Gradd Meistr drwy raddau ymchwil
Mae graddau Meistr Ymchwil yn cynnwys MPhil (Meistr Athroniaeth) ac MRes (Meistr Ymchwil)
Meistr Athroniaeth (MPhil)
Mae'r profiad ymchwilio ac astudio yn debyg i PhD, gan gynnwys cefnogaeth tîm goruchwylio, ond mae'r prosiect wedi'i ddiffinio'n dynnach er mwyn gallu ei gwblhau mewn amser byrrach, a gall y canlyniadau fod yn gyfraniad gwreiddiol i'r maes neu'n werthusiad beirniadol a dadansoddiad o gorff o wybodaeth.
Cynigir graddau MPhil gan Ysgolion Academaidd a gellir pori drwy'r cyfleoedd penodol drwy ein Chwiliwr Cyrsiau.
Ffeithiau allweddol
Hyd | Traethawd ymchwil | |
---|---|---|
Amser llawn | 1 - 2 blwyddyn | Hyd at 50,000 o eiriau |
Rhan-amser | Hyd at 3 blynedd | Hyd at 50,000 o eiriau |
Meistr Ymchwil (MRes)
Mae gradd MRes yn cyfuno rhaglen strwythuredig o archwilio ymchwil cyfeiriedig a hyfforddiant sgiliau gydag elfen sylweddol o ymchwil unigol, a allai fod ar ffurf un prosiect neu brosiectau niferus.
Mae'n darparu gwybodaeth a phrofiad ymarferol i baratoi at yrfa ymchwil a gall fod yn sylfaen gwerthfawr ar gyfer symud ymlaen i gwblhau PhD.
Rydym yn cynnig graddau Meistr Ymchwil yn y meysydd canlynol:
Ffeithiau allweddol
Hyd | Traethawd | |
---|---|---|
Amser llawn | 1 Blwyddyn | Hyd at 20,000 words |
Rhan-amser | N/A | Hyd at 20,000 words |
Meistr Gwybodaeth (MSc) mewn Dulliau Ymchwil
Caiff y radd MSc mewn Dulliau Ymchwil ei chyfrif yn rhaglen ôl-raddedig a addysgir oherwydd y cydbwysedd rhwng elfennau a addysgir a'r prosiect ymchwil unigol.
Mae'n cynnig sylfaen gref ar gyfer PhD mewn amrywiaeth eang o bynciau yn y gwyddorau cymdeithasol ac mewn rhai pynciau mae'n rhagofyniad ar gyfer ymgymryd ag astudiaethau PhD.
Rydym yn cynnig un MSc mewn Dulliau Ymchwil:
Ffeithiau allweddol
Hyd | Traethawd | |
---|---|---|
Amser llawn | 1 blwyddyn | Hyd at 20,000 o eiriau |
Rhan-amser | 2 blwyddyn | Hyd at 20,000 o eiriau |
Os ydych yn darpar fyfyriwr gradd Meistr o’r DU ac yn dechrau eich gradd meistr ym mis Medi 2018 neu’n hwyrach. Gallech wneud cais ar gyfer benthyciad ôl-raddedig Llywodraeth y DU ar gyfer eich gradd ym Mhrifysgol Caerdydd.