Myfyriwr PhD anturus a darpar seren deledu
Mae Niall McCann, anturiaethwr a myfyriwr PhD yn Ysgol y Biowyddorau a seren 'Biggest & Baddest'- sef cyfres antur bywyd gwyllt byd-eang sy’n mynd ar drywydd rhai o anifeiliaid mwyaf a pheryclaf y byd, yn ateb ein cwestiynau ynglŷn â’i PhD, ei gyfnod ym Mhrifysgol Caerdydd a’i anturiaethau anhygoel.
Allwch chi ddweud wrthym beth yw teitl eich prosiect ymchwil ac ychydig amdano?
"The Conservation of Baird’s tapir in Honduras."
Mae fy nhraethawd ymchwil yn cyflwyno cofnod o’r ffordd mae statws cadwraeth tapir Baird, un o famaliaid mwyaf prin Canolbarth America, yn gwaethygu’n barhaus yn ei gadarnle yn Honduras. Rwyf wedi defnyddio cyfuniad o eneteg a modelu meddiannaeth i ddisgrifio sut mae gweithgaredd dynol gan gynnwys dinistrio cynefin a phostian yn newid dosbarthiad y tapir ar draws Honduras, ac yn gyrru’r rhywogaeth yn nes at ddifodiant.
Rydych chi'n seren fawr ar y teledu ac yn teithio dros y byd, sut daethoch chi i ddewis astudio ym Mhrifysgol Caerdydd?
Bûm yn gweithio ym maes ymchwil rhywogaethau sydd mewn perygl ers yn 17 mlwydd oed, a’r maen prawf pwysicaf i mi, wrth edrych am brosiect PhD, oedd bod yn rhaid i’r astudiaeth gyfrannu at gadwraeth rhywogaeth sydd mewn perygl. Roeddwn am i fy astudiaeth gyfuno gwaith maes mewn lleoliad anghysbell gyda gwaith geneteg arloesol yn y labordy yn ôl yn y DU.
Bûm yn gwneud llawer o ymchwil i weld pwy fyddai’r goruchwylwyr gorau ar gyfer PhD o'r fath, ac roedd un enw’n codi dro ar ôl tro: Mike Bruford. Cysylltais â Mike ym mis Ebrill 2008 i gynnig prosiect ar gorilaod iseldir gorllewinol, a rhywsut trawsnewidiodd i tapir Baird erbyn yr amser y dyfarnwyd ysgoloriaeth ymchwil i mi ym mis Mai 2009. Mae Prifysgol Caerdydd yn cyflogi ymchwilwyr sydd ymhlith y gorau yn y byd, a Mike Bruford oedd y person gorau y gallwn feddwl amdano i oruchwylio fy PhD.
Sut gwnaethoch chi lwyddo i reoli eich astudiaethau ochr yn ochr â’r holl bethau cyffrous eraill rydych wedi bod yn eu gwneud yn ystod eich cyfnod fel myfyriwr PhD?
Mae rheoli amser wedi bod yn hynod o bwysig drwy gydol fy PhD. Yn ystod fy mhedair blynedd a hanner ym Mhrifysgol Caerdydd rwyf wedi treulio dros 11 mis yn y maes yn gwneud gwaith ymchwil a chwe mis yn ffilmio, ynghyd â llawer o deithiau eraill gartref a thramor. Yn ogystal â'm gyrfa deledu a’m gyrfa ymchwil, rwyf hefyd yn cymryd rhan weithredol mewn cadwraeth fel Ymddiriedolwr ar gyfer elusen gadwraeth, a sylfaenydd corff anllywodraethol sy'n canolbwyntio ar gadwraeth, ac mae’r ddau ohonynt yn cymryd llawer o’m hamser. Rwyf wedi canfod y gallaf fod ar y mwyaf cynhyrchiol pan fyddaf yn gweithio ar sawl prosiect ar yr un pryd; fel y maent yn dweud: "Os ydych am i rywbeth gael ei wneud, rhowch e i berson prysur!"
Faint o leoedd gwahanol rydych wedi ymweld â nhw yn ystod eich cyfnod fel myfyriwr PhD - beth oedd fwyaf trawiadol a lle oedd fwyaf peryglus?
Ers dechrau fy PhD rwyf wedi gweithio neu deithio mewn 16 o wledydd ar draws chwe chyfandir.
O ran perygl, mae Honduras, lle treuliais 11 mis yn cynnal ymchwil maes ar gyfer fy PhD, yn lle anodd ei guro! Yno mae’r gyfradd llofruddiaeth uchaf yn y byd (bron un person fesul mil o'r boblogaeth y flwyddyn), rhywbeth rwyf wedi'i weld yn uniongyrchol.
