Ewch i’r prif gynnwys

Pam astudio gyda ni

A ninnau’n chwilfrydig am y profiad dynol ar draws milenia a diwylliannau, rydym am ddeall ein gorffennol yn well er mwyn taflu goleuni ar y presennol er budd ein dyfodol. Rydym yn gymuned academaidd chwilfrydig, angerddol dros astudio’r gorffennol a chredoau o’r cyfnod cyn-hanesyddol hyd at gymdeithasau cyfoes.

academic-school

Ar ôl graddio

87% o'n graddedigion ôl-raddedig a addysgir mewn cyflogaeth a/neu’n astudio ymhellach, ar fin dechrau swydd neu gwrs newydd, neu’n gwneud gweithgareddau eraill fel teithio, 15 mis ar ôl diwedd eu cwrs. (Arolwg Hynt Graddedigion 2020/21).

rosette

Prawf amser

Newydd ddathlu 100 mlynedd o archaeoleg yng Nghaerdydd yn 2020, mae ein harbenigwyr yn manteisio ar ddarganfyddiadau newydd a’r syniadau diweddaraf wrth addysgu.

star

Ein hymchwil

Yn 9fed yn y DU ar gyfer ymchwil ym maes Archaeoleg ac yn 5ed ar gyfer effaith ein hymchwil (REF 2021).

Cyrsiau

Gwyddoniaeth Archaeolegol (MSc)

Amser llawn, Rhan amser

Meistrolwch sgiliau gwyddonydd archeolegol mewn rhaglen ddeinamig sy’n cael ei haddysgu gan ymarferwyr blaenllaw.

Ymarfer Cadwraeth (MSc)

Amser llawn

Mae’r rhaglen drosi ymarferol hon wedi ymrwymo i addysgu’r genhedlaeth nesaf o gadwraethwyr trwy ddysgu yn seiliedig ar broblemau ar wrthrychau treftadaeth go iawn.

Cadwraeth (PhD, MPhil)

Amser llawn, rhan-amser

Rydym yn cynnig ystod lawn o arbenigedd ar draws cadwraeth.

Ein fideos

Archaeoleg a chadwraeth ym Mhrifysgol Caerdydd

Cewch glywed gan academyddion a myfyrwyr am sut beth yw astudio archaeoleg a chadwraeth gyda ni.

Ein dull gweithredu

Fel Ysgol, rydyn ni wedi ymrwymo i warchod yr hyn sy’n werthfawr i’r byd o bob cyfnod, gan gydnabod ei werth a’i bwysigrwydd wrth ddeall ac adrodd ein stori o’r profiad dynol.

Ein harbenigeddau

Archaeologists working

Archaeoleg

Mae ein rhaglenni yn cwmpasu ystod eang o gyfnodau a phynciau. Mae’r modiwlau a’r addysgu yn adlewyrchu ein harbenigeddau ymchwil mewn Gwyddoniaeth Archaeolegol, Prydain ac Ewrop Gynhanesyddol, Cymdeithas a Diwylliant yr Oesoedd Canol Cynnar, ac Archeoleg Glasurol. Byddwn yn eich helpu i ddatblygu'r sgiliau archaeolegol academaidd ac ymarferol sydd eu hangen i ddilyn gyrfa ym maes archaeoleg, y sector treftadaeth neu amrywiaeth o broffesiynau cysylltiedig.

Students moving large object

Cadwraeth

Mae Cadwraeth yng Nghaerdydd yn cynnig dull ymarferol o ddysgu dan oruchwyliaeth ofalus arbenigwyr blaenllaw yn y maes. Bydd gwaith ymarferol yn ein cyfresi o labordai sydd â chyfarpar llawn nid yn unig yn datblygu eich ystod o sgiliau yn llawn, ond bydd hefyd yn gwneud gwahaniaeth parhaol i ddyfodol gwrthrychau gwerthfawr o amrywiaeth o gasgliadau hanesyddol. Byddwch yn cael eich trochi yn theori ac ymarfer cadwraeth a gwyddorau treftadaeth a bydd gennych y sgiliau a’r hyder i wneud enw i chi eich hun yn y maes.

