Astudiaethau Crefyddol a Diwinyddol
Wedi eich lleoli yn Yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd, byddwch yn ymuno â chymuned ymchwil ac academaidd fywiog, sy’n falch o’n enw da am hyfforddi’r genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr.
Rydym yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr sydd â diddordeb mewn ymchwilio ar gyfer MPhil/PhD mewn ystod lawn o feysydd, gyda’r canlynol yn gryfder arbennig:
- Bwdhaeth a’i lenyddiaeth yn India a’r Gorllewin
- Diwinyddiaeth Cristnogol Gyfoes
- Islam Cyfoes yn y Gorllewin
- Llenyddiaeth, Hanes a Diwylliant Cristnogol Cynnar
- Thraddodiadau Hindŵaidd: Hynafol, Canoloesol a Modern
- Hanes Esbonio Beiblaidd
- Hanes Bwdhaeth
- Islam yn y DU
- Dull a Theori wrth Astudio Crefydd
- Traddodiadau Naratif De Asia
- Diwinyddiaeth Fugeiliol ac Ymarferol
- Patristeg a Hynafiaeth Hwyr
- Traddodiadau Sikhiaid y Ddeunawfed Ganrif a'r Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg
- Cymdeithaseg Crefydd
- Moeseg Islamaidd
- Y Gaplaniaeth Fwslimaidd
- Moeseg Gristnogol
- Hanes a diwylliant y Dwyrain Agos Hynafol
- Y Beibl Hebraeg
- Celf, Pensaernïaeth a Diwylliant Materol De Asia.
Nodau'r rhaglen
I gynnig gwybodaeth ac arbenigedd ar gyfer gyrfa mewn ymchwil (yn y maes academaidd, y cyfryngau, y sector cyhoeddus), addysgu mewn addysg uwch, neu amrywiaeth o broffesiynau cysylltiedig sy’n gwerthfawrogi gradd ôl-radd yn y dyniaethau. Yn benodol, mae natur ryngddisgyblaethol Astudiaethau Crefyddol yn darparu cefndir eang ynghyd â ffocws clir.
Nodweddion unigryw
- Goruchwylwyr profiadol a rhaglen ymchwil llwyddiannus a buddiol
- Traddodiad cryf ac egnïol o iaith ac arbenigedd testunol
- Seminarau ymchwil rheolaidd gyda siaradwyr gwadd
- Seminarau pwnc-benodol a sgiliau rheolaidd.
Ffeithiau allweddol
Math o astudiaeth | Amser llawn, rhan amser |
---|---|
Cymhwyster | PhD, MPhil |
Hyd amser llawn | PhD 3 mlynedd, MPhil 1 flwyddyn |
Hyd rhan-amser | Cyfleoedd ar gael |
Derbyniadau | Ionawr, Ebrill, Gorffennaf, Hydref |
Rydym yn darparu amrywiaeth eang o arbenigedd. Mae cryfderau penodol yn cynnwys:
- Bwdhaeth a’i Lenyddiaeth
- Hanes Bysantaidd
- Crefydd a Diwylliant
- Caplaniaeth
- Islam Cyfoes yn y Gorllewin
- Hanes a Diwylliant
- Traddodiadau Hindŵaidd
- Islam yn y DU
- Traddodiadau Naratif De Asia
- Diwinyddiaeth Fugeiliol ac Ymarferol
- Patristeg a Hynafiaeth Hwyr
- Cymdeithaseg Crefydd
- Moeseg Islamaidd
- Y Gaplaniaeth Fwslimaidd
- Moeseg Gristnogol
- Hanes a diwylliant y Dwyrain Agos Hynafol
- Y Beibl Hebraeg
- Celf, Pensaernïaeth a Diwylliant Materol De Asia.
Benthyciadau Llywodraeth y DG i ôl-raddedigion doethuriaeth
Gallai ymgeiswyr ar gyfer y rhaglen Doethuriaeth Broffesiynol fod yn gymwys i wneud cais am fenthyciad doethuriaeth ôl-raddedig gan Lywodraeth y DU..
Benthyciadau Llywodraeth y DG i ôl-raddedigion doethuriaethArian
Rydym yn falch o fod yn rhan o Bartneriaeth Hyfforddiant Doethurol Cymru a De a Gorllewin Lloegr, sydd wedi’i ariannu gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau.
Edrychwch ar ein prosiectau a'n hysgoloriaethau PhD diweddaraf a chael rhagor o wybodaeth am gyfleoedd ariannu eraill.
Ffioedd dysgu
Myfyrwyr o'r DU
Mynnwch y wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd ôl-raddedigion.
Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir
Mynnwch y wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd ôl-raddedigion.
Myfyrwyr o weddill y byd (rhyngwladol)
Mae’n addas ar gyfer graddedigion mewn amrywiaeth eang o ddisgyblaethau yn y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol. Rhaid wrth radd anrhydedd Dosbarth Cyntaf neu yn Adran Uchaf yr Ail Ddosbarth, gradd Athro neu gymhwyster cyfwerth.
Os nad ydych chi’n meddu ar radd 2.1, mae modd ystyried eich cais ar sail cyfuniad o'ch cymhwyster(cymwysterau) addysg uwch presennol a'ch profiad proffesiynol. Rhowch dystiolaeth ychwanegol i gefnogi'ch cais megis geirdaon gan gyflogwyr sydd wedi'u llofnodi a'u dyddio.
Gofynion Iaith Saesneg
IELTS gyda sgôr gyffredinol o 6.5 gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil, neu gyfwerth. Darllenwch ein canllawiau am ein Gofynion Iaith Saesneg am ragor o fanylion.
Dylid gwneud cyflwyniad ffurfiol yn defnyddio ffurflen gais safonol y Brifysgol. Hefyd, mae gofyn i ymgeiswyr ar gyfer PhD gyflwyno cynnig ymchwil 1,500 - 2,000 gair ynghyd â llyfryddiaeth dangosol a thrafodaeth o’r methodolegau i’w defnyddio. Mae gofyn i ymgeiswyr ar gyfer MPhil gyflwyno fersiwn 1,000 gair o’r uchod.
Cyswllt
Cyswllt/Cysylltiadau Gweinyddol
Swyddog Gweinyddol Ymchwil Ôl-raddedig yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd
Cyswllt/Cysylltiadau Academaidd
Dr Ruth Westgate
Senior Lecturer in Ancient History and Archaeology, Co-Head of Ancient History and Religion
- westgater@caerdydd.ac.uk
- +44 (0)29 2087 6105
Yr Athro Sophie Gilliat-Ray
Professor in Religious and Theological Studies, Head of Islam UK Centre
- gilliat-rays@caerdydd.ac.uk
- +44 (0)29 2087 0121