Cymraeg
Mae Ysgol y Gymraeg yn adnabyddus am ei hymchwil academaidd ac mae’n un o'r canolfannau mwyaf blaenllaw ar gyfer ymchwil ym maes Astudiaethau Celtaidd yn y DU.
Mae diddordebau ymchwil ein staff yn amrywiol ac maent yn cynnwys yr iaith Gymraeg, llenyddiaeth Gymraeg, ysgrifennu creadigol a beirniadol yn ogystal ag agweddau cymdeithasol a rhyngwladol ar gynllunio iaith.
Oherwydd gwreiddioldeb a thrylwyredd ein hymchwil, mae Ysgol y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd yn ddewis poblogaidd i’r rhai a hoffai astudio’n ôl-raddedig.
Nodau'r rhaglen
Cynnig gwybodaeth ac arbenigedd ar gyfer gyrfa ym maes cynllunio ieithyddol, y cyfryngau, y llywodraeth, addysgu, rheoli ac ymchwil. Mae ein Hysgol yn darparu hyfforddiant a lefel uchel o gefnogaeth, ac mae’r gymuned ôl-raddedig yn gwneud cyfraniad hanfodol i enw da rhyngwladol y Brifysgol am ymchwil.
Nodweddion unigryw
- Cyfres flynyddol o seminarau a chynadleddau ymchwil
- Uned Ymchwil Cynllunio a Pholisi Iaith
- Cyfleoedd i addysgu yn yr Ysgol a’r Ganolfan Addysgu Cymraeg (Cymraeg i Oedolion)
- Ymchwil ar y cyd â sawl sefydliad yng Ngogledd America ac Ewrop, er enghraifft yng Nghanada ac Iwerddon
- Cysylltiadau agos â Llywodraeth Cymru ac â sefydliadau cenedlaethol eraill, gan gynnwys Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan.
Ffeithiau allweddol
Math o astudiaeth | Amser llawn, rhan amser |
---|---|
Cymhwyster | PhD, MPhil |
Hyd amser llawn | PhD 3 blynedd; MPhil 1 flwyddyn |
Hyd rhan-amser | PhD 5 blynedd; MPhil 2 flynedd |
Derbyniadau | Ionawr, Ebrill, Gorffennaf, Hydref |
Sgiliau a ddatblygwyd
- Gwybodaeth ac arbenigedd pwnc ar lefel uwch
- Uwch sgiliau ymchwil a methodoleg (damcaniaethau a chymhwyso)
- Hunanreolaeth a chymhelliant
- Meddwl dadansoddol a beirniadol
- Lledaenu ymchwil ac ymgysylltu
Asesiad
Asesir y rhaglen hon yn seiliedig ar ganlyniad yr ymchwil a gynhyrchir drwy gyflwyno traethawd ac arholiad llafar.
- Ar gyfer myfyrwyr PhD, dylai’r traethawd hir fod hyd at 80,000 o eiriau.
- Ar gyfer myfyrwyr MPhil, dylai’r traethawd hir fod hyd at 50,000 o eiriau.
Gellir gwneud ymchwil drwy gyfrwng y Gymraeg neu'r Saesneg mewn unrhyw un o'r meysydd canlynol:
- Llenyddiaeth Cymru (yr Oesoedd Canol, cyfnod y Dadeni, modern)
- Damcaniaethau llenyddol a beirniadol
- Cymdeithaseg iaith (gan gynnwys Patagonia ac Iwerddon)
- Cynllunio a Pholisi Iaith
- Crefydd a diwylliant poblogaidd
- Trosglwyddo testunau: llafar ac ysgrifenedig
- Astudiaethau Cymry America
- Caffael ail iaith/Cymraeg i oedolion
- Ysgrifennu Creadigol a Beirniadol
Mae graddedigion blaenorol y rhaglen hon wedi mynd ati i ddilyn gyrfa ym meysydd addysg uwch, ymchwil, y cyfryngau, addysgu, y llywodraeth a chyhoeddi.
Benthyciadau Llywodraeth y DG i ôl-raddedigion doethuriaeth
Gallai ymgeiswyr ar gyfer y rhaglen Doethuriaeth Broffesiynol fod yn gymwys i wneud cais am fenthyciad doethuriaeth ôl-raddedig gan Lywodraeth y DU..