Rhagor o wybodaeth amdanom ni

Visitors looking at finds

Cysylltiadau cryf â’r sector treftadaeth

Rydym yn fach o fod â gwreiddiau o fewn ein cymuned leol, gyda chysylltiadau cryf ar draws y sector treftadaeth, gan gynnwys cydweithio â sefydliadau yng Nghymru a thu hwnt. Mae ein gwaith ymgysylltu yn adlewyrchu’r cysylltiad yma.

Close up of conservation work

Ewch â’ch diddordebau i’r lefel nesaf

Gwnewch gyfraniad gwreiddiol i gadwraeth gwrthrychau gwerthfawr ac astudiaeth archaeolegol newydd, gan fanteisio ar offer arbenigol yn ein labordai pwrpasol a’n cymuned ofalgar sy'n weithgar o ran ymchwil. Mae hanes balch i'n graddau meistr a'n llwybr PhD/MPhil yn hyfforddi’r genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr ac ymarferwyr.

Mae Phil Parkes, darllenydd mewn cadwraeth, yn arddangos y defnydd o'r microsgop electron sganio.

Cymerwch gipolwg ar ein cyfleusterau arbenigol

Ochr yn ochr â darlithfeydd a labordai addysgu pwrpasol wedi'u lleoli'n ganolog dros ddau lawr ein hadeilad cartref, mae’r cyfarpar a’r offer sydd yn ein hystafelloedd archaeoleg a chadwraeth yn galluogi i addysgu ac ymchwil o'r radd flaenaf gael eu gwireddu.

Darganfod Prifysgol Caerdydd

Student getting advice

Cefnogi myfyrwyr

Cewch gyngor diduedd, cyfrinachol ac am ddim ar anabledd a dyslecsia, arian, gyrfaoedd, cwnsela a mwy.

Postgraduate students applying for a postgraduate loan

Ariannu eich astudiaethau

Mwy o wybodaeth am yr ysgoloriaethau, pecynnau cymorth llywodraeth y DU, a’r benthyciadau i fyfyrwyr sydd ar gael ar eich cyfer.

Cegin (hygyrch)

Pori drwy ddewisiadau llety

Ddim yn siŵr pa lety i ddewis? Gall ein canllaw cymharu defnyddiol eich helpu i wneud penderfyniad.

A student shopping in a mini mart

Costau byw

Gweld pa mor bell fydd eich arian yn mynd drwy ddefnyddio ein cyfrifiannell costau byw.

Camau nesaf

academic-school
book
icon-contact

Cysylltu â ni

Gofynnwch gwestiwn drwy ein ffurflen ymholi, a chewch ateb gennym cyn gynted ag y bo modd.

icon-pen

Sut i wneud cais

Popeth y mae angen i chi ei wybod am ein proses ymgeisio.

Pynciau eraill a allai fod o ddiddordeb i chi

Student in a classroom

Hanes a hanes yr henfyd

Bodlonwch eich chwilfrydedd am hanes a dyfnhau eich gwybodaeth o’r cysyniadau allweddol. Cyfunir hyn i gyd gyda’r posibilrwydd o archwilio treftadaeth, gweithredu cymunedol a lleoliadau gwaith.

Student in a classrooom

Astudiaethau crefyddol a diwinyddiaeth

Ymunwch â'n cymuned academaidd chwilfrydig, sy'n angerddol am astudio crefydd a diwinyddiaeth yng nghyd-destunau'r gorffennol, y presennol a'r dyfodol.


Ffynhonnell: Yn cynnwys data HESA: Hawlfraint Jisc 2023. Ni all Jisc dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau a wneir gan drydydd partïon ar sail ei ddata.