ymchwil, gyda chymuned fywiog ac amrywiol o fyfyrwyr ôl-raddedig. Cewch archwilio ein cyfleusterau a chael rhagor o wybodaeth am yr Ysgol ac ymchwil yn cynnwys Sefydliad Catalysis Caerdydd.
Rebekah yn rhannu ei phrofiadau fel myfyriwr cemeg ôl-raddedig.
Mae’r myfyriwr MChem a PhD Rebekah Taylor yn esbonio pam ddewisodd hi astudio cemeg yng Nghaerdydd ac yn rhannu cyngor defnyddiol i fyfyrwyr sy’n ystyried astudio gyda ni, gan gynnwys gwybodaeth am gefnogaeth i fyfyrwyr, y sgiliau a gafodd hi yn ystod ei gradd a dinas Caerdydd.