Gwaith cyhoeddus fel ethnograffydd cerddorol
Mae Sam Murray, sy’n fyfyriwr PhD ail flwyddyn yn ein Hysgol Cerddoriaeth, yn trafod sut mae’n gwneud gwaith cyhoeddus i gysylltu â’r bobl y mae’n eu hastudio.
"Ar gyfer ethnograffydd, mae gwaith cyhoeddus wedi bod yn fendith gudd, yn ffordd berffaith o egluro’r cyfrifoldebau moesegol sydd gennym fel pobl sy'n astudio pobl eraill.
Yma ym Mhrifysgol Caerdydd mae gennym gasgliad gwych o ymchwilwyr ethnograffeg ac ethnogerddoreg sy’n astudio amrywiaeth eang o ddiwylliannau cerddorol o gerddoriaeth boblogaidd Gymraeg i gerddoriaeth o Albania. Mae gan bob un ohonom gyfrifoldebau at y sawl rydym yn eu hastudio i sicrhau nad ydym yn eu camgyfleu nac yn rhagdybio pethau am eu diwylliannau.
Mae gwaith cyhoeddus yn cynnig ffordd i ni gysylltu â phobl rydym yn eu hastudio yn ystod ein gwaith maes. Rydym yn medru rhoi gwybod iddynt sut rydym yn defnyddio eu cyfraniadau. Boed hynny’n berfformiadau cerddorol, geiriau mewn cyfweliadau neu’n brofiadau rydym yn eu rhannu â nhw.
Mae’r term poblogaidd hwn yn hunanesboniadol ac mae’n gofyn i ni rannu ein gwaith â phwnc yr astudiaeth. Ond mae hefyd yn ein gwahodd i rannu ein gwaith y tu hwnt i gyfyngiadau'r byd academaidd, i gyflwyno hanfodion craidd ein hastudiaethau i unrhyw un sydd â diddordeb.
Yn fy PhD bûm yn canolbwyntio ar gynnal ethnograffi o gerddoriaeth boblogaidd y sîn gerddoriaeth yn Portland, Oregon yn UDA. Efallai bod hyn ymddangos yn syml; rwy’n mynd i'r Unol Daleithiau gyda recordydd ac yn trafod cerddoriaeth gyda cherddorion, perchnogion siopau recordiau, rheolwyr labeli, cynhyrchwyr a dilynwyr. A dyna yw hanfod fy astudiaeth gan fwyaf, ond mae’n rhaid i mi ystyried nifer o ffactorau."
Darllenwch fwy am brofiad Sam yn Saesneg yn ei gofnod blog