Ewch i’r prif gynnwys

Pam astudio gyda ni

Cydbwyso theori ac ymarfer wrth i chi baratoi at yrfaoedd ar draws ystod o ddisgyblaethau arbenigol busnes a rheoli. Bydd ein harbenigwyr academaidd ac ymarfer yn defnyddio’r ymchwil diweddaraf i gyflwyno rhaglenni sy’n canolbwyntio ar y dyfodol, wedi’u harwain gan heriau, ym maes cyfrifeg a chyllid, economeg, rheoli, cyflogaeth a sefydliadau, logisteg a rheoli gweithrediadau, a marchnata a strategaeth.

rosette

Achrededir yn rhyngwladol

Rydym wedi'n cydnabod am ragoriaeth a’n hachredu gan y Gymdeithas i Hyrwyddo Ysgolion Busnes Colegol (AACSB International) a Chymdeithas MBAs (AMBA).

tick

Gwasanaeth gwella gyrfaoedd

Byddwch yn elwa o gymorth pwrpasol gan ein cynghorwyr proffesiynol o ran canfod cyfleoedd profiad gwaith, prosiectau busnes byw a mewnwelediad i’ch helpu i ymuno â’r gweithle i gyflawni eich dyheadau gyrfaol.

star

Rhagoriaeth ymchwil

Y sgôr uchaf posibl ar gyfer amgylchedd ymchwil ac yn 2il ar gyfer pŵer ymchwil (REF 2021).

Cyrsiau

Cyfrifeg a Chyllid (MSc)

Amser llawn

Llywio arloesedd ym mhob maes busnes yn ogystal â gwerthfawrogi arwyddocâd cyfrifeg a chyllid er mwyn creu cymdeithas fwy cyfrifol a chynaliadwy.

Cyllid gyda Thechnoleg Ariannol (MSc)

Amser llawn

Ewch ati i feistroli hanfodion cyllid ac arbenigo ym maes deinamig a datblygol technoleg ariannol.

Cyllid (MSc)

Amser llawn

Heriwch eich hun ar y rhaglen hon sy’n canolbwyntio ar ymarfer a datblygwch yr hyder, y wybodaeth a’r sgiliau i gael gyrfa lwyddiannus ym maes cyllid.

Dadansoddeg Busnes (MSc)

Amser llawn

Cewch feistroli hanfodion dadansoddeg busnes a chefnogi eich dyheadau gyrfaol at y dyfodol trwy archwilio sut y gellir cymhwyso'r rhain yn ymarferol - yn strategol ac yn weithredol.

Economeg Ariannol (MSc)

Amser llawn

Enillwch y sgiliau dadansoddol, ansoddol a meintiol i ymateb i broblemau economaidd a wynebir gan asiantaethau’r llywodraeth, banciau canolog, sefydliadau ariannol a diwydiant.

Economeg (MSc)

Amser llawn

Defnyddiwch theori economaidd uwch i ail-fframio a datrys problemau gwleidyddol-gymdeithasol cyfoes.

Economeg, Bancio a Chyllid Rhyngwladol (MSc)

Amser llawn

Gweld y ‘darlun cyflawn’ o’r facro-economi a datblygu’r sgiliau i fynd i’r afael â phroblemau ariannol, bancio, cyllid ac economaidd ar draws cyfandiroedd.

Gweinyddu Busnes gyda Deallusrwydd Artiffisial (MBA)

Amser llawn

Mae’r rhaglen ar gyfer pobl brofiadol mewn technoleg neu waith addas a hoffai dreulio cyfnod o astudio a datblygu personol i’w helpu i gyrraedd rolau arweinyddion uchelradd yn gyflymach.

Gweinyddu Busnes (MBA)

Amser llawn, Rhan amser

Ewch i’r afael â heriau arwain ac ystyried effaith economaidd, gymdeithasol ac amgylcheddol busnesau byd-eang.

Logisteg a Rheoli Gweithrediadau (MSc)

Amser llawn

Datblygwch y wybodaeth a’r sgiliau i reoli’r swyddogaethau busnes hanfodol hyn.

