Ewch i’r prif gynnwys

Myfyriwr PhD, carwr y gofod a chyfrannwr Youtube

Bydd Matthew Allen, myfyriwr PhD yn yr Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth a chyflwynydd/crëwr y sianel YouTube, UKAstroNut, yn ateb ein cwestiynau am ei ymchwil, ei fywyd fel seren YouTube, a’r sêr eu hunain.

Man looking into the camera and crossing his arms.

Allwch chi ddweud wrthym beth yw teitl eich prosiect ymchwil ac ychydig amdano?

Teitl fy mhrosiect yw 'The study of the evolution of elliptical galaxies', sydd efallai yn swnio ychydig yn gymhleth, ond mewn gwirionedd mae’n syml iawn.

Yn y bydysawd mae biliynau o alaethau, casgliadau enfawr o biliynau o sêr, ac un ohonynt yw ein llwybr llaethog ni. Mae pob galaeth yn wahanol. Maent yn cynnwys niferoedd gwahanol o sêr, mae eu meintiau a’u masau yn wahanol, mae eu hoedrannau yn wahanol ac ati. Ond er gwaethaf eu gwahaniaethau, yn fras gellir rhoi eu siapiau mewn tri chategori: galaethau crwn cawraidd a elwir yn eliptigau, galaethau siâp disg gyda throellau anhygoel a elwir yn alaethau troellog a rhai sydd â siapiau rhyfedd a elwir yn alaethau afreolaidd.

Gwyddom fod galaethau afreolaidd yn cael eu ffurfio pan fydd dwy alaeth yn taro i’w gilydd, gan achosi i’r galaethau sy’n gwrthdaro ffurfio galaeth newydd siâp rhyfedd. Fodd bynnag, nid ydym yn siŵr sut y ffurfir galaethau troellog nac eliptig. Credwn ei bod yn debyg bod un math yn esblygu i’r llall, ond ni wyddom sut neu pam. Felly byddaf yn edrych ar lawer o alaethau o wahanol oedrannau ac yn ceisio deall sut mae galaethau wedi newid ac esblygu dros hanes y bydysawd.

Beth wnaeth i chi benderfynu astudio ym Mhrifysgol Caerdydd?

Astudiais ar gyfer fy ngradd israddedig ym Mhrifysgol Caerdydd. Cofiaf ddod yma a gwnaeth gryn argraff arnaf. Mae’r adran Ffiseg yn ymwneud â chynifer o brosiectau mawr, megis teithiau gofod yr Asiantaeth Ofod Ewropeaidd Herschel and Planck. Defnyddir data a chanlyniadau o'r rhain mewn prosiectau i israddedigion. Mae'n rhyfeddol anhygoel gallu dweud eich bod wedi defnyddio’r data gwyddonol anhygoel hyn yn ystod eich gradd.

Dwi’n dwlu ar Gaerdydd fel dinas hefyd. Mae'n debyg yn ddinas anferth, ond wedi’i chywasgu, felly mae popeth rydych ei eisiau yn agos i chi. Os ydych am ddianc o’r ddinas, gallwch fod yng nghefn gwlad mewn 10 munud. Fel bachgen o Wlad yr Haf, roedd hyn yn apelio ataf yn fawr!

Ar ôl fy ngradd israddedig gweithiais i’r Asiantaeth Ofod Ewropeaidd (ESA) am flwyddyn ar un o'i theithiau gofod newydd. Dysgais os oeddwn am barhau i wneud y math o waith a wnes yn ESA byddai angen imi wneud PhD. Cefais gynigion gan brifysgolion eraill, ond rwy'n caru Caerdydd gymaint, felly des yn ôl. Rwyf hyd yn oed yn dechrau cadw llygad am swyddi ar ôl fy PhD yn yr ardal leol!

"Mae'r Adran Ffiseg yn cymryd rhan mewn cymaint o brosiectau da fel teithiau Herschel a Planck yr ESA i'r gofod."

Sut ydych chi'n rheoli'r eich astudiaethau ochr yn ochr â’ch gwaith UKAstroNut bob dydd?

Wel, pan ddechreuais i, es i braidd yn wallgof a threulio’r rhan fwyaf o’r dydd yn breuddwydio am syniadau cŵl ar gyfer y sianel YouTube. Ond ar ôl ychydig, dysgais i sicrhau cydbwysedd rhwng popeth. Rwy'n gwneud y rhan fwyaf o’m recordiadau ar y penwythnos. Yna os ydw i am wneud fideo arbennig ar rywbeth yn y newyddion, rwy’n rhedeg adref ar ôl gwaith a gwneud hynny. Mae’n rhaid i mi gadw llyfr nodiadau wrth fy ymyl yn y gwaith, rhag ofn bod syniad gwych yn dod i’m mhen yn sydyn!

Beth wnaeth i chi benderfynu dechrau eich sianel YouTube eich hun?