Doeddwn i byth yn teimlo dan fygythiad tra yn y maes, sy’n rhyfeddol, gan fod llawer o'r bobl y cyfarfûm â hwy mewn mannau anghysbell yn gymeriadau amheus iawn. Syfrdanwyd pawb pan ddwedais fy mod eisiau mynd i gerdded yn y coedwigoedd i ddod o hyd i faw tapir. Roeddent yn tybio fy mod yn hollol wallgof ac felly ni fyddai’n talu fy nghroesi!
Mae'n anodd meddwl am y lle mwyaf trawiadol y bues iddo yn ystod y cyfnod hwn, ond rhaid bod Parc Cenedlaethol Virunga yng Ngweriniaeth Ddemocrataidd y Congo yn agos at ben y rhestr. Mae ganddo un o'r lefelau uchaf o fioamrywiaeth yn unman ar y ddaear, ac mae wedi’i osod yn erbyn cefndir o ansefydlogrwydd folcanig ac ansefydlogrwydd cymdeithasol parhaus o ganlyniad i gyrchoedd y milisia niferus sy’n crwydro drwy jynglau Canolbarth Affrica.
Roeddwn yn ddigon ffodus i fynd ar daith i mewn i’r coedwigoedd i gyflawni archwiliadau iechyd rheolaidd ar ddau deulu o gorilaod mynydd yng nghysgod chwe llosgfynydd, tra'n aros mewn cwt a oedd wedi’i feddiannu gan wrthryfelwyr M23 dim ond dri mis ynghynt. Roedd yr holl brofiad yn syfrdanol!
Sut mae'ch profiad fel cyflwynydd yn cymharu â' bod yn fyfyriwr PhD ym Mhrifysgol Caerdydd?
Un peth rwyf bob amser yn ei weld yn ddiddorol yw sut y bydd pobl yn ymateb i mi yn dibynnu ar faint y maent yn ei wybod am fy nghefndir. Mae llawer o bobl yn gyndyn o siarad â phobl teledu, ond unwaith maent yn darganfod mai biolegydd ydw i 'go iawn’ yna daw’r rhwystrau i lawr! Pan fyddaf yn teithio fel myfyriwr PhD does byth rhaid i mi fynd drwy'r lletchwithdod cychwynnol sydd weithiau’n gysylltiedig â bywyd ar leoliad.
O ran fy ngwaith o ddydd i ddydd gyda theledu ac yn y maes fel biolegydd, i fod yn onest maent yn eithaf tebyg. Rwy’n treulio fy amser yn rhedeg o amgylch y jyngl yn chwilio am anifeiliaid ac yn ceisio gwneud fy nghanfyddiadau yn ddealladwy i'r gynulleidfa ehangaf bosibl!
Yr hyn sydd wedi gwneud y PhD yn fwy gwerth chweil na’r gwaith teledu yw’r lefel o fanylder rwyf wedi gallu mynd iddo yn fy astudiaeth, nad yw fyth yn bosibl wrth saethu ffilm fer. Gwyddonydd ydw i wedi'r cyfan, ac nid wyf yn cael fy modloni gan esboniadau arwynebol!
Beth fyddech chi’n ei ddweud wrth ddarpar fyfyriwr sy’n ystyried Prifysgol Caerdydd ar gyfer eu PhD?
Mae Caerdydd yn ddinas wych i fyw ac astudio ynddi, ac mae'r Brifysgol yn sefydliad arbennig er mwyn datblygu eich addysg. Mae Prifysgol Caerdydd wedi bod yn hynod o gefnogol i mi drwy fy PhD, maent wedi bod yn hyblyg lle'r oedd angen hyblygrwydd arnaf, ond mae fframwaith ar waith i ddarparu strwythur i’ch rhaglen PhD, felly fyddwch chi byth ar ei hôl hi ar unrhyw adeg.
Mae gan y ddinas bopeth y gallai myfyriwr fod eisiau, gan gynnwys mynediad gwych at lu o leoedd diddorol eraill os ydych am ddianc! Allwn i ddim argymell Caerdydd ddigon, mae’r Brifysgol a'r Ddinas wedi bod yn ardderchog i mi, ac rwy’n falch o allu galw Caerdydd yn gartref i mi.
Beth fydd Niall McCann yn ei wneud nesaf?
Dridiau ar ôl cyflwyno fy ngwaith, byddaf yn hedfan i ddwyrain yr Ynys Las gyda’m brawd am dair wythnos o fynydda a reidio cyflym (paragleidio gyda pharasiwt bach iawn, tra'n gwisgo sgis...) Ein cynllun gwreiddiol oedd dringo Everest eleni, ond gyda fy amserlen ffilmio gwnaethom sylweddoli na fyddai amser gennym, felly gwnaethom osod ein golygon ar rywbeth unigryw yn lle hynny.
Rydym yn mynd i fod yn gwersylla ar rewlif, dim ond y ddau ohonom, dros ddiwrnod a hanner o sgïo i ffwrdd o’r person agosaf, yn dringo mynyddoedd sydd erioed wedi cael eu dringo o’r blaen, ac yn hedfan oddi arnynt! Pa ffordd well i ddathlu?