Ewch i’r prif gynnwys

Pam astudio gyda ni?

academic-school

Ysgol bensaernïaeth flaenllaw

Astudiwch yn un o ysgolion pensaernïaeth gorau’r DU ym mhrifddinas gosmopolitan Cymru.

notepad

Rhagoriaeth ymchwil

Mae ein hymchwil yn cynnwys y gwyddorau ffisegol, y gwyddorau cymdeithasol, y dyniaethau a dylunio, er mwyn meithrin rhagoriaeth mewn meysydd allweddol sy'n perthyn i bensaernïaeth a'r amgylchedd adeiledig.

globe

Bri rhyngwladol

Mae ein hacademyddion sydd o fri rhyngwladol yn cydweithio'n agos â’n cymuned ymchwil ôl-raddedig lwyddiannus ar brosiectau fel y tŷ clyfar ynni cost isel cyntaf a adeiladwyd at y diben yn y Deyrnas Unedig.

Roedd fy nghwrs yn hollol wych. Nid gorfod dysgu oeddwn i; roeddwn i eisiau dysgu! Yn ystod fy nghyfnod ym Mhrifysgol Caerdydd, cefais y mentoriaid gorau, y canllawiau gorau a’r ewyllys i dyfu fel person.
Yashika Narula, MSc Mega-Adeiladau Cynaliadwy

Cyrsiau

Cadwraeth Gynaliadwy Adeiladau (MSc)

Amser llawn, Rhan amser

Mae cwrs achredig Sefydliad Gwarchod Adeiladau Hanesyddol (HBC) yn ceisio bod yn unigryw ymysg ysgolion ym Mhrydain mewn dwy ffordd:

Dulliau Cyfrifiadurol mewn Pensaernïaeth (MSc)

Amser llawn

Mae'r cwrs hwn yn mynd i'r afael â'r galw am weithwyr creadigol proffesiynol sydd â sgiliau ym meysydd TG, saernïo digidol a meddalwedd efelychu, neu sydd â'r gallu i gynllunio dulliau datblygu meddalwedd penodol i ddatrys problemau dylunio unigryw.

Dylunio Adeiladau’n Amgylcheddol (MSc)

Amser llawn, Amser llawn yn dysgu o bell, Rhan amser, Rhan amser yn dysgu o bell, Rhan amser yn dysgu o bell

Nod ein cwrs yw datblygu gwybodaeth ac arbenigedd ynghylch dylunio amgylcheddau iach a chyfforddus mewn adeiladau ac o'u cwmpas, beth bynnag fo'r hinsawdd, gan roi sylw priodol i faterion cynaliadwyedd.

Dylunio Pensaernïol (MA)

Amser llawn

Mae’r rhaglen hon ar gyfer ôl-raddedigion sy’n chwilio am gwrs blaengar ac ysgogol sy’n rhoi pwyslais ar ddylunio ac yn ystyried amryw agweddau dylunio ac ymchwilio a’r ffordd maen nhw’n ymwneud â’i gilydd.

Dylunio Trefol (MA)

Amser llawn

Mae’r cwrs hwn, a redir ar y cyd ag Ysgol Bensaernïaeth Cymru, yn galluogi myfyrwyr i ddysgu gan ddefnyddio dylunio, theori, ac arferion dylunio datblygu a rheoli, a fydd yn llywio'r prosesau dylunio trefol.

Mega-Adeiladau Cynaliadwy (MSc)

Amser llawn, Rhan amser

Mae’r rhaglen yn hoelio sylw ar egwyddorion cynllunio, dyluniad a chyflawniad a pherfformiad graddfa uchel ac adeiladau graddfa uchel a thyrrau o fflatiau, bydd yn rhoi cyfleoedd gyrfaol rhagorol.

Meistr mewn Gweinyddu Dylunio ((MDA) (Distance))

Amser llawn yn dysgu o bell, Rhan amser yn dysgu o bell

The aim of this programme is to provide students with in-depth knowledge and understanding of the management and legal aspects of design, and the skills necessary to successfully administer the procurement of design services and building projects.

Meistr mewn Gweinyddu Dylunio (MDA)

Dysgu cyfunol llawn amser, Dysgu cyfunol rhan amser

Nod y rhaglen hon yw helpu myfyrwyr i wybod a deall yn drylwyr agweddau rheolaethol a chyfreithiol dylunio a meithrin y medrau hanfodol ar gyfer gweinyddu prosesau caffael gwasanaethau dylunio a phrosiectau adeiladu.

Pensaernïaeth (MArch)

Amser llawn yn rhan o swydd

Rhaglen dwy-flynedd yw hon ac fe gymer hi raddedigion i lefel uchel o ddylunio pensaernïol. Mae’n bodloni Rhan 2 o gymhwyster proffesiynol y DU i benseiri, ac fe’i cymeradwywyd gan RIBA.