Mae diddordeb gwirioneddol gennyf mewn gwneud gwaith allgymorth gwyddonol ar ôl fy PhD. Doeddwn ddim yn siŵr iawn sut i gael i mewn iddo, felly meddyliais y byddai gwneud fideos ar YouTube yn ffordd hawdd iawn i ddysgu sut i gyfleu pethau gwyddonol. Credaf fod y cyfryngau cymdeithasol a safleoedd fel YouTube yn gyfle gwych i bobl hyrwyddo eu hunain, beth bynnag maent am ei wneud. Ac mae mor syml, does ond angen camera a chyfrifiadur arnoch.

Rwyf wrth fy modd yn meddwl i mi fy hun, 'dylwn esbonio’r pwnc hollol cŵl hyn', felly i ffwrdd a fi i ymchwilio iddo er mwyn llenwi unrhyw fylchau yn fy ngwybodaeth. Yn y diwedd rwyf yn treulio oriau yn darllen Wicipedia, gwefannau, papurau, gwylio fideos ac unrhyw beth arall ar y pwnc. Rwy’n dysgu pethau na wyddwn cyn hynny! Rwyf wrth fy modd yn dysgu am wyddoniaeth ac rwy'n dysgu pethau drwy wneud y fideos hyn, er mai fy yw’r un sydd i fod yn addysgu pobl eraill.

Mae'r fideo isod ar gael yn Saesneg yn unig.

Mae eich fideos yn dod â’ch pwnc yn fyw. Beth sy'n gwneud Ffiseg a Seryddiaeth mor gyffrous i chi?

Rwy’n dwlu ar wyddoniaeth. Baswn i wedi hoffi gallu gwneud pob pwnc gwyddoniaeth yn yr ysgol. Ond pan ddes i i’r brifysgol ac roedd rhaid i mi ddewis beth i'w wneud, ffiseg a seryddiaeth oedd y dewis amlwg i mi. Mae rhai o'r ffeithiau mwyaf anhygoel ac anghredadwy rwyf yn eu gwybod yn rhai sy’n ymwneud â ffiseg. Ni allaf amgyffred pa mor fawr yw’r bydysawd, pa mor nerthol yn Uwchnofa neu faint o’r bydysawd sy’n ofod gwag mewn gwirionedd. Credaf mai’r ffaith na allaf amgyffred rhai o‘r pethau hyn sy’n ei wneud yn mor ddiddorol i mi.

Rydych o hyd yn gofyn i’r rhai rydych yn eu cyfweld, felly dyma’ch tro chi - pa un yw eich hoff blaned?

Rwy’n cofio rhywun yn gofyn hyn i mi yn y sylwadau i un o fy fideos cyntaf. Roedd yn ymddangos fel cwestiwn pen agored hyfryd a phenderfynais y byddwn yn ei ofyn i bawb.

Fy hoff blaned yw’r blaned Iau. Mae mor ddiddorol a rhyfeddol. Er enghraifft, mae ganddi storm, a elwir y Sbot Mawr Coch, sydd wedi para am oddeutu 400 o flynyddoedd ac mae’n 40,000km o led. I roi hyn mewn persbectif, mae hynna tua phedair gwaith mor llydan â’r Ddaear! Nid oes llawer o bobl yn gwybod chwaith fod gan y blaned Iau gylchoedd helaeth o'i hamgylch, yn union fel y blaned Sadwrn. Yn anffodus maent ychydig yn rhy wan i ni allu eu gweld o’r Ddaear. Mae hefyd yn gweithredu fel sugnwr llwch Cysawd yr Haul. Mae llawer o’r asteroidau yng Nghysawd yr Haul a allai daro’r Ddaear o bosibl yn cael eu tynnu gan fàs helaeth y blaned Iau, gan achosi iddynt daro i mewn i blaned Iau. Yn y bôn dyma archarwr Cysawd yr Haul, gan ei bod yn ein hachub rhag trychineb!

Beth fyddech chi’n ei ddweud wrth ddarpar fyfyriwr sy’n ystyried Prifysgol Caerdydd ar gyfer eu PhD?

Yn gyntaf oll, y peth mwyaf sylfaenol yw bod Caerdydd yn Brifysgol wych. Mae ganddi enw da ac mae rhywfaint o'r gwaith a wneir yma o’r radd flaenaf.

Yn ail, baswn yn dweud bod Caerdydd yn ddinas wych. Mae popeth rydych ei eisiau yn agos i’w gilydd, mae'n un o'r llefydd rhataf i fyfyrwyr fyw ynddo yn y DU ac mae ardal wledig a hanes o'ch cwmpas. Mae digonedd o leoedd gwych i fynd allan, p'un a ydynt yn glybiau nos neu fwytai, ac mae nifer fawr o ffyrdd o gymryd rhan mewn chwaraeon yma a llawer o leoedd cyfagos i wneud gweithgareddau llawn hwyl.

Yn olaf, baswn yn dweud wrthynt am ddarganfod beth yw’r pethau ychwanegol a fydd yn gwneud eich bywyd PhD yn arbennig. Mae gan y Brifysgol gymaint o adnoddau ar gyfer ôl-raddedigion a fydd yn gwneud eich PhD a bywyd ar ôl PhD cymaint yn well.

"Mae Caerdydd yn Brifysgol wych. Mae ganddi enw da ac mae ei gwaith ymhlith y gorau yn y byd."