Ewch i’r prif gynnwys

Astudio rhaglen ymchwil ôl-raddedig

Mae ein rhaglenni ymchwil ôl-raddedig yn rhoi cyfle i chi baratoi am yrfaoedd yn y byd academaidd a thu hwnt iddo.

Byddwch yn treiddio i faes penodol o’ch diddordeb chi, yn ennill sgiliau trosglwyddadwy newydd sy'n ddefnyddiol ac yn bosibl eu defnyddio mewn llawer o yrfaoedd gwahanol, ac yn gwneud cyfraniad gwerthfawr at wybodaeth newydd.

Mae canllawiau a gwybodaeth ddefnyddiol ar y dudalen hon er mwyn gwneud y broses o wneud cais am un o'n rhaglenni ymchwil mor syml â phosibl.

Dewis eich rhaglen ymchwil

Ym Mhrifysgol Caerdydd, rydyn ni’n cynnig ystod o raglenni ymchwil sy’n cynnwys y canlynol:

Rhaglenni ymchwil (gan gynnwys PhD ac MPhil)

Mae rhaglenni ymchwil ar gael ym mhob ysgol academaidd ym Mhrifysgol Caerdydd.  Ein rhaglenni ymchwil yw:

  • astudiaeth fanwl o faes diddordeb penodol dros gyfnod helaeth, fel arfer yn para blwyddyn amser llawn ar gyfer MPhil a thair i bedair blynedd amser llawn ar gyfer PhD
  • sydd ar gael yn llawn amser neu'n rhan-amser, yn y rhan fwyaf o achosion
  • wedi'i recordio ar ffurf traethawd ymchwil neu draethawd hir ac a asesir mewn arholiad llafar VVA voce
  • cyfle i ddangos eich cyfraniad gwreiddiol o wybodaeth neu ymarfer i'r maes o'ch dewis

Bydd eich profiad a'ch math o ymchwil yn wahanol, gan ddibynnu a fydd yn rhaglen mewn labordy neu mewn swyddfa.

Rhaglenni ymchwil gydag elfen a addysgir (gan gynnwys MRes a Doethuriaethau Proffesiynol)

Mae'r rhain yn cynnwys Meistr Ymchwil (MRes) yn y Biowyddorau a Doethuriaethau Proffesiynol mewn Seicoleg Glinigol, Astudiaethau Iechyd ac Economeg. Rhaglenni ymchwil gydag elfen a addysgir:

  • yn cael ei gofnodi ar ffurf traethawd ymchwil neu draethawd hir
  • darparu hyfforddiant ymchwil uwch a chynigir gwybodaeth arbenigol trwy elfen a addysgir cyn i chi ddechrau ar eich prosiect ymchwil penodol

Dewis y llwybr cywir i raglen ymchwil

Mae dau brif lwybr ymgeisio i chi eu hystyried:

1. Ymateb i PhD hysbysebu

Ar gyfer y llwybr hwn, gallwch wneud cais am PhD wedi'i  hysbysebu gyda phrosiect wedi'i ddiffinio ymlaen llaw a goruchwyliwr penodol. Fel arfer, ni fydd angen i chi wneud cynnig ymchwil, ond gan fod y prosiect wedi'i ddiffinio ymlaen llaw, gwnewch yn siŵr ei fod yn cyd-fynd â'ch diddordebau. Mae'r prosiectau o’r fath yn aml yn cael eu hariannu gan gyngor ymchwil.

Ar gyfer pynciau STEM, hysbysebir y rhan fwyaf o brosiectau yn yr hydref i ddechrau'r mis Hydref canlynol. Defnyddiwch ein teclyn chwilio Ysgoloriaethau a Phrosiectau PhD i weld beth sydd ar gael.