Marchnata (MSc)

Amser llawn

Dewch â’ch diddordebau ac arbenigedd i raglen marchnata sydd wedi’i dylunio ar gyfer myfyrwyr o unrhyw gefndir disgyblaethol.

Marchnata Strategol a Digidol (MSc)

Amser llawn

Datblygu a grymuso'r genhedlaeth nesaf o arweinwyr marchnata yn y byd digidol.

Polisi Morol a Rheoli Llongau (MSc)

Amser llawn

Archwiliwch y diwydiant morol trwy nifer o ddisgyblaethau ar y rhaglen hon sy’n canolbwyntio ar agweddau ymarferol.

Rheolaeth Busnes gyda Blwyddyn Lleoliad Proffesiynol (MSc)

Amser llawn gyda blwyddyn ryngosod

Byddwch yn rheolwr effeithiol sy’n gallu cynnig datrysiadau creadigol i amrywiaeth o heriau busnes.

Rheoli Adnoddau Dynol (MSc)

Amser llawn, Rhan amser

Datblygwch sgiliau Adnoddau Dynol proffesiynol gan ein harbenigwyr academaidd ac ymarfer ar y rhaglen hon sydd ag achrediad CIPD.

Rheoli Adnoddau Dynol Rhyngwladol (MSc)

Amser llawn

Gallwch gaffael yr arbenigedd i fod yn ymarferydd Adnoddau Dynol cyfrifol mewn masnach fyd-eang.

Rheoli Busnes (MSc)

Amser llawn, Amser llawn

Byddwch yn rheolwr effeithiol sy’n gallu cynnig datrysiadau creadigol i amrywiaeth o heriau busnes.

Rheoli Cadwyn Gyflenwi Cynaliadwy (MSc)

Amser llawn

Byddwch yn rheolwr cadwyni cyflenwi’r dyfodol a dysgu gan academyddion sydd yn flaenllaw yn eu maes.

Rheoli Peirianneg (MSc)

Amser llawn

Trosglwyddwch eich gyrfa beirianneg i ddod yn arweinydd rheoli dylanwadol yn barod i gyflawni newid cynaliadwy.

Rheoli Rhyngwladol (MSc)

Amser llawn

Dysgwch ddulliau a thechnegau er mwyn dynodi a datrys cyfyng-gyngor moesol mewn busnes byd-eang.

Strategaeth Busnes ac Entrepreneuriaeth (MSc)

Amser llawn

Datblygwch eich cynllun busnes eich hun ar gyfer menter newydd gyda chefnogaeth gan arbenigwyr academaidd ac entrepreneuriaid profiadol.

Astudiaethau Busnes (PhD)

Amser llawn, rhan-amser

Mae ein PhD Astudiaethau Busnes yn cynnwys blwyddyn o hyfforddiant ymchwil a thair blynedd o waith ar bwnc eich doethuriaeth wedyn.

Cyfrifeg a Chyllid (PhD)

Amser llawn, rhan-amser

Mae gan Adran Cyfrifeg a Chyllid yn Ysgol Busnes Caerdydd enw da byd-eang sefydledig ac sy’n cynyddu am gynnal ymchwil empirig a damcaniaethol o ansawdd uchel mewn cyfrifeg a chyllid a meysydd cysylltiedig.

Economeg (PhD)

Amser llawn

Mae ein rhaglen PhD Economeg yn cynnwys dwy flynedd o waith cwrs uwch.

Logisteg a Rheoli Gweithrediadau (PhD)

Amser llawn, rhan-amser

Ein nod yw cael timau rhyngddisgyblaethol o academyddion yn hyrwyddo gwybodaeth, theori ac arfer yn rheoli logisteg a gweithrediadau a thrwy hynny arwain y byd.

Marchnata a Strategaeth (PhD)

Amser llawn, rhan-amser

Mae’r Adran Marchnata a Strategaeth yn Ysgol Busnes Caerdydd yn cynnal ac yn cyhoeddi ymchwil arloesol a gwreiddiol ar ffurfio a gweithredu strategaethau marchnad effeithiol ar lefelau domestig a rhyngwladol.

