Ewch i’r prif gynnwys

Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol

Mae Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol ym Mhrifysgol Caerdydd wedi sicrhau cryn lwyddiant mewn rhestri cenedlaethol a byd-eang o’r goreuon, a barn y Ganolfan Datblygu Addysg Uwch oedd ei bod hi’n “rhagorol”.

Rydym bellach yn croesawu ceisiadau am ysgoloriaeth Ysgol Raddedigion Cymru ar gyfer y Gwyddorau Cymdeithasol (WGSSS) y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC). Y dyddiad cau yw 13:00 ar 11 Rhagfyr 2024. Ewch i'n hadran ynghylch ysgoloriaeth a phrosiectau PhD diweddaraf i gael rhagor o wybodaeth.

Rydym yn ymfalchïo ar greu amgylchedd diddorol ar gyfer astudiaethau ôl-raddedig gyda goruchwyliaeth academaidd llawn cymhelliant.

Rydym yn cynnig goruchwyliaeth a/neu brosiectau ymchwil yn y meysydd canlynol:

  • Gwleidyddiaeth Gymharol, Polisïau a Llywodraethiant
  • Polisi Cyhoeddus
  • Cymru, Gwleidyddiaeth Tiriogaethol a Datganoli
  • Gwleidyddiaeth Ewrop ac Astudiaethau Bro
  • Theori Gwleidyddol a Rhyngwladol
  • Gwleidyddiaeth Fyd-eang Hanfodol
  • Rhywedd a Chysylltiadau Rhyngwladol
  • Cyfraith Ryngwladol a Chysylltiadau Rhyngwladol
  • Y Rhyfel Oer
  • Astudiaethau Diogelwch
  • Astudiaethau Beirniadol Milwrol
  • Gwybodaeth a Diogelwch
  • Gwleidyddiaeth Niwclear
  • Technolegau Digidol, Llywodraethu Rhyngrwyd a Diogelwch Seibr
  • Gwleidyddiaeth Amgylcheddol Byd-eang
  • Datblygu ac Ôl-wladychiaeth

Nodweddion unigryw

  • Mae gennym rôl flaenllaw ym Maes Astudiaethau seiliedig ar Ieithoedd, ac rydym yn ymwneud â Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol, ym Mhartneriaeth Hyfforddiant Doethurol Cymru, a ariennir gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (yr ESRC).
  • Mae gan bob myfyriwr ymchwil hawl i alw ar gyfran bersonol o arian y gellir ei gwario ar weithgareddau dilys sy’n gysylltiedig ag ymchwil.
  • Mae ein cyfres seminarau Ymchwil ar y Gweill/Research in Progress yn cynnig cyfle i fyfyrwyr gyflwyno papurau mewn amgylchedd nad yw'n fygythiol. Bwriad y gyfres yw bod yn baratoad ar gyfer cyflwyno papurau mewn cynadleddau, a hefyd mae’n chwarae rôl hanfodol wrth ledaenu sgiliau pwnc-benodol.
  • Rydym yn annog ein myfyrwyr PhD i ennill profiad addysgu, fodd bynnag, gofynnir ymgeiswyr nodi bod y cyfleodd addysgu sy’n cael eu neilltuo’n dibynnu ar y modiwlau sy’n rhedeg ar lefel Israddedig neu Ôl-raddedig ac efallai na fyddant ar gael i bawb.

Ffeithiau allweddol

Math o astudiaeth Amser llawn, rhan amser
Cymhwyster PhD, MPhil
Hyd amser llawn PhD 3 blynedd; MPhil 1 flwyddyn
Hyd rhan-amser PhD 5 blynedd; MPhil 2 flynedd
Derbyniadau Ionawr, Ebrill, Gorffennaf, Hydref

Mae disgwyl i fyfyrwyr amser llawn neilltuo o leiaf 39 awr yr wythnos am 46 wythnos y flwyddyn ar gyfer eu gwaith PhD (rhan-amser 21 awr yr wythnos).

Bydd angen i fyfyrwyr ymchwil gynhyrchu a chyflwyno traethawd a gaiff ei arholi gan arholiad llafar.

Sgiliau a ddatblygwyd

Bydd ein myfyrwyr yn caffael cymysgedd eang o sgiliau ymchwil generig, sgiliau trosglwyddadwy a sgiliau pwnc-benodol. Wrth sgiliau ymchwil ‘generig’, rydym yn dynodi’r sgiliau sy’n hanfodol ar gyfer cynnal unrhyw fath o brosiect ymchwil: meistroli technoleg gwybodaeth, er enghraifft, neu wella arddulliau ysgrifennu. Sgiliau trosglwyddadwy yw'r rhai hynny sy'n gwella cyflogadwyedd yn y farchnad lafur ehangach: gall y rhain amrywio o feistroli iaith dramor i sgiliau cyfathrebu da. Mae sgiliau sy'n benodol i ddisgyblaeth yn canolbwyntio mwy ar y ddisgyblaeth academaidd yr ydych yn ei hastudio.