Gwneud cais am PhD a hysbysebir

2. Gwneud cais i un o'n rhaglenni ymchwil

Os na allwch chi ddod o hyd i rywbeth sy’n mynd â’ch bryd ymhlith yr hysbysebion am gyfleoedd prosiect, a'ch bod yn penderfynu cynnal eich prosiect ymchwil eich hun, gallwch wneud cais uniongyrchol i un o'n rhaglenni ymchwil.

Os ydych chi’n dewis y llwybr hwn, fel arfer byddai angen i chi anfon cynnig ymchwil cychwynnol byr a dod o hyd i ddarpar oruchwyliwr sy'n gweithio yn y maes sydd o ddiddordeb i chi.

Fel arfer, mae’r llwybr hwn yn cael ei hunan-ariannu, naill ai gan noddwr neu ffynhonnell arall.

Gwneud cais am raglen ymchwil

Gwybodaeth ychwanegol

Dyddiadau dechrau

Mae’r dyddiad dechrau fel arfer yn cael ei bennu gan y prosiect neu'r ysgoloriaeth os fyddwch chi’n dewis Llwybr Un, a hynny fel arfer ym mis Hydref. Fodd bynnag, mae rhai cyfleoedd hefyd yn dechrau ym mis Ionawr, ac os yw eich prosiect yn cael ei hunan-ariannu, efallai y byddwch hyd yn oed yn gallu dechrau ym mis Ebrill neu ym mis Gorffennaf.

Cyfleoedd addysgu

Mae rhai o'n myfyrwyr ymchwil yn cael cyfle i addysgu yn ystod eu hastudiaethau gyda ni, ond mae hyn yn amrywio, yn dibynnu ar ba ysgol academaidd rydych chi wedi'i lleoli ynddi. Os yw hyn yn bwysig i chi, mae’n bendant yn gwestiwn i'w ofyn i'ch darpar oruchwyliwr yn ystod y broses o ymgeisio.

Astudio o bell

Efallai y bydd rhai myfyrwyr yn byw i ffwrdd o Gaerdydd ac yn ymweld â'r campws yn llai aml nag eraill, os yw hyn yn gweddu i’w ffordd o fyw ac i ymrwymiadau eraill. Efallai y bydd hyn yn bosibl i chi, ond bydd yn dibynnu'n llwyr ar eich prosiect, eich cyllid (fel arfer, ni fydd prosiectau a ariennir gan gyngor ymchwil Llwybr Un yn caniatáu hyn) a gyda chytundeb eich goruchwyliwr.

Gwaith rhan-amser

Mae llawer o fyfyrwyr ymchwil yn gweithio'n rhan-amser i gefnogi costau byw ac i ennill profiad. Pan fyddwch yn cofrestru, gallwch dderbyn cyfleoedd gwaith gan JobShop ond gofalwch ddod o hyd i'r cydbwysedd cywir o ran amser, gan ein bod ni’n eich cynghori i roi eich astudiaethau yn gyntaf bob tro. Hefyd, bydd angen i chi wirio gofynion eich fisa os oes angen un arnoch chi i astudio yn y DU.

Rhagor o wybodaeth

Mynnwch y wybodaeth angenrheidiol i gael gwneud y dewis cywir i chi.

Diwrnodau Agored Ôl-raddedig

Ewch i un o'n diwrnodau agored ôl-raddedig i gwrdd â staff a myfyrwyr presennol

Yr Academi Ddoethurol

Dysgwch fwy am yr Academi Ddoethurol a chysylltwch â nhw

Postgraduate social sciences students

Browse research programmes

Dysgwch fwy am ein rhaglenni ymchwil unigol a chysylltwch â'n hysgolion academaidd

Chemistry postgraduate researcher

Mentrau Hyfforddiant Doethurol

Edrychwch ar yr ystod o Gynlluniau Hyfforddiant Doethurol rydyn ni’n yn eu harwain neu'n cymryd rhan ynddyn nhw

Cysylltu

Rydyn ni yma i helpu gydag unrhyw ymholiadau. Cysylltwch â'r tîm ymholiadau gyda'ch cwestiynau.