Menywod, gwleidyddiaeth ac astudio yn Gymraeg
Anys Wood, Myfyrwraig PhD yn yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd sy’n ateb ein cwestiynau busneslyd am ei hymchwil a pham wnaeth hi ddewis astudio ei Doethuriaeth trwy gyfrwng y Gymraeg.
Beth yw dy bwnc ymchwil di?
Bydd fy ymchwil yn pontio'r astudiaethau presennol am ferched Cymreig a Rhyddfrydiaeth a sefydliad Cenedlaetholdeb gwleidyddol Cymreig ym 1925.
Bwriad y gwaith yw i esbonio dylanwad deinameg ideoleg, rhywedd a dosbarth ar ddatblygiadau gwleidyddol yn y cyfnod cyn, yn ystod ac ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf. Byddaf yn archwilio sut cafodd hunaniaeth gwleidyddol menywod ei greu a’i ail-greu dros amser, gan asesu’r ffactorau y tu ôl i’r newidiadau yma.
Sut mae dy ymchwil di’n wahanol i’r hyn sy’n bodoli eisioes?
Dyma’r math o waith a wnaed gan yr hanesydd diweddar, Ursula Masson, am fenywod yn y Blaid Ryddfrydol rhwng 1880 a 1914. Dwi’n meddwl bod lle i ymestyn y math yma o astudiaeth drwy astudio sbectrwm ehangach o bleidiau gwleidyddol ac ehangu'r cyfnod astudiaeth hyd nes 1925.
Mae’r gwaith sydd eisioes yn bodoli ar fenywod mewn gwleidyddiaeth yn canolbwyntio ar y rhai hynny oedd o fewn un plaid yn unig. Fe fydd y gwaith hwn yn bwrw golwg ar rolau menywod o fewn datblygiadau gwleidyddol ehangach fel twf y Blaid Lafur, dirywiad y Blaid Ryddfrydol a datblygiad cenedlaetholdeb.
Pa fenywod o Gymru yn y byd gwleidyddol (y gorffennol a’r presennol) sydd yn dy ddiddori di? Y Megan Lloyd Georges neu’r Margaret Thatchers –neu’r ddwy?
Y menywod sy’n fy niddori yw’r rhai sy’n llai adnabyddus. Y gwragedd hynny oedd yng nghanol gweithgarwch gwleidyddol ar lefel lleol yng Nghymru. Mae’r hyn oedd yn gyrru menywod Cymru i weithredu o fewn grwpiau gwleidyddol yn fy niddori i'n fawr.
Wyt ti wedi cael y cyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau allgyrsiol sy’n ymwneud â dy bwnc gradd?
Roeddwn i’n rhan o brosiect CUROP, (Rhaglen Cyfleoedd Ymchwil i Raddedigion Prifysgol Caerdydd), rhyw ddwy flynedd yn ôl o dan arweiniad Dr Martin Wright. Fy rôl i oedd i gweithio fel cynorthwyydd ymchwil a chasglu gwybodaeth er mwyn helpu Martin gyda’i waith. Mae e bellach yn un o fy ngoruwchwylwyr PhD.
Pam dewis astudio dy Ddoethuriaeth trwy gyfrwng y Gymraeg?
Roedd astudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn ddewis naturiol ar ôl astudio lefel A yn y pwnc a sawl modiwl o fy nghwrs gradd israddedig hefyd. Er fy mod yn gartrefol yn y Gymraeg a’r Saesneg, mae’n well gen i ysgrifennu yn Gymraeg. Felly penderfynais i fanteisio ar y cyfle o allu astudio’r PhD trwy gyfrwng y Gymraeg.
Beth fyddet ti’n dweud wrth darpar fyfyriwr sy’n bwriadu astudio PhD trwy gyfrwng y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd?
Os mae modd i chi astudio trwy’r Gymraeg a’ch bod yn hyderus i wneud hynny, yna ewch amdani yn sicr. Dwi ddim yn meddwl bod unrhyw anfanteision ac mae’n gyfle i ychwanegu gwaith o safon ysgolheigaidd trwy’r Gymraeg. Yn sicr yn fy maes i, mae hyn yn rhywbeth sy’ ddim yn digwydd yn ddigon aml. Dwi wrth fy modd pan dwi’n dod o hyd i gyhoeddiad cyfrwng Cymraeg. Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol hefyd yn cynnig Ysgoloriaethau i fyfyrwyr astudio graddau pellach ac roeddwn i’n lwcus iawn i dderbyn un ohonynt.
Beth yw dy gynlluniau gyrfaol di ar ôl gorffen dy PhD?
Ar hyn o bryd nid oes gen i unrhyw gynlluniau pendant ar gyfer fy mywyd ar ôl cwblhau’r PhD. Er hyn, fy ngobaith yw y bydd modd i mi ddilyn gyrfa fel darlithydd. Hoffwn hefyd i barhau i ymchwilio ac ysgrifennu am fy mhwnc.