Mae gan yr Ysgol ddiwylliant ymchwil eithriadol o gryf gydag enw da am ansawdd yr ymchwil a gynhyrchir a’r nifer cynyddol o grantiau ymchwil y mae’r ysgol yn eu denu. Rydym yn gartref i Ganolfan Llywodraethiant Cymru ac i Uned Ymchwil i Lywodraethiant, Hunaniaeth a Pholisi Cyhoeddus yn Ewrop, gan ddenu ysgolheigion gwadd o bob cwr o Ewrop a’r byd.

Rydym ar flaen y gad yn ein maes ac yn cyflawni prosiectau ymchwil unigryw a rhyngddisgyblaethol.

Oherwydd y cyfuniad o ymchwilwyr profiadol a rhyngwladol eu bri ac ysgolheigion ifanc, yr ydym wedi llwyddo i ddatblygu ethos ymchwil dynamig a blaengar. Mae llawer o’r deunyddiau a ddefnyddiwn ar ein cyrsiau wedi’u llunio gan yr academyddion a’r staff addysgu sydd yn yr adran.

Mae meysydd o gryfder yn cynnwys

  • Cysylltiadau Rhyngwladol,
  • Gwleidyddiaeth Prydain, Cymru a gwleidyddiaeth datganoli,
  • Gwleidyddiaeth gymharol ac Ewropeaidd
  • Theori Wleidyddol.

Meysydd ymchwil

Gwleidyddiaeth Gymharol, Polisïau a Llywodraethiant

Mae Gwleidyddiaeth Gymharol, Polisïau a Llywodraethiant yn faes ymchwil lle galwch ganolbwyntio eich astudiaethau fel rhan o’n cyfres o raglenni ymchwil Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol (MPhil, PhD).

Gwleidyddiaeth Ewrop ac Astudiaethau Bro

Mae Gwleidyddiaeth Ewrop ac Astudiaethau Bro yn faes ymchwil lle galwch ganolbwyntio eich astudiaethau fel rhan o’n cyfres o raglenni ymchwil Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol (MPhil, PhD).

Cysylltiadau Rhyngwladol a Globaleiddio

Mae Cysylltiadau Rhyngwladol a Globaleiddio yn faes ymchwil lle galwch ganolbwyntio eich astudiaethau fel rhan o’n cyfres o raglenni ymchwil Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol (MPhil, PhD).

Theori Wleidyddol

Mae Theori Wleidyddol yn faes ymchwil lle galwch ganolbwyntio eich astudiaethau fel rhan o’n cyfres o raglenni ymchwil Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol (MPhil, PhD).

Cymru

Mae Cymru yn faes ymchwil lle galwch ganolbwyntio eich astudiaethau fel rhan o’n cyfres o raglenni ymchwil Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol (MPhil, PhD).

Mae gyrfaoedd yn cynnwys addysgu, prifysgolion, y gwasanaeth sifil/y Swyddfa Dramor, y Comisiwn Ewropeaidd, newyddiaduraeth, busnes, gwleidyddiaeth a sefydliadau anllywodraethol. Mae ein cynfyfyrwyr yn cynnwys Neil Bentley (CBI) a Leri Edwards (y Comisiwn Ewropeaidd).

Benthyciadau Llywodraeth y DG i ôl-raddedigion doethuriaeth

Gallai ymgeiswyr ar gyfer y rhaglen Doethuriaeth Broffesiynol fod yn gymwys i wneud cais am fenthyciad doethuriaeth ôl-raddedig gan Lywodraeth y DU..

Benthyciadau Llywodraeth y DG i ôl-raddedigion doethuriaeth

Arian

Rydym wedi cael ysgoloriaethau PhD a ariennir gan ESRC ar gyfer myfyrwyr o’r DU a'r UE yn y gorffennol.

Edrychwch ar ein prosiectau a'n hysgoloriaethau PhD diweddaraf a chael rhagor o wybodaeth am gyfleoedd ariannu eraill.

Ffioedd dysgu

Myfyrwyr o'r DU

Mynnwch y wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd ôl-raddedigion.

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Mynnwch y wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd ôl-raddedigion.

Myfyrwyr o weddill y byd (rhyngwladol)

Mynnwch y wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd ôl-raddedigion.

Dylai ymgeiswyr feddu ar radd Anrhydedd dda o leiaf dda mewn Gwleidyddiaeth neu Gysylltiadau Rhyngwladol (2:1 neu gyfwerth) neu gymhwyster tramor cyfatebol mewn pwnc perthnasol.

