Doethuriaeth (PhD)
Mae Doethuriaeth (PhD) yn gymhwyster lefel uwch sydd yn cael ei gydnabod yn rhyngwladol ac wedi ei seilio mewn ymchwil gwreiddiol.
Mae’r cymhwyster yn cael ei ddyfarnu wedi cyfnod o astudio annibynnol uwch, sydd yn dangos cyfraniad gwreiddiol o wybodaeth newydd neu ymarfer i’ch disgyblaeth ddewisedig.
Mae astudio ar gyfer PhD yn eich darparu gyda chyfle unigryw a chyffrous i archwilio pwnc ymchwil mewn dyfnder.
Ar yr un pryd, byddwch yn dysgu ymchwil perthnasol a sgiliau proffesiynol. Bydd disgwyl i chi achub y blaen ac i ddatblygu eich syniadau eich hun wrth gael eich arwain a’ch cefnogi gan eich tîm arolygol.
Bydd y profiad o gwblhau PhD yn amrywio rhwng meysydd pwnc. Mae rhai prosiectau PhD yn bwrpasol yn aml- neu'n rhyngddisgyblaethol. Gallant archwilio testunau sydd ar ffiniau pynciau traddodiadol neu gallant ddefnyddio ymagweddau sy'n gysylltiedig gydag amryw o ddisgyblaethau. Mae modd hefyd canolbwyntio ar un maes ymchwil unigol.
Ffeithiau allweddol
Hyd | Thesis | |
---|---|---|
Amser llawn | 3-4 blwyddyn | hyd at 80,000 o eiriau |
Rhan-amser | 5-7 blwyddyn | hyd at 80,000 o eiriau |
Mae gan bob un o’n Hysgolion Academaidd gyfleoedd Doethuriaeth. Porwch drwy ein cyrsiau i ddod o hyd i faes ymchwil penodol. Fel arall, os nad ydych yn barod am raglen Doethuriaeth lawn, rydym yn cynnig graddau Meistr drwy Ymchwil i baratoi myfyrwyr ar gyfer astudiaeth Doethuriaeth.
Math o raglenni PhD
Mae’r Ddoethuriaeth drwy ymarfer yn fwy cyffredin yn y celfyddydau creadigol/perfformio, pan fydd gwaith creadigol yn ffurfio rhan sylweddol o’r ymchwiliad deallusol.
Mae’r astudiaeth ymchwil yn cael ei wneud yn rhannol drwy broses creadigol. Ffurfiwyd y traethawd (thesis) ar ddarn o waith creadigol gwreiddiol a gefnogwyd gan naratif a beirniadaeth sydd yn rhoi’r gwaith mewn cyd-destun academaidd.
Rydym yn cynnig nifer o ddoethuriaethau drwy ymarfer gan gynnwys:
- Doethuriaeth drwy berfformiad a Doethuriaeth drwy gyfansoddiad yn yr Ysgol Cerddoriaeth
- Doethuriaeth mewn Ysgrifennu Creadigol a Beirniadol yn yr Ysgol Astudiaethau Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth
Wedi’i dylunio i’r sawl sydd eisoes wedi cronni gwaith cyhoeddedig addas yn dangos cyfeiriad ymchwil cydlynol (yr un faint â Doethuriaeth arferol).
Mae myfyrwyr yn darparu sylwadaeth feirniadol o 5,000 - 10,000 o eiriau, yn ychwanegol i'w gwaith cyhoeddiedig, yn gwerthuso’u maes ac yn dangos y cyfraniad gwreiddiol y maent wedi’i wneud i ddysgu .
I fod yn gymwys, mae’n rhaid eich bod wedi:
- graddio o Brifysgol Caerdydd chwe blynedd neu ragor yn ôl, neu
- wedi bod yn aelod o staff am chwe blynedd, neu
- wedi dal teitl er anrhydedd Prifysgol Caerdydd am chwe blynedd
Os ydych yn bodloni un o'r meini prawf hyn ac mae gennych ddiddordeb mewn darganfod rhagor, cysylltwch â’ch Ysgol Academaidd.
Ar gyfer nifer o bynciau mae astudiaeth uwch ac ymchwil ar gyfer PhD yn gofyn am arddangosiad o sgiliau priodol a dealltwriaeth ar lefel Meistr fel amod mynediad.
Ar gyfer rhai rhaglenni PhD mae angen i hyfforddiant lefel Meistr gael ei deilwra’n arbennig i ofynion ymchwil y PhD yn y ddisgyblaeth yna. Gall hyn gael ei gyflwyno fel pecyn cyswllt (ee "model 1+3"), neu drwy raglen PhD parhaol sydd â chydran strwythurol o sgiliau ymchwil paratoadol ac hyfforddiant mewn methodoleg.
Rydym yn cynnig y Doethuriaethau Integredig canlynol:
- Niwrowyddoniaeth Integredig (4 blynedd Ymddiriedolaeth Wellcome)
- Astudiaethau Canser (4 blynedd)
- Economeg (Doethuriaeth 4 blynedd gan gynnwys dwy flynedd o addysgu, gwaith cwrs a hyfforddiant ymchwil
- Y Gwyddorau Cymdeithasol (Doethuriaeth 1+3 blynedd gan gynnwys MSc 1 blwyddyn yn Nulliau Ymchwil Gwyddoniaeth Gymdeithasol sy’n orfodol ar gyfer myfyrwyr a ariennir gan ESRC ac nad ydynt yn cwrdd â’r gofynion hyfforddiant craidd)
Tra bod y mwyafrif o’n graddau ymchwil yn cael eu hastudio yn y Brifysgol a sefydliadau addysgu uwch eraill, mae yna gyfleoedd ar gyfer astudiaeth gydweithredol gyda phartner allanol.
Gall hyn olygu, er enghraifft, bod y prosiect yn cael ei noddi gan y cwmni, eich bod yn treulio ychydig o’ch amser yng ngweithle y partner neu fod y partner yn cyfrannu adnoddau ac arbenigedd i’ch pwnc.
Gall PhD Cydweithredol eich galluogi i fanteisio o fewnbwn diwydianwyr a gwneuthurwyr polisi ac i brofi effaith eich ymchwil yn uniongyrchol.
Gall PhD Cydweithredol gynnwys:
- Ysgoloriaethau ymchwil CASE (Gwobrau Cydweithredol mewn Gwyddoniaeth a Pheirianneg)
- Prosiectau a ariennir a gaiff eu hysbysebu'n benodol
Cyllid ffioedd dysgu llawn a chyflog blynyddol i gefnogi myfyrwyr rhyngwladol sy’n hunan ariannu eu PhD amser llawn am hyd at dair blynedd.