Pensaernïaeth: Ymarfer Proffesiynol (PgDip)

Dysgu cyfunol llawn amser, Amser llawn yn dysgu o bell, Dysgu cyfunol rhan amser, Rhan amser yn dysgu o bell

Yn y rhaglen hon, bydd myfyrwyr yn meithrin dealltwriaeth drylwyr o agweddau cyfreithiol ac economaidd ymarfer pensaernïol a chaffael ym maes adeiladu yn ogystal â meithrin medrau y bydd eu hangen ar bensaer i weithredu’n effeithiol.

Pensaernïaeth (PhD, MPhil)

Amser llawn, rhan-amser

Cynnig gwybodaeth ac arbenigedd ar gyfer gyrfa mewn pensaernïaeth a meysydd eraill o ddylunio adeiladau, y byd academaidd a'r diwydiant adeiladu.

Ymarfer Creadigol ym maes Pensaernïaeth (PhD) (PhD)

Amser llawn, rhan-amser

Mae'r rhaglen hon ar gyfer gweithwyr proffesiynol ym maes dylunio a hoffai fireinio eu medrau trwy ymarfer yn y gweithle.

Ein sgyrsiau

Astudiaeth ôl-raddedig yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru

Dysgwch beth i'w ddisgwyl o astudiaethau ôl-raddedig yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru gan Dr Sam Clark, Cyfarwyddwr Recriwtio a Derbyn.

Gradd Meistr Pensaernïaeth (MArch)

Bydd Caroline Almond, Cadeirydd Blwyddyn 1 MArch, a’r Dr Mhairi McVicar, Cadeirydd Blwyddyn 2 MArch, yn rhoi crynodeb o raglen Meistr Pensaernïaeth a’r hyn y gallwch chi ei ddisgwyl ym mlynyddoedd 4 a 5.

Ymchwil ôl-raddedig yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru

Dysgwch fwy am ymchwil ôl-raddedig yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru gan Dr Vicki Stevenson, Cyfarwyddwr Ymchwil Ôl-raddedig.

Ein Hysgol

Mae gan ein Hysgol enw rhagorol yn rhyngwladol fel canolfan ar gyfer ymchwil i’r amgylchedd adeiledig a dylunio. Rydym yn ymfalchïo yn ein gallu i gynhyrchu graddedigion hynod gyflogadwy sy’n gallu cymhwyso arbenigedd, manwl gywirdeb a dychymyg er mwyn datrys heriau sy’n ymwneud â phensaernïaeth a dylunio ledled y byd. Archwiliwch ein cyfleusterau, Ysgol ac ymchwil ac edrychwch ar rai o'n prosiectau myfyrwyr ôl-raddedig presennol yn ein harddangosfa ar-lein i ddysgu mwy am sut beth yw bod yn rhan o ysgol bensaernïaeth fywiog, gydweithredol gyda diwylliant stiwdio cryf.

Ysgol Pensaernïaeth Cymru ydyn ni

Cewch wybod am Ysgol Pensaernïaeth Cymru, dysgu am ein gwerthoedd craidd a gweld sut brofiad yw bod yn rhan o'r Ysgol.

Taith trwy Ysgol Pensaernïaeth Cymru

Mae adeilad Bute rhestredig Gradd II eiconig Ysgol Pensaernïaeth Cymru wedi cael ei adnewyddu’n helaeth i gynnwys cyfleusterau pwrpasol newydd gan gynnwys gofodau stiwdio mwy, Stiwdio Hybrid, Labordy Byw a Neuadd Arddangos. Mae’r ffilm newydd hon yn arddangos gwedd newydd yr adeilad, gan fynd â gwylwyr ar daith dan arweiniad myfyrwyr presennol a’u profiadau o astudio yn yr ysgol.

WSA robot arm

Cyfleusterau

Fel rhan o fuddsoddiad mawr diweddar rydym wedi adnewyddu ein Hadeilad Bute rhestredig Gradd II i gynnwys ystod o gyfleusterau pwrpasol ar gyfer staff a myfyrwyr.

Summer Exhibition 2017

Arddangosfa Myfyrwyr 2022: Ysgol Pensaernïaeth Cymru

Bydd ein harddangosfa rithwir yn rhoi’r cyfle i chi weld amrywiaeth o waith a gynhyrchwyd gan ein hamrywiaeth eang o gyrsiau dros y flwyddyn ddiwethaf.

Studio work

Taith trwy stiwdio

Gweld un o’n stiwdios trwy daith 360.

SAWSA logo

SAWSA: Cymdeithas Pensaernïaeth

SAWSA yw'r gymuned myfyrwyr fwyaf blaenllaw ym Mhrifysgol Caerdydd ar gyfer y rhai sydd â diddordeb ym meysydd pensaernïaeth a dylunio.

Fe wnes i gais i wneud fy MSc ym Mhrifysgol Caerdydd gan fod y cwrs yn cynnig yr ymagwedd ryngddisgyblaethol at ddysgu yr oeddwn yn chwilio amdani i herio fy hun. Roedd y cyfarpar oedd ar gael yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru, gan gynnwys braich robotig Kuka, argraffwyr 3D, a gweithdy pren gyda’r holl gyfarpar, yn fonws ychwanegol. Mae Caerdydd hefyd yn ddinas hynod groesawgar ac yn addas i fyfyrwyr.
Aileen Hoenerloh, MSc Dulliau Cyfrifiadurol mewn Pensaernïaeth

Ffilmiau am ein cyrsiau

Gwyliwch ein ffilmiau byrion am ein cyrsiau i gael rhagor o wybodaeth am y rhaglen sydd o ddiddordeb i chi.