Fodd bynnag, rydym yn ystyried pob ymgeisydd unigol yn ôl ei rinweddau penodol. Os nad oes gennych y cymwysterau safonol ar gyfer y cwrs, gallwch wneud cais o hyd. Bydd eich cais yn cael ei ystyried os oes gennych y canlynol;

  • Gradd Meistr mewn Gwleidyddiaeth neu Gysylltiadau Rhyngwladol (neu gyfatebol).
  • Ymgeiswyr sydd â phrofiad proffesiynol priodol.

Gellir cynnal cyfweliadau (trwy Skype / Ffôn neu'n bersonol) i nodi ac asesu teilyngdod academaidd darpar fyfyrwyr.

Gofynion Iaith Saesneg

Rhaid i'r rhai nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf gael sgôr o 7.0 o leiaf yn IELTS (gyda dim llai na 6.5 yn yr elfen Ysgrifennu a dim llai na 5.5 mewn Gwrando, Siarad a Darllen).

Darllenwch ein Gofynion Iaith Saesneg am ragor o wybodaeth.

Cyn gwneud cais

  • Darllenwch yn ofalus am strwythur ein rhaglen, meini prawf mynediad, cyfleoedd ariannu.
  • Archwiliwch ein hymchwil a'n cyfadran, a nodwch oruchwylwyr posib i'w cynnwys yn eich cais.
  • Sicrhewch fod yr holl ddogfennau sy'n ofynnol fel rhan o'ch cais wedi'u cynnwys.

Sut i wneud cais

Ar y dudalen hon dewiswch:

  • Cymhwyster: Doethur mewn Athroniaeth neu Feistr Athroniaeth
  • Modd astudio: Amser llawn neu ran amser
  • Dyddiad dechrau: Fel y bo'n berthnasol

Cliciwch ar gwneud cais nawr a chwblhau'r weithdrefn ar-lein ar gyfer cyflwyno cais.

Rhestr wirio cais

Dylech gynnwys y canlynol:

  • cynnig ymchwil manwl o tua 5,000 o eiriau. Darllenwch ein canllaw ar sut i ysgrifennu cynnig ymchwil.
  • teitl
  • cyflwyniad
  • datganiad clir o broblem ymchwil a chwestiynau ymchwil
  • adolygiad o lenyddiaeth allweddol
  • methodoleg arfaethedig
  • cyfraniad arfaethedig (pam mae eich ymchwil yn werthfawr ac i bwy)

Dogfennau eraill

  • Rhaid i'r rhai nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf gael sgôr o 7.0 o leiaf yn IELTS (gyda dim llai na 6.5 yn yr elfen Ysgrifennu a dim llai na 5.5 mewn Gwrando, Siarad a Darllen). Darllenwch ein gofynion Saesneg am ragor o fanylion.
  • Copïau o dystysgrifau a thrawsgrifiadau gradd Baglor a Meistr (os yw'n berthnasol)
  • Dau Eirda Academaidd

Mae'n bwysig iawn eich bod yn darparu'r holl wybodaeth berthnasol pan fyddwch yn gwneud cais gan na fydd ceisiadau anghyflawn yn cael eu hystyried.

Dechreuwch eich cais

Bydd ceisiadau'n cael eu fetio gan y Swyddfa Ôl-raddedig a'u hadolygu gan y Tiwtor Derbyn. Gwrthodir ymgeiswyr nad ydynt yn cwrdd â'r gofynion mynediad angenrheidiol yn llwyr ac ni allant ail-ymgeisio am yr un dyddiad cychwyn.

Bydd ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n cwrdd â'r gofynion mynediad yn cael eu rhannu â darpar oruchwylwyr. Unwaith y bydd goruchwylwyr yn mynegi diddordeb tuag at ymgeisydd, ffurfir panel goruchwylio. Yna gellir gwahodd ymgeiswyr i gyfweliad (trwy Skype / Ffôn neu'n bersonol) i drafod eu prosiect Ymchwil. Os bydd y cyfweliad yn llwyddiannus, bydd cynnig yn cael ei wneud.

Dyddiad cau

Fodd bynnag, nid oes unrhyw ddyddiadau cau swyddogol gan fod y broses ymgeisio yn cymryd tua 2-3 mis, gofynnwn i geisiadau wedi'u cwblhau gael eu cyflwyno i'w hystyried o leiaf 3 mis cyn y dyddiad cychwyn y gofynnwyd amdano.

Cyswllt

Cyswllt/Cysylltiadau Gweinyddol

MPhil/PhD Enquiries, Cardiff Law School

Administrative contact

Gwneud cais

Gwneud cais nawr
Ewch i weld ein hamrediad o ysgoloriaethau a phrosiectau PhD sydd ar gael.

Cyrsiau cysylltiedig

Pynciau cysylltiedig