Rheoli, Cyflogaeth a Sefydliad (PhD)

Amser llawn, rhan-amser

Yn ogystal â hyrwyddo ymchwil o ansawdd rhyngwladol, nod yr adran yw i ddarparu addysg a arweinir gan ymchwil o ansawdd rhagorol ac i ddarparu amgylchedd cefnogol ar gyfer datblygu ymchwilwyr academaidd ac addysgwyr.

Dewch i gwrdd â'n myfyrwyr a'n cyn-fyfyrwyr

Ydych chi’n chwilfrydig i ddysgu rhagor am fywyd ôl-raddedigion yn Ysgol Busnes Caerdydd?

Dewch i gwrdd â’n myfyrwyr gwych a chael clywed am eu profiadau.

Dewch i gwrdd â Faruk Hosen sy'n astudio Economeg (MSc).

Fy mhrofiad ôl-raddedig i yn Ysgol Busnes Caerdydd - Economeg (MSc)

Dewch i gwrdd â Faruk Hosen sy'n astudio Economeg (MSc).

Dewch i gwrdd â Kit, sy'n astudio Marchnata (MSc).

Fy mhrofiad ôl-raddedig i yn Ysgol Busnes Caerdydd - MSc Marchnata

Dewch i gwrdd â Kit, sy'n astudio Marchnata (MSc).

Dewch i gwrdd â Darshan, sy'n astudio Marchnata Strategol (MSc).

Fy mhrofiad ôl-raddedig i yn Ysgol Busnes Caerdydd - Marchnata Strategol (MSc)

Dewch i gwrdd â Darshan, sy'n astudio Marchnata Strategol (MSc).

Mae Lina yn dweud wrthon ni pam ei bod yn argymell astudio Polisïau Morol a Rheoli Morgludiant (MSc).

Hanes Lina: Polisïau Morol a Rheoli Llongau (MSc)

Mae Lina yn dweud wrthon ni pam ei bod yn argymell astudio Polisïau Morol a Rheoli Morgludiant (MSc).

Dewch i gwrdd â Noor ac Annie sy'n astudio Polisïau Morwrol a Rheoli Morgludiant (MSc).

Polisïau Morol a Rheoli Morgludiant (MSc) ym Mhrifysgol Caerdydd

Dewch i gwrdd â Noor ac Annie sy'n astudio Polisïau Morwrol a Rheoli Morgludiant (MSc).

Dewch i gwrdd â Sandhya sy'n dweud wrthon ni pam y dewisodd astudio'r MBA yn Ysgol Busnes Caerdydd.

Pam dewisais i astudio'r MBA ym Mhrifysgol Caerdydd - Sandhya

Dewch i gwrdd â Sandhya sy'n dweud wrthon ni pam y dewisodd astudio'r MBA yn Ysgol Busnes Caerdydd.

Ein disgyblaethau

Cyfrifeg a Chyllid

Mae ein rhaglenni cyfrifeg a chyllid yn cynnig cyfuniad heriol o astudiaethau cymhwysol ac academaidd fydd yn ysgogi’r meddwl.

Busnes a rheolaeth

Trin a thrafod ac archwilio cysylltiadau cyflogaeth, astudiaethau trefniadaeth a rheolaeth, gan ganolbwyntio’n benodol ar reoli'r sector cyhoeddus a pholisïau cyhoeddus.

Economeg

Rydyn ni’n addysgu ar draws ystod o arbenigeddau ym maes economeg gan gynnwys macro-economeg, theori gemau, ac economeg llafur.

Logisteg a rheoli gweithrediadau

Cyfuno sgiliau rhyngddisgyblaethol mewn busnes, mathemateg, economeg, peirianneg, daearyddiaeth a seicoleg.

Marchnata a strategaeth

Rydym yn trin a thrafod ac yn archwilio sylfeini craidd marchnata a strategaeth gan gynnwys mantais gystadleuol, datblygu cynnyrch newydd ac ymddygiad defnyddwyr.