Ffilm fer sy’n disgrifio ein MA Dylunio Pensaernïol yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru, gan gynnwys cymuned yr Ysgol, manylion y cwrs, nodweddion a chyfleusterau, a chyflogadwyedd.

MA Dylunio Pensaernïol

Ffilm fer sy’n disgrifio ein MA Dylunio Pensaernïol yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru, gan gynnwys cymuned yr Ysgol, manylion y cwrs, nodweddion a chyfleusterau, a chyflogadwyedd.

Dyma’r Athro Sarah Lupton, cadair bersonol a chyfarwyddwr rhaglenni yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru, yn trafod y rhaglen Meistr Gweinyddu Dylunio.

Gradd Meistr mewn Gweinyddu Dylunio (MDA)

Dyma’r Athro Sarah Lupton, cadair bersonol a chyfarwyddwr rhaglenni yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru, yn trafod y rhaglen Meistr Gweinyddu Dylunio.

Mae’r Athro Wassim Jabi yn darparu rhagor o wybodaeth am y rhaglen MSc mewn Dulliau Cyfrifiadurol mewn Pensaernïaeth yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru.

MSc Dulliau Cyfrifiadurol mewn Pensaernïaeth

Mae’r Athro Wassim Jabi yn darparu rhagor o wybodaeth am y rhaglen MSc mewn Dulliau Cyfrifiadurol mewn Pensaernïaeth yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru.

Dyma Sarah O’Dwyer, tiwtor dysgu o bell yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru, yn trafod yr offer a ddefnyddiwn ar ein rhaglen dysgu o bell MSc Dylunio Adeiladau'n Amgylcheddol.

MSc Dylunio Adeiladau’n Amgylcheddol (Dysgu o Bell)

Dyma Sarah O’Dwyer, tiwtor dysgu o bell yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru, yn trafod yr offer a ddefnyddiwn ar ein rhaglen dysgu o bell MSc Dylunio Adeiladau'n Amgylcheddol.

Ffilm fer yn disgrifio ein MSc Dylunio Adeiladau’n Amgylcheddol sydd wedi’i hachredu gan CIBSE yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru.

MSc Dylunio Adeiladau'n Amgylcheddol

Ffilm fer yn disgrifio ein MSc Dylunio Adeiladau’n Amgylcheddol sydd wedi’i hachredu gan CIBSE yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru.

Ffilm fer yn disgrifio ein MSc Cadwraeth Adeiladau Gynaliadwy yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru.

MSc Cadwraeth Adeiladau Cynaliadwy

Ffilm fer yn disgrifio ein MSc Cadwraeth Adeiladau Gynaliadwy yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru.

Ffilm fer yn disgrifio ein MSc Mega-Adeiladau Cynaliadwy sydd wedi’i hachredu gan CIBSE a CTBUH yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru.

MSc Mega-Adeiladau Cynaliadwy

Ffilm fer yn disgrifio ein MSc Mega-Adeiladau Cynaliadwy sydd wedi’i hachredu gan CIBSE a CTBUH yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru.

Darganfod Prifysgol Caerdydd

Student getting advice

Cefnogi myfyrwyr

Cewch gyngor diduedd, cyfrinachol ac am ddim ar anabledd a dyslecsia, arian, gyrfaoedd, cwnsela a mwy.

Postgraduate students applying for a postgraduate loan

Ariannu eich astudiaethau

Mwy o wybodaeth am yr ysgoloriaethau, pecynnau cymorth llywodraeth y DU, a’r benthyciadau i fyfyrwyr sydd ar gael ar eich cyfer.

Cegin (hygyrch)

Pori drwy ddewisiadau llety

Ddim yn siŵr pa lety i ddewis? Gall ein canllaw cymharu defnyddiol eich helpu i wneud penderfyniad.

A student shopping in a mini mart

Costau byw

Gweld pa mor bell fydd eich arian yn mynd drwy ddefnyddio ein cyfrifiannell costau byw.

Y camau nesaf

certificate

Edrychwch ar yr holl gyrsiau ôl-raddedig yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru

Cymerwch olwg ar ein cyrsiau ôl-raddedig ar gyfer 2023/2024.

screen

Gweld holl grwpiau ymchwil ôl-raddedig Ysgol Pensaernïaeth Cymru.

Archwiliwch ein hopsiynau ymchwil ôl-raddedig ar gyfer mynediad 2023/2024.

icon-contact

Cysylltu â ni

Os gofynnwch chi gwestiwn trwy ein ffurflen ymholi, byddwn ni’n ymateb cyn gynted ag y bo modd.

icon-pen

Sut i wneud cais

Popeth y mae angen ichi ei wybod am ein proses ymgeisio.