Benthyciadau Llywodraeth y DG i ôl-raddedigion doethuriaethArian
Mae'r Ysgol yn cynnig nifer gyfyngedig o ysgoloriaethau sy'n cynnwys:
Ysgoloriaethau Celia Thomas a Glyn a May Ashton
Mae’r ysgoloriaethau hyn ar gael i fyfyrwyr (cartref a rhyngwladol) sy'n dymuno astudio MPhil neu PhD yn Ysgol y Gymraeg. Mae maint pob ysgoloriaeth yn amrywio o flwyddyn i flwyddyn. Fel arfer, mae ysgoloriaethau'n werth hyd at £3000.
Ysgoloriaeth Islwyn
Mae'r ysgoloriaeth hon ar gael i fyfyrwyr (cartref a rhyngwladol) sy'n dymuno astudio MPhil neu PhD yn Ysgol y Gymraeg, ac sy'n dymuno ymchwilio i lenyddiaeth Gymraeg y 19eg ganrif, hanes llenyddol neu grefyddol Cymraeg Gwent neu waith Islwyn, y bardd. Mae maint pob ysgoloriaeth yn amrywio o flwyddyn i flwyddyn. Fel arfer, mae ysgoloriaethau'n werth hyd at £3000.
I wneud cais am y cyfleoedd uchod, cysylltwch ag Ysgol y Gymraeg i dderbyn ffurflen gais.
Rydym hefyd yn rhan o Bartneriaeth Hyfforddiant Doethurol y De, y Gorllewin a Chymru a ariennir gan yr AHRC sy'n golygu y gall darpar fyfyrwyr wneud cais am ysgoloriaethau ym maes Astudiaethau Celtaidd. Mae'r pynciau yn y maes hwn yn cynnwys Llenyddiaeth a Sosioieithyddiaeth a Pholisi Iaith.
Mae mwy o wybodaeth am yr ysgoloriaeth hon ar y wefan uchod. I drafod gwneud cais, cysylltwch â Chyfarwyddwr Ymchwil Ôl-raddedig yr Ysgol.
Edrychwch ar ein prosiectau a'n hysgoloriaethau PhD diweddaraf a chael rhagor o wybodaeth am gyfleoedd ariannu eraill.
Ffioedd dysgu
Myfyrwyr o'r DU
Mynnwch y wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd ôl-raddedigion.
Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir
Mynnwch y wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd ôl-raddedigion.
Myfyrwyr o weddill y byd (rhyngwladol)
Addas i raddedigion y Gymraeg neu bynciau eraill y Dyniaethau neu’r Gwyddorau Cymdeithasol. Mae myfyrwyr nad ydynt wedi cwblhau MA, neu gwrs hyfforddi dulliau ymchwil, fel arfer yn dilyn y modiwl sgiliau ymchwil o’r MA a addysgir wrth baratoi at eu traethawd MPhil/PhD.
Rhaid wrth radd anrhydedd dosbarth cyntaf neu yn adran uchaf yr ail ddosbarth yn y DU, neu gymhwyster cyfwerth.
Rhaid i ymgeiswyr sy’n dymuno cyflwyno’u traethawd MPhil neu PhD yn Gymraeg, ond sydd heb radd yn y Gymraeg, fodloni’r Ysgol ynghylch safon eu sgiliau yn yr iaith ar lafar ac ar bapur.
Mae Ysgol y Gymraeg hefyd yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr di-Gymraeg o’r DU neu dramor sy’n dymuno astudio a chyflwyno eu traethawd MPhil neu PhD drwy gyfrwng y Saesneg.
Gofynion Iaith Saesneg
IELTS gyda sgôr gyffredinol o 6.5 gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil, neu gyfwerth. Darllenwch ein canllawiau am ein Gofynion Iaith Saesneg am ragor o fanylion.
Dylai’r ceisiadau gynnwys cynnig ymchwil hyd at 1,500 o eiriau sy'n amlinellu’r rhaglen ymchwil y maent yn bwriadu ei dilyn. Dylai ymgeiswyr gysylltu ag Ysgol y Gymraeg i drafod eu diddordebau ymchwil cyn gwneud cais ffurfiol.
Cyswllt
Cyswllt/Cysylltiadau Gweinyddol
Cyswllt/Cysylltiadau Academaidd
Yr Athro Diarmait Mac Giolla Chríost
Cyfarwyddwr Astudiaethau Ymchwil Ôl-raddedig
- Siarad Cymraeg
- macgiollachriostd@caerdydd.ac.uk
- +44 (0)29 2087 9180