Ein sgyrsiau a’n fideos

Diben ein Gwerth Cyhoeddus

Rydym yn ysgol fusnes sydd â chenhadaeth i gyflawni gwelliannau cymdeithasol ochr yn ochr â datblygiadau economaidd. Gwerth Cyhoeddus yw'r enw sydd gennym am hyn.

Y peth gwych am fod yn Rheolwr Cleient yn Gartner yw nad oes unrhyw ddyddiau cyffredin. Gallai fod gen i weithdy cleient neu gyflwyniad, sesiwn ateb mewnol, ymchwil, treulio amser ar amcanion cleient ar gyfer digwyddiad, neu nifer o weithgareddau eraill. Mae astudio yn Ysgol Busnes Caerdydd wedi datblygu fy sgiliau meddwl beirniadol, datrys problemau a sgiliau cyflwyno, ac mae pob un ohonynt yn ddefnyddiol bob dydd.
Giacomo Corsini MSc Marchnata Strategol

Rhagor o wybodaeth amdanom ni

Audience at business event

Ein rhwydweithiau proffesiynol

Rydym wedi datblygu perthynas gyda busnesau o bob math i’n helpu i gynnig profiad dysgu unigryw i’n myfyrwyr. Gyda’u cefnogaeth, bydd gennych gyfleoedd i ymgymryd â lleoliadau gwaith, mynd i’r afael â prosiectau busnes byw, cydweithio â’n entrepreneuriaid preswyl, yn ogystal â mynd i darlithoedd gwadd, teithiau maes a gweithdai.

Business School students

Rydym yn sefyll dros werth cyhoeddus

Rydym yn Ysgol Busnes sydd â phwrpas ac mae ein cenhadaeth yn glir – cael effaith gadarnhaol ar y byd. Rydym yn rhoi gwerth ar fwy na llwyddiant economaidd yn unig. Rydym am ddod â dyngarwch, cynaliadwyedd, haelioni ac arloesedd i’r sector busnes. Gallwn arwain y ffordd ym maes busnes mewn byd sy’n newid. Gyda’n gilydd gallwn wneud gwahaniaeth.

Cardiff MBA students

Ymchwil ôl-raddedig

Paratowch ar gyfer eich gyrfa ymchwil yn y byd academaidd, fel ymarferydd busnes neu luniwr penderfyniadau polisi cyhoeddus ar ein rhaglenni doethurol. Fe gewch chi’r adnoddau, y gefnogaeth a’r cyfleoedd i gyfrannu at ddatblygiad gwybodaeth a chreu effaith a gwerth yn eich maes academaidd dewisol.

Darganfod Prifysgol Caerdydd

Student getting advice

Cefnogi myfyrwyr

Cewch gyngor diduedd, cyfrinachol ac am ddim ar anabledd a dyslecsia, arian, gyrfaoedd, cwnsela a mwy.

Postgraduate students applying for a postgraduate loan

Ariannu eich astudiaethau

Mwy o wybodaeth am yr ysgoloriaethau, pecynnau cymorth llywodraeth y DU, a’r benthyciadau i fyfyrwyr sydd ar gael ar eich cyfer.

Cegin (hygyrch)

Pori drwy ddewisiadau llety

Ddim yn siŵr pa lety i ddewis? Gall ein canllaw cymharu defnyddiol eich helpu i wneud penderfyniad.

A student shopping in a mini mart

Costau byw

Gweld pa mor bell fydd eich arian yn mynd drwy ddefnyddio ein cyfrifiannell costau byw.

Camau nesaf

academic-school
book
icon-contact

Cysylltu â ni

Gofynnwch gwestiwn drwy ein ffurflen ymholi, a chewch ateb gennym cyn gynted ag y bo modd.

icon-pen

Sut i wneud cais

Popeth y mae angen i chi ei wybod am ein proses ymgeisio.

Pynciau eraill a allai fod o ddiddordeb i chi

Female student working

MBA

Rhowch hwb i’ch gyrfa a pharatowch ar gyfer y cam mawr nesaf gydag MBA Caerdydd.